Neidio i'r prif gynnwy

Nod y gwerthusiad oedd deall y cymorth a ddarperir i ddatblygu addysgu cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg o fewn Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Canfyddiadau allweddol

  • Bu dirywiad cyffredinol yn nifer  hyfforddeion AGA sy'n cymryd rhan mewn darpariaeth AGA uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ddiweddar, er gwaethaf ymdrechion darparwr AGA.
  • Bod mwyafrif yr athrawon dan hyfforddiant a'r athrawon newydd a gyfrannodd at y gwerthusiad eisoes wedi penderfynu ymgymryd â darpariaeth AGA cyfrwng Cymraeg cyn cofrestru ar y cwrs ac ychydig iawn a oedd yn ymwybodol o'r cymhelliad ariannol a oedd ar gael drwy'r Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg cyn cofrestru ar y cwrs.
  • Mae darpariaeth AGA sy’n cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg yn wahanol ar draws darparwyr AGA.
  • Bod darparwyr AGA yn ei chael hi'n anodd cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg oherwydd y nifer fach o hyfforddeion AGA sydd wedi'u cofrestru yn eu sefydliad a'r diffyg sgiliau Cymraeg ymysg y staff.
  • Ystyrir bod gwersi Cymraeg (gloywi iaith) yn chwarae rhan arwyddocaol yn y broses o wella sgiliau iaith hyfforddeion ond nid yw hyn bob amser yn cael ei adlewyrchu yn y data asesu.
  • Y cafwyd adborth cadarnhaol lle roedd yr hyfforddeion wedi cael darpariaeth sgiliau iaith a oedd yn fwy gwahaniaethol.
  • Bod lleoliadau mewn ysgolion yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddatblygu a gwella sgiliau addysgu cyfrwng Cymraeg hyfforddeion a barnwyd bod rôl y mentoriaid iaith yn gwneud cyfraniad pwysig at hyn.

Mae'r adroddiad yn cloi gyda nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru i ystyried, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid. 

Mae'n ystyried pum mater allweddol:

  • y gostyngiad parhaus yn nifer y darpar hyfforddeion a'r anawsterau sy'n gysylltiedig â recriwtio i AGA cyfrwng Cymraeg
  • natur gymhleth a darniog y ddarpariaeth bresennol a'r angen i symleiddio a datblygu mwy o gysondeb ar draws AGA cyfrwng Cymraeg
  • yr angen i gynyddu capasiti Cymraeg darpariaeth uwchradd AGA ac ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer cydweithio agosach rhwng darparwyr ac ysgolion
  • gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o gymhelliant ariannol i ddenu hyfforddeion a chadw athrawon i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
  • yr angen i ystyried cyfleoedd parhaus i athrawon newydd ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a'u dealltwriaeth a'u gwybodaeth am addysgeg mewn perthynas â gwahanol leoliadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 840 KB

PDF
840 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ymchwilydd

Rhif ffôn: 0300 062 5484

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.