Nod y prosiect yw gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau cyhoeddus trwy gydweithredu mwy effeithiol.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o brosiect datblygu a chyflawni Blaenoriaethau Byrddau Gwasanaethau Lleol Cronfa Gymdeithasol Ewrop
Nod cyfnod crynodol y gwerthusiad oedd darparu asesiad cyffredinol er mwyn canfod a gyflawnwyd canlyniadau’r Prosiect Blaenoriaethau Byrddau Gwasanaethau - Lleol Cronfa Gymdeithasol Ewrop, a sut.
Bwriad methodoleg y cyfnod hwn oedd ein galluogi i adeiladu ar ganfyddiadau’r Adroddiad Ffurfiannol Terfynol, ac roedd yn cynnwys y canlynol:
- dadansoddiad eilaidd o ddangosyddion Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) oedd yn darlunio data allbwn o’r holl brosiectau cyflenwi
- adolygiad o’r dystiolaeth ynghylch sut mae’r Prosiect wedi cyfrannu at themâu polisi trawsbynciol (cydraddoldeb, craffu a chynaliadwyedd amgylcheddol)
- meta-ddadansoddiad o ddeunydd gwerthuso o sampl o 17 prosiect cyflenwi. Roedd hyn yn tynnu ar adroddiadau gwerthuso lleol ac adroddiadau terfynu a gynhyrchwyd gan y prosiectau cyflenwi i ychwanegu mewnwelediad i ganfyddiadau’r dadansoddiad thematig o’r astudiaethau achos, fel y’i cyflwynwyd yn yr adroddiad ffurfiannol
- cynhyrchu set o ‘bortreadau arfer da’ a dynnwyd o’r meta-ddadansoddiad. Mae’r rhain yn cwmpasu themâu ‘cyfraniad y trydydd sector’, ‘rôl rheolwr y prosiect’ ac ‘etifeddiaeth’, yn ogystal â chyflenwi canlyniadau dau brosiect
- ail don Arolwg Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru-gyfan ar gydweithio. Anfonwyd yr arolwg hwn at uwch-reolwyr ar draws holl wasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, iechyd, yr heddlu, tân ac achub, Cymunedau yn Gyntaf a’r trydydd sector. Daeth cyfanswm o 312 o ymatebion i’r arolwg i law – cyfradd ymateb o 25%.
Adroddiadau
Gwerthusiad o brosiect datblygu a chyflawni Blaenoriaethau Byrddau Gwasanaethau Lleol Cronfa Gymdeithasol Ewrop: adroddiad crynodol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Jamie Smith
Rhif ffôn: 0300 025 6850
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.