Adroddiad i ymchwilio y defnydd a chynnal isadeiledd newydd a wedi wella.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Sut y mae cyllid yr UE wedi cael ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn seilwaith?
Amcangyfrifir bod ychydig dros £800m o gyllid yr UE wedi cael ei fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru dros gyfnod y ddwy raglen, ar brosiectau sydd â chyfanswm gwerth o £1.8bn. Mae hyn yn cynnwys:
- £299m mewn seilwaith trafnidiaeth
- £142m mewn safleoedd ac eiddo
- £139m mewn ymchwil a seilwaith arloesi
- £85m mewn seilwaith ddigidol
- £80m mewn seilwaith twristiaeth
- £53m mewn seilwaith addysgu
Mae'r buddsoddiad wedi cael ei ddosbarthu'n eang ar draws Cymru, ond gyda chrynodiadau penodol mewn nifer o ardaloedd awdurdodau lleol, gan gynnwys Abertawe (£113m), Castell-nedd Port Talbot (£78m), Gwynedd (£59m) a Sir Benfro (£40m).
Sut y caiff seilwaith a ariennir gan yr UE ei ddefnyddio?
Yn gyffredinol, mae ymchwil wedi darganfod bod cyfran uchel o seilwaith a ariennir gan yr UE yn dal i gael ei ddefnyddio at y diben gwreiddiol. Fodd bynnag, ceir enghreifftiau hefyd o fuddsoddiadau mewn seilwaith pan na chafwyd y manteision a fwriadwyd.
Sut y caiff seilwaith a ariennir gan yr UE ei gynnal a'i gadw?
Yn gyffredinol, ymddengys bod y seilwaith a ariennir gan yr UE yn parhau mewn cyflwr da, a cheir nifer o enghreifftiau o seilwaith yn derbyn buddsoddiad pellach. Derbynnydd gwreiddiol y grant sy'n parhau i fod yn berchen ar y mwyafrif helaeth o gyfleusterau. Mae'r sefydliadau hyn wedi rhoi amrywiaeth eang o fesurau yn eu lle er mwyn sicrhau bod seilwaith yn cael ei gynnal i safon uchel.
Prif ganfyddiadau Cam 3
Canfu’r astudiaeth fod cyfran fawr o’r buddsoddiad mewn ardaloedd astudiaethau achos wedi’i gynllunio i ategu seilwaith arall. Mae’r cysylltiadau hyn ar eu mwyaf amlwg lle mae cyllid ERDF wedi cyfrannu at raglenni adfywio ffisegol sy’n seiliedig ar le, gan gynnwys:
- adfywio canol dinas Abertawe (gan gynnwys adfywio safleoedd adfeiliedig y glannau) gyda’r nod o wella delwedd y ddinas a denu buddsoddwyr ac ymwelwyr
- adfywio hen ddociau a safleoedd purfa olew British Petroleum (BP) ym Mhort Talbot i ysgogi twf swyddi a chyflawni economi leol sy’n fwy amrywiol
- adfywio hen waith dur Glynebwy yn ddatblygiad defnydd cymysg i ddarparu swyddi newydd ac adfer balchder yn yr ardal leol
Mae’r cysylltiadau ar eu mwyaf amlwg rhwng buddsoddiadau mewn safleoedd a lleoliadau a thrafnidiaeth.
Canfu’r astudiaeth lai o enghreifftiau o fuddsoddi mewn cyfleusterau Ymchwil ac Arloesi a gynlluniwyd i ategu mathau eraill o seilwaith (ar wahân i gyfleusterau Techniums), er gwaetha’r ffaith eu bod yn cyfrif am gyfran fawr o’r buddsoddiad mewn rhai ardaloedd (e.e. Abertawe). Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod buddsoddiadau yn rhaglen 2007-13 wedi cael eu harwain yn bennaf gan brifysgolion yn hytrach na Llywodraeth Cymru neu gynghorau lleol, a’u bod yn ymateb i amcanion polisi cenedlaethol yn hytrach na rhaglenni adfywio ar sail ardal. Dywedodd ymgyngoreion ei bod yn anodd cysoni’r blaenoriaethau ar gyfer Ymchwil ac Arloesi ag amcanion partneriaid o ran buddsoddi mewn seilwaith ffisegol ac adfywio.
Prif ganfyddiadau Cam 4
Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod dichonolrwydd asesu effaith y buddsoddiadau mewn seilwaith yn ôl-weithredol gan ddefnyddio dulliau gwerthuso effaith yn wrthffeithiol yn amrywio ar gyfer gwahanol fathau o seilwaith.
O’r chwe chategori seilwaith a adolygwyd, canfuwyd bod pedwar yn hyfyw ar gyfer dulliau gwerthuso effaith yn wrthffeithiol h.y. Seilwaith Digidol, Seilwaith Dysgu, Safleoedd a Lleoliadau a Thrafnidiaeth. Nodwyd bod Safleoedd a Lleoliadau a Thrafnidiaeth yn gofyn am ddulliau arbrofol y byddai angen eu profi ymhellach drwy astudiaethau peilot.
Ni ystyriwyd Seilwaith Ymchwil ac Arloesi a Thwristiaeth yn addas ar gyfer dulliau gwerthuso effaith yn wrthffeithiol.
Er bod nifer o ddulliau gwrthffeithiol sydd wedi ennill eu plwyf ar gyfer asesu effaith buddsoddiadau Ymchwil ac Arloesi (e.e. paru sgoriau tueddiad) nododd awduron yr adroddiad fod y gallu i’w ymgymryd â hi’n llwyddiannus yn yr achos hwn wedi’i gyfyngu’n arw gan nifer o ffactorau. Er enghraifft:
- y data monitro cyfyngedig iawn sydd ar gael am y busnesau a elwodd ar y buddsoddiadau
- nad yw metrigau eraill ar lefel y busnesau a elwodd ar y buddsoddiadau ar gael am eu sefyllfa arloesi cyn ac ar ôl cael cymorth
- y cyfnod sylweddol o amser sydd wedi mynd heibio ers i’r busnesau gael y cymorth sy’n golygu bydd yn anodd datgysylltu’r effeithiau o’r effeithiau a ddeilliodd drwy gael mathau eraill o gymorth
Nid yw dulliau gwrthffeithiol yn addas ar gyfer buddsoddiadau twristiaeth a byddai’n anodd (os nad yn amhosibl) i’w cymhwyso’n ôl-weithredol. Mae hyn oherwydd cyfyngiadau’r data, anawsterau wrth geisio gwahanu effaith buddsoddiad yr ERDF o effaith buddsoddiadau cyhoeddus eraill, a heriau wrth ganfod ardaloedd rheoli sydd heb elwa ar ryw fuddsoddiad.
Adroddiadau
Gwerthusiad o seilwaith a ariannwyd gan yr UE , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB
Gwerthusiad o seilwaith a ariannwyd gan yr UE: cam tri , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 7 MB
Gwerthusiad o seilwaith a ariannwyd gan yr UE: cam tri (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 354 KB
Gwerthusiad o seilwaith a ariannwyd gan yr UE: cam pedwar , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 659 KB
Gwerthusiad o seilwaith a ariannwyd gan yr UE: cam pedwar (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 307 KB
Cyswllt
Charlotte Guinee
Rhif ffôn: 0300 025 0734
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.