Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio canfyddiadau gwerthusiad o Gynllun Tai Gwasgaredig Bro Morgannwg i bobl gydag anghenion iechyd meddwl difrifol a pharhaus.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’r DHS yn cynnwys grŵp amlasiantaethol sy’n gweithio i gytuno ar fodel gwasanaeth sy’n briodol i anghenion pobl gyda phroblemau iechyd meddwl ym Mro Morgannwg. Comisiynwyd y gwerthusiad byr o’r Cynllun Tai Gwasgaredig (DHS) gan Fwrdd Gwasanaethau Effeithiol ar gyfer Grwpiau Agored i Niwed Llywodraeth Cymru (ESVG).
Defnyddiodd yr ymchwil ddull cyfranogol, gan gynnwys rhanddeiliaid y prosiect i ddatblygu theori newid y model gwasanaeth a model rhesymeg, a ddefnyddiwyd wedyn fel y fframwaith ar gyfer y gwerthusiad.
Dyluniwyd y gwerthusiad i:
- edrych ar weithrediad y cynllun ac i asesu a yw’r prosiect yn gweithredu fel y disgrifiwyd gan y model rhesymeg
- edrych ar i ba raddau y mae’r cynllun yn cyfrannu at y canlyniadau sydd mewn golwg yn y model rhesymeg
- nodi pa wersi a ddysgwyd ar gyfer y cynllun a’r goblygiadau ar gyfer ei gynaliadwyedd a’i gyflwyno’n ehangach yn y dyfodol.
Adroddiadau
Gwerthusiad o Gynllun Tai Gwasgaredig Bro Morgannwg: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 966 KB
Gwerthusiad o Gynllun Tai Gwasgaredig Bro Morgannwg: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 318 KB
Cyswllt
Heledd Jenkins
Rhif ffôn: 0300 025 6255
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.