Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Comisiynodd Llywodraeth Cymru gwmni Wavehill, yn gweithio ar y cyd â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, i gynnal gwerthusiad o’u rhaglen ReAct fel y bu’n gweithredu o 2015 hyd at ddiwedd 2019 (sef ReAct III yn ffurfiol).

Mae’n bwysig nodi bod y gwerthusiad hwn wedi’i gwblhau cyn i bandemig COVID-19 ddechrau yng Nghymru yn 2020. Nid oes cyfeiriad yn yr adroddiad, felly, at effaith y pandemig ar raglen ReAct.

Y rhaglen

Mae ReAct III yn adeiladu ar fodel gweithredu sefydledig sydd wedi bod ar waith ers sefydlu’r rhaglen wreiddiol ym mis Mehefin 2004. Mae’r rhaglen yn rhoi cymorth er mwyn mynd i’r afael ag anghenion pobl y mae eu swydd wedi’i dileu neu sydd o dan rybudd dileu swydd, trwy gyfres o fesurau sydd wedi’u cynllunio i gael gwared ar rwystrau rhag cael gwaith newydd. Y prif nod yw ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol i bob sefyllfa dileu swydd trwy gyfres o fesurau sydd wedi’u cynllunio i liniaru effeithiau negyddol colli swydd. Ei nod yw rhoi’r sgiliau angenrheidiol i bob unigolyn a wnaed yn ddi-waith iddynt gael cyflogaeth newydd, gynaliadwy yn yr amser byrraf posibl.

Dyma dri llinyn y rhaglen:

  1. grant hyfforddiant galwedigaethol ar gyfer pobl sydd angen diweddaru eu sgiliau er mwyn dychwelyd i fyd gwaith
  2. cefnogaeth ychwanegol i helpu i gael gwared ar unrhyw rwystrau i hyfforddiant galwedigaethol (e.e. teithio rhesymol, gofal plant, llety, ac offer arbennig ar gyfer cyfranogwyr sydd ag anghenion ychwanegol)
  3. cyfraniad at gyflogau a help gyda chostau hyfforddi ar gyfer cyflogwyr sy’n recriwtio

Mae ReAct wedi’i gynllunio i ategu a chyd-fynd â’r gwasanaethau a gynigir i weithwyr di-waith gan y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru. Mae’n rhaglen ledled Cymru gyfan a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac, yn ardal Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, fe’i hariannir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Y gwerthusiad a’r fethodoleg

Canolbwyntiodd y gwerthusiad ar berfformiad ac effaith y rhaglen, gan adolygu dyluniad a phrosesau gweithredu’r rhaglen.

Cynhaliwyd y gwaith maes o 2017 hyd at ddiwedd 2019, a’r fethodoleg yn cynnwys:

  • adolygu’r llenyddiaeth sy’n gysylltiedig ag ymatebion i ddileu swyddi
  • ymgynghori ag ystod o randdeiliaid y rhaglen, gan gynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru, staff Gyrfa Cymru, ac ystod o bartneriaid allanol (gan gynnwys staff y Ganolfan Byd Gwaith) sy’n ymwneud â ReAct
  • ymgynghori ag unigolion a gefnogwyd trwy arolwg ffôn ag 1,155 o gyfranogwyr[1] a chyfweliadau manwl â 50 o gyfranogwyr
  • ymgynghori â busnesau a gefnogwyd trwy arolwg (70 ymateb) a chyfweliadau manwl (15 ymateb)
  • pedair astudiaeth achos yn canolbwyntio ar sefyllfaoedd dileu swyddi ‘byw’ a ddigwyddodd yn ystod oes y gwerthusiad, gan gynnwys ymgynghori â 180 o unigolion a gollodd eu swyddi
  • asesu effaith a dadansoddi cost a budd

[1] Drwy Arolwg yr ESF o’r Bobl a Adawodd yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd ac arolwg yn benodol ar gyfer y gwerthusiad hwn mewn rhannau eraill o Gymru (y ddau yn defnyddio’r un offer ymchwilio).

Prif ganfyddiadau

Cydweddu â pholisïau a themâu trawsbynciol

Fel yr unig raglen sydd wedi’i thargedu’n benodol at unigolion y mae eu swyddi yn cael eu dileu, mae gan ReAct rôl glir wrth gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru fel y nodir yn y strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb, a’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi. O ran cyflawni amcanion strategol WEFO, mae ReAct yn cyd-fynd ag Echel Blaenoriaeth 1: Trechu Tlodi drwy Gyflogaeth Gynaliadwy, ac ag Amcan Penodol 1: Cynyddu cyflogadwyedd y rhai sydd agosaf at y farchnad lafur ac sy’n wynebu’r risg fwyaf o dlodi, gan dargedu unigolion y mae dileu swyddi wedi effeithio arnynt.

