Gwerthusiad Ffurfiannol o Twf Swyddi Cymru+: adroddiad interim (crynodeb)
Ymchwil yn edrych ar broses, defnydd a chanlyniadau’r rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ym mlynyddoedd 1 (2022/23) a 2 (2023/24).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg o’r rhaglen
Mae’r crynodeb hwn yn adrodd ar ganfyddiadau gwerthusiad interim o Twf Swyddi Cymru+ (TSC+). Lansiwyd y rhaglen ym mis Ebrill 2022 (a rhedeg tan 2026 yn y lle cyntaf) a nod y rhaglen yw darparu hyfforddiant, datblygiad a chymorth cyflogadwyedd unigol i bobl ifanc 16 i 18 oed [troednodyn 1] sy’n cael eu hasesu i fod yn NEET (sef rhai nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) ar adeg ymuno â’r rhaglen.
Cynlluniwyd y rhaglen i fwrw ymlaen ag elfennau gorau dwy raglen gyflogadwyedd blaenorol – sef Hyfforddeiaethau a Twf Swyddi Cymru 2 (TSC 2). Disgwylir i TSC+ fod â chyllideb gyffredinol o rhwng £100 miliwn a £200 miliwn, sy’n gyfwerth â chyllid o tua £25 miliwn y flwyddyn, gan ei chynnal drwy Gontractwyr a gaffaelwyd ar gyfer pedwar rhanbarth (lot) yng Nghymru.
Ar adeg ei lansio, defnyddiai TSC+ un system atgyfeirio drwy Cymru’n Gweithio (wedi’i redeg gan Gyrfa Cymru), sef gwasanaeth sy’n cynnig un pwynt mynediad Cymru gyfan i gael cymorth cyflogadwyedd. Ers haf 2022 gall pobl ifanc cymwys hefyd atgyfeirio eu hunain i TSC+ i gael eu hasesu ar gyfer ymuno â’r rhaglen neu gallant gael eu hatgyfeirio’n uniongyrchol gan y Contractwyr neu gan Gydlynwyr Ymgysylltiad a Chynnydd (EPC) yr awdurdodau lleol. Gwnaethpwyd hyn i wella mynediad i’r bobl ifanc hynny sydd ‘anoddaf eu cyrraedd’ ac na fyddent yn ymgysylltu drwy Cymru’n Gweithio.
Defnyddir proses safonol i asesu anghenion er mwyn nodi’r ddarpariaeth gyflogadwyedd fwyaf addas i gefnogi’r unigolyn i wneud cynnydd. Ar gyfer atgyfeiriadau sy’n dod drwy Cymru’n Gweithio, gwneir yr asesiad gan gynghorwyr gyrfaoedd hyfforddedig. Ar gyfer atgyfeiriadau sy’n dod trwy lwybrau eraill, gwneir yr asesiad hwn gan staff cymorth arbenigol.
Yn seiliedig ar natur a graddfa anghenion/rhwystrau’r cyfranogwyr, a’u pellter o addysg neu gyflogaeth, rhoddir yr unigolion mewn un o dri llinyn cymorth (sef Ymgysylltu, Datblygu, neu Gyflogaeth). Aseswyd y rheiny ar y llinyn Ymgysylltu i fod y rhai sydd bellaf o addysg brif ffrwd neu gyflogaeth, a’r rhai ar y llinyn Cyflogaeth i fod y rhai sydd mwyaf parod ar gyfer gwaith.
Addasiadau i’r rhaglen
Mae’r berthynas waith agos sydd rhwng Contractwyr a staff TSC+ yn Llywodraeth Cymru wedi helpu wrth fynd ati i addasu ychydig ar gynllun y rhaglen ers ei rhoi ar waith. Mae’r addasiadau hyn yn ymateb i heriau sydd wedi dod i’r amlwg megis pandemig COVID-19 a phwysau parhaus costau byw; roedd yr heriau hyn wedi cynyddu cymhlethdod anghenion cyfranogwyr.
Mae’r addasiadau wedi cynnwys: ymestyn Gweithgareddau Cyfoethogi a Gweithgaredd Cyn-Ymgysylltu megis ‘Bydd Barod / Get Ready’ i gefnogi pobl ifanc i ymgysylltu; codi’r lwfans hyfforddi a’i gael yr un fath i bob llinyn; darparu prydau am ddim; cynyddu taliadau uned dysgu i Gontractwyr i gefnogi costau ychwanegol ymsefydlu; ehangu pwy sy’n gymwys i wneud cymhwyster ar Lefel 1 a 2; ac ymestyn yr oedran cymwys ar gyfer cofrestru i 19 oed.
