Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r gwerthusiad o’r prosiect Gofal Plant ar Waith, a gyflawnwyd ar y cyd gan Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru (NDNA) mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru.

Mae’r canfyddiadau’n seiliedig ar gyfweliadau a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru (6), cyfranogwyr unigol (9) (y cyfeirir atynt fel Cynorthwywyr Meithrinfa Dan Hyfforddiant) darparwyr gofal plant a gyfranogodd (18) a chynrychiolwyr asiantaethau cymorth cyflogaeth (6) a atgyfeiriodd gyfranogwyr at y Prosiect.

Cefndir

Mae’r Prosiect wedi profi dulliau newydd o gefnogi datblygiad a hyfforddiant ar gyfer y gweithlu. Ei nod oedd cynyddu capasiti gweithlu’r sector gofal plant yng Nghymru, yn ogystal â chynorthwyo unigolion, yn enwedig y rhai dros 25 oed, sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal plant i gael cyflogaeth yn y sector.

Cyflawnwyd y prosiect dros ddau gam. Roedd yn cynnig pedair wythnos o hyfforddiant cysylltiedig â gofal plant a thri mis o leoliad â thâl mewn meithrinfa gofal plant am 16 awr yr wythnos i’r unigolion a oedd yn cyfranogi. Cyflawnwyd cam 1af y prosiect yn ardaloedd pum awdurdod lleol rhwng mis Hydref 2017 a mis Gorffennaf 2018. Cyrhaeddodd y cam hwn ei darged i ymgysylltu ag 16 o unigolion 50 oed neu drosodd a oedd wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir, a 32 o bobl ifanc rhwng 18 a 24 nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). 

Cyflawnwyd 2il Gam y prosiect mewn 10 awdurdod lleol rhwng mis Mai 2019 a mis Mawrth 2021. Oherwydd pandemig COVID-19, fe ataliwyd y prosiect dros dro am dri mis rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020 ac fe wthiwyd y dyddiad cwblhau ymlaen o’r dyddiad cyntaf y cytunwyd arno’n wreiddiol, sef Ionawr 2021, i fis Mawrth 2021. Aeth 2il Gam y prosiect y tu hwnt i’w darged i ymgysylltu ag 84 o gyfranogwyr trwy gefnogi 93 o unigolion 25 oed a throsodd a oedd wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir.

Fe wnaeth dau gam y prosiect ddilyn dull cyflawni tebyg, gan ddechrau trwy recriwtio lleoliadau gofal plant a Chynorthwywyr Meithrinfa Dan Hyfforddiant i’r prosiect ar yr un pryd. Wedyn cynhaliwyd rhaglen o hyfforddiant a phrofiad gwaith mewn lleoliad gofal plant, ac yn olaf roedd posibilrwydd i Gynorthwywyr Meithrinfa Dan Hyfforddiant sicrhau cyflogaeth gyda’r feithrinfa y gwnaethant gwblhau eu lleoliad ynddi ar ôl cwblhau’r rhaglen.

Canfyddiadau

Cafodd y rhan fwyaf o gyfranogwyr eu hatgyfeirio at y Prosiect gan asiantaethau cymorth cyflogaeth, a nododd eu bod yn croesawu’r rhaglen a’u bod yn hapus i atgyfeirio cleientiaid ati. Yn eu barn hwy roedd y cyfuniad o hyfforddiant a phrofiad gwaith, yn ogystal â’i ffocws sector-benodol, yn gwneud Gofal Plant ar Waith yn ‘rhaglen gymorth unigryw’ yng Nghymru.

Cydnabuwyd gan gydgysylltwyr y prosiect a sefydliadau atgyfeirio fod unigolion sy’n rhieni eu hunain yn aml yn gwneud ymgeiswyr da ar gyfer cyflogaeth yn y sector gofal plant. Felly roedd y Prosiect i’w weld yn arbennig o berthnasol i unigolion a oedd yn cael eu cefnogi gan y rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE).

