Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a methodoleg

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi manylion canfyddiadau’r gwerthusiad o broses ac effaith Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru 2020 i 2021. Mae'r gwerthusiad yn rhoi barn ar i ba raddau y mae'r cymorth grant wedi cynorthwyo'r sectorau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru i oroesi'r effeithiau negyddol a ddeilliodd o COVID-19. Cynhaliwyd y gwerthusiad rhwng mis Ebrill 2021 a mis Ebrill 2022.

Defnyddiodd y tîm gwerthuso ddulliau cymysg gan gynnwys cyfweliadau lled-strwythuredig â rhanddeiliaid allweddol; adolygiad o ddogfennau polisi a chanllawiau allweddol sy'n sail i gyflawni'r gronfa a thystiolaeth ehangach a gyhoeddwyd ar effaith y pandemig ar y sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru; dadansoddiad o ddata gweinyddol a monitro; arolwg ar-lein o ymgeiswyr Cylch 1 y Gronfa Adferiad Diwylliannol; arolwg ar-lein o dderbynwyr Cylch 1 a 2 y Gronfa Gweithwyr Llawrydd; a chyfweliadau manwl â derbynwyr y Gronfa Adferiad Diwylliannol a'r Gronfa Gweithwyr Llawrydd.

Effaith COVID-19 ar y sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru

Un o nodweddion llechwraidd niferus pandemig COVID-19 fu'r effaith anghymesur ar grwpiau a sectorau penodol o fewn yr economi. Mae gweithgareddau amrywiol, o berfformiadau byw a chynyrchiadau theatr i arddangosfeydd ac orielau, wedi gweld eu refeniw'n gostwng yn ddramatig wrth i leoliadau gau eu drysau ac wrth i bobl gael eu gwahardd rhag ymgynnull er mwyn gadw pellter cymdeithasol.

Mae'r sylfaen dystiolaeth gynyddol ynghylch effaith y pandemig yn amlygu'r effaith negyddol anghymesur y mae wedi'i chael ar y diwydiannau diwylliannol a chreadigol. Mae hyn wedi effeithio'n uniongyrchol ar sector sydd wedi’i nodweddu gan gyfrannau uwch o ficrofusnesau a gweithwyr proffesiynol hunangyflogedig, ond hefyd cadwyn gyflenwi lawer ehangach. Mae'r effeithiau negyddol hyn wedi parhau y tu hwnt i godi cyfyngiadau iechyd y cyhoedd, gan dynnu sylw at y ffaith nad yw pob sefydliad wedi symud yn llawn i gyfnod o adfer ac ailadeiladu, ac mae llawer yn dal i wynebu bygythiadau uniongyrchol i'w goroesiad a'u hyfywedd hirdymor.

Dyluniad y gronfa a dulliau cyflawni

Lansiwyd y Gronfa Adferiad Diwylliannol ym mis Gorffennaf 2020, tua phum mis ar ôl i'r achos cyntaf yng Nghymru gael ei ganfod. Cyflawnwyd y Gronfa gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol. Llywodraeth Cymru a gyflwynodd yr arian ar gyfer y sectorau creadigol, diwylliannol, digwyddiadau a threftadaeth, Cyngor Celfyddydau Cymru a gyflwynodd yr arian ar gyfer sector y celfyddydau, ac awdurdodau lleol a gyflawnodd y Gronfa Gweithwyr Llawrydd.

Roedd yr amserlen arferol ar gyfer dylunio a lansio cronfa bwrpasol i gynorthwyo’r sector wedi'i chywasgu'n sylweddol gan gydnabod y bygythiad uniongyrchol i swyddi a goroesiad sefydliadau ar draws y sector diwylliannol.

Un ystyriaeth wrth ddylunio, datblygu a chyflawni'r Gronfa oedd sicrhau bod cymorth ar gael cyn gynted â phosibl tra'n sicrhau llywodraethu effeithiol a diwydrwydd dyladwy i ddiogelu'r pwrs cyhoeddus. Ni ddylid bychanu lefel y gwaith oedd ei angen i roi Cylch 1 y Gronfa Adferiad Diwylliannol ar waith ychydig fisoedd yn unig ar ôl dechrau'r pandemig ac mae cyflymder yr ymateb wedi'i gydnabod a'i groesawu'n gyffredinol ar draws y sector.