Trosolwg o’r gwerthusiad
Ym mis Gorffennaf 2022, comisiynwyd Wavehill i gynnal gwerthusiad ffurfiannol o TSC+, ac i wneud y canlynol:
- Olrhain a chofnodi’r ymgysylltu, y cofrestru a’r cymryd rhan yn y rhaglen.
- Cynnal asesiad proses ac asesiad ar ganlyniadau blynyddol y rhaglen.
- Sefydlu fframwaith ar gyfer gwerthuso effaith y rhaglen.
Mae tri cham i waith y gwerthusiad:
- Cwmpasu cychwynnol (mis Awst i fis Rhagfyr 2022)
- Adolygiad interim (y cam hwn) ar y gwaith o gynnal TSC+ ym mlwyddyn 1 (2022/23) a blwyddyn 2 (2023/24); ac
- Y cam olaf (yn dechrau ddiwedd gwanwyn 2024) sy’n asesu effaith TSC+ a’r dysgu a wnaed ar draws y ddarpariaeth.
Dull methodolegol
Mae’r gwerthusiad wedi cynnwys yr elfennau canlynol:
- Dadansoddi gwybodaeth reoli’r rhaglen – gan gynnwys gwybodaeth reoli dienw ar gyfranogwyr (Ebrill 2022 i Hydref 2023), a data perfformiad (cyhoeddedig) y rhaglen gyfan (Ebrill 2022 i Medi 2023).
- Cyfweliadau â rhanddeiliaid (rhithwir), sef staff Llywodraeth Cymru (n=14); staff Contractwyr ac Is-gontractwyr sy’n ymwneud â rheoli a chynnal y rhaglen (n=27); a chynrychiolwyr o awdurdodau lleol – gan amlaf rôl y Cydlynydd Ymgysylltiad a Chynnydd (n=23) o 17 (o’r 22) ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
- Gwaith maes â chyfranogwyr (drwy gyfweliadau dros y ffôn) gyda thri grŵp:
- Cyfranogwyr gweithredol sy’n derbyn cefnogaeth barhaus trwy TSC+ (n=93).
- Cyfranogwyr sydd wedi cwblhau TSC+ ac wedi sicrhau cyrchfan gadarnhaol (n=69)
- Cyfranogwyr a oedd wedi gadael TSC+ ar ôl llai na 12 wythnos, cyn sicrhau cyrchfan gadarnhaol (n=56)
- Gwaith maes â chyflogwyr (n=24) – cyfweliadau â chyflogwyr a oedd wedi darparu lleoliad gwaith ac/neu gyflogaeth â chymhorthdal i gyfranogwyr TSC+.
- Grŵp Cynghori ar Ymchwil – mae’r dull arloesol hwn dan arweiniad Promo Cymru yn cael pobl ifanc i helpu i lunio’r gwerthusiad a’i ledaeniad. Recriwtiwyd chwe pherson ifanc â nodweddion gwarchodedig er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn sail i’r broses o gynnal y gwerthusiad drwy eu bod yn rhoi sylwadau ar y canlynol: marchnata Llywodraeth Cymru ar raglen TSC+; y cyfweliadau â chyfranogwyr i roi cyngor ar eiriad yr holiadur; profiad pobl ifanc o’r farchnad lafur ac argaeledd swyddi; a chanfyddiadau’r cyfweliadau â chyfranogwyr i gefnogi eu dadansoddi a’u dehongli.
Cyfyngiadau’r fethodoleg
Er y rhagorwyd ar y niferoedd targed o ran ymgysylltu â chyfranogwyr ar gyfer y gwerthusiad, heriol fu sicrhau proffil cynrychioliadol o gyfranogwyr TSC+ o ran anghenion/rhwystrau. Mae hyn wedi digwydd oherwydd amrywiaeth o resymau gan gynnwys heriau wrth gael holl ddata’r cyfranogwyr gan Gontractwyr ar gyfer samplu ar hap; anghysondeb yn nata cyswllt cyfranogwyr i’r arolwg a newidiadau yn amgylchiadau cyfranogwyr oherwydd yr oedi wrth roi’r data. Yn ogystal, roedd profiadau ymadawyr cynnar yn fwy cadarnhaol na’r disgwyl gan olygu eu bod yn y pen draw yn gynrychiolaeth wael o unigolion a allai fod wedi cael profiad anffafriol o’r rhaglen.
