Nod yr adroddiadau yw gwerthuso effeithiolrwydd y gwaith cyflenwi, ac effaith y ddarpariaeth sgiliau sylfaenol ôl-16 yn y gweithle yng Nghymru.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o sgiliau hanfodol yn y gweithle
Adroddiad diweddaraf
Gwerthuso sgiliau hanfodol yn y gweithle
Roedd Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle (ESiW) yn rhaglen Llywodraeth Cymru oedd yn cynnig hyfforddiant mewn sgiliau hanfodol. Mae sgiliau hanfodol yn cynnwys darllen, ysgrifennu, cyfathrebu, rhifedd a sgiliau cyfrifiadurol. Roedd y rhaglen yn cynnig cyfle i ddysgwyr astudio ar gyfer cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Fe’i cyllidwyd drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) o Ebrill 2010 tan Ebrill 2015.
Mae’r rhaglen wedi perfformio’n dda a chafodd ei gwerthfawrogi’n fawr gan yr holl randdeiliaid allweddol (darparwyr, cyflogwyr a dysgwyr). Cafodd y rhaglen ei rheoli’n dda, a chyrhaeddwyd ymgysylltiad dysgwyr allweddol a thargedau cyrhaeddiad am lai o arian nag a ddyrannwyd yn wreiddiol. Mae ymwybyddiaeth o anghenion sgiliau hanfodol yn llawer cryfach nawr ymysg cyflogwyr a’r gweithlu, ac mae’r galw am hyfforddiant yn debygol o barhau. Gwelwyd effaith gadarnhaol ar fusnesau gan gyflogwyr o ran gwell morâl staff, hyder yn y gwaith, datblygu sgiliau a chynhyrchiant.
Argymhellion
- Adolygu perfformiad darparwyr gan ystyried y cyfraddau trosi er mwyn deall pam fod y cyfraddau’n amrywio’n eithaf sylweddol o ddarparwr i ddarparwr.
- Adolygu statws cymwysterau blaenorol dysgwyr ac ystyried cynnwys targed i ddarparwyr hyfforddiant i ennyn diddordeb dysgwyr sydd heb unrhyw gymwysterau.
- Os bydd model rhanbarthol yn cael ei fabwysiadu, dylid ystyried dichonoldeb i ddarparwyr i weithredu dros Gymru Gyfan i sicrhau parhad perthynas darparwr/cyflogwr.
- Adolygu lefel isel y ddarpariaeth ar gyfer ESOL i sicrhau fod dysgwyr sydd ag anghenion iaith yn cael cymorth priodol.
- Dylai Llywodraeth Cymru fonitro’r galw am ac adolygu’r ddarpariaeth o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn unrhyw gyflwyno sgiliau hanfodol yn y dyfodol.
- Dylai cynllun rhaglen y dyfodol benderfynu ar yr agweddau allweddol o’r rhaglen allai effeithio’r canlyniadau o amgylch cydraddoldeb a chynaliadwyedd, ac integreiddio’r agweddau hyn drwy’r cyflwyno i ganlyniadau a thargedau sydd wedi eu diffinio’n dda. Dylid hefyd ystyried sut y gellir cael tystiolaeth o hyn.
Adroddiadau
Gwerthusiad o sgiliau hanfodol yn y gweithle: adroddiad terfynol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Gwerthusiad o sgiliau hanfodol yn y gweithle:crynodeb , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 493 KB
Cyswllt
Faye Gracey
Rhif ffôn: 0300 025 7459
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.