Mae ReAct, fel mae’r enw yn awgrymu yn Saesneg, yn ymyrraeth ymatebol sy’n rhoi cefnogaeth i unigolion a busnesau pan fo’i angen (yn benodol mewn sefyllfaoedd dileu swyddi). Nid yw’r rhaglen yn targedu unrhyw ardal benodol yng Nghymru na grwpiau o fusnesau nac unigolion penodol y tu hwnt i’r meini prawf hynny. At hynny, mae pwyslais ar natur annibynnol y cyngor a roddir, un sydd ‘canolbwyntio ar yr unigolyn’ ac sydd wedi’i gynllunio i roi’r gefnogaeth sy’n briodol i’r unigolyn dan sylw ar yr un pryd hefyd ag ystyried y farchnad lafur leol.

Mae’r dull hwn yn cyfyngu potensial ReAct i fod yn gyfrwng y gellir hyrwyddo amcanion polisi yn rhagweithiol drwyddo, gan gynnwys y rhai ar gyfer y Gymraeg neu themâu trawsbynciol ar lefel y rhaglen. Nid yw hyn yn dweud na all ReAct gyfrannu at gyflawni’r amcanion polisi hynny; yn hytrach, mae’n gwneud hynny mewn ffordd ymatebol (wedi’i arwain gan y galw). Er enghraifft, bydd cynghorydd Gyrfa Cymru yn cyfeirio at y Gymraeg os yw’n briodol i’r unigolyn, yr ardal neu’r sector a drafodir. Gall y rhaglen felly gyfrannu at gyflawni amcanion polisi yn ymwneud â’r Gymraeg ac amcanion trawsbynciol eraill. Y prif ysgogwyr ar gyfer y cymorth a ddarperir, fodd bynnag, yw ffactorau eraill megis amodau’r farchnad lafur leol a blaenoriaethau’r unigolyn a gefnogir.

Rheolaeth a gweithredu

Canfu pob un o dri gwerthusiad blaenorol ReAct (2008, 2011 a 2016) fod y rhaglen wedi’i rhoi ar waith yn effeithiol, ac mae canfyddiadau’r gwerthusiad hwn yr un peth ar gyfer rhaglen ReAct III. Fodd bynnag, cydnabyddir bod y rhaglen yn parhau i fod yn ‘weinyddol drwm’, gyda rhanddeiliaid yn tynnu sylw at gymhlethdodau gweinyddol cyflwyno rhaglen a ariennir gan ESF.

Rôl Gyrfa Cymru

Mae Gyrfa Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn ReAct drwy fod yn ‘geidwad y porth’ i geisiadau am gymorth (gan fod â rôl ‘rheoli ansawdd’ bwysig wrth sicrhau mai dim ond ceisiadau priodol a gyflwynir i dîm Llywodraeth Cymru) ac o ran effeithiolrwydd yr wybodaeth, cyngor ac arweiniad (GCA) y maent yn eu rhoi i unigolion. Yn ogystal, mae GCA fel hyn yn hanfodol er mwyn i ReAct, trwy’r hyfforddiant y mae’n ei ariannu, fedru sicrhau canlyniadau cadarnhaol.

Yn ôl yr adolygiad llenyddiaeth, gall cymorth i chwilio am swydd gael effaith gadarnhaol ar siawns unigolion o symud i waith, yn enwedig yn y tymor byr. Felly, mae integreiddio cefnogaeth ReAct â’r ystod ehangach o gymorth cyflogadwyedd a gynigir gan Gyrfa Cymru yn ddull y byddai’r gwerthusiad yn ei gefnogi.

Roedd cynghorwyr Gyrfa Cymru yn gryf o blaid ReAct am ddau reswm: yn gyntaf, oherwydd y buddion y gwelent unigolion yn eu cael o’r gefnogaeth, ac, yn ail, oherwydd bod y posibilrwydd o gael cyllid i ddilyn cwrs hyfforddi yn ‘abwyd’ pwysig a ddenai unigolion i gyfarfod â nhw. Unwaith eto mae hyn yn tanlinellu gwerth ReAct fel rhan o becyn cymorth ehangach i unigolion sy’n chwilio am waith. 

Canfu’r adolygiad llenyddiaeth y gall hyfforddiant gael effaith gadarnhaol ar symud i waith, yn enwedig yn y tymor hirach. Fodd bynnag, awgryma’r dystiolaeth y gall effaith rhaglenni hyfforddi amrywio’n fawr a bod dyluniad da yn hanfodol iddynt fod yn effeithiol. Awgryma hyn fod angen i dîm ReAct sicrhau bod cynllunio effeithiol wedi bod ar yr hyfforddiant a ddewisa cyfranogwyr. Mae hyn yn rhan o’r trafod rhwng cyfranogwr ReAct a chynghorydd Gyrfa Cymru, er y bydd y broses asesu a wneir gan dîm Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys adolygu’r cwrs hyfforddi y mae’r ymgeisydd am ei wneud er mwyn sicrhau ei fod yn briodol.

Ni chanfu’r gwerthusiad unrhyw dystiolaeth sy’n awgrymu nad yw’r cyrsiau hyfforddi a ariannwyd gan ReAct wedi’u cynllunio’n dda. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod y llenyddiaeth yn nodi bod dyluniad rhaglenni hyfforddi mor bwysig yn awgrymu ei fod yn rhywbeth y dylid ei adolygu’n barhaus.

