Neidio i'r prif gynnwy

Menter yw Brosiect Iaith a Chyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (MELAP) sy’n cefnogi disgyblion rhwng 11 a 19 oed lle nid Saesneg yw iaith y cartref.

Roedd disgwyl i MELAP gyflawni tri amcan.

  1. Codi cyrhaeddiad a mynd i’r afael â risg tangyflawni ymysg grwpiau o bobl ifanc dduon a lleiafrifoedd ethnig (BME).
  2. Gwella cyfle cyfartal i bobl ifanc BME o ran cyflogaeth a chyflogadwyedd yn y dyfodol drwy wella’r ymgysylltiad mewn addysg a hyfforddiant.
  3. Adeiladu ar systemau monitro a gwerthuso presennol er mwyn mesur yn effeithiol lefelau llwyddiant ac ymgysylltiad disgyblion a dargedwyd i gael cymorth.

Roedd y gwerthusiad yn cynnwys yr agweddau canlynol:

  • i ba raddau y mae MELAP wedi bodloni gofynion Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF)
  • asesu pa mor effeithiol y mae MELAP yn bodloni ei nodau, amcanion a thargedau
  • enghreifftiau o arferion da wrth ddarparu cymorth i ddisgyblion perthnasol
  • nodi’r gwersi a ddysgwyd er mwyn llywio parhad neu bosibilrwydd ehangu’r rhaglen.

Prif bwyntiau

  • Tynnodd y gwerthusiad sylw at rai problemau o ran dyluniad a datblygiad y prosiect a arweiniodd at anawsterau i rai awdurdodau lleol wrth ehangu ac addasu eu gweithgareddau.
  • Daeth y Gwerthuswyr i’r canlyniad fod cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) wedi galluogi mwy o ddisgyblion i gael cymorth a bod dulliau ychwanegol o gymorth wedi’u darparu.
  • Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod MELAP wedi cyfrannu at gynnydd yng nghyrhaeddiad addysgol disgyblion sydd ag anghenion Saesneg fel Iaith Ychwanegol (EAL).

Adroddiadau

Gwerthuso’r Prosiect Iaith a Chyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Starkey

Rhif ffôn: 0300 025 0377

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.