Neidio i'r prif gynnwy

Un o brif amcanion prosiect ydy caniatâu i ddioddefwyr cam-drin domestig hŷn agored i niwed gael mynediad i brosesau cyfiawnder troseddol neu sifil i’w hamddiffyn rhag dioddef camdriniaeth bellach.

Casglwyd data o ffynonellau amrywiol: cofnodion rheoli achosion; dadansoddi ffeiliau achos; cyfweliadau lled-strwythuredig gyda rheolwyr ac ymarferwyr a phobl hŷn; grŵp ffocws a chofnod yr heddlu o achosion o gam-drin domestig.

Canfyddiadau:

  • Cofnodwyd cyfanswm o 145 o ddigwyddiadau gwahanol yn cynnwys 131 o ddioddefwyr unigol rhwng 3 Rhagfyr 2012 a 31 Ionawr 2012. Roedd data ar gael ar gyfer 127 o ddioddefwyr (mewn pedwar achos nodwyd bod ail ddioddefwr yn bresennol ar adeg y digwyddiad).
  • Roedd hi’n amlwg o ffeiliau’r achosion bod yr heddlu wedi ymateb yn sensitif ac yn gadarnhaol i ddioddefwyr camdriniaeth yr henoed. Mewn rhai achosion domestig ymwelodd yr heddlu yn rheolaidd â chartrefi’r dioddefwyr. Ystyriwyd bod potensial i’r gwiriadau diogelwch hyn gael effaith ataliol.
  • O ran caniatâd, yr opsiynau a drafodwyd, ‘ymglymiad gweithredol’ (h.y, pan fyddai dioddefwr yn gweithio’n agos gydag asiantaeth y cyfeiriwyd ef/hi ati) a chanlyniadau cyfreithiol a lles, gwnaeth yr achosion a gyfeiriwyd at MARAC (Cynhadledd Asesu Risg Aml-Asiantaeth) yn dda iawn.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Brosiect Peilot 'Mynediad i Gyfiawnder': adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 449 KB

PDF
449 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o Brosiect Peilot 'Mynediad i Gyfiawnder': crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 419 KB

PDF
419 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.