Gwerthusiad Cronfa Gofal Integredig (crynodeb)
Adroddiad yn asesu effaith ganfyddedig y Gronfa Gofal Integredig o ran gwella gallu i gwrdd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Rhaglen ataliol a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw'r Gronfa Gofal Integredig (y Gronfa) a'i nod yw integreiddio ac annog cydweithio rhwng y sectorau gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, tai, a’r trydydd sector a’r sector annibynnol er mwyn gwella bywydau’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Fe'i cyflwynwyd yn 2014 ac mae cyllid ar gael tan ddiwedd mis Mawrth 2022. Yr enw gwreiddiol arni oedd y Gronfa Gofal Canolraddol ac mae wedi sicrhau bod cyllid blynyddol ar gael i'r saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ledled Cymru i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl yn well drwy wasanaethau mwy cydgysylltiedig a di-dor.
Mae'r Gronfa Gofal Integredig yn cynnwys dyraniadau cyfalaf a refeniw, ond mae'r gwerthusiad hwn wedi canolbwyntio ar ddyraniadau refeniw y Gronfa. Mae gwerth blynyddol y gronfa refeniw wedi cynyddu dros amser, o’r dyraniad cychwynnol o £30 miliwn yn 2014/15 i £89 miliwn yn 2021/22.
Gwnaed newidiadau blynyddol i’r Gronfa dros amser a gwnaed newidiadau sylweddol iddi yn ystod 2017/18 er mwyn sicrhau ei bod yn cyd-fynd â’r amcanion a’r grwpiau blaenoriaeth a nodir yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Mae pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cyflwyno Cynlluniau Buddsoddi Refeniw blynyddol i Lywodraeth Cymru i’w hadolygu er mwyn sicrhau eu bod yn dilyn y canllawiau cyllido.
Ar hyn o bryd, mae’r Gronfa Gofal Integredig yn canolbwyntio ar bum grŵp blaenoriaeth allweddol:
- pobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor gan gynnwys dementia
- pobl sydd ag anableddau dysgu
- plant sydd ag anghenion cymhleth
- gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc
- plant ar ymylon gofal.
Nodau ac amcanion yr adolygiad
Nod y gwerthusiad oedd asesu'r canfyddiad o effaith a/neu effaith bosibl y Gronfa Gofal Integredig o ran creu newid mewn systemau ac ymddygiad er mwyn gwella'r gallu i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl.
Roedd disgwyl i’r gwerthusiad asesu:
- effaith y rhaglen rhwng 2016 a 2021 ar unigolion a’r cymunedau dan sylw
- effaith y rhaglen ar ddarparu gwasanaethau ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol
- effaith prosiectau ataliol o ran lleihau'r pwysau ar y system iechyd a gofal
- y ffactorau llwyddiant hanfodol a'r rhwystrau a all lywio rhaglenni ac ymyriadau yn y dyfodol
- i ba raddau y gellir ehangu modelau cyflawni a'u lledaenu er mwyn eu mabwysiadu'n ehangach ledled Cymru.
Dull
Cynhaliwyd y gwerthusiad rhwng mis Ionawr a mis Hydref 2021 ac roedd yn cynnwys:
- cam cychwynnol, a oedd yn cynnwys cyfarfod cychwynnol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a pharatoi cynllun prosiect
- adolygiad pen desg o bolisïau a deddfwriaeth berthnasol, gwerthusiadau perthnasol, a dogfennau ar lefel rhaglen
- drafftio canllawiau trafod ar gyfer cyfweld â chyfranwyr a datblygu arolwg ar y we ar gyfer arweinwyr prosiectau'r Gronfa
- metaddadansoddiad o ddogfennaeth ar gyfer sampl o 77 o brosiectau'r Gronfa
- cynnal arolwg ar-lein a gwblhawyd gan 68 o arweinwyr prosiectau'r Gronfa
- gwaith maes gyda 15 o brosiectau'r Gronfa a oedd yn cynnwys gofyn barn 48 o staff prosiectau a 26 o dderbynyddion prosiectau
- cyfweld â 74 o randdeiliaid o bob un o’r saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ogystal â thri o swyddogion Llywodraeth Cymru a dau gynrychiolydd o sefydliadau rhanddeiliaid
- cyfuno canfyddiadau'r gwaith maes a'r adolygiad pen desg a pharatoi adroddiad gwerthuso
Mae angen ystyried canfyddiadau’r gwerthusiad yng ngoleuni rhai ystyriaethau methodolegol allweddol:
- er bod trawstoriad o brosiectau wedi'u dethol ar gyfer y macroddadansoddiad a'r astudiaethau achos, bwriadwyd i'r sampl ganolbwyntio ar brosiectau a oedd ag o leiaf rywfaint o dystiolaeth werthuso. O ganlyniad efallai y bydd gogwydd posibl tuag at gynnwys prosiectau mwy llwyddiannus sydd wedi'u rheoli'n well yn yr astudiaeth
- nid oedd yn bosibl i'r gwerthusiad adrodd ar y canlyniadau a gyflawnwyd ar lefel rhaglen oherwydd diffyg dulliau mesur canlyniadau cenedlaethol cyson ar lefel rhaglen. Cafodd y canlyniadau eu pennu a'u diffinio gan brosiectau unigol gan ei gwneud yn amhosibl cymharu a chydgrynhoi cyflawniadau
