Yn adolygu effeithiolrwydd, effeithlonrwydd ac effaith Twf Swyddi Cymru 2.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Ceisiai Twf Swyddi Cymru ymgysylltu â phobl ifanc 16-24 oed gyda’r nod o roi profiad gwerthfawr iddynt am gyfnod o 6 mis gyda thâl ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’n uwch am rhwng 25 a 40 awr yr wythnos.
Derbyniodd Twf Swyddi Cymru £53m o fuddsoddiad (£25m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop). Ei hamcan oedddarparu cyfleoedd gwaith i 9,000 o gyfranogwyr dros gyfnod 2015 i 2019.
Nod y gwerthusiad oedd asesu effeithiolrwydd, effeithlonrwydd ac effaith rhaglen Twf Swyddi Cymru 2015 i 2019 ar gyfer y cyfnod o Fehefin 2015 i fis Medi 2019.
Canlyniadau i unigolion
Rhwng Mehefin 2015 a Medi 2019, roedd 3,989 o bobl ifanc wedi’u cynorthwyo i gael lleoliad gwaith drwy raglen Twf Swyddi Cymru. O gymharu â rhaglen 2012 i 2015, cafodd rhaglen 2015 i 2019 lai o gyfranogwyr i bob cyfle lleoliad gwaith a llenwyd cyfran is o’r cyfleoedd, ond yn yr achosion hynny lle y llenwyd y cyfleoedd, maent yn fwy tebygol o fod wedi’u cwblhau gyda chanlyniad cadarnhaol.
Mae cyfranogwyr Twf Swyddi Cymru yn cynnal cyfraddau uchel o gyflogaeth. Sicrhaodd 74% gyflogaeth ar ôl cwblhau eu lleoliad yn cynyddu i 84.6%, 12 mis wedyn. Teimlai bron i dri chwarter (72%) o’r cyfranogwyr i’w lleoliad gwaith chwarae rôl yn y ffaith iddynt lwyddo i gael eu swydd bresennol. Sgiliau cyflogadwyedd yn ogystal â sgiliau swydd-benodol oedd y rhai y cyfeiriwyd atynt amlaf gan gyfranogwyr fel sgiliau iddynt eu hennill drwy Twf Swyddi Cymru.
Canlyniadau i gyflogwyr
Bu i’r cyflogwyr elwa o leoliadau Twf Swyddi Cymru am iddynt helpu i ymdopi â llwyth gwaith, lleihau biliau cyflogau, a chostau recriwtio. Bu i’r lleoliadau gwaith hefyd helpu mwy na dau draean o’r cyflogwyr a fu’n rhan o’r rhaglen dyfu. Yn nodweddiadol, roedd y cyflogwyr a oedd yn ymwneud â rhaglen Twf Swyddi Cymru yn gweithredu yn sectorau’r diwydiannau creadigol, manwerthu, gweithgynhyrchu, adeiladu ac addysg. Roedd y mwyafrif (58%) yn fwy tebygol o recriwtio person ifanc 16 i 24 oed o ganlyniad iddynt fod yn rhan o raglen Twf Swyddi Cymru.
Adroddiadau
Gwerthusiad o Twf Swyddi Cymru, 2015 i 2019: adroddiad gwerthuso crynodol terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB
Gwerthusiad o Twf Swyddi Cymru 2015 i 2019: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 679 KB
Twf Swyddi Cymru II: adolygiad o’r dystiolaeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 829 KB
Twf Swyddi Cymru: ffeithlun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 261 KB
Cyswllt
Kimberley Wigley
Rhif ffôn: 0300 062 8788
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.