Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer y gwerthiannau drwy'r cynllun Hawl i Brynu a gwerthiannau gwirfoddol ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2017-18, gostyngodd nifer y gwerthiannau o 8% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol i 538.
  • Gostyngodd gwerthiannau awdurdodau lleol o 21% (i 119  annedd) yn ystod 2017-18. Gostyngodd  gwerthiannau anheddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o 3% (i 419 annedd).
  • Ers 2008-09 mae mwyafrif holl werthiannau tai landlordiaid cymdeithasol wedi bod yn rhai gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Yn ystod 2017-18, roedd gwerthiannau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cyfrif am dros tri chwarter (78%) o holl werthiannau tai landlordiaid cymdeithasol.
  • Am yr ail flwyddyn yn olynol, roedd dros hanner (56%) o’r holl werthiannau yn rhai ‘gwirfoddol ac arall’ (gan gynnwys tai gofal ychwanegol). Amrywiodd hyn yn ôl math o landlord, gyda gwerthiannau statudol yn cyfrif am 93% o holl werthiannau awdurdodau lleol, ond 30% o holl werthiannau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Adroddiadau

Gwerthiannau tai landlordiaid cymdeithasol, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 762 KB

PDF
Saesneg yn unig
762 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.