Yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am yr allbwn hwn o dan bum agwedd ar ansawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Perthnasedd

Mae’r wybodaeth a gyflwynir yn y datganiad hwn yn deillio o’r ffurflen QueSt 1 (QS1). Mae’r ffurflen QS1, a gyflwynwyd yn ei ffurf bresennol ym 1996, yn darparu data cyfanredol ar argaeledd a’r defnydd o welyau yn ysbytai’r GIG yng Nghymru. Yn y datganiad hwn, rydym yn cymharu ffigurau presennol â ffigurau ar gyfer 1996-97 gan mai hon oedd y flwyddyn ariannol gyntaf ers cyflwyno’r ffurflen QS1. Mae’r data’n cael ei gasglu gan fyrddau iechyd lleol unigol yng Nghymru gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS), ac yn amodol ar wiriadau dilysu canolog cyn ei gyhoeddi. Y sefydliadau hyn sy’n gyfrifol am sicrhau bod y ffigurau wedi’u crynhoi yn gywir yn unol â diffiniadau a chanllawiau canolog.

Bu newid yn y ffurflen QS1 ym mis Ionawr 2013 pan newidiodd y broses o adrodd gwybodaeth am glinigau a’r defnydd o welyau o fod yn ofyniad chwarterol i fod yn ofyniad misol. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio eitemau data QS1 a oedd yn deillio o setiau data eraill GIG Cymru (megis setiau data ar lefel cleifion) o’r pwynt hwn ymlaen. Prif effaith y newid hwn yw y bydd y data ar gyfer marwolaethau a chyfraddau rhyddhau (a ddefnyddir wrth gyfrifo hyd arhosiad cyfartalog, hyd cyfnod trosiant a ffactor defnydd gwelyau) yn deillio o Gronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW) ar gyfer data 2012-13 ymlaen.

Mae’r gwelliannau i’r ffurflen QS1 ym mis Ionawr 2013 wedi arwain at newidiadau i’r datganiad gwelyau hwn ar gyfer 2013-14 ymlaen. Mae manylion hyn a gwybodaeth berthnasol arall am y set ddata hon ar gael isod.

Mae’r data’n cwmpasu pob gwely yn ysbytai’r GIG yng Nghymru. 

Methodoleg

Ers 2013-14, mae’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo nifer gyfartalog y gwelyau sydd ar gael bob blwyddyn a nifer gyfartalog y gwelyau sy’n cael eu defnyddio bob dydd fel a ganlyn:

Nifer gyfartalog y gwelyau sydd ar gael bob dydd mewn blwyddyn =

calculation

M = Data misol. Mae’r un fethodoleg yn cael ei defnyddio mewn perthynas â nifer gyfartalog y gwelyau sy’n cael eu defnyddio bob dydd mewn blwyddyn.

Cyn mis Ionawr 2013, roedd QS1 yn cael ei adrodd yn chwarterol yn hytrach nag yn fisol, felly yn 2012-13, roedd y fethodoleg fel a ganlyn:

Nifer gyfartalog y gwelyau sydd ar gael bob dydd mewn blwyddyn = 

calculation

Ac yn y blynyddoedd cyn 2012-13, roedd y fethodoleg fel a ganlyn:

Nifer gyfartalog y gwelyau sydd ar gael bob dydd mewn blwyddyn  =

 calculation

Q = Data chwarterol, M = Data misol. Defnyddiwyd yr un fethodoleg mewn perthynas â nifer gyfartalog y gwelyau sy’n cael eu defnyddio bob dydd mewn blwyddyn.

Arbenigeddau

Mae pob gwely a phresenoldeb claf yn cael eu dosbarthu yn ôl arbenigedd. Mae gwybodaeth yn ôl arbenigedd ar gael ar StatsCymru ac wedi’i chyfuno i gyfateb i grwpiau arbenigedd a gyflwynir yng Ngeiriadur Data GIG Cymru. Mae amryw o arbenigeddau wedi’u heithrio o’r cyfansymiau ar gyfer nifer gyfartalog y gwelyau sydd ar gael bob dydd, nifer gyfartalog y gwelyau sy’n cael eu defnyddio bob dydd a chanran y gwelyau sy’n cael eu defnyddio, sef: Uned Gofal Arbennig Babanod, Gofal Dibyniaeth Uchel, Gofal Dwys, Uned Therapi Dwys Pediatrig ac Uned Mêr Esgyrn. Mae data ar gyfer y rhain wedi gynnwys o dan yr arbenigedd priodol. Mae data gwelyau ar gael ar gyfer yr arbenigeddau hyn ar StatsCymru hefyd. 

