Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a chefndir

Mae Cymru'n Gweithio, sy’n cael ei gyflawni gan Gyrfa Cymru, yn wasanaeth sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac a luniwyd i ddarparu cymorth cyflogadwyedd symlach ac effeithlon sy'n ymateb i anghenion unigolyn.

Cyflwynwyd y gwasanaeth yn 2019, ac mae’n gweithredu fel porth am ddim i gymorth cyflogaeth wedi'i deilwra sydd ar gael i unrhyw un 16 oed neu hŷn ac sy'n byw yng Nghymru. Yn ogystal â darparu cymorth ac arweiniad uniongyrchol diduedd ar yrfaoedd, gall cynghorwyr gyrfaoedd Cymru’n Gweithio nodi anghenion unigolyn a'u cyfeirio at wasanaethau a rhaglenni addas eraill, o ystyried eu gwybodaeth helaeth o’r cymorth sydd ar gael yn lleol a chenedlaethol. O ganlyniad, mae gwasanaeth Cymru’n Gweithio yn gallu ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau cymorth gyrfaoedd i gymunedau a helpu pobl ar draws ystod ehangach o anghenion a sefyllfaoedd yn y farchnad lafur.

Mae'r gwasanaeth yn galluogi unigolion, drwy asesiad sy’n seiliedig ar anghenion, i siarad â chynghorwyr gyrfaoedd achrededig am gyflogaeth a sgiliau, eu nodau a'u dyheadau, ac unrhyw heriau y maen nhw’n eu hwynebu wrth gael a chynnal gwaith, addysg neu hyfforddiant neu ddatblygu eu gyrfa. 

Caiff cyngor ac arweiniad gyrfaol eu darparu gan gynghorwyr gyrfaoedd cymwysedig neu sy’n meddu ar Ddiploma Lefel 6, gan sicrhau y cedwir at safonau Cofrestr y DU o Weithwyr Proffesiynol Datblygu Gyrfaoedd.

Caiff cymorth cyflogadwyedd ei ddarparu gan hyfforddwyr cyflogadwyedd Cymru'n Gweithio, gan gynorthwyo cwsmeriaid i chwilio am swyddi, gwneud ceisiadau, a pharatoi at gyfweliadau. 

Trosolwg o gwmpas a pharamedrau'r gwerthusiad

Yn 2019, gwnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu Wavehill i edrych ar effeithiolrwydd, effeithlonrwydd ac effaith Cymru’n Gweithio. Yn ystod camau cychwynnol y gwerthusiad, datblygwyd theori newid a fframwaith gwerthuso ynghyd ag astudiaethau achos cwsmeriaid, sy’n cael eu cyflwyno yn y Gwerthusiad o Wasanaeth Cymru’n Gweithio: Adroddiad 1. Roedd Adroddiad 1 yn ymdrin â chyflawniad gan Cymru’n Gweithio rhwng Ebrill 2019 a Rhagfyr 2020 gan gynnwys ei ymateb i’r coronafeirws (COVID-19). Yn dilyn hyn, lluniwyd papur crynodeb o’r gwerthusiad, y cyntaf mewn cyfres yn cyflwyno canfyddiadau o gyflawniad y gwasanaeth. Mae Papur Gwledig a Threfol, Papur Ffoaduriaid a Mudwyr a’r Papur Strategol hwn (yr adroddiad terfynol) o gam olaf y gwerthusiad sy’n ymdrin yn bennaf â’i weithrediad rhwng 2021 a 2023. 

