Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad theori newid ar y fframwaith strategol Mwy na geiriau a fydd yn llywio datblygiad fframwaith gwerthuso a gwerthusiad terfynol.

Mae’r Theori Newid a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar farn a phrofiadau rhanddeiliaid a’r rheini sydd ynghlwm wrth gyflawni polisi. Roedd y cyfweliadau yn canolbwyntio ar yr hyn yr oedd angen ei roi ar waith er mwyn bodloni amcanion y fframwaith.

Beth ddywedodd y cyfranogwyr?

Cytunodd y rhanddeiliaid y byddai defnyddwyr gwasanaethau yn teimlo’n gyffyrddus wrth gyfathrebu yn Gymraeg. Byddai ei dewis iaith yn cael ei normaleiddio a’i ymwreiddio, gyda’r Cynnig Rhagweithiol sydd ar gael i bob un gan gynnwys grwpiau agored i niwed allweddol. 

Ystyriwyd ei bod yn allweddol sicrhau bod gan y gweithlu sgiliau iaith digonol a chynyddu/cefnogi sgiliau iaith Gymraeg yn y dyfodol.

Teimlwyd bod newid mewn diwylliant yn hanfodol er mwyn meithrin agwedd gadarnhaol tuag at y Gymraeg. Tynnodd rhai rhanddeiliaid sylw at bwysigrwydd ennill calonnau a meddyliau uwch-swyddogion gweithredol. Roedd eraill yn dadlau y gellid gweithredu o’r gwaelod i fyny. 

Roedd y ffactorau llwyddiant allweddol i gyflawni amcanion 'Mwy na geiriau' yn cynnwys gwella’r ddarpariaeth hyfforddi, nifer y rhai sy’n cymryd rhan a lefelau cadw siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu. Cafodd systemau a prosesau Cymraeg a darparu adnoddau a gohebiaeth ddwyieithog yn rheolaidd hefyd eu nodi.

Datblygu Theori Newid

Cafodd canfyddiadau’r cyfweliadau hyn ynghyd ag ymchwil wrth y ddesg eu mapio ar fodel Theori Newid ar gyfer pob un o amcanion 'Mwy na geiriau'. Y prif ffactorau sy’n sbarduno newid ar gyfer pob amcan oedd:

  • gweithluoedd presennol
  • gweithluoedd y dyfodol
  • systemau a phrosesau  
  • deunyddiau cyfathrebu dwyieithog

Mae’r model Theori Newid yn ystyried y rhagdybiaethau ar gyfer amcanion ynghyd ag allbynnau/ canlyniadau a ddisgwyliwyd. Caiff y rhain eu mapio yn erbyn effeithiau tymor hwy posibl. Nodir cysylltiadau rhwng prif ffactorau'r Cynnig Rhagweithiol a’r fframwaith 'Mwy na geiriau'.

Adroddiadau

Gwerthusiad o mwy na geiriau, y fframwaith strategol dilynol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, 2016 i 2019: Theori Newid , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Rachael Punton

Rhif ffôn: 0300 025 9926

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.