- roedd llawer o'r dystiolaeth a gasglwyd drwy'r gwerthusiad hwn am effaith y rhaglen yn anecdotaidd ei natur ac yn seiliedig ar ganfyddiad cyfranwyr o'r gwahaniaeth a wnaed gan wasanaethau'r prosiectau
Canfyddiadau allweddol
Canfu'r gwerthusiad y canlynol:
- mae'r Gronfa Gofal Integredig wedi cefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i drawsnewid y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae wedi cyfrannu’n gadarnhaol at yr amcanion a nodir yn y Rhaglenni Llywodraethu, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Cymru Iachach
- mae’r Gronfa wedi ariannu ymyriadau ataliol priodol sydd wedi helpu i gynnal gwasanaethau craidd yn ystod cyfnod o bwysau sylweddol ac mae wedi bod yn allweddol o ran ysgogi dull integredig o weithio ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, tai a’r trydydd sector
- mae’r Gronfa yn ffrwd gyllido y rhoddir gwerth mawr arni a heb gyllid parhaus, mae cynaliadwyedd y gwasanaethau presennol yn ansicr, a byddai tynnu’r gwasanaethau hyn yn ôl yn niweidiol
- mae prosiectau a ariannwyd wedi gwneud cynnydd da, ond nid yw’r rhai a sefydlwyd yn fwy diweddar wedi cael yr un cyfle i dreialu modelau cyflawni o gymharu â phrosiectau sydd wedi’u hen sefydlu
- mae'r pandemig COVID-19 wedi cael effaith ddifrifol a gwrthgyferbyniol ar y darpariaethau a ariannwyd. Mae prosiectau'r Gronfa wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi ymdrechion y rheng flaen yn ystod y pandemig
Canfu’r gwerthusiad y canlynol o ran yr effaith ar unigolion a chymunedau:
- mae prosiectau'r Gronfa yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, trawsnewidiol yn aml, i bobl o ran manteision iechyd a llesiant gan gynnwys gwell iechyd meddwl ac ansawdd bywyd. Mae prosiectau hefyd yn gwneud gwahaniaeth o ran sut y mae pobl yn defnyddio gwasanaethau
- mae ystod eang o ganlyniadau yn cael eu cyflawni, yn bennaf oherwydd bod ymyriadau’r Gronfa yn amrywio o ran cwmpas a grwpiau targed sy'n flaenoriaeth, ac felly mae’n amhosibl cydgrynhoi'r canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau ar lefel rhaglen
- mae prosiectau wedi tueddu i ganolbwyntio ar adrodd ar allbwn prosiectau, er nad yw hyn o reidrwydd yn adlewyrchu’r gwahaniaeth y mae ymyriadau’n ei wneud, oherwydd mae dangos tystiolaeth o ymyriadau dwys, tymor hwy yn heriol ac yn cael ei egluro’n well drwy astudiaethau achos unigol a thrwy asesu'r pellter a deithiwyd
O ran yr effaith ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a lleihau’r pwysau ar y system, mae'r Gronfa wedi:
- helpu i wella gwaith partneriaeth rhwng sefydliadau ac ar draws rhanbarthau; annog a hwyluso ffordd fwy rhanbarthol o weithio; a chefnogi symudiad tuag at integreiddio gwasanaethau
- gwella rôl y trydydd sector, sydd mewn sefyllfa dda i ddarparu gwasanaethau ataliol mewn modd addasadwy a hyblyg. Mae prosiectau'r trydydd sector yn tueddu i fod yn llai integredig na'r rhai sy'n cael eu harwain gan wasanaethau statudol ac yn wynebu heriau unigryw o ganlyniad
- cyfrannu at leihad mewn gofal sefydliadol a'r defnydd o welyau ysbyty; yn ogystal â symud y cydbwysedd tuag at wasanaethau ataliol, agosach at y cartref drwy ddatblygu llwybrau gofal canolraddol
- ariannu prosiectau amrywiol yr ystyrir eu bod yn effeithiol o ran atal derbyniadau i'r ysbyty a hwyluso rhyddhau cleifion yn gynnar, gan ganiatáu i fwy o bobl aros yn ddiogel ac yn iach gartref; a helpu i newid agweddau tuag at werth ymyriadau cynnar a dulliau atal
- cyfrannu at lawer o newidiadau cadarnhaol ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a ddarperir er ei bod yn amhosibl datblethu effaith y Gronfa o ffynonellau cyllid eraill wrth asesu i ba raddau y gellir priodoli effaith
O ran galluogwyr a rhwystrau allweddol ar gyfer prosiectau a ariannwyd:
- ymysg y galluogwyr allweddol o ran cyflawni prosiectau mae trefniadau effeithiol ar gyfer cydweithio ag eraill; cael tîm cyflawni cryf; mabwysiadu model cyflawni a darpariaeth hyblyg y gellir ei addasu sy’n gwella gwybodaeth ymarferwyr eraill drwy hyfforddiant neu gydweithio
- ymysg y rhwystrau allweddol mae'r pandemig COVID-19, effaith trefniadau cyllido blynyddol a goblygiadau hyn o ran recriwtio a chadw staff.