Methodoleg

Mae’r gwerthusiad yn defnyddio dulliau cymysg, gan gyfuno dadansoddiad meintiol o ddata monitro ar lefel rhaglen â chyfweliadau ansoddol ac arolygon ymhlith staff rheoli a chyflawni Cymru’n Gweithio, rhanddeiliaid mewnol ac allanol a chwsmeriaid. Staff Gyrfa Cymru oedd y rhanddeiliaid, ynghyd ag unigolion a oedd yn cael eu cyflogi y tu allan i Gyrfa Cymru ond a oedd yn gweithio gyda gwasanaeth Cymru’n Gweithio. Mae'r gwerthusiad hefyd yn defnyddio llenyddiaeth a dogfennau polisi perthnasol i roi'r gwasanaeth a'i fodel cyflawni mewn cyd-destun.

Canfyddiadau

Proffil Cwsmeriaid a Chyrhaeddiad y Gwasanaeth 

Rhwng Chwefror 2019 a Mawrth 2023, gweithiodd Cymru’n Gweithio gyda 95,164 o unigolion drwy 120,730 o achosion ledled Cymru. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae ymgysylltiad â chwsmeriaid yn adlewyrchu maint y boblogaeth yn fras ar draws awdurdodau lleol.

Mae dadansoddiad o wybodaeth fonitro Cymru’n Gweithio yn dangos mai cwsmeriaid Cymru’n Gweithio rhwng 25 a 49 oed yn gyson oedd y garfan oedran fwyaf i ddefnyddio cymorth Cymru’n Gweithio ar gyfer pob blwyddyn o gyflenwi (39 y cant; 47,076/120,708 o achosion). Er bod data 2023 yn dal i gael ei gasglu, caiff ei dybio y bydd y grŵp oedran 18–24 yn parhau i fod yn is nag yn y blynyddoedd blaenorol oherwydd gallu pobl ifanc i hunangyfeirio at raglen Twf Swyddi Cymru + (Mai 2022). 

Mae proffil ethnig cwsmeriaid Cymru'n Gweithio yn cyd-fynd yn agos â phroffil ethnig cyffredinol Cymru. Nododd cyfanswm o 92 y cant o gwsmeriaid eu bod yn Wyn, sy’n gyson â data Cyfrifiad 2021 ar gyfer poblogaeth Cymru (lle nododd 93.8 y cant eu bod yn Wyn).

Mae cwsmeriaid gwrywaidd yn cyfrif am ychydig o dan 60 y cant o gyfanswm y cwsmeriaid sy’n ymwneud â Chymru’n Gweithio; er bod cyfraddau diweithdra ychydig yn uwch ar gyfer gwrywod, mae cyfraddau anweithgarwch economaidd yn uwch ar gyfer benywod. Mae hyn yn awgrymu bod gwrywod yn cael eu gorgynrychioli yn y sampl.

Mae asesiadau demograffig o broffil cwsmeriaid Cymru’n Gweithio yn awgrymu bod pobl anabl yn cael eu tangynrychioli, er mai dim ond ychydig o achosion a nodwyd mewn cyfweliadau â staff a rhanddeiliaid o heriau ynghylch ymgysylltu â phobl anabl. 

Model Cyflawni

Roedd staff o’r farn bod model cyflawni Cymru’n Gweithio yn gyson ac effeithiol ar draws pob rhanbarth ac awdurdod lleol. Mae pob tîm rhanbarthol wedi’i leoli yn swyddfeydd Gyrfa Cymru ym mhob awdurdod lleol, ac mae gwasanaethau Cymru’n Gweithio hefyd ar gael mewn safleoedd cydleoli a safleoedd dros dro. 

Roedd staff a rhanddeiliaid yn dweud bod gweithio gyda phartneriaid cydleoli yn rhywbeth sy’n ychwanegu gwerth at wasanaeth Cymru’n Gweithio. Ystyriwyd bod defnyddio safleoedd dros dro yn effeithiol wrth ddiwallu angen penodol, fel diswyddiadau torfol neu mewn canolfannau croeso i ffoaduriaid a mudwyr. Mae gallu Cymru’n Gweithio i ymateb yn gyflym, fel rhan o ymateb aml-asiantaeth, i ddigwyddiadau nas rhagwelwyd yn dangos gwerth ychwanegol model Cymru’n Gweithio.  

