Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad yn asesu’r elfennau o raglen Arbed 3 (cyllidwyd gan ERDF) yn erbyn amcanion penodedig o ran allbynnau a chyflawniadau, gan adlewyrchu hawliadau ERDF hyd at Mawrth 2021.

Comisiynwyd Miller Research gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2020 i gyflawni gwerthusiad proses ac effaith rhaglen Arbed 3 a gefnogwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Mae’r adroddiad hwn yn asesu’r elfennau o raglen Arbed 3 a gyllidwyd gan ERDF ochr yn ochr â’i hamcanion penodedig o ran allbynnau a chyflawniadau, gan adlewyrchu hawliadau ERDF hyd at fis Mawrth 2021. Mae’r adroddiad yn archwilio hefyd ganlyniadau ac effeithiau ehangach y rhaglen ac yn cynnwys casgliadau ac argymhellion sy’n berthnasol i raglenni tebyg yn y dyfodol yng Nghymru.

Er bod rhaglen Arbed 3 wedi wynebu heriau sylweddol oddi wrth y pandemig COVID-19 yn ystod cyfnod ei gwaith, mae wedi dangos llwyddiant wrth dargedu aelwydydd sy’n dioddef tlodi tanwydd a thlodi tanwydd difrifol ac mae wedi cyflawni’n dda yn ôl y targedau a adolygwyd. Mae’r rhaglen wedi arwain at well graddau EPC mewn 2546 o gartrefi gradd D, E,F a G yng Nghymru, gyda gwelliannau hirdymor o ganlyniad mewn amodau byw a sefyllfa ariannol deiliaid tai, a lleihau carbon law yn llaw ag ymrwymiadau Llywodraeth Cymru.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Arbed 3 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.