Prif ganfyddiadau a chasgliadau
Cynnydd a pherfformiad TSC+
Mae dadansoddi data perfformiad cyhoeddedig rhaglen TSC+ a gwybodaeth reoli ar gyfer y rhaglen gyfan wedi dangos tueddiadau mewn perthynas â nifer y cyfranogwyr sydd wedi cofrestru bob mis ar TSC+. Yn flynyddol, ymddengys bod Gorffennaf a Hydref yn ddau uchafbwynt yn y niferoedd sy’n cofrestru gyda’r cynnydd mawr ym mis Gorffennaf 2023 yn arbennig o amlwg. Er bod llwyth achosion cyfranogwyr TSC+ wedi aros yn gymharol sefydlog yn ystod 15 mis cyntaf y rhaglen, mae’r niferoedd wedi cynyddu ers mis Gorffennaf 2023.
Amcangyfrifir bod TSC+ mewn cyfnod o 12 mis wedi ymgysylltu â thua thraean o’r holl bobl ifanc sy’n NEET (16 i 19 oed) [troednodyn 2] yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth daearyddol mawr yn y cyfraddau ymgysylltu, gan fod person ifanc 16 i 19 oed sy’n byw yn Nhorfaen ychydig o dan wyth gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cofrestru â TSC+ na’r rhai sy’n byw ym Mhowys.
Y rheiny sydd wedi cofrestru ar y llinyn Ymgysylltu sydd i’w cael gan mwyaf yn TSC+ ac mae’r data diweddaraf (2022/23) yn dangos bod bron i ddau o bob tri ohonynt (65%) wedi cofrestru ar y llinyn hwnnw, ynghyd â 34% ar y llinyn Datblygu ac un y cant ar y llinyn Cyflogaeth. Adlewyrcha hyn y ffaith y gwelwyd bod y cyfranogwyr yn wynebu llawer mwy o rwystrau i symud ymlaen nag a ragwelwyd yn wreiddiol, ac felly eu bod yn bellach i ffwrdd o gyflogaeth.
Cynlluniwyd y rhaglen cyn COVID-19 ac felly ni ellid wedi rhagweld yr effaith ar bobl ifanc yn deillio o’r pandemig neu’r argyfwng costau byw dilynol a’r heriau ychwanegol a roddodd y digwyddiadau hyn ar bobl ifanc. Addaswyd y rhaglen (fel y disgrifir uchod) i fynd i’r afael â’r heriau ychwanegol hyn.
Mae’r canlyniadau yn seiliedig ar gyrchfan y dysgwr o fewn pedair wythnos i adael y rhaglen. Ar gyfer pob dysgwr, canlyniad cadarnhaol yw naill ai symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch, symud ymlaen i gyflogaeth (llawn amser, rhan-amser [16 awr neu fwy yr wythnos] neu hunangyflogaeth) neu symud ymlaen i Brentisiaeth. Ar gyfer dysgwyr anabl, mae cyflogaeth o lai nag 16 awr yr wythnos hefyd yn cael ei ystyried yn ganlyniad cadarnhaol.
Ym mlwyddyn ariannol Ebrill 2022 i Mawrth 2023, roedd y rhaglen ychydig yn brin o’r targed gan sicrhau cyfradd canlyniadau cadarnhaol o 58%. Fodd bynnag, mae dadansoddi chwarter diweddaraf y data cyhoeddedig (Gorffennaf i Medi 2023) yn dangos cyflawni’r gyfradd uchaf o ganlyniadau cadarnhaol (68%) ers lansio’r rhaglen a hyn yn rhagori ar y targed gwreiddiol.
Mae’r rheiny sy’n iau o ran oedran, y rheiny sy’n siarad Cymraeg, y rheiny o grwpiau ethnig Du, a’r rhai sydd eisoes â chymwysterau uwch (Lefel 2 neu Lefel 3) yn fwy tebygol o sicrhau canlyniadau cadarnhaol na’r cyfartaledd ar gyfer y garfan gymwys. Nid oes unrhyw wahaniaethau yn y duedd i gael canlyniad cadarnhaol yn ôl rhyw neu a oes ganddynt gyfrifoldebau gofalu ai peidio.
