Neidio i'r prif gynnwy

Prif nod y gwerthusiad cychwynnol hwn oedd asesu cynnydd pob cynllun peilot o ran datblygu model gwell o ddarparu gwasanaethau.

Gwnaed hyn drwy archwilio i ba raddau y llwyddodd y cynlluniau unigol i gyflawni amcanion penodol eu peilot; a nodi, lle bo’n briodol, i ba raddau yr aeth y cynlluniau peilot i’r afael â’r materion a nodwyd yn Adolygiad Griffiths.  

Diben y gwaith ymchwil oedd canfod i ba raddau y mae’r pedwar cynllun peilot wedi llwyddo i wella gwasanaethau cludiant mewn achosion nad ydynt yn rhai brys. Mae’r cynlluniau peilot wedi gwneud cynnydd amlwg hyd yma wrth ddarparu gwasanaethau  gwell, yn enwedig o ran gwella prosesau a chydweithio o fewn ac ar draws ardaloedd y cynlluniau peilot. Mae’r Bwrdd Rhaglen Genedlaethol wedi cyfrannu’n helaeth drwy gydlynu a monitro’r cynlluniau peilot, a bod yn fforwm hollbwysig ar gyfer rhannu arferion da a’r hyn a ddysgwyd.

Gan ei bod yn ddyddiau cynnar ar y cynlluniau peilot o hyd, ni all y gwerthusiad interim hwn asesu i ba raddau mae - neu y bydd - newidiadau i gludiant cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys yn gwella profiadau cleifion. Nid yw’r sail dystiolaeth wedi datblygu ddigon hyd yma i allu dod i gasgliadau dibynadwy am ganlyniadau’r cynlluniau peilot. Wrth symud ymlaen, bydd parhau i ddatblygu a monitro dangosyddion perfformiad perthnasol, a gwerthusiad cyfunol o ganlyniadau’r cynlluniau peilot, yn bwysig i bennu effaith y cynlluniau peilot.

Adroddiadau

Gwerthusiad o brosiectau peilot cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 271 KB

PDF
271 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.