Roedd y staff yn gadarnhaol ynghylch y modd y gall dull gweithredu Cymru’n Gweithio gael ei addasu, gan adrodd bod hyblygrwydd y model wedi’u galluogi i ddefnyddio eu gwybodaeth a’u rhwydweithiau lleol er mwyn rhoi darpariaeth Cymru’n Gweithio yn y sefyllfa orau i bobl leol. Awgrymodd staff hefyd fod newidiadau i fodel cyflawni Cymru’n Gweithio sy’n gysylltiedig â COVID-19, gan gynnwys cyfleoedd i ryngweithio â chwsmeriaid o bell ac yn ddigidol, yn dangos gallu’r gwasanaeth i fod yn hyblyg a’u bod wedi cael effaith hirdymor gadarnhaol ar y model cyflawni.

Mewn rhai achosion, adroddodd rhanddeiliaid y gall gwahaniaethau rhanbarthol yng ngwasanaeth Cymru’n Gweithio olygu bod y graddau y mae’r cynnig ar gael yn amrywio ledled Cymru. Roedd hyn yn aml oherwydd pwysau ar adnoddau yn ogystal ag amrywiaeth yn y modd yr oedd gwahanol dimau rhanbarthol yn blaenoriaethu eu llwythi achosion. 

Dywedodd staff eu bod wedi wynebu heriau wrth ymgysylltu â grwpiau penodol. Er enghraifft, mae pobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd wedi gadael addysg ffurfiol, yn peri anawsterau wrth ailymgysylltu. Dywedodd rhanddeiliaid fod pobl ifanc agored i niwed a’r rheini nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn arbennig o heriol i ymgysylltu â nhw am nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu ag allgymorth Cymru’n Gweithio a’u bod wedi’u hynysu’n fwy yn gymdeithasol na grwpiau eraill. Er nad oes gan Gymru’n Gweithio gyfrifoldeb i gefnogi pobl ifanc NEET, gallai archwilio cymorth ieuenctid arbenigol mewn ardaloedd lleol wella ymdrechion allgymorth i bobl ifanc sydd wedi ymddieithrio o addysg neu gymorth arall.

Dywedodd bron i dri chwarter y cwsmeriaid a holwyd fod Cymru’n Gweithio yn gallu diwallu eu hanghenion cymorth ‘i raddau helaeth’ oherwydd y cyngor a’r arweiniad gyrfaoedd effeithiol a roddwyd iddynt. Mae hyn yn cadarnhau bod cymorth wedi’i deilwra Cymru’n Gweithio yn llwyddo i gynorthwyo cwsmeriaid ag ystod o anghenion.

Deall model y gwasanaeth a photensial i’r dyfodol 

Roedd staff a rhanddeiliaid yn gadarnhaol ynghylch Cymru’n Gweithio ac yn teimlo’n gyffredinol bod Cymru’n Gweithio yn bwynt mynediad effeithiol ar gyfer cymorth cyflogadwyedd ledled Cymru, neu ar waith â dod yn bwynt mynediad o’r fath, gyda brand cydnabyddedig, staff gwybodus a dulliau cydweithio effeithiol sy’n annog rhannu gwybodaeth.

Mae Cymru'n Gweithio yn darparu cyfarwyddyd gyrfaoedd trwy gynghorwyr gyrfaoedd cymwys. Dyma’r unig wasanaeth ledled Cymru a all ddarparu cyfarwyddyd o’r fath yn uniongyrchol i unigolion mewn gwaith[troednodyn 1]. Mae’n gyffredin i ddidueddrwydd ac ansawdd y cyfarwyddyd gyrfaoedd a gynigir gael ei nodi fel un o gryfderau allweddol gwasanaeth Cymru’n Gweithio.  