Roedd Cynorthwywyr Meithrinfa Dan Hyfforddiant a recriwtiwyd i’r rhaglen yn cael pedair wythnos o hyfforddiant a oedd, cyn COVID, yn cael ei ddarparu mewn sesiynau grŵp wyneb-yn-wyneb mewn lleoliad cymunedol lleol. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd trefol, nid oedd darparu’r hyfforddiant yn y ffordd yma’n broblem. Fodd bynnag, nododd rhai o gydgysylltwyr y prosiect fod dod o hyd i leoliad i ddarparu hyfforddiant a oedd yn hygyrch i’r holl Gynorthwywyr Meithrinfa Dan Hyfforddiant mewn ardaloedd gwledig, ar adegau, yn gryn her. Roedd y sesiynau’n cynnwys cyfuniad o hyfforddiant cyffredinol ac arbenigol a oedd wedi’i deilwra i adlewyrchu’r lefel sefydlu newydd sydd wedi cael ei chyflwyno fel rhan o’r cymwysterau Gofal Plant ac i roi i gyfranogwyr y sgiliau a’r wybodaeth yr oedd eu hangen arnynt i ddechrau gweithio fel Cynorthwyydd Meithrinfa Dan Hyfforddiant mewn lleoliad gofal plant.

Roedd cyflogwyr o’r farn bod yr hyfforddiant yn briodol a’i fod yn cynnig sylfaen wybodaeth gadarn i baratoi Cynorthwywyr Meithrinfa Dan Hyfforddiant ar gyfer gweithio mewn lleoliad gofal plant. I rai o’r cyflogwyr, y cymhelliad i fod yn rhan o’r Prosiect oedd i lenwi rhai swyddi gwag yr oeddent yn eu hysbysebu ar y pryd. I gyflogwyr eraill, y cymhelliad i gyfranogi oedd er mwyn helpu unigolion i gael swydd yn y sector gofal plant. Fe wnaeth rhai o’r cyflogwyr a gyfranogodd nad oeddent yn ceisio cyflogi aelod newydd o staff ar y pryd gyflogi’r Cynorthwyydd Meithrinfa Dan Hyfforddiant beth bynnag yn y diwedd wedi i’r lleoliad ddod i ben. Cyfeiriodd nifer o gyflogwyr at y lleoliad gwaith fel ‘cyfweliad deuddeg wythnos am swydd’.

Nododd rhai sefydliadau atgyfeirio fod cynnig lleoliad gwaith â thâl, yn hytrach na heb dâl, i’r Cynorthwywyr Meithrinfa Dan Hyfforddiant a oedd yn cyfranogi’n sicrhau eu bod yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn rhan go iawn o’r gweithlu, yn hytrach na ‘llafur am ddim’. Roedd hyn, yn eu tyb hwy, yn un o ffactorau llwyddiant pwysig y Prosiect. Nododd Cynorthwywyr Meithrinfa Dan Hyfforddiant eu bod yn teimlo’u bod yn cael cefnogaeth dda gan y cymorth mentora a gynigiwyd gan gydgysylltwyr y prosiect yn ystod y lleoliad gwaith. Fe egluron nhw fod hynny wedi eu helpu i oresgyn unrhyw ofnau neu ansicrwydd oedd ganddynt ynglŷn â mynd i mewn i amgylchedd gwaith, naill ai ar ôl cael seibiant o fod yn gweithio neu mewn rhai achosion pan oeddent yn dechrau gweithio am y troi cyntaf.

Deilliannau

Fe gynorthwyodd Cam 1af y Prosiect 35 o’r 48 o gyfranogwyr i gael cyflogaeth, hyfforddiant neu waith gwirfoddol. Mae 2il gam y Prosiect hyd y mae wedi cynorthwyo 36 o Gynorthwywyr Meithrinfa Dan Hyfforddiant i gael cyflogaeth barhaol ac 8 i gael prentisiaethau. Cafodd pum Cynorthwyydd Meithrinfa Dan Hyfforddiant arall gynnig swydd ar ddiwedd eu lleoliad ond nid oeddent yn gallu ymgymryd â hi. Y rhesymau dros hyn oedd naill ai am bod y cynnig o swydd yn golygu mwy neu lai o oriau nag y gallent ymrwymo iddynt (gan gynnwys contractau dim oriau) neu am nad oedd ganddynt fynediad at gludiant i deithio i’r swydd bob dydd.

Roedd Cynorthwywyr Meithrinfa Dan Hyfforddiant na wnaethant sicrhau gwaith ar ddiwedd eu lleoliad yn teimlo bod yr hyfforddiant sgiliau a’r hyder yr oeddent wedi’u cael trwy’r Prosiect wedi’u rhoi mewn sefyllfa gryfach o lawer i gael cyflogaeth yn y dyfodol. Parhaodd cydgysylltwyr y Prosiect i gynnig 4 wythnos o gymorth i gyfranogwyr na wnaethant sicrhau cyflogaeth na hyfforddiant ar ddiwedd eu lleoliad. Yn ystod 2020, cafodd cydgysylltwyr y Prosiect y cyfle hefyd i atgyfeirio cyfranogwyr at y rhaglen Cymru’n Gweithio os oeddent yn dal i fod yn ddi-waith neu os oeddent heb gael mynediad at unrhyw hyfforddiant 4 wythnos ar ôl diwedd y lleoliad.