Targedu cymorth

Mae ReAct ar gael i unrhyw un y mae eu swydd wedi’i dileu. Er nad oedd y mwyafrif o randdeiliaid yn credu y dylai ReAct dargedu yn fwy, roedd rhai yn cydnabod rhesymeg targedu cefnogaeth at y rheini â lefelau cymwysterau is ar y sail eu bod, yn gyffredinol, yn fwy tebygol o fod angen cefnogaeth i ddod o hyd i gyflogaeth ar ôl i’w swydd gael ei dileu.

Mae’r llenyddiaeth yn cefnogi’r farn honno. Mae dogfennau polisi hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd targedu cefnogaeth at y rhai sydd ei angen fwyaf. Barn gyffredinol y mwyafrif o randdeiliaid, fodd bynnag, oedd y dylai ReAct barhau i fod ar gael i unrhyw un y mae eu swydd yn cael ei dileu ar y sail y gall hyd yn oed y rhai sydd â lefelau cymwysterau uchel fod â bylchau yn eu CV a’u set sgiliau y mae angen mynd i’r afael â nhw pan gollant eu swydd. Mae angen ystyried hefyd yr effaith y gall colli swydd ei chael ar iechyd meddwl unigolion gan nad yw profiad a chymwysterau yn berthnasol i hynny.

Mae’n ddiddorol nodi bod dadansoddi’r wybodaeth fonitro wedi canfod bod cyfranogwyr sydd â lefelau cymwysterau cymharol isel (sef Lefel 2 neu is) wedi’u tangynrychioli ym mhob un o dri llinyn ReAct, tra bod y rheiny â chymwysterau ar Lefel 4 neu uwch wedi’u gorgynrychioli ym mhob un o’r tri llinyn. Gallai’r dull ‘agored i bawb’ felly fod yn arwain at sefyllfa lle mae’r rhai sydd angen cefnogaeth fwyaf (gellid dadlau) yn cael eu tangynrychioli yn y rhaglen. Neu, gan fod ReAct yn cael ei arwain gan alw, gallai awgrymu bod llai o alw am gefnogaeth gan y grwpiau hynny, neu gallai fod yn broblem ymwybyddiaeth ymhlith y grŵp hwnnw.

Mewn gwirionedd, ni allwn fod yn sicr pam yr ymddengys nad yw’r rhai sydd â sgiliau is wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn ReAct. Efallai ei fod yn awgrymu bod angen targedu’r grwpiau hynny mewn rhyw ffordd er mwyn sicrhau eu bod yn ymgysylltu.

Gwahaniaethau yn y dull gweithredu

Dangosodd yr astudiaethau achos y gall graddfa’r ymateb i sefyllfa dileu swyddi yng Nghymru fod yn sylweddol. Roedd hyn yn wir am gau canolfan alwadau Tesco yng Nghaerdydd yn 2017 (Tesco House) gyda cholli 1,200 o swyddi, a thasglu gweinidogol wedi’i sefydlu yn yr achos hwnnw. Fodd bynnag, mae pa mor briodol yw graddfa’r ymateb yn gwestiwn diddorol i’w ystyried.

Mae unrhyw ddileu swyddi ar raddfa fawr yn haeddu ymateb. Fodd bynnag, i’r astudiaethau achos a ystyriwyd yn yr adroddiad hwn ymddengys mai maint (a phroffil) y colli swyddi sy’n ysgogi’r ymateb (yn hytrach na’r angen am gefnogaeth). Er enghraifft, er bod dileu swyddi Tesco House ar raddfa fawr o ran y niferoedd dan sylw, fe’i disgrifiwyd gan rai i fod yn ‘llai heriol’ nag achosion eraill o ddileu swyddi oherwydd sgiliau lefel uchel llawer o’r unigolion perthnasol a bywiogrwydd cymharol y farchnad swyddi leol. Yn ogystal, rhoddwyd cryn rybudd fod y dileu swyddi yn mynd i ddigwydd, gan roi cyfle i gynllunio cefnogaeth effeithiol.

Y cwestiwn yw a ddylai sefyllfaoedd o ddileu swyddi sydd â llai o broffil uchel, gyda nifer llai o swyddi efallai’n cael eu colli ond rhagolygon llawer is o ailgyflogi’n lleol, gynhyrchu’r un ymateb. Mae hwn yn gwestiwn anodd i’w ateb, er y gallwn ddweud bod yr ymateb i bob un o’r astudiaethau achos dileu swydd a astudiwyd ar gyfer y gwerthusiad hwn wedi bod yn gynhwysfawr, hyd yn oed os nad oeddent efallai mor gynhwysfawr ac uchel ei broffil ag enghraifft Tesco House.

Er bod y pecyn cymorth a oedd ar gael yn gyson ar y cyfan, dengys yr astudiaethau achos yr addaswyd y ffordd a gâi ei ddarparu yn ôl nodweddion ac amgylchiadau pob sefyllfa benodol. Er enghraifft, roedd y dull ar gyfer Allied Bakeries yn wahanol i’r dull ar gyfer Tesco House yn sgil ystyried anghenion, cryfderau, gwendidau penodol etc y gweithle dan sylw. Yn ein barn ni, mae hwn yn ganfyddiad cadarnhaol ac mae’n arddangos y wybodaeth a’r profiad a ddatblygwyd dros gyfnod sylweddol o amser gan y timau sy’n rhoi cymorth. Ystyrir bod gwybodaeth a dealltwriaeth leol yn hanfodol i effeithiolrwydd y gefnogaeth a gynigid (e.e. dealltwriaeth o’r farchnad lafur leol), sydd, unwaith eto, yn cefnogi cynnal ReAct drwy dimau lleol Gyrfa Cymru.