Argymhellion
Mae'r adroddiad yn cyflwyno argymhellion sy'n cyd-fynd â phum thema allweddol a nodwyd yn ystod yr ymchwil. Cynigir y pum set o argymhellion fel syniadau yn hytrach na rhestr gyfarwyddol ar gyfer newid. Ochr yn ochr a hwy mae cwestiynau 'prawf' a fyddai'n ddefnyddiol i'w hystyried ar gyfer y dyfodol. Y pum thema allweddol yw:
- Thema 1: Yr angen i barhau â rhyw fath o gyllid wedi’i neilltuo yn y dyfodol er mwyn cefnogi arloesi ac integreiddio
- Thema 2: Yr angen i’r gronfa gefnogi gwelliant a newid cynaliadwy
- Thema 3: Sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng cyfarwyddyd a disgresiwn
- Thema 4: Defnyddio data i ysgogi gwelliannau i wasanaethau ac ansawdd
- Thema 5: Yr angen i sicrhau bod canlyniadau o'r gronfa yn arwain at ddysgu a lledaenu arfer da
Rhoddir crynodeb o awgrymiadau ac argymhellion isod:
- Parhau i sicrhau bod cyllid wedi’i neilltuo ar gael i gefnogi arloesi a darpariaethau integredig a chydweithredol ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Ystyried symleiddio’r cyllid presennol sydd ar gael drwy’r Gronfa Gofal Integredig a’r Gronfa Trawsnewid mewn un gronfa o fis Ebrill 2022 ymlaen sy’n cefnogi’r amcanion a nodir yn Cymru Iachach a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
- Darparu mwy o eglurder ynghylch yr hyn y mae gwir arloesi yn ei olygu yn ymarferol er mwyn osgoi unrhyw arloesi 'synthetig' sy'n honni ei fod yn newydd ond nad yw'n newydd mewn gwirionedd.
- Sicrhau nad yw rhanbarthau’n cael eu hannog yn anfwriadol i ddehongli arloesi fel cynyddu nifer y prosiectau.
- Cael cadarnhad o effaith bosibl prosiectau cyn cytuno arnynt.
- Ehangu’r gofyniad i randdeiliaid eraill fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu mentrau sy’n deillio o’r gronfa, yn enwedig defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, y sector annibynnol, ac Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru.
- Egluro ei bod yn dderbyniol i fanteision y gronfa gael eu cronni’n anghymesur gan wahanol asiantaethau partner ar yr amod bod hyn wedi’i gytuno ar y cyd.
- Sicrhau bod cyllid ar gael yn y dyfodol am gyfnod hwy - tair blynedd o leiaf ond yn ddelfrydol, pum mlynedd - er mwyn caniatáu trawsnewidiad a mynd i’r afael â heriau cyflawni.
- Cynnwys trefniadau wrth gefn yn y gronfa er mwyn sicrhau y gellir ymdrin â strategaethau ymadael yn briodol.
- Galluogi cydberchnogaeth o gynaliadwyedd prosiectau, rhaglenni a mentrau a gynhyrchir gan gronfeydd fel y Gronfa Gofal Integredig.
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid i sefydlu’r trefniadau mwyaf priodol ar gyfer sicrhau y gall prosiectau ddechrau a gorffen heb ofni gorfod wynebu sefyllfa lle y daw'r cyllid i ben yn sydyn, boed hynny digwydd mewn gwirionedd neu'n ganfyddiad.
- Ceisio cael dealltwriaeth gliriach gan randdeiliaid o'r anawsterau sy'n gysylltiedig â phrif ffrydio ac ehangu a chynnwys darpariaeth o fewn y gronfa newydd i oresgyn yr anawsterau hynny.
