Nodau Raglen Sgiliau Cyflogadwyedd (ESP) yw cynorthwyo oedolion di-waith i sicrhau cyflogaeth barhaol trwy wella'u sgiliau cyflogadwyedd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd
Mae'n targedu oedolion di-waith y maent o fewn chwe mis o gyrraedd y farchnad waith yn benodol. Cyflawnir y rhaglen gan bedwar prif ddarparwr hyfforddiant sy'n cynnig hyfforddiant paratoi ar gyfer byd gwaith, sgiliau hanfodol yn ô y gofyn, a lleoliad gwaith neu hyfforddiant sy'n ymwneud â chyflogwr penodol ar gyfer y rhai y bydd Canolfan Byd Gwaith (JCP) ac eraill yn eu cyfeirio atynt.
Nod y gwerthusiad hwn yw cynnig asesiad ffurfiannol o gynllun a gweithrediad cychwynnol ESP er mwyn cyfrannu at ddatblygiad y rhaglen yn y dyfodol.
Casglwyd y dystiolaeth ansoddol a ddefnyddiwyd er mwyn cyfrannu at ganfyddiadau'r gwerthusiad gan waith ymchwil desg; cyfweliadau gyda'r pedwar prif ddarparwr hyfforddiant a phedwar is-gontractwr; cyfweliadau gyda Llywodraeth Cymru, JCP a Gyrfa Cymru; cyfweliadau gyda 12 unigolyn a phedwar cyflogwr a oedd wedi cymryd rhan.
Adroddiadau
Gwerthusiad o Raglen Sgiliau Cyflogadwyedd: gwerthusiad ffurfiannol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Gwerthusiad o Raglen Sgiliau Cyflogadwyedd: gwerthusiad ffurfiannol (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 281 KB
Cyswllt
Faye Gracey
Rhif ffôn: 0300 025 7459
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.