Neidio i'r prif gynnwy

Cyfres o weminarau sgiliau byw ac am ddim cyn y digwyddiad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ar ran Procurex Cymru a'r partner hyfforddi swyddogol ar gyfer digwyddiadau; y Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Caffael (PASS), mae'n bleser gennym gyhoeddi lansio cyfres o weminarau sgiliau byw ac am ddim cyn y digwyddiad. Mae'r gweminarau hyn wedi'u cynllunio i roi cipolwg ar y sesiynau hyfforddi datblygu gwybodaeth a fydd yn cael eu cynnal drwy gydol y digwyddiad, sydd bellach yn cael ei gynnal ar 24 Medi yn y Motorpoint Arena yng Nghaerdydd.

Mae'r gweminarau’n digwydd trwy gydol mis Mai, ac mae’r pynciau dan sylw’n cynnwys:

  • COVID-19: Talu Cyflenwyr – y canllawiau diweddaraf
  • COVID-19: Gwneud y gorau o adnoddau caffael
  • Gwerthuso yn ystod y Cam Dyfarnu
  • Rheoli Cysylltiadau 

Rydym yn gobeithio y bydd y gweminarau ategol hyn o fudd yn ystod y cyfnod heriol hwn, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i Procurex Cymru ym mis Medi eleni.

Rhannu’r dudalen hon