Mae’r berthynas y gellir ei meithrin gyda’r busnesau sy’n dileu swyddi yn bwysig iawn – po orau’r berthynas, y mwyaf effeithiol y bydd yr ymateb y gellir ei roi ar waith. Yn gysylltiedig â’r uchod, mae faint o amser sydd ar gael i baratoi ymateb i’r dileu swyddi yn bwysig hefyd – gorau po hiraf.

Canfyddiad allweddol gan y gwerthusiad, fodd bynnag, yw bod y strwythur sydd ar waith i ymateb i sefyllfaoedd dileu swyddi yng Nghymru mor sefydledig bellach fel y gall ymateb yn gyflym iawn ac yn effeithiol iawn, megis pan gaeodd Quinn Radiators ei ddrysau heb rybudd o flaen llaw. Roedd y cyflymder y paratowyd yr ymateb yn yr achos hwnnw wedi gallu digwydd i raddau helaeth oherwydd y ffaith fod y broses bellach wedi’i hen sefydlu, gyda thimau a chysylltiadau ar waith ac i bob pwrpas yn ‘barod i fynd’. Yr hyn nad yw’n glir yw a oes modd dyblygu’r ymateb hwnnw ledled Cymru, yn enwedig mewn lleoliadau mwy gwledig, lle byddai llai o adnoddau ar gael a’r adnoddau hynny’n fwy gwasgaredig. Byddai angen astudiaethau achos ar gyfer dileu swyddi mewn ystod fwy amrywiol o leoliadau er mwyn archwilio hyn ymhellach.

Pam nad yw rhai cyfranogwyr yn defnyddio cymorth ReAct

Gwelwyd mai’r rhesymau pennaf pam nad oedd unigolion wedi defnyddio cefnogaeth ReAct (pan oeddent yn gwybod amdano) oedd eu bod eisiau/angen dychwelyd i gyflogaeth cyn gynted â phosibl ac/neu’n teimlo nad oedd angen hyfforddiant ychwanegol arnynt i ddod o hyd i waith  Mae’r cyfweliadau manwl serch hynny yn tynnu sylw at y ffaith y gall unigolion ei chael hi’n anodd ystyried eu hopsiynau’n llawn yn union ar ôl colli eu swydd, a gallant wneud penderfyniadau y maent yn eu difaru maes o law, megis symud yn ôl i gyflogaeth yn rhy gyflym.

Cefnogaeth iechyd meddwl

Mae colli swydd yn cael effaith ar iechyd meddwl a chorfforol pobl sy’n colli eu swydd. Yn sgil hynny, un maes lle mae potensial i ychwanegu at becyn cymorth ReAct yw’r cymorth iechyd meddwl a chorfforol a gynigir i unigolion.

Er nad yw cyngor Gyrfa Cymru a chefnogaeth ReAct ar ôl colli swydd yn llenwi bwlch cymorth ag iechyd meddwl (heblaw am atgyfeirio at gymorth arbenigol), mae’n arwyddocaol bod llawer o gyfranogwyr yn nodi canlyniadau iechyd meddwl cadarnhaol ar ôl cymryd rhan yn ReAct.

Mae’r astudiaethau achos hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod effaith colli swydd yn ehangach na cholli gwaith cyflogedig yn unig, yn enwedig os cawsant eu cyflogi yn yr un lle am gyfnod hir o amser, gyda’r posibilrwydd o golli’r rhwydwaith cymdeithasol a chymorth y maent wedi dod i ddibynnu arno mewn sawl ffordd.

Canlyniadau ar gyfer unigolion a gefnogwyd

O’r cyngor gan Gyrfa Cymru

Canfu’r gwerthusiad fod y rhai a gafodd gefnogaeth cyngor gan Gyrfa Cymru yn gadarnhaol amdano ar y cyfan, gyda mwyafrif yr ymatebwyr yn teimlo ei fod wedi rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o sut y gellid cymhwyso eu sgiliau a’u rhinweddau personol i’r farchnad swyddi a’u gyrfa. Yn y rhan fwyaf o achosion, fodd bynnag, ni theimlwyd bod y cyngor a gafwyd wedi arwain at newid yn y camau yr oedd yr unigolyn dan sylw eisiau eu cymryd. Yn hytrach, roedd wedi cadarnhau a helpu ‘cyfeiriad teithio’ a oedd eisoes ym meddwl y cyfranogwr. Fel y trafodir yn nes ymlaen, mae hyn yn cyd-fynd â chanfyddiad mwy cyffredinol fod ReAct yn cefnogi canlyniadau cadarnhaol, yn hytrach nag yn peri iddynt ddigwydd.

