Neidio i'r prif gynnwy

Caiff y rhaglen mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc dreulio blwyddyn mewn Coleg yn dilyn astudiaethau cychwynnol a chyfnod ar leoliad gwaith er mwyn eu paratoi ar gyfer y cynllun Prentisiaeth.

Roedd y rhaglen ar waith rhwng 2009/10 a 2013/14, a chafodd gymorth ariannol o 2010/11 ymlaen gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dyma rai o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad:

  • drwy Llwybrau at Brentisiaethau enillodd wyth mil o ddysgwyr sgiliau a chymwysterau gwerthfawr, a chyflogadwyedd sy’n debygol o fod wedi gwella rhagolygon eu gyrfaoedd ynghyd â chynyddu eu henillion gydol oes. Disgwylir i gost hyn, dros amser, gynhyrchu budd net i gyllidebau cyhoeddus
  • prif lwyddiant Llwybrau at Brentisiaethau oedd bod y rhaglen ddysgu’n gryf fel y dangoswyd gan lefelau cwblhau a chyrhaeddiad uchel, a’r ffaith bod nifer fawr o’r dysgwyr yn dweud eu bod yn fodlon gyda’r rhaglen
  • er i bron bob un o’r targedau a ariannwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop gael eu cyflawni, ni chyflawnwyd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer y niferoedd a symudodd ymlaen i Brentisiaethau
  • cyfyngiad arall i’r rhaglen oedd ei bod angen llawer o waith gweinyddu a threfnu, o’i gymharu â’r hyn yr oedd yn ei gyflawni.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau: adroddiad terfynol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Kimberley Wigley

Rhif ffôn: 0300 062 8788

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.