Dywedodd rhanddeiliaid fod gweithio gyda Chymru’n Gweithio yn effeithiol am fod staff y rhaglen yn ‘dryloyw’ ac yn ‘barod i ddysgu’, gan sicrhau bod partneriaid yn teimlo eu bod yn gweithio gyda Chymru’n Gweithio (yn hytrach nag ochr yn ochr â’r gwasanaeth). At ei gilydd, y canfyddiad yw bod yr arferion effeithiol hyn o gydweithio a rhannu gwybodaeth yn annog trosolwg mwy cydlynol a llai cymhleth o gymorth cyflogadwyedd ledled Cymru. Fodd bynnag, caiff ei argymell hefyd y byddai mwy o rannu gwybodaeth rhwng Cymru’n Gweithio â phartneriaid mewn perthynas â phrosesau atgyfeirio lleol Cymru’n Gweithio yn lleddfu pryderon partneriaid ynghylch cystadleuaeth.

Casgliad

Canfu’r gwerthusiad fod Cymru’n Gweithio yn borth effeithiol ar gyfer cymorth cyflogadwyedd ledled Cymru am fod llinellau cyfathrebu clir ac effeithiol yn eu lle rhwng staff Cymru’n Gweithio a phartneriaid eraill. Lle mae staff a rhanddeiliaid o’r farn bod y 'dull un tîm' yn gweithio'n dda, mae hyn yn bennaf oherwydd y cydweithio effeithiol â phartneriaid.

Mae staff Cymru’n Gweithio yn cael eu gweld yn aml mewn sefyllfa unigryw a manteisiol sydd o fudd i gwsmeriaid, gan ddangos effeithiolrwydd dull Cymru’n Gweithio. Gall cynghorwyr gyrfaoedd gynnig arweiniad gyrfaoedd diduedd o ansawdd uchel, a gall hyfforddwyr cyflogadwyedd gynnig cymorth cyflogadwyedd sy'n ymateb yn uniongyrchol i anghenion y cwsmer unigol.

Mynegodd rhai rhanddeiliaid partner bryderon ynghylch cymorth cyflogadwyedd Cymru’n Gweithio yn dyblygu darpariaeth gwasanaethau eraill. Fodd bynnag, ni all y gwerthusiad wirio a yw cymorth Cymru’n Gweithio yn dyblygu darpariaeth gwasanaethau eraill. Mae dyblygu gwasanaethau yn bryder cyffredin ym maes cymorth cyflogadwyedd oherwydd yr ystod eang o ddarparwyr a ffynonellau cyllid, yn enwedig cyllid Llywodraeth y DU. 

Wrth fyfyrio ar ba fodelau cyflawni Cymru’n Gweithio sy’n gweithio’n dda, roedd staff a rhanddeiliaid yn gadarnhaol ynghylch eu gallu i gynnig allgymorth a gweithio gyda phartneriaid sydd ag arbenigedd mewn ymgysylltu â grwpiau targed. 

Gan fyfyrio ar ddarpariaeth cymorth 'cyfunol'[troednodyn 2] Cymru'n Gweithio, roedd staff a rhanddeiliaid yn canmol y cyfle cynyddol i gwsmeriaid ymgysylltu â Chymru'n Gweithio o bell. Ar y cyfan, canfuwyd bod cymorth o bell yn fwyaf effeithiol pan fydd cymorth wyneb yn wyneb wedi ei ddarparu cyn hynny, gan alluogi cwsmeriaid a staff i sefydlu perthynas ymddiriedus wyneb yn wyneb cyn ymgysylltu o bell. 

Mae staff Cymru'n Gweithio yn cyfrannu arbenigedd gwerthfawr a gwybodaeth leol i'r gwasanaeth. Fodd bynnag, mae risg y caiff penderfyniadau eu gwneud heb wybodaeth gyfredol, lawn a helaeth am wasanaethau ac anghenion lleol. Mae dealltwriaeth a gwybodaeth ar gael gan Gyrfa Cymru am berfformiad gwasanaeth Cymru'n Gweithio a pha mor dda y mae'n cyd-fynd ag anghenion cenedlaethol a lleol. Byddai cyfathrebu gwell yn seiliedig ar y wybodaeth hon rhwng timau lleol, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, a Llywodraeth Cymru yn hybu cyd-ddealltwriaeth ac yn sicrhau bod Cymru’n Gweithio yn wasanaeth cynhwysol i’r rhai mewn angen.