Mae adborth gan sefydliadau a wnaeth ymgeisio yn awgrymu y cafodd y Gronfa ei hyrwyddo'n effeithiol drwy ddull cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, cyrff seilwaith diwylliannol neu grwpiau aelodaeth. Yn gyffredinol, roedd gan randdeiliaid yr un farn ag ymgeiswyr, gan gredu bod y Gronfa wedi'i dylunio'n dda ar y cyfan a’i bod yn cynnig eglurder a mynediad hwylus. Rhoddodd ymgeiswyr y gronfa sgoriau cadarnhaol o ran trosglwyddo arian yn brydlon, y gwiriwr cymhwysedd a chyflymder y broses o wneud penderfyniadau.

Mae ymatebion gan sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid yn dangos nad oedd ychydig dros draean ohonynt yn ymwybodol o ba grantiau neu gronfeydd eraill oedd ar gael iddynt. I lawer o sefydliadau, y Gronfa Adferiad Diwylliannol oedd yr unig gyllid y gwnaethant gais amdano. Nododd llawer o weithwyr llawrydd hefyd naill ai nad oeddent yn gymwys i dderbyn arian cymorth arall neu nad oeddent yn ymwybodol ohono. Yn hyn o beth, mae'r Gronfa wedi cefnogi sector a allai fel arall fod wedi disgyn rhwng elfennau eraill o ddarpariaeth cyllid cymorth.

Proffil yr ymgeiswyr a derbynwyr y grantiau

Ar draws Cylchoedd 1 a 2 y Gronfa Adferiad Diwylliannol, roedd cyfanswm o 2,013 o geisiadau, a gwnaeth cyfanswm o 1,211 o sefydliadau dderbyn cymorth cyllid grant. Gwnaed ceisiadau gan 1,517 o sefydliadau unigol, a chymeradwywyd 871 ohonynt. Dyfarnwyd tua 90 y cant o geisiadau a gymeradwywyd ar draws y ddau gylch i ficrofusnesau. Dyfarnwyd cyfanswm o £71.6 miliwn ar draws Cylchoedd 1 a 2 y Gronfa Adferiad Diwylliannol o £100.5 miliwn y gwnaed cais amdano gan sefydliadau diwylliannol.

Mae'r data gweinyddol o ddau gylch y Gronfa Gweithwyr Llawrydd yn dangos bod 3,783 o weithwyr llawrydd unigryw wedi'u cefnogi, ac yn dangos mai cyfanswm gwerth y grantiau a ddyfarnwyd oedd £10.39 miliwn. Mae dadansoddiad o’r data yn dangos bod 995 o weithwyr llawrydd wedi cael cymorth ariannol ar draws y ddau gylch ariannu. I'r mwyafrif, roedd eu hymarfer llawrydd yn llawn amser. Ni chafodd tua thraean o weithwyr llawrydd gymorth incwm drwy’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS).

Ymateb derbynwyr grant i'r pandemig

Yn y rhan fwyaf o achosion, gwnaeth arian grant gyfraniad uniongyrchol i gadw sefydliadau ar eu traed, gan eu galluogi i dalu biliau a chyflogau staff ac i dalu am eu gorbenion. Mae'r cyllid wedi darparu pont i sefydliadau drwy'r pandemig. Gwnaeth ychydig dros hanner y sefydliadau a dderbyniodd arian ei ddefnyddio i addasu eu model busnes neu wasanaethau neu i fuddsoddi mewn offer. Roedd hyn yn debyg yn achos gweithwyr llawrydd, gyda'r mwyafrif yn defnyddio’r arian i dalu biliau a gorbenion ac i dalu eu cyflog a'u hincwm. Buddsoddodd tua thraean mewn offer; gwnaeth un o bob pump addasu eu model busnes, eu gweithgareddau neu eu gwasanaethau; a gwnaeth un o bob chwech fuddsoddi mewn hyfforddiant.

Gwnaeth ychydig dros hanner y sefydliadau creadigol a diwylliannol ddatblygu gweithgareddau neu wasanaethau newydd mewn ymateb i'r pandemig, gan ddarparu tystiolaeth bod y Gronfa wedi galluogi arloesedd yn ogystal â chynorthwyo sefydliadau i ddatblygu meysydd busnes newydd ac arallgyfeirio eu ffrydiau refeniw. Mae gan hyn y potensial i wella gwydnwch y sector i reoli aflonyddwch a chyfyngiadau gweithredol sy'n gysylltiedig â'r pandemig yn y dyfodol. Mae bron pob un ohonynt yn bwriadu cadw rhai neu'r cyfan o'r newidiadau y maent wedi'u rhoi ar waith.

