Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a dull yr ymchwil

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau’r Gwerthusiad Cyfansymiol o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), prosiect ymchwil annibynnol a gwblhawyd ar ran Llywodraeth Cymru gan gonsortiwm o Three Dragons, Prifysgol Ulster a Cyngor Da.

Cyflwynwyd Safonau Ansawdd Tai Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2002, i godi safon a chyflwr tai cymdeithasol yng Nghymru. Roedd SATC yn berthnasol i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol gyda stoc tai cymdeithasol ar rent. Nid yw’r safon yn berthnasol i dai eraill a ddatblygir gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig nac i’r sector preifat.

Er mwyn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru, rhaid i dai fod:

  • mewn cyflwr da
  • yn ddiogel a saff
  • wedi’u cynhesu’n ddigonol, yn defnyddio tanwydd yn effeithlon ac wedi’u hinswleiddio’n dda
  • yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes
  • yn cael eu rheoli’n dda
  • wedi’u lleoli mewn amgylcheddau deniadol a diogel
  • phan fydd hynny’n bosibl, yn addas ar gyfer anghenion penodol y rhai sy’n byw yno, fel pobl ag anableddau

Ac, o fewn y 7 categori trosfwaol hyn, mae 42 o elfennau unigol[1] yn cael eu mesur gan y Safon.

[1] Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008, SATC: Canllawiau Diwygiedig i Landlordiaid Cymdeithasol ar Ddehongli a Chyflawni SATC

Mae’r fersiwn bresennol o’r Safon yn dod i ben ac mae Llywodraeth Cymru yn ystyried beth ddylai’r fersiwn nesaf ohoni (SATC 2.0) ei gynnwys a sut y dylai gael ei fonitro. Dyma’r cyd-destun ar gyfer y Gwerthusiad Cyfansymiol a’r prif nodau ymchwil ar ei gyfer oedd:

  • asesu’r graddau y mae SATC wedi ei gyrraedd
  • ystyried deilliannau cyrraedd y safon (gan gynnwys rhai cymdeithasol, economaidd a llesiant, yn ogystal â gwelliant ffisegol i’r stoc tai)
  • defnyddio canfyddiadau’r Gwerthusiad Cyfansymiol i gynhyrchu argymhellion ar gyfer datblygu’r safon ddiwygiedig

Defnyddiwyd dull cymysg o ran methodoleg ar gyfer yr ymchwil, gan gyfuno adolygiad cynhwysfawr o’r llenyddiaeth polisi perthnasol a dadansoddiad o ffynonellau data eilaidd; gyda dealltwriaeth ansoddol ychwanegol yn deillio o drafodaethau gyda staff allweddol Llywodraeth Cymru a gweithdy i landlordiaid cymdeithasol.

Prif gyfyngiad yr ymchwil oedd dibyniaeth ar ddata eilaidd ac ymchwil ansoddol.  Felly, dylid arfer peth gofal o ran y canfyddiadau manwl a gyflwynir. O ran nodau’r ymchwil, er bod y llenyddiaeth sydd ar gael yn awgrymu bod codi safon tai yn debygol o gael effeithiau cymdeithasol, economaidd a llesiant, nid oedd n bosibl mesur yr effeithiau hyn fel deilliannau penodol y Safon.

Prif ganfyddiadau

Cofnodi data, rheolaeth a chydymffurfio

Cyn 2011, roedd casglu data SATC a’r monitro ar gydymffurfio ar sail ad hoc, gyda’r cynnydd tuag at gyrraedd y Safon yn araf ar y dechrau.  Trwy gyflwyno gweithdrefnau monitro a chasglu data ychwanegol, cyfarwyddyd gwell a rhoi adroddiad am ansawdd y data yn 2011, llwyddwyd i gael landlordiaid i ganolbwyntio’n fwy pendant ar gyrraedd y Safon ac i Lywodraeth Cymru asesu’r cynnydd yn realistig.

