Gwerthusiad o Gaeaf Llawn Lles (crynodeb)
Mae’r adroddiad yma yn gosod allan darganfyddiadau o werthusiad rhaglen Gaeaf Llawn Lles lle darparwyd pecyn o gymorth lles i blant a phobl ifanc ledled Cymru rhwng Hydref 2021 a Mawrth 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir, nodau a methodoleg y gwerthusiad
Pecyn £20m o gyllid lles gan Lywodraeth Cymru i gefnogi plant a phobl ifanc i adfer yn sgil effeithiau negyddol y pandemig COVID-19 oedd Gaeaf Llawn Lles (GLlLl). Rhoddodd GLlLl fynediad i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru at weithgareddau am ddim, gan gynnwys cyfleoedd i chwarae ac ymwneud â gweithgareddau hamdden, adloniant, chwaraeon a diwylliannol, yn ogystal â gofal plant ac addysg ffurfiol. Mae'r gweithgareddau hyn yn hanfodol wrth gefnogi lles cymdeithasol, emosiynol, corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc wrth adfer yn sgil COVID-19. Cyflwynwyd GLlLl trwy bum llinyn: awdurdodau lleol, sefydliadau cenedlaethol, ysgolion, sefydliadau Addysg Bellach (AB) a darparwyr Addysg Uwch (AU). Noder bod y llinyn AU wedi'i werthuso gan CCAUC. Mae agweddau ar y gwerthusiad wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn.
Cynhaliodd Ecorys werthusiad proses dulliau cymysg o'r rhaglen GLlLl. Y nodau gwerthuso oedd mapio sut y trefnwyd modelau cyflwyno awdurdodau lleol (ALl), cyrff cenedlaethol, ysgolion ac AB, a sut y maent wedi amrywio; archwilio effeithiau cymryd rhan o safbwynt plant a phobl ifanc, eu teuluoedd, a darparwyr; nodi'r ffactorau galluogi a'r rhwystrau allweddol i gymryd rhan ar gyfer plant/pobl ifanc a rhieni/gofalwyr; ystyried effeithlonrwydd prosesau gweinyddu a gweithredol; ac adolygu sut mae arweinwyr a darparwyr llinynnau wedi ystyried cyfle cyfartal, hygyrchedd, a hyrwyddo a/neu gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg.
Casglwyd amrywiaeth gyfoethog o fewnwelediadau o gyfweliadau ansoddol â 10 o rhanddeiliaid partner cenedlaethol/Llywodraeth Cymru, 21 o arweinwyr ALl, 9 arweinydd corff cenedlaethol, 14 o arweinwyr ysgol ac 8 arweinydd sefydliad AB, a 28 grŵp ffocws gyda phlant a phobl ifanc ar draws yr holl linynnau. Cafwyd ehangder o safbwyntiau gan 2,813 o gyfranogwyr y rhaglen a 496 o ddarparwyr (a gomisiynwyd gan arweinwyr llinyn ar draws ALl, sefydliadau cenedlaethol, ysgolion a sefydliadau AB), a gwblhaodd arolwg ar-lein. Bu i ddigwyddiad bord gron rhithwir drafod canfyddiadau cynnar gydag arweinwyr llinyn a rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru a chyd-ddatblygu'r casgliadau a'r argymhellion.
Canfyddiadau
Cynhaliwyd GLlLl rhwng 1 Hydref 2021 a 31 Mawrth 2022, gyda'r rhan fwyaf o weithgareddau yn 2022. Rhoddwyd hyblygrwydd i bob llinyn ynghylch fformat, dyluniad a dull cyflwyno'r rhaglen. Yn gyffredinol, cyflwynodd GLlLl ystod eang iawn o weithgareddau trwy gymysgedd o fynediad agored a darpariaeth wedi'i thargedu, er gwaethaf yr amserlen fer ar gyfer cynllunio, lansio a hyrwyddo'r rhaglen. Roedd y ddarpariaeth drwy'r pum llinyn yn caniatáu i'r rhaglen dargedu a chyrraedd yr amrediad oedran targed 0 i 25 cyfan, ond roedd cyrraedd pobl ifanc hŷn yn fwy o her.
Roedd darparwyr yn tueddu i gyflwyno gweithgareddau trwy gymysgedd o staff mewnol ac allanol, gan alw ar bobl allanol â sgiliau arbenigol neu dargedu grŵp penodol o blant/pobl ifanc, e.e., y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Er i arweinwyr llinyn ystyried sut i gynnig darpariaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg, cynigiwyd darpariaeth cyfrwng Cymraeg gymharol gyfyngedig. Roedd hyn yn rhannol oherwydd anhawster wrth ddod o hyd i ddarparwyr cyfrwng Cymraeg.