Effaith COVID-19 ar berfformiad a deilliannau’r prosiect

Cafodd y Prosiect ei atal am dri mis, rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020, oherwydd pandemig COVID-19. Cafodd y pandemig effaith ar gyflawni ac ar ddeilliannau’r prosiect ar draws pob ardal a oedd yn rhan ohono. Pan ailddechreuodd y prosiect, fe wnaeth y rhan fwyaf o’r hyfforddiant a oedd yn cael ei ddarparu yn y pedwar awdurdod lleol lle’r oedd y prosiect yn dal i redeg symud ar-lein. Er bod hyn wedi achosi rhai heriau, fe greodd rai manteision hefyd. Roedd y manteision hyn yn cynnwys cael gwared ar rai o’r cyfyngiadau a oedd yn gysylltiedig â darparu hyfforddiant wyneb-yn-wyneb ar gyfer grwpiau mewn ardal benodol. Cafodd hyfforddiant ar-lein wared hefyd ar gostau llogi lleoliadau a oedd yn gysylltiedig â llogi lleoliadau i ddarparu’r hyfforddiant. Defnyddiodd arweinwyr prosiect Gofal Plant ar Waith Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru yr arian a arbedwyd trwy beidio â hyfforddiant wyneb-yn-wyneb. Defnyddiwyd yr arian hwn a arbedwyd i logi gliniaduron fel bod Cynorthwywyr Meithrinfa Dan Hyfforddiant yn gallu cael mynediad at yr hyfforddiant ar-lein a oedd yn cael ei ddarparu.

Arweiniodd y pandemig at gau llawer o’r lleoliadau gofal plant dros dro. Fe gyfyngodd hyn ar y cyfleoedd ar gyfer deilliannau cyflogaeth i Gynorthwywyr Meithrinfa Dan Hyfforddiant a gyfranogodd yn 2il Gam y Prosiect. Fodd bynnag, er gwaethaf yr heriau hyn, fe wnaeth y Prosiect gyrraedd ei dargedau a, mewn nifer o achosion, mynd y tu hwnt iddynt mewn perthynas â nifer y cyfranogwyr a gefnogwyd a’r deilliannau cyflogaeth a gyflawnwyd.

Casgliadau

Fe gyrhaeddodd Cam 1af y Prosiect ei dargedau ymgysylltu ac, er gwaethaf cyfyngiadau COVID, fe aeth yr 2il Gam y tu hwnt i’w darged ar gyfer ymgysylltu â chyfranogwyr (gan ymgysylltu â 93 o’i gymharu â tharged o 84) ac fe gefnogodd ddeilliannau cyflogaeth ar gyfer 44 o gyfranogwyr (36 wedi cael cyflogaeth ac 8 wedi cael prentisiaethau) o’i gymharu â tharged o 42.

Mae’r Prosiect wedi datblygu llwybr profedig a all gefnogi unigolion sydd allan o waith, a fyddai fel arall yn ei chael yn anodd iawn cael cyflogaeth yn y sector, a rhoi cyfle iddynt gael eu troed ar ris isaf gyrfa yn y sector gofal plant.

Ymddengys hefyd fod targedu’r cymorth at y rhai sydd dros 24 yn briodol gan bod mwy o gymorth cyflogaeth eisoes ar gael yn gyffredinol i bobl dan 24 oed a’i bod yn ymddangos mai pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol neu’r coleg (h.y. y rhai dan 24 oed) yw’r rhan fwyaf o newydd-ddyfodiaid i’r sector gofal plant.

Mae’r canfyddiadau’n nodi bod y Prosiect wedi cynorthwyo cyflogwyr i recriwtio unigolion dros 25 oed i swyddi ar lefel mynediad yn y sector gofal plant heb gau na gwthio unrhyw unigolion eraill allan - e.e. pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol neu’r coleg a / neu weithwyr gofal plant profiadol, hŷn.

Mae’r Prosiect wedi gweithio’n dda yng nghyd-destun y sector gofal plant, ac mae’n ei gynnig ei hun fel model y gellid ei gymhwyso yng nghyd-destun sectorau eraill.