O’r hyfforddiant galwedigaethol

Canfu’r gwerthusiad effaith gadarnhaol glir yn yr ystyr bod mwyafrif yr unigolion yr oedd eu swyddi wedi’u dileu ac a gefnogwyd gan ReAct wedi symud yn ôl i gyflogaeth yn gyflym. Roedd 80% o’r ymatebwyr i arolwg yr unigolion a gefnogwyd gan ReAct mewn cyflogaeth chwe mis ar ôl i’r cwrs hyfforddi ddod i ben. Fodd bynnag, yr hyn sy’n llai eglur yw a ellir priodoli hyn i ReAct yn unig ai peidio.

Yn y rhan fwyaf o achosion (61%) roedd y rolau a’r sectorau yr oedd pobl yn gweithio ynddynt wedi newid ers i’w swydd gael ei dileu, weithiau mewn ffordd gadarnhaol ac weithiau yn negyddol. Ar yr ochr gadarnhaol, nododd ymatebwyr eu bod wedi cael cyflogaeth ar gyflog uwch na’u rôl flaenorol, a’u bod yn mwynhau eu rôl newydd yn fwy na’u hen un. Roedd y cyfweliadau manwl ag unigolion wedi tanlinellu’r fantais i’w bywyd a’u gwaith yr oedd rhai wedi’i sicrhau o ganlyniad i newid eu swydd. Ymddengys yn glir fod cefnogaeth ReAct mewn sawl achos wedi helpu i hwyluso’r newidiadau hynny. Mewn achosion eraill, fodd bynnag, roedd y newid wedi bod yn negyddol, gydag unigolion yn nodi eu bod bellach yn cael eu talu llai nag yr oeddent o’r blaen a bod yn well ganddynt eu swydd flaenorol. Mae’n debyg bod hyn yn anochel mewn sefyllfa lle mae pobl wedi colli eu swyddi yn anwirfoddol.

Mewn trafodaethau, roedd cynghorwyr Gyrfa Cymru bob amser yn awyddus i bwysleisio nad oes gan unigolion mewn nifer o achosion unrhyw ddewis ond derbyn y swydd gyntaf a gynigir iddynt, gan fod angen yr incwm arnynt. Yn aml nid yw’r swydd honno’n cyfateb i’r swydd yr oedd ganddynt yn flaenorol ac/neu nid yw’n defnyddio eu sgiliau a’u cymwysterau yn llawn. Yn fwy na hynny, ni wneir y gorau o’u hallbwn economaidd mewn sefyllfaoedd o’r fath.

Yn ogystal, bydd amgylchiadau pan fydd unigolion wedi symud i swydd nad yw’n gysylltiedig â’r gefnogaeth a gawsant trwy ReAct. Er enghraifft, efallai bod ReAct wedi ariannu hyfforddiant a gynlluniwyd i helpu’r unigolyn i gael gwaith yn Sector A, ond eu bod yn derbyn swydd yn Sector B oherwydd bod angen swydd arnynt. Yn yr amgylchiadau hynny ni fydd yr unigolyn yn nodi ei fod wedi cael ei swydd oherwydd y gefnogaeth a gawsant gan ReAct. Fodd bynnag, mae ganddynt uchelgais yn dal i fynd i swydd yn Sector A pan ddaw swydd o’r fath i’r fei. Mae hynny’n golygu y gallai’r gefnogaeth a gawsant yn dal gael effaith gadarnhaol.

Mae’r mater hwn yn un o nifer, a hynny’n arwain at awgrym y gallai fod yn briodol ystyried a ddylai cefnogaeth ReAct barhau i fod ar gael i unigolion sydd wedi colli eu swydd hyd yn oed os ydynt wedi cael cyflogaeth arall. Bydd amgylchiadau lle gallai cefnogaeth o’r fath gael effaith gadarnhaol ar ragolygon gyrfa unigolyn a, thrwy hynny, sicrhau’r cyfraniad economaidd mwyaf y gallant ei wneud.

Gwahaniaethau yn y canlyniadau

Diddorol yw sylwi y canfuwyd bod cyfranogwyr hŷn yn fwy tebygol o fod wedi gweld mwy o ostyngiad yn eu cyflog. Un dehongliad posibl o’r canfyddiad hwn yw bod cyfranogwyr yn y grŵp oedran hŷn yn ei chael hi’n anoddach dod o hyd i gyflogaeth debyg yn dilyn dileu swydd. Fodd bynnag, gallai nifer o ffactorau eraill fod wedi dylanwadu, gan gynnwys eu bod efallai yn llai hyblyg o ran lleoliad eu cyflogaeth na’u cydweithwyr iau, neu eu bod wedi derbyn pecyn dileu swydd mwy hael. Ni ellir ond damcaniaethu ar y mater hwn.

Cafnu’r gwerthusiad fod canlyniadau cymorth ReAct yn debygol o fod yn ‘well’ i’r rheini sydd â lefel cymwysterau uwch – maent yn fwy tebygol o fod wedi dod o hyd i swydd ers colli’r un flaenorol. Fodd bynnag, awgryma’r dadansoddiad fod cymorth ReAct yn chwarae rhan llai pwysig wrth ysgogi’r canlyniad hwnnw (cael swydd) i rai sydd â lefel cymwysterau uwch nag i’r unigolion hynny â chymwysterau lefel is. I’r gwrthwyneb wedyn, rydym wedi canfod bod y rheini â lefelau cymwysterau is – sef y rhai a fyddai’n elwa fwyaf o’r gefnogaeth – wedi’u tangynrychioli yn rhaglen ReAct.