Argymhellion

O ganlyniad i’r gwerthusiad ar lefel rhaglen, mae’r argymhellion canlynol wedi’u nodi i gynorthwyo a gwella’r gwaith o gyflawni Cymru’n Gweithio yn y dyfodol:

Argymhelliad 1

Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o pam mae rhai ardaloedd a chwsmeriaid yn cael eu gorgynrychioli neu eu tangynrychioli, dylai darpariaeth yn y dyfodol geisio datblygu prosesau systematig lle mae Gyrfa Cymru yn rhannu’r wybodaeth gyd-destunol hon â thimau rhanbarthol Cymru’n Gweithio. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o ddeialog fewnol ynghylch perfformiad ac ymgysylltu. 

Argymhelliad 2

Dylid dyrannu adnoddau ychwanegol neu bresennol i sesiynau strategol blynyddol neu chwemisol i lywio a phenderfynu ar ddulliau gweithredu lleol, gan gynnwys prosesau ar gyfer dewis safleoedd cydleoli a dros dro, a fydd yn cyd-fynd â’r ddarpariaeth gyffredinol. Rhagwelir y bydd hyn yn cael ei lywio gan wybodaeth a dealltwriaeth Gyrfa Cymru o gyrhaeddiad gwasanaeth, darpariaeth cymorth newydd ac sy'n dod i'r amlwg a gwybodaeth am y farchnad lafur yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Dylai’r sesiynau gael eu hamserlennu rhwng timau rhanbarthol a chenedlaethol Cymru’n Gweithio, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau ynghylch allgymorth a chydleoli yn cael eu llywio gan y galw, anghenion lleol, a’r cymorth ehangach sy’n cael ei gynnig. 

Argymhelliad 3

Dylid cadw'r gofyniad am achrediad Lefel 6 i gynghorwyr gyrfaoedd mewn darpariaeth yn y dyfodol. Mae cyfarwyddyd gyrfaoedd achrededig Lefel 6 yn sicrhau bod cwsmeriaid Cymru’n Gweithio yn cael cymorth diduedd o ansawdd uchel. Fel yr unig wasanaeth ledled Cymru sy’n cynnig y cymorth achrededig hwn, bydd cynnal yr agwedd hon ar fodel Cymru’n Gweithio yn sicrhau bod gwerth ychwanegol y gwasanaeth yn cael ei gadw. 

Argymhelliad 4

Lle bo’n ymarferol, dylid cadw darpariaeth cymorth cyfunol Cymru’n Gweithio i ganiatáu arbedion effeithlonrwydd yn y gwasanaeth. Er ei bod yn bosibl mai cymorth o bell yw’r unig opsiwn ymarferol i rai cwsmeriaid oherwydd pellter neu anhygyrchedd safleoedd Cymru’n Gweithio, mae cwsmeriaid a staff yn elwa o ddull hybrid.  

Argymhelliad 5

Er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu mor effeithiol ac effeithlon â phosibl, dylid datblygu gwybodaeth ac arweiniad ychwanegol ynghylch cylch gorchwyl Cymru’n Gweithio i’w rhannu â staff mewnol Gyrfa Cymru a staff partneriaid allanol. Bydd hyn yn annog dealltwriaeth fwy diffiniedig o'r hyn y gall Cymru'n Gweithio ei gynnig, yn ogystal â lleihau'r baich ar staff cyflawni i hysbysu partneriaid newydd a/neu staff partneriaid newydd. Noder bod yr argymhelliad hwn yn seiliedig ar farn a fynegwyd gan staff a rhanddeiliaid a gymerodd ran yn y gwerthusiad hwn. Efallai na fydd hyn yn gyffredinol ar draws holl staff a rhanddeiliaid Cymru'n Gweithio. 