Dywedodd llawer o weithwyr llawrydd fod y cyllid wedi rhoi cyfle iddynt fyfyrio ar eu hymarfer creadigol a nodi cyfleoedd yn y dyfodol. I rai, gwnaeth y Gronfa ganiatáu iddynt brynu offer newydd neu ddiweddaru eu cyfleusterau. I eraill, roedd yn gyfle i rwydweithio â gweithwyr llawrydd eraill, cychwyn ar fentrau newydd, neu ymgymryd â datblygiad proffesiynol a hyfforddiant.

Effaith y Gronfa Adferiad Diwylliannol ar dderbynwyr y grantiau

I lawer o sefydliadau yn y sector creadigol a diwylliannol, nid yw eu gallu i ddychwelyd i lefelau gweithredu cyn y pandemig yn hysbys o hyd. O'r herwydd, efallai na fydd effaith lawn y Gronfa o ran diogelu sefydliadau a swyddi yn gwbl amlwg am beth amser.

Nododd ychydig dros hanner y sefydliadau a arolygwyd y byddai absenoldeb cymorth ariannol drwy'r Gronfa Adferiad Diwylliannol wedi golygu y byddent yn cau, gydag effaith ehangach ar allu'r sector i gefnogi cymunedau fel rhan o'r cyfnod o adfer o’r pandemig. Byddai ychydig o dan hanner y sefydliadau wedi gorfod defnyddio eu cronfeydd wrth gefn a allai fod wedi rhoi llawer mewn sefyllfa weithredu ansicr, gan olygu y byddent yn agored i fethiant neu gau oherwydd dylanwadau economaidd yn y dyfodol (pandemig neu fel arall). Dywedodd 57 y cant o'r sefydliadau a arolygwyd fod y Gronfa wedi bod yn hanfodol i'w goroesiad.

Ar draws y ddau gylch, roedd y rhai a oedd yn derbyn cyllid yn cyfrif am 4,777 o swyddi cyfwerth ag amser llawn. O ystyried bod tua chwech o bob deg sefydliad wedi nodi bod y gefnogaeth a gafwyd gan y Gronfa Adferiad Diwylliannol yn hanfodol i'w goroesiad, byddai hyn yn cyfateb i ddiogelu 2,700 o swyddi cyfwerth ag amser llawn.

Mae cyfraniad y Gronfa Adferiad Diwylliannol i gefnogi goroesiad llawer o sefydliadau diwylliannol wedi effeithio nid yn unig ar staff cyflogedig ond hefyd ar y nifer sylweddol o weithwyr llawrydd sy’n cael eu contractio i gynorthwyo eu gweithrediad a'u darpariaeth. Wrth gyfrif am sefydliadau sy'n derbyn cyllid ar draws y ddau gylch, amcangyfrifir bod cyfanswm o tua 21,000 o swyddi llawrydd contractiol unigryw wedi’u cynorthwyo.

Mae’r cyllid hefyd wedi galluogi sefydliadau i gadw mewn cyswllt â'u sylfaen o wirfoddolwyr drwy gadw staff yn weithredol drwy'r pandemig a hefyd drwy ddarparu hyfforddiant neu weithgareddau cymdeithasol. Mae hyn wedi helpu i liniaru’r capasiti a gollwyd o ran gwirfoddolwyr a fyddai, i lawer o sefydliadau, yn sail i'w gallu i ailagor. Amcangyfrifir bod tua 77,000 o rolau gwirfoddolwyr wedi'u diogelu drwy'r Gronfa, yn amrywio o gyfleoedd gwirfoddoli untro mewn digwyddiadau cyfranogi mawr i wirfoddolwyr tymor hwy. Mae hyn yn dangos y cyfraniad uniongyrchol y mae'r Gronfa wedi'i wneud i gynorthwyo ymdrechion i gynyddu lefelau gwirfoddoli ledled Cymru, gan gyflawni amrywiaeth o ganlyniadau cadarnhaol i'r gwirfoddolwyr eu hunain a'r cymunedau y maent yn eu cefnogi.

Dywedodd tua thraean o'r gweithwyr llawrydd a arolygwyd y byddent wedi gadael y sector yn llwyr yn absenoldeb cyllid a dywedodd cyfran debyg y byddent wedi dod o hyd i gyflogaeth arall dros dro y tu allan i'r sector. Yn ymarferol, dim ond un o bob saith a ddaeth o hyd i swydd arall, gan awgrymu bod y cyllid wedi helpu i atal rhag i nifer adael y sector. Gan fod 58 y cant o'r rhai a gafodd gymorth gan y Gronfa Gweithwyr Llawrydd wedi dweud iddo fod yn hanfodol i barhad eu hymarfer, mae hyn yn cyfateb i 2,194 o rolau cyfwerth ag amser llawn yn y sector.