Gallai annog ystod ehangach o gyflogwyr gofal plant i gyfranogi fod wedi cynnig opsiynau ehangach i Gynorthwywyr Meithrinfa Dan Hyfforddiant o bosibl hefyd o ran y mathau o leoliadau gwaith a oedd ar gael iddynt, a gallai fod wedi cynnig cyfle i fwy o gyflogeion yn y sector recriwtio staff o ansawdd da.

Roedd cyflogwyr a sefydliadau cymorth cyflogaeth o’r farn ei bod yn annhebygol y byddai unrhyw gyfranogwyr a oedd yn Gynorthwywyr Meithrinfa Dan Hyfforddiant wedi cael cyflogaeth yn y sector gofal plant heb gymorth y Prosiect. Gan hynny, mae’n bosibl dod i’r casgliad mai dim ond deilliannau cyflogaeth ychwanegol a gyflawnwyd gan y Prosiect ac nid oedd pwysau marw amlwg.

Argymhellion

Argymhelliad 1

Ymddengys fod llwyddiant y Prosiect Gofal Plant ar Waith yn ddibynnol i raddau helaeth ar gael ei gyflawni gan hwylusydd dibynadwy ac ar ei allu i recriwtio ymgeiswyr addas. Dylai unrhyw brosiect o’r natur hon yn y dyfodol geisio sicrhau bod y ddau ffactor hyn yn cael eu cymryd i ystyriaeth a’u hymgorffori yn y dyluniad o ran sut y caiff ei gyflawni.

Argymhelliad 2

Dylai unrhyw brosiect o’r natur hon yn y dyfodol ystyried ehangu cyfranogiad i gynnwys ystod ehangach o ddarparwyr gan gynnwys darparwyr cyfrwng Cymraeg a gefnogir gan y Mudiad Meithrin.

Argymhelliad 3

Mae’r pecyn hyfforddi Gofal Plant ar Waith wedi cael ei deilwra gan Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru yn ystod y Prosiect hwn i sicrhau ei fod yn rhoi i unigolion yr holl wybodaeth sylfaenol y mae ei hangen arnynt fel newydd-ddyfodiaid i’r sector gofal plant. Dylid ystyried ymdrechion i barhau i ddarparu’r hyfforddiant hwn naill ai mewn prosiect ar wahân neu fel maes cymorth ychwanegol y gellid ei gynnig mewn rhaglenni cymorth cyflogadwyedd eraill.

Argymhelliad 4

Dylai unrhyw brosiectau cymorth cyflogaeth o’r natur hon yn y dyfodol ystyried cynnal y taliadau cyflog wedi’u hariannu a wnaed i gyfranogwyr yn ystod lleoliadau gwaith.

Argymhelliad 5

Mae cyrhaeddiad ehangach hyfforddiant ar-lein o’i gymharu â hyfforddiant grŵp wyneb-yn-wyneb yn cynnig ei hun i fodel hyfforddiant y gellir ei gyflawni’n rhanbarthol neu’n genedlaethol yn hytrach na phrosiect sy’n seiliedig ar awdurdodau lleol. Dylid cymryd hyn i ystyriaeth yn nyluniad unrhyw brosiectau cymorth cyflogaeth o’r natur hon yn y dyfodol.

Argymhelliad 6

Byddai’r deilliannau llwyddiannus a gefnogwyd gan y Prosiect yn awgrymu y dylid parhau â’r cymorth y mae wedi’i roi i gyflogwyr ac unigolion di-waith yn y dyfodol naill ai fel prosiect ar wahân neu, neu sicrhau bod llwybr addas o fewn rhaglenni cyflogadwyedd ar gyfer y rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn Gofal Plant.

Argymhelliad 7

Dylid rhoi ystyriaeth bellach i fabwysiadu’r model cyflawni a ddatblygwyd ar gyfer prosiect y Gofal Plant ar Waith i gefnogi llwybrau cyflogaeth ar gyfer unigolion sydd allan o waith sy’n ceisio cyflogaeth mewn sectorau eraill.

Manylion cyswllt

Adroddiad Ymchwil Llawn: Harries, S. Lane, J (2021) Gwerthusiad o’r Prosiect Gofal Plant ar Waith. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, Rhif Adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth 30/2021

Safbwyntiau’r ymchwilydd ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Is-adran Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: trafodgofalplant@llyw.cymru

Image
GSR logo

ISBN Digidol 978-1-80195-036-7