Neidio i'r prif gynnwy

Mae CLIC Ar-lein yn wefan gyffredinol sy'n darparu gwybodaeth, newyddion a chyngor i bobl ifanc yng Nghymru 11-25 oed.

Comisiynwyd y gwerthusiad i ddarparu adolygiad amserol a chynhwysfawr o wasanaeth CLIC, a'i weithgareddau ategol cysylltiedig, er mwyn llywio cyfeiriad y gwasanaeth at y dyfodol a bwydo penderfyniadau mewn perthynas ag ymagweddau cyllido a chyflwyno.

Prif nod y gwerthusiad yw “bwydo dull darparu gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol i bobl ifanc 11-25 oed yng Nghymru yn y dyfodol, yng nghyd-destun cyllid is” ac yn benodol i asesu effeithiolrwydd:

  • model darparu CLIC
  • CLIC wrth gyflawni ei amcanion ac i ba raddau mae CLIC yn cyfrannu at amcanion polisi a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
  • y defnydd o adnoddau a chefnogaeth bresennol i wefannau lleol.

Adroddiadau

Gwerthusiad CLIC , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Starkey

Rhif ffôn: 0300 025 0377

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.