Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynlluniau i greu Ardal Arloesi newydd ffyniannus gwerth £300 miliwn yng Nglannau Abertawe ar gyfer Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cymryd cam mawr ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hynny’n paratoi’r ffordd ar gyfer gwaith ar y datblygiad uchelgeisiol hwn yng nghanol y ddinas, a fydd yn creu ardal ddysgu newydd yn Abertawe ac yn meithrin cysylltiadau rhwng y byd addysg a busnesau, arloesedd a menter.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi prynu darnau mawr o’r tir datblygu sydd ar ôl yn ardal Glannau SA1 ar gyfer ei buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn Abertawe. Mae’r cynllun yn cynnwys cynigion i ddatblygu cyfleusterau pwrpasol ar gyfer dysgu, addysgu ac ymchwil gymhwysol, yn ogystal â mannau at ddibenion cymdeithasol a hamdden ehangach.

Wrth gyhoeddi’r newyddion heddiw, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr  Economi a’r Seilwaith, fod hwn yn ddechrau cyfnod newydd cyffrous yn natblygiad y Brifysgol ac yn hwb sylweddol i economi’r ddinas.

Dywedodd Mr Skates: 

“Mae gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gynlluniau uchelgeisiol a derbyniol iawn i greu campws modern a phwrpasol a fydd yn canolbwyntio ar gefnogi arloesedd a datblygiad economaidd, gan gydweithio â phartneriaid i fanteisio ar wybodaeth ac arbenigedd ac i ddatblygu sgiliau ar gyfer busnesau a helpu i ddenu buddsoddiad newydd i’r rhanbarth.

“Bydd y datblygiad hwn, ynghyd â’r gwaith a wnaed i ehangu Prifysgol Abertawe ac i adeiladu’i champws yn y Bae, yn hwb sylweddol i’r ardal. Bydd yn ategu ac yn cefnogi nod Dinas-ranbarth Bae Abertawe o sicrhau bod De-orllewin Cymru yn cael ei hadnabod yn rhyngwladol am yr economi wybodaeth ac arloesi sy’n dechrau datblygu yno.”

Dywedodd Ray Selby, Cyfarwyddwr Prosiect Ardal Arloesi Glannau Abertawe: 

“Mae cwblhau’r broses o brynu’r tir yn gam mawr ac arwyddocaol ymlaen wrth i’r Brifysgol barhau i fwrw ymlaen â’i phrosiect uchelgeisiol yn yr amser lleiaf erioed, gyda’r gwaith yn magu momentwm o un diwrnod i’r llall. Mae hefyd yn adlewyrchu cryfder a photensial y cysylltiadau positif ac adeiladol iawn gyda Llywodraeth Cymru.

“Bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant  yn bwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu SA1 Abertawe drwy bartneriaeth Ardal Arloesi Glannau Abertawe, sy’n bartneriaeth rhyngddi hi a Llywodraeth Cymru a Dinas a Sir Abertawe. Bydd yn fodd i ddynodi Abertawe yn ddinas arloesi drwy sefydlu nifer o ganolfannau dylanwadol mewn ardaloedd blaenoriaeth. Bydd y rheini’n creu manteision economaidd a masnachol clir er mwyn denu cwmnïau, partneriaethau a buddsoddiad newydd. Drwy sicrhau bod ei graddedigion yn bob y gellir eu cyflogi, mae’r brifysgol yn awyddus hefyd i gyflawni ei photensial i wneud cyfraniad o bwys i’r gwaith o adfywio economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe.” 

Dywedodd Andrew Gibson, Cyfarwyddwr gyda Cushman a Wakefield, a fu’n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru wrth werthu’r tir: 

“Mae’r ffaith bod Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi prynu’r tir hwn yn gam cyffrous tuag at gwblhau un o’r safleoedd adfywio mwyaf llwyddiannus ar lannau’r DU. Rydyn ni wedi gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf ar ôl cael cyfarwyddyd i werthu’r tir, ac rydyn ni’n falch iawn o weld bod bron y cyfan o’r tir sydd ar gael wedi cael ei werthu at ddibenion datblygu.”  

Mae Ardal Arloesi Glannau Abertawe yn ddatblygiad uchelgeisiol yn y ddinas a fydd yn creu amgylchedd dysgu newydd, arloesol, cynhwysol a fydd yn ysbrydoli ac yn fodd i greu cysylltiadau rhwng byd addysg ac arloesedd a menter. Bydd yr Ardal yn darparu gwasanaethau craidd i fyfyrwyr, gan gynnwys gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ac Undeb Myfyrwyr, ynghyd â llyfrgell, cyfleusterau chwaraeon a hamdden a fydd yn ategu amwynderau cymunedol a masnachol.