Neidio i'r prif gynnwy

Asesodd yr ymchwil sut mae newidiadau I ddyletswyddau deddfwriaethol tuag at y rhai sy’n gadael y ddalfa wedi cael eu gweithredu ac effaith gychwynnol y newidiadau hyn.

Asesodd yr ymchwil sut mae newidiadau I ddyletswyddau deddfwriaethol tuag at y rhai sy’n gadael y ddalfa wedi cael eu gweithredu ac effaith gychwynnol y newidiadau hyn.

Canfyddiadau allweddol

  • Mae nifer y bobl ifanc yn yr ystad ddiogeledd yn isel ac mae'r nifer sy'n cael eu rhyddhau gyda phroblemau llety yng Nghymru hyd yn oed yn is.
  • Ymwybyddiaeth gyfyngedig sydd o'r llwybr ymhlith budd-ddeiliaid. Mae hyn yn rhannol oherwydd perthnasedd cyfyngedig y llwybr oherwydd nifer isel y bobl ifanc sy'n cael eu rhyddhau o'r ystad ddiogeledd gyda phroblemau llety yng Nghymru.
  • Yn gyffredinol, mae'r Llwybr yn cael ei roi ar waith fel y rhagwelwyd, er mae rhai heriau a meysydd y gellid eu gwella. Nid oedd rhai pobl ifanc yn teimlo eu bod yn rhan o gynllunio llety, na chwaith yn gwybod beth oedd yn digwydd.
  • Llety â chymorth a chyfryngu oedd y ddau brif 'gam rhesymol' a ystyriwyd gan adrannau tai awdurdodau lleol i fynd i'r afael â phobl ifanc yn y ddalfa dan fygythiad o ddigartrefedd.
  • Mae llety gwely a brecwast yn dal i gael ei defnyddio mewn rhai ardaloedd. Mae hyn er bod y llwybr yn nodi bod llety gwely a brecwast yn anaddas oni bai mai dyna oedd y dewis olaf.
  • Mae angen mwy o lety â chymorth, yn benodol llety sy'n darparu cefnogaeth gynhwysfawr, arbenigol ar gyfer y bobl ifanc hyn gydag anghenion cymhleth.
  • Roedd modd teimlo prif effaith y llwybr yn y datblygiad o berthnasau gwaith agosach rhwng partneriaid.

Adroddiadau

Gwerthusiad o wasanaethau digartrefedd i bobl ifanc yn yr ystad ddiogel , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB

PDF
6 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o wasanaethau digartrefedd i bobl ifanc yn yr ystad ddiogel: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 461 KB

PDF
461 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Rhian Davies

Rhif ffôn: 0300 025 6791

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.