Argymhellion perfformiad
Argymhelliad 1
Byddai o fudd archwilio’n fanylach y data monitro ar yr elfen Bydd Barod / Get Ready (os yw’r wybodaeth reoli yn casglu’r dystiolaeth hon) ynghyd â chael gwaith maes wedi’i dargedu yng ngham dilynol y gwerthusiad i ddeall yn well rôl yr elfen hon wrth ysgogi ymgysylltiad.
Argymhelliad 2
Dylai gwerthuswyr gael mynediad at wariant y rhaglen dros amser ac adolygu’r gwariant hwnnw i asesu cost-effeithiolrwydd a chost-effeithlonrwydd TSC+ yn erbyn rhaglenni eraill sydd â grŵp targed tebyg.
Argymhelliad 3
Dylid casglu manylion pellach yng ngham nesaf y gwerthusiad ar sefyllfa cyfranogwyr cyn cymryd rhan yn TSC+ ynghyd â’u holi am rôl y lwfans hyfforddi yn eu penderfyniad i gofrestru.
Argymhelliad 4
Dylid archwilio ymhellach y dylanwadau ar y gwahaniaethau daearyddol yn y rhaglen trwy ddadansoddi pellach ar broffiliau cyfranogwyr a llwybrau atgyfeirio yn ôl daearyddiaeth a Chontractwr.
Argymhelliad 5
Dylid ychwanegu diffiniadau cliriach at ddata perfformiad cyhoeddedig er mwyn i’r cyhoedd ddeall yn well beth mae’r derminoleg sy’n gysylltiedig â ‘rhaglenni’ yn ei olygu.
Canlyniadau/effeithiau’r cymorth
Soniodd dysgwyr am fanteision eang a chanlyniadau cadarnhaol yn sgil cymryd rhan yn TSC+ gan gynnwys eu rhagolygon swydd. Roedd cyfanswm o 95% yn meddwl bod TSC+ wedi cynyddu eu siawns o ddod o hyd i waith a 93% yn teimlo bod ganddynt fwy o siawns o gael cyflogaeth barhaol.
O ganlyniad i gymryd rhan yn TSC+ dywedodd 82% o gyfranogwyr fod eu bodlonrwydd â bywyd wedi gwella.
Cytunai rhanddeiliaid ar effaith y cymorth yn dod â chyfranogwyr yn nes at y farchnad lafur, fodd bynnag roedd angen cymorth mwy parhaus arnynt i gael cyflogaeth oherwydd cymhlethdod eu hanghenion.
Roedd mwy na chwarter y cyfranogwyr (31%) a gyfwelwyd mewn cyflogaeth ar adeg yr arolwg; fodd bynnag roedd llai na hanner y rheiny mewn cyflogaeth ar gontractau parhaol/penagored neu mewn gwaith llawn amser.
Roedd cyfranogwyr yn aml yn gadael y rhaglen yn gynnar oherwydd rhesymau cadarnhaol (addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant). Fodd bynnag, ni châi hyn ei gipio yng ngwybodaeth reoli’r Contractwyr; teimlai rhanddeiliaid y dylid cywiro hyn ac y dylid cofnodi rhesymau cyfranogwyr dros adael y rhaglen yn gynnar yng ngwybodaeth reoli’r Contractwyr wrth symud ymlaen.
Dywedodd cyflogwyr fod cymhorthdal TSC+ wedi eu galluogi i gymryd rhan yn y rhaglen ac roedd wedi galluogi rhai ohonynt i gyflogi aelod o staff. Roedd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn teimlo bod TSC+ wedi bodloni eu hanghenion.
Cododd nifer o randdeiliaid bryderon ynghylch i ba raddau y mae’r system fonitro bresennol yn cipio’r canlyniadau/effeithiau cymhleth, unigoledig a gyflawnir gan ddysgwyr. Soniwyd am yr angen i symud o fesur canlyniadau ‘caled’ tuag at gipio’r pellter a deithiwyd, yn enwedig o ran sgiliau meddal ac iechyd meddwl.
Argymhellion effaith
Argymhelliad 6
Dylid ystyried proffil pob canlyniad cyrchfan (boed yn gadarnhaol, niwtral a negyddol) wrth asesu perfformiad ar lefel rhaglen, ac yn ôl Contractwr ac ardal ddaearyddol.
Argymhelliad 7
Dylid parhau â’r gwaith monitro agos ar ymgysylltu yn ôl y gwahanol linynnau, yn enwedig er mwyn deall faint o gyfranogiad a geir yn y llinyn Cyflogaeth, a deall patrymau’r ymgysylltu yn y llinynnau ac unrhyw resymau dros hynny.