- Cefnogi defnydd hyblyg o’r gronfa a pharhau i gyfuno gwahanol ffrydiau cyllido er mwyn cyflawni'r amcanion a nodir yn y canllawiau ar gyfer y gronfa newydd ac egluro sut y mae hyn yn effeithio ar atebolrwydd lleol a rhanbarthol yng ngoleuni unrhyw newidiadau sy’n codi o’r Papur Gwyn diweddar. Egluro i ba raddau y mae defnyddio'r gronfa newydd mewn ffordd hyblyg yn dderbyniol.
- Sicrhau dealltwriaeth o amcanion y gronfa newydd ac, yn ddelfrydol, cytuno arnynt gyda rhanddeiliaid. Sicrhau lle bynnag y bo modd bod yr amcanion yn bodloni egwyddorion 'CAMPUS'.
- Ystyried sefydlu elfennau ar wahân yn y gronfa newydd ar gyfer arloesi, cydgrynhoi a thrawsnewid, a therfynu.
- Ffafrio cymaint o ddisgresiwn rhanbarthol â phosibl wrth ystyried y cydbwysedd rhwng cyfarwyddyd a disgresiwn yn y gronfa newydd. Sicrhau'r cydbwysedd hwn drwy broses ymgysylltu effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid a gwneud hyn cyn gynted ag y bo modd.
- Sicrhau bod dulliau ymgysylltu yn mynd y tu hwnt i gyswllt uniongyrchol â chynrychiolwyr rhanbarthol enwebedig ac yn cynnwys cynrychiolwyr yr holl randdeiliaid allweddol, e.e. ADSS Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru, CGGC, CLlLC, Fforwm Gofal Cymru.
- Ailystyried sut y mae data a gwybodaeth yn cael eu casglu, eu monitro a'u defnyddio. Darparu mwy o eglurder ynghylch sut y mae gwahanol randdeiliaid yn defnyddio data gyda’r nod o sicrhau bod y fethodoleg casglu data a monitro prosiectau o fudd iddynt hwy ac i Lywodraeth Cymru.
- Annog mabwysiadu dulliau safonol o fesur y pellter a deithiwyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau, gyda modelau gofal tebyg, ac yn ddelfrydol ymchwilio i'r opsiwn o fabwysiadu offer cyffredin.
- Symud y pwyslais o ddulliau casglu a monitro data sy'n canolbwyntio ar gydymffurfiaeth i ysgogi gwelliannau ansawdd lleol, rhanbarthol a rhyngranbarthol.
- Parhau i ddefnyddio methodoleg atebolrwydd sy’n seiliedig ar ganlyniadau ond egluro’r disgwyliadau o ran sut y caiff ei chymhwyso.
- Sicrhau bod y gronfa newydd yn seiliedig ar gyfres o ganlyniadau cenedlaethol wedi’u diffinio’n dda, sy’n cael eu grwpio i adlewyrchu’r canlyniadau disgwyliedig ar gyfer modelau gofal neu grwpiau blaenoriaeth penodol.
- Sicrhau bod y ffocws yn y dyfodol ar y data a’r metrigau pwysicaf, a chynnwys partneriaid allweddol fel Comisiwn Bevan, Gofal Cymdeithasol Cymru, a Gwelliant Cymru yn y broses honno.
- Symud y pwyslais o ddull yn seiliedig ar brosiectau i ddull rhaglen y gellid alinio prosiectau â hi. Cefnogi hyn drwy wella'r gyfatebiaeth rhwng systemau data lluosog, gan gynnwys ystyried ei gwneud yn orfodol i ddefnyddio system Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.
- Cynyddu cyflymder prosiectau llwyddiannus sy’n cael eu rhoi ar waith ledled Cymru drwy greu cymunedau ymarfer a arweinir gan gymheiriaid er mwyn i arweinwyr prosiectau sy’n ymwneud â modelau gofal tebyg rannu arferion da a phrofiadau, ac i fireinio modelau cyflawni.
- Ailystyried sut y caiff prosiectau eu treialu gyda'r nod o gael nifer o ranbarthau i dreialu mentrau ar y cyd er mwyn dysgu ohonynt a’u cyflwyno yn hytrach na bod pob un o’r saith rhanbarth yn cychwyn yr un prosiectau.
- Annog cydberchnogaeth o’r gronfa newydd drwy bwysleisio ei bod yn gronfa Cymru gyfan sydd â’r nod o ddangos manteision y tu hwnt i ffiniau lleol a rhanbarthol.
- Ystyried defnyddio ysgogiadau a chymhellion, megis mynediad at ragor o gyllid, i annog rhaeadru'r hyn a ddysgir.
Gwybodaeth bellach
Awduron yr Adroddiad: Nia Bryer a Heledd Bebb, Ymchwil OB3, Yr Athro Mark Llewellyn a'r Athro Tony Garthwaite, Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol De Cymru
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Victoria Seddon
E-bost: Ymchwil.IechydAGwasanaethauCymdeithasol@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
Rhif ymchwil cymdeithasol: 26/2022
ISBN digidol: 978-1-80391-893-8