Ar y cyfan, teimlai arweinwyr llinyn iddynt gael eu cefnogi'n dda gan Lywodraeth Cymru wrth gyflwyno'r rhaglen. Roeddent yn cael y canllawiau’n glir ac yn gwerthfawrogi'r hyblygrwydd a fu'n caniatáu iddynt deilwra darpariaeth i'w hanghenion lleol. Fodd bynnag, byddent wedi elwa o fwy o amser paratoi ar gyfer cynllunio'r ddarpariaeth a datblygu partneriaethau gyda darparwyr newydd ac fe fyddent wedi hoffi derbyn canllawiau marchnata pan gyhoeddwyd y cyllid. Roedd enghreifftiau o ymgynghori a chyd-gynhyrchu gyda phlant a phobl ifanc, yn enwedig ymhlith sefydliadau cenedlaethol, sefydliadau AB a darparwyr AU, ond gosododd yr amserlen fer gyfyngiadau o ran y graddau yr oedd yn bosib gwneud hyn.
Dywedodd y mwyafrif helaeth (95%) o blant a phobl ifanc a gwblhaodd yr arolwg cyfranogwyr eu bod wedi cael hwyl wrth gymryd rhan yn y gweithgareddau GLlLl. At hynny, adroddodd cyfranogwyr GLlLl fod y rhaglen wedi'u helpu i wneud ffrindiau newydd (68%), rheoli eu hiechyd meddwl (67%) a theimlo'n fwy hyderus.
Bu i gyfranogiad plant a phobl ifanc helpu i fynd i'r afael â rhai o effeithiau negyddol y pandemig. Er enghraifft, rhoddodd GLlLl gyfleoedd iddynt roi cynnig ar bethau newydd (92%), dysgu sgiliau newydd (83%) a bod yn fwy egnïol yn gorfforol (87%). Bu i blant a phobl ifanc hunan-adrodd gwelliannau i les, hyder a chymdeithasu, gan briodoli hyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau GLlLl. Mae hyn yn awgrymu i GLlLl gyflawni ei nod o ddarparu cyfleoedd hamdden ac adloniant llawn hwyl i blant a phobl ifanc, er mwyn cefnogi eu lles.
Manteisiodd darparwyr o fewnbwn ariannol yr oedd mawr ei angen ar ôl y cyfnodau clo a datblygwyd cysylltiadau gydag ysgolion lleol a'r gymuned ehangach. Canlyniad anfwriadol posib yw bod GLlLl (ar ôl y rhaglen Haf o Hwyl gynharach) wedi codi'r disgwyliad ymhlith plant a theuluoedd o gael cynnig darpariaeth mynediad am ddim yn yr hir dymor.
Croesawyd y rhaglen yn frwd gan arweinwyr llinyn a darparwyr. Gwnaethant alw am gyllid cyson dros yr hir dymor i ddarparu cefnogaeth barhaus ar gyfer adfer yn sgil COVID-19 a sicrhau y cynhelir deilliannau cadarnhaol GLlLl.
Argymhellion
Cadw'r ffocws ar hwyl a chwarae
Roedd arweinwyr llinyn a chyfranogwyr y rhaglen o'r farn bod y ffocws ar hwyl a chwarae yn hanfodol i gefnogi deilliannau cadarnhaol o ran lles corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc ac y dylid eu cadw.
Buddsoddiad dros y tymor hwy
Roedd yr holl grwpiau cyfranogwyr yn argymell buddsoddiad cyson yn y ddarpariaeth drwy gydol y flwyddyn ar gyfer plant a phobl ifanc. Byddai cyllid tymor hwy hefyd yn helpu i recriwtio a chadw staff darparwyr i gefnogi cynllunio a darparu rhaglenni.
Amser paratoi hirach ar gyfer cynllunio a sefydlu
Roedd consensws bod angen digon o amser rhwng cyhoeddi'r cyllid a lansio'r rhaglen. Byddai hyn yn cefnogi cynllunio strategol effeithiol, sy'n cynnwys ystod eang o bartneriaid, ac yn creu mwy o gyfleoedd i gyd-ddylunio'r rhaglen gyda phlant a phobl ifanc.
