Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o allbwn economaidd ar dair lefel ddaearyddol ar gyfer 2016.

Mae'r SYG wedi cynhyrchu amcangyfrif sengl o werth ychwanegol gros (GYG) a elwir yn ddull cytbwys (GYG(B)), gan ddefnyddio cryfderau'r dulliau incwm (GYG(I)) a chynhyrchu (GYG(P)). Ar hyn o bryd mae'r amcangyfrifon hyn yn cael eu hystyried fel ystadegau arbrofol, ond nawr y dull GYG swyddogol gan yr SYG. Am fwy o wybodaeth am y dulliau, gweler y dolenni yn y manylion.

Dull Cytbwys

  • Cyfanswm GYG (B) y gweithle yng Nghymru yn 2016 oedd £59.6 biliwn, i fyny 4.0% ers 2015. Cododd GYG ar gyfer y DU (ac eithrio extra-regio) 3.7%.
  • £19,140 oedd GYG y pen yng Nghymru yn 2016, i fyny 3.5% ers 2015. Dyma’r ail gynnydd uchaf ymhlith gwledydd a rhanbarthau’r DU tra chynyddodd GYG y pen ar gyfer y DU (ac eithrio extra-regio) 2.8%.
  • Roedd GYG gweithle y pen yng Nghymru yn 2016 yn 72.7% o gyfartaledd y DU (ac eithrio extra-regio), yr isaf ymhlith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Roedd hyn i fyny 0.5 pwynt canran dros y flwyddyn.
  • Mae amcangyfrifon a seilir ar NUTS2 ar gyfer 2016 yn dangos bod GYG y pen yn Nwyrain Cymru a Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 87.2% ac yn 64.15 o gyfartaledd y DU yn eu trefn.

Dull incwm

  • Cyfanswm GYG(I) yng Nghymru yn 2016 oedd £59.8 biliwn, i fyny 4.1% ers 2015. Cododd GYG ar gyfer y DU (ac eithrio extra-regio) 3.6%.
  • GYG y pen yng Nghymru yn 2016 oedd £19,200, i fyny 3.6% ers 2015, tra chododd GYG y pen ar gyfer y DU (ac eithrio extra-regio) 2.7%.
  • Mae amcangyfrifon a seilir ar NUTS2 ar gyfer 2016 yn dangos bod GYG y pen yn Nwyrain Cymru a  Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 86.9% ac yn 64.7% o gyfartaledd y DU yn eu trefn.

Dull cynhyrchu

  • Rhwng 2015 a 2016, tyfodd GYG(P) 1.3% mewn termau real yng Nghymru, o’i gymharu â chynnydd o 1.6% yn y DU. Roedd y cynnydd yng Nghymru y pumed mwyaf ar y cyd o wledydd a rhanbarthau’r DU. Llundain oedd â’r cynnydd mwyaf, wedi’i ddilyn gan Dde-orllewin Lloegr.
  • Rhwng 2015 a 2016, tyfodd GYG 0.6% mewn termau real yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, o’i gymharu â chynnydd o 2.0% yn Nwyrain Cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.