Yn ychwanegol, mae’r berthynas waith agosach y mae Llywodraeth Cymru wedi ei llunio gyda landlordiaid cymdeithasol ers 2017 wedi bod yn gam pwysig tuag at rannu arfer da a chynyddu’r ymddiriedaeth gyda landlordiaid cymdeithasol ym mhob sector.

Wrth gynnwys ‘methiannau derbyniol’[2], mae 93% o’r holl stoc tai cymdeithasol yng Nghymru wedi llwyddo i gyrraedd y Safon ar ddiwedd Mawrth 2019 a 6.9% o’r stoc oedd yn weddill heb gydymffurfio â’r Safon[3]. Mae’n ymddangos mai o ran perfformiad ynni y mae mwyaf o le ar gyfer gwelliant pellach wedi ei dargedu.

[2] Mewn rhai sefyllfaoedd, nid yw’n bosibl cyrraedd y safon ar gyfer elfen unigol. Er enghraifft, cost neu amseriad y gwaith, preswylwyr yn dewis peidio â chael gwaith wedi ei wneud. Yn y sefyllfaoedd hyn, gall annedd gael ei ddosbarthu fel ‘methiant derbyniol.’

[3] Safon Ansawdd Tai Cymru: ar 31 Mawrth 2019.

Cyd-destun y Deyrnas Unedig i safonau ansawdd tai

Mae awdurdodaethau eraill y Deyrnas Unedig wedi dilyn patrwm tebyg i gyflwyno’r Safon yng Nghymru, gyda safonau yn cael eu cyflwyno gyntaf yn gynnar yn y 2000au, cynnydd cychwynnol cymharol araf i gyrraedd y safonau mabwysiedig ac adolygiadau ar y gweill ar hyn o bryd. Wrth gymharu’r safonau gwelir bod dadl dros ddweud bod SATC yn safon sy’n gofyn mwy na’r un mewn awdurdodaethau eraill.

Deilliannau ac effaith y SATC

Mae mwyafrif y tenantiaid yn ystyried bod y safonau i fesur cartrefi cymdeithasol yn bwysig iawn iddyn nhw. Ond, nid oedd tua dau allan o bob pump o denantiaid tai cymdeithasol wedi clywed am y SATC. Safon Ansawdd Tai Cymru: arolwg tenantiaid

Roedd yr adborth gan landlordiaid yn gadarnhaol yn gyffredinol, gan amlygu eu llwyddiant yn cyrraedd y SATC a chynnig barn amrywiol am sut y gallai’r SATC newid yn y dyfodol. Daeth ystyriaeth o ddarparu gorchudd llawr, gwell cysylltedd digidol a thaclo datgarboneiddio i’r amlwg fel elfennau y dylai Llywodraeth Cymru ystyried gweithio arnyn nhw yn SATC 2.0.

Datgarboneiddio

Mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu ar gyfer targed sero net carbon erbyn 2050. Argymhellodd Chweched Gyllideb Garbon y Pwyllgor Newid Hinsawdd wrth nodi’r llwybr tuag at Sero Net, y dylid gweld gostyngiad o 63% mewn carbon erbyn 2030 a gostyngiad o 89% erbyn 2040. Cymeradwywyd y targedau hyn gan Senedd Cymru ym Mawrth 2021.

Byddai cyflawni datgarboneiddio trwy raglen SATC yn cynnig llwybr clir a strwythur ar gyfer cyflawni o fewn fframwaith y gellid ei fonitro. Ochr y ochr â hyn, byddai angen i SATC sicrhau bod anheddau yn gallu cael eu gwresogi’n ddigonol ar gost fforddiadwy. Byddai’r safon newydd yn gofyn am welliannau deallus i gasglu data a monitro yn ogystal â gwelliannau i gapasiti’r farchnad (sgiliau a deunyddiau) ar gyfer y diwydiant a sefydliadau landlord. Cydnabu Llywodraeth Cymru y rheidrwydd hwn ac mae wedi cyflwyno nifer o brosiectau peilot trwy ei Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio.  Ei nod yw i’r targed carbon Sero Net gael ei gyflawni ar draws y stoc tai cymdeithasol erbyn 2033 mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’i pholisi ar dlodi tanwydd.

