Daeth yr ymgynghoriad i ben 21 Gorffennaf 2017.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion wedi'i ddiweddaru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn am yr adroddiad cwmpasu drafft ar arfarniad cynaliadwyedd Integredig y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn paratoi cynllun defnyddio tir cenedlaethol, Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru, fydd yn pennu cyfeiriad ar gyfer y system gynllunio gyfan ac yn llywio penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.
Yr adroddiad cwmpasu yw cam cyntaf arfarniad cynaliadwyedd integredig y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio datblygiad yr arfarniad cynaliadwyedd integredig, a’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, o’i gamau cyntaf.