Mae'r adroddiad hwn yn manylu ar ganfyddiadau cychwynnol gwerthusiad o'r ymyraethau digartrefedd yng Nghymru. Yn benodol, mae'r gwerthusiad yn cynnwys Cam 2 Digartrefedd, Tai yn Gyntaf, a'r Gronfa Arloesi ar gyfer Pobl Ifanc Ddigartref.
Mae’r adroddiad cyntaf hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau’r gwerthusiad hyd yma. Mae’n canolbwyntio ar ganfyddiadau blwyddyn gyntaf y gwaith maes gan edrych ar y polisi a’r rhaglen Damcaniaeth Newid yn ogystal â’r gwaith maes gyda darparwyr gwasanaethau a darparwyr tai. Bydd yr adroddiad terfynol yn cynnwys gwaith astudiaethau achos pellach gyda defnyddwyr gwasanaeth.
Mae’r gwaith maes yn parhau a bydd adroddiad ymchwil llawn yn cael ei gyhoeddi unwaith y bydd y broses werthuso wedi’i chwblhau.
Mae’r canfyddiadau yn canolbwyntio ar y meysydd a ganlyn: atal ac ymyrraeth gynnar; blaenoriaethu ailgartrefu cyflym a pharhaol; gweithio mewn partneriaeth; cydgynhyrchu gyda defnyddwyr gwasanaeth; dulliau sy’n ystyriol o drawma ac sy’n canolbwyntio ar unigolion; a mesur perfformiad ac effeithiau.
Adroddiadau
Adroddiad interim gwerthuso ymyraethau digartrefedd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 619 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.