Amcangyfrifon o allbwn economaidd ar dair lefel gweithle ddaearyddol ar gyfer 2017.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cynnyrch domestig gros rhanbarthol a gwerth ychwanegol gros
Gwybodaeth am y gyfres:
Mae'r SYG wedi cynhyrchu amcangyfrif sengl o werth ychwanegol gros (GYG) a elwir yn ddull cytbwys (GYG(B)), gan ddefnyddio cryfderau'r dulliau incwm a chynhyrchu. Mae'r amcangyfrifon hyn yn cael eu hystyried fel dull GYG swyddogol yr SYG.
Pwyntiau allweddol
- Cyfanswm GYG(B) y gweithle yng Nghymru yn 2017 oedd £62.2 biliwn, i fyny 3.1% ers 2016. Cododd GYG ar gyfer y DU (ac eithrio extra-regio) 3.5%.
- Ers 2009, cynyddodd cyfanswm GYG yng Nghymru gan 30.2%. Hwn yw’r pedwerydd cynnydd uchaf ymhlith gwledydd a rhanbarthau’r DU.
- £19,899 oedd GYG y pen yng Nghymru yn 2017, i fyny 2.7% ers 2016. Dyma’r wythfed gynnydd uchaf ymhlith gwledydd a rhanbarthau’r DU tra cynyddodd GYG y pen ar gyfer y DU (ac eithrio extra-regio) 2.9%.
- Cynyddodd GYG gweithle’r pen yng Nghymru gan 26.6% rhwng 2009 a 2017. Dyma’r trydydd cynnydd uchaf ymhlith gwledydd a rhanbarthau’r DU.
- Roedd GYG gweithle'r pen yng Nghymru yn 2017 yn 72.9% o ffigwr y DU (ac eithrio extra-regio), yr isaf ymhlith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Roedd hyn i lawr 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn.
- Roedd GYG gweithle’r pen yn Nwyrain Cymru yn 89.9%, tra yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd ni oedd hi yn 62.8% o’r ffigwr y DU yn ôl eu trefn.
- Mae ardaloedd llai daearyddol arall ar gael o SYG yn cynnwys ardaloedd lleol, awdurdodau lleol, a rhanbarthau dinasoedd NUTS 3.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.