Gallai ymchwil bellach, gan ddefnyddio grwpiau gwrthffeithiol sy’n cyfateb yn briodol, roi dealltwriaeth bwysig pellach am y maes hwn. Fodd bynnag, mae’r canfyddiad yn cryfhau’r ddadl y dylid cael o leiaf ryw elfen o dargedu mwy ar y gefnogaeth at unigolion sydd â lefelau cymwysterau is. Mae’n bwysig nodi nad yw hyn o reidrwydd yn golygu y dylid tynnu cefnogaeth oddi wrth y rhai sydd â lefelau cymwysterau uwch, gan y gallai targedu gynnwys darparu cymorth ychwanegol i’r rheini â chymwysterau is.

Priodoli i ReAct

Er mwyn asesu effaith ymyrraeth, mae’n bwysig nodi pa rai o’r canlyniadau yr arsylwyd arnynt a fyddai wedi digwydd beth bynnag. Heb nodi sefyllfa wrthffeithiol gadarn megis grŵp rheoli, nid yw’n bosibl mesur faint o’r ymatebwyr i’r arolwg a fyddai wedi dod o hyd i gyflogaeth beth bynnag. Fodd bynnag, mae data’r arolwg a’r cyfweliadau manwl yn rhoi rhywfaint o syniad, gan y gofynnwyd i’r ymatebwyr roi eu barn ar ddylanwad y cwrs hyfforddi a wnaed ar gael y canlyniad cyflogaeth.

Nododd lleiafrif (14%) o ymatebwyr yr arolwg fod yr hyfforddiant a ariannwyd gan ReAct wedi cael effaith uniongyrchol ar eu gallu i sicrhau cyflogaeth, ond dywedodd 31% nad oedd wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i’w canlyniad cyflogaeth. Mae’n bwysig nodi nad yw hyn yn syndod mae’n debyg wrth ystyried bod hwn yn grŵp o bobl a oedd mewn cyflogaeth yn ddiweddar, ac o ystyried yr amodau economaidd cymharol gadarnhaol a fodolai yn ystod y cyfnod y rhoddwyd y gefnogaeth iddynt. Mae’r adolygiad llenyddiaeth hefyd yn adrodd canfyddiadau tebyg yng ngwerthusiadau blaenorol rhaglen ReAct. 

Yn fwy perthnasol, efallai, yw’r ffaith bod mwy na hanner yr ymatebwyr (55%) wedi nodi bod hyfforddiant galwedigaethol yn rhywbeth a oedd wedi eu helpu i fynd i gyflogaeth. Roedd y cyfweliadau manwl ar y cyfan wedi adrodd yr un stori, er eu bod hefyd wedi tynnu sylw at rôl allweddol cefnogaeth ReAct mewn rhai achosion. Gallwn gasglu o hyn bod ReAct wedi bod â rhan gadarnhaol, er nad hanfodol, wrth esgor ar y canlyniadau cyflogaeth a welwyd, yn enwedig pan oedd gan yr unigolyn dan sylw gymwysterau is.

Canlyniadau cymorth i gyflogwyr

Gan droi ein sylw nawr at elfennau cyflogwyr ReAct, awgrymodd gwerthusiadau blaenorol fod difuddiant uchel yn gysylltiedig â’r elfennau cymhorthdal cyflogi a’r hyfforddi mewn gwaith. Er bod angen nodi bod y sampl o gyflogwyr a holwyd ar gyfer y gwerthusiad yn gymharol fach, mae canfyddiadau’r gwerthusiad hwn yn cyd-fynd â’r farn honno: byddai canran uchel o bobl wedi’u recriwtio beth bynnag, hyd yn oed pe na bai’r cymhorthdal ar gael, a byddai’r hyfforddi mewn gwaith ran amlaf wedi digwydd beth bynnag.

Roedd y rhan fwyaf o’r busnesau a gyfwelwyd wedi defnyddio elfen cymhorthdal cyflogaeth ReAct (Cymhorthdal Recriwtio i Gyflogwyr – CRiG), ond nid y grant i gefnogi hyfforddiant pellach (Cymhorthdal Hyfforddiant i Gyflogwyr – CHiG). Yn y rhan fwyf o achosion roedd hyn oherwydd na theimlai cyflogwyr fod angen hyfforddiant ychwanegol.

Mae’n gadarnhaol gweld bod nifer cymharol fawr o ymatebwyr (20 ohonynt, microfusnesau yn bennaf) a oedd wedi cael cyllid CRiG yn adrodd bod yr unigolyn a gafodd ei recriwtio wedi symud ymlaen i rolau â chyflog uwch yn y busnes. Nododd cyfran debyg o ymatebwyr, fodd bynnag, nad oedd gweithwyr a recriwtiwyd trwy ReAct bellach yn cael eu cyflogi gan y busnes. Felly, nid oes unrhyw ganfyddiad clir yn codi o’r arolwg mewn perthynas â pha mor hir y mae cyflogaeth yn para yn sgil cymorth ReAct i gyflogwyr.

