Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r strategaeth yn ymdrin â’r defnydd o alcohol, cyffuriau anghyfreithlon a chyfreithlon o fewn ei chylch gwaith.

Nod yr astudiaeth hon oedd gwerthuso’r broses o weithredu 'Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed: Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2008-2018' yn ystod y tair blynedd gyntaf y mae wedi bod yn weithredol. Caiff pedwar maes blaenoriaeth eu hadnabod yn y Strategaeth: atal niwed; cymorth i bobl sy’n camddefnyddio sylweddau; bod yn gefn i deuluoedd a’u hamddiffyn; a mynd i’r afael ag argaeledd.

Prif nodau’r gwerthusiad oedd pennu a oedd y canlynol yn wir ac i ba raddau:

  • pob agwedd ar y Strategaeth wedi cael ei gweithredu
  • y bwriad i ddarparu “gwasanaethau amlapiol” wedi cael ei weithredu’n llawn
  • arfer da wedi cael ei ddilyn
  • adnoddau wedi cael eu dyrannu’n effeithiol
  • ystadegau’n cael eu defnyddio’n effeithiol i fonitro effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd asiantaethau triniaeth
  • tystiolaeth o leihau niwed o ganlyniad i weithredu’r Strategaeth.

Roedd y modd yr aethpwyd ati i gynnal y gwerthusiad yn seiliedig ar ddulliau cymysg, a’r rheiny’n cynnwys: adolygiad o ddogfennau polisi ac adroddiadau, adolygiad â ffocws o’r llenyddiaeth ar ‘yr hyn sy’n gweithio’ mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau, craffu ar Gronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau (gan gynnwys data Proffil Canlyniadau Triniaethau), dadansoddiad o werthusiadau blaenorol, a chyfweliadau ffurfiol wedi’u recordio gyda 52 o randdeiliaid allweddol yng Nghymru.

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r broses o weithredu Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o’r broses o weithredu Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 456 KB

PDF
456 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.