Casgliadau ac argymhellion

Dangosodd y Gwerthusiad Cyfansymiol bod SATC wedi bod yn allweddol wrth wella safonau ansawdd tai cymdeithasol ar draws yr ystod o ddulliau mesur y mae’n eu cwmpasu. Mae hyn yn wir am y stoc a ddelir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Mae’r Gwerthusiad yn cynnig nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac yn ganolog i hynny mae y dylid parhau SATC ond y dylai SATC 2.0 gynnwys nifer o ddiweddariadau. Disgrifir y diweddariadau a argymhellir fel a ganlyn.

Datgarboneiddio

Argymhellir bod dull bob yn gam o ymdrin â’r safon newydd ar gyfer SATC 2.0 yn cael ei ddefnyddio fel a ganlyn.

  • Amcanion/targed tymor hir yn cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru erbyn dyddiad cau diffiniedig.
  • SATC 2.0 i sicrhau na fydd tenantiaid mewn gwaeth sefyllfa o ganlyniad i waith datgarboneiddio yn eu cartrefi ac anelu i wella lefelau moethusrwydd a gostyngiad pellach mewn tlodi tanwydd.
  • Rhoi cyfnod cychwynnol o ddwy flynedd i landlordiaid baratoi rhaglen wedi ei phrisio o gamau i gyflawni’r targed – gan gynnwys ymgysylltu ystyrlon â thenantiaid a dynodi bylchau mewn sgiliau a gallu i gyflawni’r rhaglen.
  • Dull o fesur perfformiad yn cael ei lunio gan gynnwys diffiniad o ‘fethiannau derbyniol’, neu unrhyw system i’w disodli.
  • Yn gyfochrog â hynny, Llywodraeth Cymru i weithio gyda landlordiaid a sefydliadau tenantiaid i ddatblygu arfer da (rhannu gwersi o’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio), sefydlu systemau casglu data holistaidd deallus a monitro stoc, ochr yn ochr â strategaeth ariannu realistig.
  • SATC 2.0 i ddiffinio rhaglen i gyrraedd y targed y mae landlordiaid yn cael eu monitro mewn cymhariaeth ag o.
  • Gweithredu proses i adolygu cynnydd a gwneud addasiadau i’r targed, rhaglen a’r cyllid yn ôl y gofyn gyda’r adolygiad cyntaf i’w gynnal ar ddiwedd y 2 flynedd pan fydd rhaglenni’r landlordiaid yn eu lle.
  • Yr ail gam fyddai gweithredu’r gwelliannau, ochr yn ochr â’r rhaglen RMI efallai i leihau’r gwastraff ar elfennau yn ystod eu hoes ddefnyddiol.

Casglu data a chyfarwyddo

Trwy’r dull trosfwaol o gasglu a dadansoddi data, dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y bydd y bydd SATC 2.0 yn cael ei werthuso cyn, yn ystod ac ar ôl i’r rhaglen gael ei gweithredu.

Mae angen ymgyrch hefyd tuag at roi adroddiad am gydymffurfiad eiddo unigol. Bydd hyn hefyd yn gwella’r potensial o wirio data ar draws a rhwng meysydd polisi perthnasol eraill a deilliannau iechyd.

Er mwyn cefnogi safonau ac ansawdd data wrth symud ymlaen, dylid cynnal gweithdai blynyddol gyda’r darparwyr data i ddangos sut y mae’r data a gesglir yn cael ei ddefnyddio, arfer da wrth gasglu data a’r budd cysylltiedig y mae’r dadansoddi yn ei ddwyn.