Nid yw’n syndod mai’r budd y nododd y mwyafrif o fusnesau a ddeilliodd o’r gefnogaeth a gawsant gan ReAct oedd budd ariannol: y cyllid a gawsant. Fodd bynnag, os edrychwn yn benodol ar ficrofusnesau, nodwyd mai recriwtio gweithwyr oedd ag arferion gweithio da ac etheg waith dda oedd y budd pennaf, er bod angen cadw mewn cof (eto) nifer fach yr ymatebion ym mhob carfan. Yn ogystal, ystyriwyd bod y buddion yn sylweddol yn yr amgylchiadau hyn.

Canfyddiad allweddol, er hynny, yw ei bod yn debygol y byddai’r recriwtio a’r hyfforddi wedi digwydd heb gefnogaeth ReAct yn y mwyafrif helaeth o achosion. Yn sgil hyn, rhaid gofyn cwestiynau ynghylch pa mor briodol yw elfennau cymorth busnes ReAct wrth symud ymlaen. Yr unig gafeat i hyn yw bod rhai busnesau (microfusnesau fel arfer) wedi elwa’n sylweddol o’r gefnogaeth a gawsant.

Deuir i’r casgliad y dylid ystyried mwy o dargedu microfusnesau os cedwir yr elfen cymorth sy’n gysylltiedig â chyflogwr. Yn ogystal, rhaid ystyried a oes rhesymeg digon cryf dros dargedu cymhorthdal cyflog yn benodol at unigolion sydd wedi colli eu swyddi, yn hytrach na chael cynllun cymhorthdal cyflog mwy cyffredinol ar gyfer microfusnesau.

Canfu’r adolygiad llenyddiaeth y gall cymorthdaliadau cyflog neu recriwtio fod yn effeithiol wrth helpu unigolion i symud i waith heb gymhorthdal, er mai dim ond os ydynt wedi’u cynllunio’n dda y mae’r rhain yn effeithiol. Mae cymorthdaliadau cyflog sydd am gyfnod penodol yn well (fel sy’n wir gyda ReAct) ac os cânt eu targedu at weithwyr dan anfantais fel y di-waith hirdymor (nad yw’n wir gyda ReAct). Rhaid ystyried ffactorau fel y rhain wrth symud ymlaen.

Er y canfuwyd bod targedu fel hyn yn lleihau graddau’r difuddiant, mae effeithiau cyfnewid yn parhau i fod yn sylweddol. Fodd bynnag, trwy roi swydd i weithwyr dan gymaint o anfantais, mae cymorthdaliadau cyflogaeth yn gwella’r cyflenwad llafur sydd ar gael i gyflogwyr. Yn gryno, mae cymorthdaliadau cyflogi yn galluogi unigolion sydd ag anfanteision neu rwystrau mwy sylweddol i waith i gymryd swyddi a fyddai fel arall wedi cael eu cymryd gan weithwyr sy’n fwy cyflogadwy yn syth. Felly, hyd yn oed gydag effeithiau cyfnewid sylweddol, gellir cyfiawnhau cymorthdaliadau cyflogi sydd wedi’u targedu at weithwyr dan anfantais ar y seiliau economaidd cadarnhaol hyn ac ar sail tegwch cynorthwyo grwpiau sy’n wynebu anawsterau penodol yn y farchnad lafur.

Asesu effaith a dadansoddi cost a budd

Yn ôl ein dadansoddiad amcangyfrifwyd mai effaith net ychwanegol ReAct yw cynyddu nifer y bobl mewn cyflogaeth sy’n ychwanegol at yr hyn a fyddai wedi digwydd yn absenoldeb y rhaglen, gan wneud hynny i gyfanswm o 1,432 yng Nghymru gyfan. Nodir bod difuddiant yn bryder yn yr adroddiad hwn, fel y bu yng ngwerthusiadau blaenorol ReAct, ac mae’r ffigur hwn yn adlewyrchu’r pryder hwn, gyda’r 1,432 o swyddi net wedi’u creu o gyfanswm o 8,228 o gyfranogwyr.

Mabwysiadwyd rhagdybiaeth geidwadol o ddifuddiant 80% ar gyfer y dadansoddiad, a thybir bod elfen cymhorthdal cyflogaeth ReAct tuag at ben uchaf yr ystod a awgrymwyd gan yr adolygiad llenyddiaeth (sef yn 90%). 

Er gwaethaf hyn, mae’r dadansoddiad yn dal i ganfod bod ReAct yn cynrychioli gwerth am arian, gyda chymhareb budd-i-gost o 1.58 (ar y lleiaf) (sydd, yn ôl canllawiau’r llywodraeth ganolog, yn werth derbyniol am arian). Fodd bynnag, byddai’r gymhareb honno’n debygol o wella o weithredu’r argymhellion a wnaed yn gynharach yn y casgliad hwn.