Argymhelliad 8
Dylid ailadrodd yr arolwg i gyfranogwyr gan fynd ati’n well i dargedu’r rheiny sydd wedi cwblhau’r rhaglen er mwyn deall cyrchfannau’r holl gyfranogwyr yn well (y tu hwnt i’r pedair wythnos).
Argymhelliad 9
Fel rhan o gam nesaf y gwerthusiad, dylid edrych ymhellach ar wybodaeth reoli fanwl a’i dadansoddi yn ôl nodweddion gwarchodedig a lleoliad ar yr un pryd â chynnal gwaith maes wedi’i dargedu i ddeall ysgogwyr perfformiad daearyddol yn well.
Adfyfyrio ar y model cyflenwi
Ledled y cyfweliadau, roedd staff cyflenwi, rhanddeiliaid ehangach a chyfranogwyr yn gadarnhaol iawn am y model darparu gwasanaeth ac yn enwedig yr addasiadau a wnaed i’w ddyluniad. Cododd rhai bryderon ynghylch anhyblygedd TSC+, yn enwedig y dull defnyddio Adroddiad Asesu ac Atgyfeirio (ARR) i osod dysgwyr ar linynnau TSC+.
Roedd rhai rhagdybiaethau anghywir ymhlith ambell aelod o staff Contractwyr ac is-gontractwyr ynghylch gallu staff i ‘ddiystyru’ y system ar sail eu barn broffesiynol. Dau gamsyniad oedd mai’r unig ffordd y gallai Contractwyr newid i ba linyn y pennwyd person ifanc oedd drwy eu gwneud i ‘adael’ ac yna ailddechrau’r broses asesu, ac na ellid darparu ar gyfer absenoldeb dros dro cyfranogwr.
Soniodd rhanddeiliaid, cyflogwyr a chyfranogwyr y rhaglen fod barn gyffredinol fod y marchnata a’r hyrwyddo ar TSC+ wedi bod yn llwyddiannus ar y cyfan a bod ymwybyddiaeth o’r rhaglen wedi cynyddu dros amser. Cafwyd awgrymiadau y gellid cryfhau’r hyrwyddo mewn ysgolion, y gellid defnyddio mwy o amrywiaeth o sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol, ac y dylid parhau i ganolbwyntio ar gysondeb y negeseuon (yn enwedig yng ngoleuni newidiadau polisi sy’n effeithio ar gyflenwi TSC+).
Teimlwyd yn eang bod cyflwyno atgyfeirio uniongyrchol i’r rhaglen wedi arwain at gynnydd amlwg yn nifer y cofrestriadau, a bod gweithgarwch cyn ymgysylltu yn arbennig o effeithiol wrth gynyddu’r nifer sy’n cofrestru.
Teimlwyd bod pwysigrwydd gweithgareddau cyn ymgysylltu yn ymwneud yn bennaf ag iechyd meddwl (yn enwedig gorbryder) a diffyg cysylltiedig ym mecanweithiau ymdopi darpar gyfranogwyr TSC+. Croesawyd y ddarpariaeth cyn ymgysylltu hon yn eang gan randdeiliaid.
Roedd cyfranogwyr o’r farn bod TSC+ yn rhwydd ei ddefnyddio a bod staff yn eu deall ac yn gefnogol.
Ymysg y cyfranogwyr gweithredol, teimlai 82% o’r dysgwyr a ymatebodd fod y lwfans hyfforddi wedi helpu â phwysau ariannol a’i fod wedi chwarae rhan bwysig wrth gynyddu diddordeb ac ymgysylltiad pobl ifanc yn y rhaglen. Credai rhanddeiliaid fod rhoi gwerth ar amser ac ymdrechion pobl ifanc fel hyn yn helpu i hybu eu hunan-barch.
Ymddengys mai prin oedd y dystiolaeth ynghylch Contractwyr yn gweithio gyda grwpiau ymylol i lunio modelau cymorth cynhwysol. Fodd bynnag, teimlai bron i naw o bob deg dysgwr fod TSC+ yn foddhaol neu’n dda o ran cynhwysiant a hygyrchedd.
Nododd rhanddeiliaid mai ychydig o alw a gafwyd o du’r dysgwyr am ddarpariaeth Gymraeg. Roedd dau Gontractwr wedi cael trafferth recriwtio tiwtoriaid Cymraeg eu hiaith ac ystyriwyd bod costau adnoddau ychwanegol yn rhwystr i ddarpariaeth Gymraeg (darparwyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i dalu costau).
