Mae prosiect Plant Coll Gwent yn cefnogi pobl ifanc bregus a'u teuluoedd trwy greu cronfa o wybodaeth rhwng gwasanaethau cyhoeddus.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad Annibynnol o’r prosiect Plant Coll Gwent
Mae’r Hyb yn brosiect arloesol sy’n darparu gwasanaeth unigryw ar gyfer plant sy’n mynd ar goll, neu sydd mewn perygl o fynd ar goll, yn ardal Gwent. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod meysydd gwaith allweddol yr Hyb yn cael eu cyflawni yn briodol ac yn unol â’r ddamcaniaeth newid ac arferion da ar gyfer gwaith amlasiantaeth i raddau helaeth. Hefyd, mewn rhai achosion, mae tystiolaeth newydd yn dangos bod yr Hyb yn sicrhau’r effeithiau a’r canlyniadau arfaethedig ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n mynd ar goll.
Fodd bynnag, fel y nodwyd gydol yr adroddiad hwn ac yn yr adroddiad ffurfiannol, mae cynllunio strategol, monitro a rheoli perfformiad yn ddulliau allweddol o ddatblygu gwaith yr Hyb o hyd. Bydd hyn yn galluogi’r Hyb i fynd ati’n gyson i ddangos ei werth a dangos i ba raddau y mae’n sicrhau’r canlyniadau arfaethedig.