Nid oedd modd cynnal y dadansoddiad a gynlluniwyd ar gyfer yr asesiad effaith yn y gwerthusiad hwn oherwydd gwendidau yn y wybodaeth reoli sydd ar gael. Y bwriad gwreiddiol oedd defnyddio dull paru i asesu effaith net cymryd rhan yn ReAct yn erbyn sefyllfa wrthffeithiol y rheiny na chymerodd ran. Fodd bynnag, nid oedd data am gyfranogwyr ReAct wedi’i gynnwys yn nata Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR), a hynny’n golygu nad oedd y dadansoddiad hwn yn bosibl. Yn ogystal, nid oedd yn bosibl paru gwybodaeth reoli ReAct am gyfranogwyr yn erbyn data o’r Arolwg o’r Llafurlu oherwydd diffyg data, gan olygu nad oedd asesiad effaith cadarnach yn bosibl. Dylid mynd i’r afael â hyn wrth symud ymlaen.

Argymhellion

Argymhelliad 1

Er mwyn sicrhau sylwi ar fylchau posibl yn y gefnogaeth a mynd i’r afael â hynny, mae angen monitro nodweddion cyfranogwyr ReAct yn fwy ‘byw’, yn ogystal â’r mathau o ddileu swyddi (e.e. sector a maint y busnes), y lleoliadau, a’r sectorau lle cynigir y gefnogaeth trwy ReAct.

Argymhelliad 2

Dylid ystyried yr angen posibl i weithredu er mwyn sicrhau ansawdd yr hyfforddiant y mae cyfranogwyr ReAct yn ei wneud. Gallai hyn gynnwys mynd ati’n rheolaidd i adolygu sampl o’r cyrsiau mwyaf poblogaidd a wneir, er enghraifft.

Argymhelliad 3

Mewn ymateb i’r canfyddiad bod unigolion sydd â lefelau cymwysterau isel wedi’u tangynrychioli yn y rhaglen, dylid archwilio opsiynau ar gyfer targedu neu gynyddu lefel ymgysylltiad y rhai sydd â lefelau cymwysterau is. Dylid hefyd fynd ati’n gyson i fonitro ystod a nodweddion y cyfranogwyr sy’n cymryd rhan.   

Argymhelliad 4

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod modd ailadrodd ledled Cymru y strwythur effeithiol y gwelodd y gwerthusiad yn yr ymateb i ddileu swyddi yn yr astudiaethau achos, yn enwedig mewn lleoliadau mwy gwledig, lle byddai llai o adnoddau ar gael a’r adnoddau hynny’n fwy gwasgaredig.

Argymhelliad 5

Gall colli swydd gael effaith ar iechyd meddwl unigolyn. Dylid ystyried darparu cefnogaeth fwy cynhwysfawr i fynd i’r afael ag effaith bosibl dileu swydd ar iechyd meddwl fel rhan o unrhyw becyn cymorth yn y dyfodol.

Argymhelliad 6

Er mwyn helpu pob unigolyn i gael y swydd iawn (yn hytrach nag unrhyw swydd) a gwneud y gorau o’u potensial, dylai Llywodraeth Cymru ystyried y posibilrwydd o gynnig cefnogaeth bellach neu barhaus i gyfranogwyr ReAct hyd yn oed pan fyddant wedi cael cyflogaeth arall.

Argymhelliad 7

Y rhai sydd â lefelau sgiliau is sy’n elwa fwyaf o’r gefnogaeth y mae ReAct yn ei darparu. Dylid ymchwilio i opsiynau ar gyfer targedu mwy o gefnogaeth at unigolion sydd â lefelau sgiliau is, gan gynnwys, er enghraifft, cyfradd grant uwch neu opsiynau hyfforddi mwy hirdymor. Mae’r argymhelliad hwn yn cysylltu ag Argymhelliad 3.   

Argymhelliad 8

Dylid adolygu pa mor briodol yw elfennau cyflogwyr ReAct yn sgil canfyddiadau’r gwerthusiad hwn a gwerthusiadau blaenorol, gan wir ystyried eu dileu. Os ydynt i’w cadw, dylid o bosibl dargedu’r elfennau cyflogwyr yn fwy at ficrofusnesau ac/neu at weithwyr dan anfantais.

Argymhelliad 9

Mae angen gwella’r wybodaeth reoli sydd ar gael er mwyn galluogi cynnal dadansoddiadau mwy cadarn o sefyllfa wrthffeithiol, effaith a chostau/buddion rhaglen ReAct wrth symud ymlaen. Dylid adolygu’r broses o gasglu data rheoli er mwyn sicrhau ei bod yn addas at y diben. Dylai hyn gynnwys adolygu’r potensial i gasglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes (LLWR) a data mwy cynhwysfawr ar ganlyniadau.   

Manylion cyswllt

Awduron: Endaf Griffiths, Dr Tom Marshall, Paula Gallagher, Sam Grunhut (oll o Wavehill), Duncan Melville, Paul Bivand, a Connor Stevens (oll o’r Sefydliad Dysgu a Gwaith)

Barn yr ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid yw o reidrwydd yn farn Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Kim Wigley
E-bost: cyflogadwyedd.sgiliau.ymchwil@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 47/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-596-6

Image
GSR logo
Image
""