Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies wedi ymweld â dau ranbarth Ewropeaidd sydd wedi llwyddo i fanteisio ar eu treftadaeth naturiol er lles yr economi, y gymdeithas a'r amgylchedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Un o'r blaenoriaethau yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', sef cynllun cyflawni Tasglu'r Cymoedd, yw edrych ar y syniad ar gyfer Parc Tirweddau'r Cymoedd er mwyn helpu cymunedau lleol i adeiladu ar eu hasedau naturiol, gan gynnwys y potensial ar gyfer cynhyrchu ynni a thwristiaeth.

Mae Parc Neckar yn Stuttgart, yr Almaen a Pharc Cenedlaethol Hoge Kempen, Genk, Gwlad Belg yn ddwy enghraifft fyd-enwog o barciau o'r fath ac roedd Alun Davies, fel cadeirydd y Tasglu, yn awyddus i ddysgu mwy am y ffordd y maent yn dathlu eu treftadaeth ac yn cefnogi'r economi leol ar yr un pryd.  

Dywedodd Alun Davies: 

"Rydw i wedi dweud o'r dechrau bod rhaid i'r tasglu wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd. 

"Rydyn ni i gyd yn cytuno bod rhaid i'r Cymoedd fod yn lle y mae'r trigolion yn ymfalchïo ynddo; lle y mae busnesau yn dewis buddsoddi a gweithredu ynddo; lle y mae cymunedau yn cael eu grymuso ac yn dangos balchder yn eu hamgylchedd, gyda'r amgylchedd ei hun yn rhan hanfodol o ffordd pobl o fyw.

"Mae'r ardaloedd yr ymwelais â nhw'r wythnos hon yn enghreifftiau ardderchog o'r hyn y gellid ei gyflawni yng Nghymoedd y De. Datblygwyd y ddau barc mewn hen ardaloedd diwydiannol, gan ddathlu'r dreftadaeth yn hytrach na'i adael i bydru. Mae'r ardaloedd cyhoeddus ysbrydoledig hyn wedi gwella ansawdd amgylcheddol eu rhanbarthau ac ychwanegu at eu gwerth o ran hamdden, er lles eu cymunedau a thwristiaid fel ei gilydd."

Addunedodd yr Ysgrifennydd Cabinet i gyfarfod â phartneriaid cymunedol o bob cwr o'r Cymoedd i drafod ei ymweliad a chynigion i sefydlu cynllun tebyg yma yn y dyfodol. Bydd gofyn i randdeiliaid ystyried sut y gallai'r cysyniad weithio yn eu cymuned, a chyfrannu syniadau ar gyfer yr enw a'r brandio.

Dywedodd ei bod yn hanfodol i bobl y Cymoedd gael eu cynnwys wrth ddatblygu'r cynigion hyn ac adeiladu ar y tirweddau naturiol a diwylliannol trawiadol a'r cyfleoedd hamdden anhygoel sydd eisoes yn bodoli yno.