Effeithiau cymdeithasol a diwylliannol ehangach yr arian

Mae'r Gronfa wedi gwneud cyfraniad uniongyrchol i alluogi'r sector diwylliannol i gefnogi unigolion a chymunedau drwy'r pandemig. Mae hyn wedi cynnwys darparu gweithgareddau ar-lein, lledaenu adnoddau creadigol a phecynnau teuluol a chynnal cysylltiadau â gwirfoddolwyr. Er nad y manteision ehangach hyn yw prif ffocws y gwerthusiad hwn, mae adborth gan randdeiliaid wedi amlygu eu pwysigrwydd o ran cefnogi lles meddyliol a mynd i'r afael ag ynysigrwydd ac unigrwydd sy’n effeithio ar lawer o bobl drwy'r pandemig.

Mae hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddiogelu asedau diwylliannol, gan gynnwys adeiladau a chasgliadau allweddol. Byddai colli'r asedau hyn wedi lleihau'r seilwaith diwylliannol yn sylweddol ledled Cymru, gan leihau lefel ac ystod y digwyddiadau a'r gweithgareddau diwylliannol sydd â rôl hanfodol i'w chwarae yn adferiad cymdeithas o'r pandemig.

Mae dadansoddi’r sefydliadau sydd wedi derbyn arian drwy ddau gylch y Gronfa Adferiad Diwylliannol yn datgelu’r nifer fawr o ymwelwyr, gwylwyr a chynulleidfaoedd sy’n cael eu croesawu gan dderbynwyr y grantiau. Pe na bai'r sefydliadau hyn wedi goroesi, byddai cyfwerth â 12 miliwn o ymwelwyr, gwylwyr neu aelodau cynulleidfaoedd wedi’u colli, gydag effaith economaidd negyddol gysylltiedig yn sgil llai o wariant.

Y Contract Diwylliannol ac Adduned y Gweithwyr Llawrydd

Anogwyd sefydliadau a oedd yn gwneud cais i'r Gronfa i ymuno â'r Contract Diwylliannol, er mwyn helpu i sicrhau bod y buddsoddiad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio at ddiben diwylliannol a chymdeithasol. Yn yr un modd, anogwyd gweithwyr llawrydd i ymrwymo i Adduned y Gweithwyr Llawrydd, sydd â’r bwriad o helpu i greu partneriaeth rhwng gweithwyr creadigol llawrydd a chyrff cyhoeddus i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Er bod y gwerthusiad wedi amlygu’r angen am ragor o arweiniad a chymorth, mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg bod derbyn arian y Gronfa Adferiad Diwylliannol, ynghyd â manylion y Contract Diwylliannol a'i amcanion ehangach, wedi dylanwadu ar rai sefydliadau i adolygu eu model busnes a gwneud newidiadau i gefnogi twf cynhwysol, lles ac amcanion amgylcheddol. Mae adborth gan weithwyr llawrydd hefyd yn amlygu cefnogaeth eang i amcanion yr Adduned.

Hyder a rhagolygon

Dywed ychydig o dan hanner y sefydliadau creadigol a diwylliannol eu bod yn hyderus iawn y byddai eu sefydliad yn goroesi yn ystod y 12 mis nesaf a dywedodd yr un gyfran eu bod rywfaint yn hyderus. Mae'r rhan fwyaf o weithwyr llawrydd hefyd yn dweud eu bod yn hyderus y byddai eu hymarfer yn goroesi yn ystod y 12 mis nesaf, er bod pryderon tymor hwy bod y lleoliadau cymunedol traddodiadol y mae llawer o weithwyr llawrydd yn gweithredu ynddynt yn crebachu.

Mae'r rhain yn ganfyddiadau cadarnhaol o ystyried yr ansicrwydd sylweddol a gwendid y sector sydd i’w weld drwy gydol y pandemig. Bydd cael lefel o sicrwydd ynghylch pa gymorth parhaus sydd ar gael yn sbardun allweddol ar gyfer hyder sefydliadol wrth i Gymru ddod allan o'r pandemig.

Anghenion cymorth yn y dyfodol

Cyfeiriodd sefydliadau creadigol a diwylliannol at amrywiaeth o anghenion cymorth yn y dyfodol. Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd yr angen am ragor o gymorth ariannol, yn aml i gydnabod y bwlch rhwng codi cyfyngiadau iechyd y cyhoedd a'u gallu i ddychwelyd i lefelau gweithredu cyn y pandemig a ffrydiau/masnachu incwm cysylltiedig.