O ran ‘methiannau derbyniol’ dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno system ‘goleuadau traffig’ – i wahaniaethu rhwng eiddo a allai, gydag ymyrraeth, gyrraedd y targedau a’r rhai na fydd fyth mewn sefyllfa i gydymffurfio ar elfen benodol.

Wrth i SATC esblygu i gwmpasu safonau newydd a dulliau asesu ar ddatgarboneiddio yn anochel bydd bylchau yn y data a thoriadau yn y gadwyn gwerth data. Pan na ellir cael data ar lefel eiddo unigol, er enghraifft, yna dylid defnyddio dirprwyon credadwy pan fydd yn bosibl ar gyfer dibenion monitro a gwerthuso. 

Gyda’r gwariant cyfalaf sylweddol sy’n ofynnol ar gyfer datgarboneiddio a chael pawb i gydymffurfio â SATC 2.0 yn ei gyfanrwydd, bydd angen cynnwys gweithdrefnau casglu data i sicrhau bod Gwerth am Arian yn cael ei fonitro a’i ddangos yn glir o ran yr arian a werir a chyflawni SATC 2.0.  Bydd angen i hyn gael ei gasglu a rhoi adroddiadau arno yn systematig i Lywodraeth Cymru gan y landlordiaid.

Bydd gwella ansawdd a dyfnder y data a gesglir yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol – o ran technoleg a phersonél. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda landlordiaid i gyflwyno systemau rheoli data ar draws y rhwydwaith o landlordiaid, gan helpu i rannu arfer da.

Gan adlewyrchu’r rhaglen adolygu ddwy flynedd i gamau datgarboneiddio sydd newydd eu cyflwyno a chyflwyno monitro gwerth am arian, argymhellir bod adolygiadau bob dwy flynedd o arferion casglu data a chysondeb ar draws y sector.

Cyfathrebu

Bydd angen i SATC 2.0 gael ei ysgrifennu mewn iaith glir a sensitif o ran y defnydd o dermau a fyddai’n dderbyniol i grwpiau yn y boblogaeth. Bydd yn parhau yn bwysig i Lywodraeth Cymru gyfathrebu’n effeithiol gyda’r landlordiaid i symud SATC 2.0 ymlaen, gan esbonio beth mae’r safon a’r dulliau casglu data yn ei olygu a rhannu’r gwaith dehongli ac arfer da.  Dylai’r rhaglen ar gyfer hyn gael ei nodi wrth i SATC 2.0 gael ei gyflwyno, gan gynnwys diweddaru’r wefan.  Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu grŵp cynghori technegol sefydlog i gefnogi cyflwyno SATC 2.0.

Lloriau

Nid oes digon o dystiolaeth i wneud argymhelliad penodol am ddarparu lloriau yn y dyfodol ond dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda landlordiaid a sefydliadau tenantiaid i ddyfeisio safon sy’n sicrhau na fydd tenantiaid sy’n symud i mewn yn wynebu’r baich o ddod o hyd i adnoddau i brynu gorchuddion llawr wrth iddynt symud i eiddo newydd. 

Band eang

Eto, nid oes digon o dystiolaeth ar gael i wneud argymhelliad penodol am ddarparu band eang ond argymhellir y dylai Llywodraeth Cymru gael cyngor arbenigol am y ffordd fwyaf effeithiol o ddarparu band eang i denantiaid; ac y dylai weithio gyda’r landlordiaid a sefydliadau tenantiaid i ddynodi safon newydd o ran darparu band eang ar gyfer SATC 2.0.

Manylion cyswllt

Awduron: Three Dragons, Cyngor Da a Phrifysgol Ulster - Sefydliad Ymchwil yr Amgylchedd Adeiledig (BERI)

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Katy Addison
E-bost: ymchwildyfodolcynaliadwy@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 43/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-519-5

Image
GSR logo