Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar werthiant tai landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, a’u heffaith ar stoc annedd ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Nodwch, oherwydd y pandemig Coronafeirws (COVID-19), ni chasglwyd data ar werthiannau tai landlordiaid cymdeithasol ar gyfer 2019-20. Gweler y COVID-19 a chynhyrchu ystadegau ac ymchwil gymdeithasol am ragor o wybodaeth.

Prif bwyntiau

  • Roedd 397 o werthiannau tai landlordiaid cymdeithasol yn 2020-21. O’i gymharu ag uchafbwynt y gwerthiannau yn 2018-19 mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o 50%.  Mae hyn yn debygol o fod oherwydd diwedd y Cynlluniau Hawl i Brynu a'r Hawl i Gaffael ym mis Ionawr 2019 (gweler yr adroddiad).
  • Gostyngodd gwerthiannau awdurdodau lleol 75% i 40 annedd yn ystod 2020-21. Gostyngodd gwerthiannau anheddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig 44% i 357 annedd.
  • Ers 2008-09 mae mwyafrif holl werthiannau tai landlordiaid cymdeithasol wedi bod yn rhai gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gan gyfrif am 90% o holl werthiannau tai landlordiaid cymdeithasol yn ystod 2020-21.
  • Yn 2020-21 roedd dim ond 15% o werthiannau yn werthiannau statudol trwy’r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael. Mae hyn yn cymharu â 55% o werthiannau yn 2018-19. Gallai hyn fod oherwydd y nifer a wnaeth cais i ddefnyddio'r cynlluniau Hawl i Brynu a'r cynllun Hawl i Gaffael cyn iddynt gael eu diddymu'n derfynol ar gyfer y stoc bresennol ym mis Ionawr 2019.

Adroddiadau

Gwerthiannau tai landlordiaid cymdeithasol: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 998 KB

PDF
Saesneg yn unig
998 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.