Mynegodd sefydliadau awydd am ddeialog barhaus rhwng cyrff sector a Llywodraeth Cymru ac, os yw'n bosibl, sicrwydd y bydd cymorth ar gael pe bai unrhyw gyfyngiadau iechyd cyhoeddus yn parhau neu'n dychwelyd.

Gwersi allweddol

Er bod nifer o wersi wedi'u hawgrymu gan y rhanddeiliaid a gyfwelwyd, yn fwyaf nodedig a chyson, fodd bynnag, roedd y gwersi a ddysgwyd yn ymwneud â'r berthynas a ddatblygwyd rhwng y sector a'r llywodraeth neu gyrff cyhoeddus. Nododd sawl rhanddeiliad fod cyflawni'r gronfa wedi galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu a dyfnhau ei dealltwriaeth o'r sector diwylliannol. Mae gan hyn y potensial i hwyluso deialog a gwaith partneriaeth cryfach fel rhan o ymdrechion parhaus i gefnogi adferiad y sector o'r pandemig. Roedd y pandemig a'r Gronfa hefyd wedi datblygu gwerthfawrogiad nid yn unig o'r cysylltiadau oddi mewn i’r sector a rhwng y sector a sectorau eraill, ond hefyd rhwng y sector a chymunedau.

Ystyriaethau polisi

Caiff nifer fach o ystyriaethau polisi eu cyflwyno isod mewn ymateb i ganfyddiadau allweddol y gwerthusiad.

Ystyriaeth 1

Dylai Llywodraeth Cymru a chyrff sector allweddol sicrhau bod yr adferiad o COVID-19 yn cael ei ystyried a'i gynnwys wrth ddatblygu'r Strategaeth Ddiwylliant genedlaethol. Dylai hyn ganolbwyntio ar helpu'r sector i symud o gam goroesi i gam ffynnu.  

Ystyriaeth 2

Gallai Llywodraeth Cymru a chyrff sector perthnasol ystyried gwneud gwaith i fapio a phroffilio maint a chyfansoddiad y gymuned o weithwyr llawrydd ledled Cymru fel rhan o waith parhaus i gefnogi ac ymgysylltu â gweithlu sy'n rhan annatod o weithrediad llawer o sefydliadau diwylliannol.

Ystyriaeth 3

Gallai Llywodraeth Cymru a chyrff sector gynhyrchu adnoddau pellach a sefydlu cymuned ymarfer i alluogi i botensial y Contract a'r Adduned gael ei gyflawni.

Ystyriaeth 4

Gallai Llywodraeth Cymru ystyried buddsoddi mewn ymgyrch bwrpasol i hyrwyddo rolau gwirfoddoli yn y sector diwylliannol i helpu i weithredu a rheoli llawer o wasanaethau a gweithgareddau diwylliannol ledled Cymru yn y dyfodol.

Ystyriaeth 5

Gallai Llywodraeth Cymru a chyrff sector perthnasol ystyried opsiynau i gynyddu amlygrwydd gweithwyr llawrydd creadigol a chefnogaeth iddynt, yn ogystal ag archwilio'n fwy sylfaenol i ba raddau y gellir annog sefydliadau diwylliannol i addasu eu modelau gweithredu i gynnig mwy o sicrwydd swyddi i'r sector llawrydd.

Ystyriaeth 6

Bydd parhau â'r ymgyrch dwristiaeth gydgysylltiedig sy’n cael ei harwain drwy Croeso Cymru yn helpu i ailadeiladu nifer yr ymwelwyr domestig a rhyngwladol.

Ystyriaeth 7

Gallai Llywodraeth Cymru asesu effaith y pandemig ar hyfywedd a chynaliadwyedd lleoliadau cymunedol ledled Cymru yn y dyfodol o ystyried eu rôl annatod fel mannau i sefydliadau diwylliannol a gweithwyr llawrydd ymgysylltu â chynulleidfaoedd, cyfranogwyr a chymunedau a’u cefnogi.

Manylion cyswllt

Awduron: Andy Parkinson, Declan Turner, Paula Gallagher, Sarah Usher, Sam Grunhut, Olivia Heath

Safbwyntiau’r ymchwilwyr sy’n cael eu mynegi yn yr adroddiad yma, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
E-bost: diwylliant@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 44/2022
ISBN digidol 978-1-80364-290-1

Image
GSR logo