Er gwaethaf rhai pryderon ynghylch deall croestoriadedd a chynwysoldeb a’u cymhwyso wrth i Gontractwyr ddylunio a darparu eu gwasanaeth, ystyriwyd bod TSC+ yn fwy cynhwysol a hygyrch i bobl ifanc na rhaglenni cyflogadwyedd tebyg blaenorol.
Roedd hyd y cyfnod y câi cyfranogwyr gymorth yn amrywio’n fawr, yn enwedig ymhlith cyfranogwyr y llinyn Ymgysylltu; fodd bynnag roedd croeso mawr i’r hyblygrwydd ac i’r dull seiliedig-ar-anghenion wrth roi cymorth i ddysgwyr.
O ran y rheiny a oedd wedi cofrestru ar y llinyn Datblygu, holodd rhanddeiliaid a allai targedu cymorth sgiliau yn fwy sectoraidd ymateb yn well i anghenion diwydiant yn y dyfodol.
Ymhlith y cyfranogwyr, roedd naw o bob deg yn teimlo bod cymorth TSC+ wedi bodloni neu ragori ar eu disgwyliadau tra bod tri chwarter ohonynt yn teimlo nad oedd unrhyw ffordd y gellid gwella’r cymorth.
Roedd rhanddeiliaid o’r farn bod TSC+ yn llenwi bylchau yn y ddarpariaeth gwasanaeth lleol ond y byddai integreiddio mwy â chymorth gwasanaethau eraill yn helpu i sicrhau bod yr holl opsiynau cymorth ar gael i bobl ifanc.
Argymhellion ar y gweithredu
Argymhelliad 10
Dylid archwilio pryderon ynghylch anhyblygrwydd, a dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod negeseuon yn cyrraedd staff er mwyn sicrhau bod barn broffesiynol yn cael ei defnyddio’n gyson ar draws y rhaglen, gan gynnwys ymhlith Contractwyr ac unrhyw Is-gontractwyr.
Argymhelliad 11
Dylid adolygu’r ddealltwriaeth sy’n gysylltiedig â materion gadael, ailddechrau, a’r defnydd o ddisgresiwn Contractwr, a hynny er mwyn sicrhau mwy o gysondeb yn y dulliau gweithredu, gan alluogi cyfranogwyr i ailgysylltu â’r gwasanaeth yn haws, yn enwedig yn achos absenoldeb dros dro.
Argymhelliad 12
Dylid mynd ati’n rheolaidd i adolygu cysondeb negeseuon marchnata er mwyn sicrhau aliniad llawn â newidiadau polisi TSC+, yn enwedig i sicrhau bod Contractwyr, Cydlynwyr Ymgysylltiad a Chynnydd, a phobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio’n uniongyrchol i’r rhaglen, yn deall nodweddion cyfredol yr hyn a gynigir yn llawn.
Argymhelliad 13
Dylai’r gwerthusiad archwilio natur a graddau gweithgarwch cydweithredu neu atgyfeirio TSC+ er mwyn deall yn well i ba raddau y mae gwasanaethau’n cael eu hintegreiddio â darpariaeth cymorth arall, yn enwedig wrth i nifer y gweithgareddau a gynhelir ag adnoddau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) gynyddu.
Argymhelliad 14
Dylid casglu dangosyddion llesiant yn fwy cyson fel rhan o broses gofrestru cyfranogwyr TSC+. Bydd hyn yn helpu i gofnodi’r gwerth cymdeithasol a enillwyd trwy gymryd rhan yn y rhaglen.
Argymhelliad 15
Dylid mabwysiadu dull gweithredu cyson ar draws y rhaglen ar gyfer cofnodi’n electronig y rhwystrau sydd gan gyfranogwyr rhag cofrestru ac yna olrhain a mesur canlyniadau meddal i helpu i ddarlunio effaith cymorth TSC+.
Argymhelliad 16
Dylid cael gwybodaeth reoli adnabyddadwy trwy Gontractwyr i fod yn sail i ffrâm y sampl ar gyfer gwaith maes.
Troednodiadau
Manylion cyswllt
Awduron yr adroddiad: Oliver Allies, Jakob Abekhon, Paula Gallagher, Endaf Griffiths, Shanti Rao, Simon Tanner
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
James Lundie
Uwch Swyddog Ymchwil
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: KASEmployabilityandSkillsResearch@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 49/2024
ISBN digidol 978-1-83625-265-8