Byddai amser sefydlu ychwanegol hefyd yn galluogi arweinwyr llinyn i wneud rhywfaint o ymchwil cefndir i nodi'r cydbwysedd mwyaf priodol rhwng darpariaeth gyffredinol ac wedi'i thargedu, ac i ddatblygu partneriaethau gyda darparwyr addas.
Byddai ffenestr gynllunio hirach wedi galluogi arweinwyr llinyn i drefnu sesiynau ar-lein gyda darparwyr a/neu sefydlu fforwm darparwr ar-lein i rannu arfer da/dysgu.
Awgrymwyd hefyd y gallai amser ychwanegol fod wedi caniatáu ceisiadau ar y cyd gan ddarparwyr.
Cryfhau cefnogaeth ar gyfer arweinwyr llinyn
Croesawodd arweinwyr llinyn ac uwch randdeiliaid ehangder y meini prawf ariannu i alluogi arweinwyr i ddiwallu eu hanghenion lleol. Gwerthfawrogwyd hyfforddiant a chefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a dylid parhau i ddarparu hyn mewn rhaglenni yn y dyfodol.
Croesawyd y newid yn y canllawiau i ganiatáu darparu lluniaeth fel rhan o'r gweithgareddau. Yn yr un modd dywedwyd bod yr hyblygrwydd sy'n caniatáu prynu offer a darparu cludiant yn ychwanegu gwerth ac yn cefnogi manteisio ar weithgareddau.
Fel arfer, bu i arweinwyr llinyn weinyddu GLlLl yn ychwanegol at lwyth gwaith llawn. Byddai unrhyw rowndiau posib yn y dyfodol yn elwa o gynyddu capasiti staff neu recriwtio adnodd ychwanegol i reoli'r broses gaffael, er mwyn lleihau'r baich ar arweinwyr llinyn.
Byddai dosbarthu arweiniad marchnata a brandio Llywodraeth Cymru ar ddechrau'r rhaglen yn hwyluso'r gwaith cynllunio. Er i ddarparwyr groesawu'r hyblygrwydd i greu hunaniaeth brand leol i ryw raddau, byddent wedi elwa o ganllawiau cliriach ar y gofynion i ddefnyddio logo a brand cenedlaethol GLlLl.
Dylid cynnig canllawiau manylach ynghylch casglu GR, er mwyn sicrhau bod data'n cael ei gasglu'n effeithlon ac yn effeithiol ar draws darparwyr a llinynnau. Dylid cynnig cymorth i ddarparwyr sy'n ei chael hi'n anodd cofnodi GR yn gywir, er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei chasglu'n gyson ac yn gywir.
Gwella cyrhaeddiad a chynwysoldeb
Amlygodd uwch randdeiliaid ac arweinwyr llinyn bwysigrwydd darpariaeth am ddim, yn enwedig i deuluoedd incwm isel, i gefnogi lles plant a phobl ifanc a chynnig cyfleoedd iddynt na fyddent yn eu cael fel arall. Ystyriwyd bod y gallu i ddefnyddio'r cyllid i ddarparu bwyd a chludiant yn hanfodol wrth wneud y ddarpariaeth yn fwy cynhwysol.
Roedd cynnig darpariaeth addas i bobl ifanc hŷn ac oedolion ifainc yn her, yn rhannol oherwydd yr anhawster wrth ddod o hyd i ddarparwyr sy'n darparu ar gyfer y grŵp oedran hwnnw. Roedd cynnwys sefydliadau AB a darparwyr AU wedi helpu i lenwi'r bwlch hwn. Gallai darpariaeth yn y dyfodol gynyddu maint y llinynnau hyn, a chynnal y cynnig o wirfoddoli, mentora, lleoliadau gwaith a chynnig tystysgrifau presenoldeb. Yn ogystal, byddai cyd-gynhyrchu'r cynnig gyda phobl ifanc yn cynyddu eu cyfranogiad a'u hymgysylltiad.
Pennwyd yng nghanllawiau’r rhaglen y dylid cynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Yn ôl rhai arweinwyr llinyn, roedd diffyg darparwyr lleol â sgiliau iaith Gymraeg, ac argymhellwyd y dylid cefnogi datblygu capasiti darparwyr i gynnig gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Manylion cyswllt
Awduron yr adroddiad: Erica Bertolotto, Jenny Williams, Catherine Goddard, Helen Main, Gabriela Freitas, Tave Browett a Katharine McKenna
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Y Gangen Ymchwil Ysgolion
Ebost: ymchwilysgolion@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 4/2023
ISBN digidol 978-1-80535-331-7