Rydym eisiau eich barn chi ar waharddiad arfaethedig ar werthiant trydydd parti masnachol cŵn a chathod bach yng Nghymru.

Sut i ymateb

Ymgynghoriad yn cau:
17 Mai 2019
Lansiwyd yr ymgynghoriad ar:

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Gall gwerthiant trydydd parti masnachol fod yn gysylltiedig ag amodau lles gwaelach i’r anifeiliaid o gymharu â phrynu’n uniongyrchol gan y bridiwr.

Er enghraifft, gall cyflwyno sawl amgylchedd anghyfarwydd a’r tebygolrwydd o sawl siwrnai gyfrannu at risg gynyddol o afiechyd a diffyg cymdeithasu a chynefino.

Rydym yn ymgynghori ynghylch a fyddai newid polisi a/neu'r gyfraith yn gwella lles y cŵn a’r cathod bach pan maent yn cael eu gwerthu.

Dogfennau ymghynghori

Dogfen ymgynghori
, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 247 KB

PDF
247 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 17 Mai 2019, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

Ffurflen ar-lein

Post

Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.

Cwblhewch a dychwelyd i:

Cangen Fframwaith ac Iechyd Anifeiliaid

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