Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiodd y gwerthusiad asesu sut gweithredwyd y gweithgareddau, yr effaith ar y busnes a gweithwyr a gwerth am arian ac ychwaneged yr hyfforddiant a ddarperir.

Ym mis Rhagfyr 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfres o fuddsoddiadau mawr fel rhan o raglen barhaus o gymorth i sicrhau dyfodol tymor hir gwaith Tata Steel UK Limited (Tata Steel) gwaith yng Nghymru.  Gwnaeth Llywodraeth Cymru cyfanswm o £4m o grantiau ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 i gefnogi dysgu a gynlluniwyd i wella sgiliau proffesiynol a thechnegol sy'n berthnasol i'r diwydiant dur a'r farchnad waith ehangach.

Cynhaliwyd gwerthusiad ôl weithrediad yn 2018.

Mae'r gwerthusiad yn dangos bod cymorth Llywodraeth Cymru wedi cael effaith gadarnhaol ar gyflogeion a’r busnes mewn perthynas ag amcanion Tata Steel: i drawsnewid perfformiad busnes; i gynyddu hyblygrwydd a'r gallu yn y gweithlu; i gefnogi cynllunio ar gyfer olyniaeth ac i ddarparu gweithle iach a diogel.

Adroddodd cyflogeion lefelau uchel iawn o foddhad gyda'r hyfforddiant. Roeddent yn teimlo yr oedd yr hyfforddiant yn berthnasol i'w swydd, wedi gwella cymhelliant a hyder, gwella eu sgiliau technegol, wedi cael effaith gadarnhaol ar eu sgiliau trosglwyddadwy a chefnogi datblygiad eu gyrfa.

Mewn rhai rhannau o’r busnes, roedd y cyllid yn gwbl ychwanegol, sef ni fyddai’r hyfforddiant wedi digwydd heb gyllid Llywodraeth Cymru. Mewn meysydd eraill roedd y cyllid yn rhannol ychwanegol. Yn y meysydd hyn ystyriwyd bod cyllid Llywodraeth Cymru’n cael effaith mewn tair prif ffordd: cyflymder gweithredu, maint y ddarpariaeth a’r gallu i ddefnyddio mwy o ddarpariaeth allanol.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Gymorth Sgiliau Llywodraeth Cymru i Tata Steel , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o Gymorth Sgiliau Llywodraeth Cymru i Tata Steel: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 648 KB

PDF
648 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Heledd Jenkins

Rhif ffôn: 0300 025 6255

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.