Neidio i'r prif gynnwy

Nod y gwaith hwn yw gwerthuso'r cynllun gweithredu a'r cynllun cyflenwi sy'n cyd-fynd, gyda ffocws penodol ar weithredu ac effaith y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.

Fe wnaeth y gwerthusiad hefyd ystyried profiadau unigolion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol wrth gael mynediad i'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'u barn ar effaith y gwasanaethau a ddarparwyd.

Mae'r gwerthusiad yn canfod fod y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig i raddau helaeth yn cyflawni’r hyn a fwriadwyd. Er iddo gymryd amser i ddod yn weithredol, mae profiadau pobl sy'n defnyddio’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi gwella'n gyffredinol wrth i’r gwasanaethau ddatblygu. Ar hyn o bryd, mae'r gwerthusiad yn adrodd bod y rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn galonogol, cyn belled â bod gwasanaethau yn gallu ymdopi â’r galw, cadw staff a sicrhau cyllid ar gyfer y gwasanaeth y tu hwnt i 2021.

Adroddiadau

Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Nina Prosser

Rhif ffôn: 0300 025 5866

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.