Argymhelliad 6

Dylai darpariaeth yn y dyfodol ystyried a allai, a sut y gallai, adnoddau ychwanegol neu ffyrdd newydd o weithio gynorthwyo timau rhanbarthol i wella eu harlwy lleol a’u hymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol. Byddai hyn yn galluogi timau rhanbarthol i gynnal mwy o ymgyrchoedd marchnata lleol. Dylai unrhyw strategaethau cyfryngau cymdeithasol lleol ychwanegol gyd-fynd ag anghenion lleol a nodwyd rhwng timau rhanbarthol a Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ac mewn ymateb i ddata Gyrfa Cymru.[troednodyn 3

Argymhelliad 7

Er ei bod yn ymddangos bod allgymorth presennol Cymru’n Gweithio yn effeithiol ar gyfer grwpiau oedran hŷn, efallai y bydd angen ymgysylltu mwy â chymorth ieuenctid arbenigol mewn ardaloedd lleol er mwyn targedu pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio o addysg a/neu gymorth arall yn well. Gall cymorth ieuenctid arbenigol gynnwys sefydliadau ac elusennau lleol neu sefydliadau sydd â darpariaeth cymorth yn genedlaethol e.e. Llamau.

Argymhelliad 8

Dylid adolygu’r cymorth cyflogadwyedd sydd ar gael ar lefelau cenedlaethol a lleol i ganfod y galw a’r risg o ddyblygu er mwyn hysbysu timau rhanbarthol a rhanddeiliaid am y cymorth cyflogadwyedd ‘byw’ sy’n cael ei gynnig ledled Cymru. Gallai’r cymorth hwn gael ei ystyried mewn cyfarfodydd strategol rhwng Cymru’n Gweithio, Llywodraeth Cymru, a Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, wedi’u llywio gan wybodaeth a dealltwriaeth Gyrfa Cymru.[troednodyn 4]  

Argymhelliad 9

Er mwyn sicrhau bod yna ddealltwriaeth gyson a chywir o ddarpariaeth gyffredinol a lleol Cymru’n Gweithio, dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol geisio datblygu a rhannu negeseuon cyson ychwanegol ar draws adrannau a rhaglenni cenedlaethol i annog mwy o gyfranogiad. Caiff ei gydnabod y gall y dirwedd cymorth cyflogadwyedd ledled Cymru ymddangos yn 'dameidiog' a chyfnewidiol oherwydd yr amrywiaeth o gymorth sydd ar gael drwy gronfeydd tymor hwy a thymor byr. Dylai Cymru'n Gweithio weithredu fel 'angor', gan fapio'r cymorth lleol a chenedlaethol presennol a lledaenu'r wybodaeth hon i bartneriaid allweddol.

Footnotes

[1] Noder bod angen i gynghorwyr feddu ar gymhwyster Lefel 6 er mwyn darparu cyfarwyddyd gyrfaoedd.

[2] Mae cymorth cyfunol yn cyfeirio at gyfuniad o gymorth personol a chymorth o bell.

[3] Noder mai’r un yw’r cyfarfodydd strategol y cyfeirir atynt fan yma â’r rhai a gynigir yn Argymhelliad 2.

[4] Noder mai’r un yw’r cyfarfodydd strategol y cyfeirir atynt fan yma â’r rhai a gynigir yn Argymhelliad 2.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Anna Burgess, Andy Parkinson, Oliver Allies, Paula Gallagher, Jakob Abekhon ac Endaf Griffiths (Wavehill)

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Sean Homer
Ebost: cyflogadwyedd.sgiliau.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 52/2024
ISBN digidol 978-1-83625-318-1

GSR logo