Gwelyau iechyd meddwl ym Mhowys

O 1 Ebrill 2010 ymlaen, trosglwyddodd Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys wasanaethau iechyd meddwl i Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. O 1 Rhagfyr 2015 ymlaen, trosglwyddwyd y rheolaeth dros wasanaethau iechyd meddwl ym Mhowys i Abertawe Bro Morgannwg a Betsi Cadwaladr. Nid yw hyn yn effeithio ar sut mae’r data’n cael ei gyflwyno yn y datganiad hwn nac ar StatsCymru, gan fod y data ar gyfer yr ysbytai perthnasol sy’n cael eu heffeithio gan hyn ym Mhowys wastad wedi’i ddangos yn erbyn Bwrdd Iechyd Lleol Powys (yn unigol ac yng nghyfanswm y bwrdd iechyd), yn hytrach nag yn erbyn y bwrdd iechyd y mae rheolaeth y gwasanaeth wedi’i drosglwyddo iddo.

Awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn symud bwrdd iechyd

Mae’r ddarpariaeth gwasanaeth iechyd ar gyfer pobl Pen-y-bont ar Ogwr wedi symud o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf ers 1 Ebrill 2019. Mae’r cyd-ddatganiad hwn yn rhoi mwy o fanylion. Cadarnhawyd enwau’r byrddau iechyd yn y datganiad hwn, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn newid i fod yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn newid i fod yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Gan fod y datganiad ystadegol hwn yn cynnwys data o’r cyfnod cyn y dyddiad hwn yn unig, mae dadansoddiad o’r byrddau iechyd yn seiliedig ar yr hen ffiniau; fodd bynnag, bydd datganiad y flwyddyn nesaf yn cynnwys data ar ôl 1 Ebrill 2019 a fydd yn seiliedig ar y ffiniau newydd.

Cywirdeb a dibynadwyedd

Nid sampl yw’r data hwn, felly dylai gynnwys yr holl ddata perthnasol.

Data marwolaethau a chyfraddau rhyddhau (cleifion mewnol): Er y dangosir gwybodaeth am nifer gyfartalog y gwelyau sydd ar gael bob dydd ac am gyfraddau defnydd, ni chyflwynir data ar hyd arhosiad cyfartalog, hyd cyfnod trosiant a ffactor defnydd gwelyau. Cyfrifir y dangosyddion hyn gan ddefnyddio data ar farwolaethau a chyfraddau rhyddhau nad ydynt yn cael eu casglu trwy’r ffurflen QS1 mwyach, ac y mae angen iddynt ddeillio o Gronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW) ar gyfer 2012-13 ymlaen. Wrth gynnal dadansoddiad manylach o’r data marwolaethau a chyfraddau rhyddhau o PEDW wrth baratoi ar gyfer datganiad ystadegol 2012-13, cododd materion ansawdd data mewn perthynas ag adrodd gweithgarwch unedau asesu (AU) yn QS1 ac yn PEDW a sut y dylai hyn gael ei drin yn y data. Nodwyd bod anghysondeb yn nulliau adrodd unedau asesu, gyda rhai byrddau iechyd yn adrodd gweithgarwch AU yn eu data gwelyau, ac eraill yn ei hepgor.

Mae angen i bob dangosydd a nodir uchod (hyd arhosiad cyfartalog, hyd cyfnod trosiant a ffactor defnydd gwelyau) gael eu cyfrifo gan ddefnyddio cyfuniad o ddata marwolaethau a chyfraddau rhyddhau o PEDW a data gwelyau o QS1. Fodd bynnag, ar gyfer pob bwrdd iechyd, mae angen i ddata PEDW gael ei baru â’r data QS1 er mwyn sicrhau bod gweithgarwch AU yn cael ei adrodd yn yr un modd. Er enghraifft, os bydd bwrdd iechyd yn cynnwys gweithgarwch AU yn nata gwelyau QS1, bydd angen cael data PEDW fel bod gweithgarwch AU wedi’i gynnwys yn y ffigur marwolaethau a chyfraddau rhyddhau fel y gall y dangosydd gael ei gyfrifo mewn modd cyson. Mae’r ymarfer hwn o baru data PEDW â’r data QS1 yn gofyn am waith ansawdd data, felly dim ond y dangosyddion hynny sy’n deillio o QS1 y mae’r datganiad hwn yn ei gyflwyno h.y. nifer gyfartalog y gwelyau sydd ar gael bob dydd a nifer gyfartalog y gwelyau sy’n cael eu defnyddio bob dydd.

Er mai dim ond data o’r ffurflen QS1 ar nifer gyfartalog y gwelyau sydd ar gael bob dydd a nifer gyfartalog y gwelyau sy’n cael eu defnyddio bob dydd a gyflwynir yn y datganiad hwn, mae’r gwaith sicrhau ansawdd wedi nodi nad yw pob bwrdd iechyd wedi adrodd gweithgarwch AU yn yr un modd ar gyfer eu data gwelyau. Er y nodwyd yr anghysondeb hwn yn y dulliau adrodd gweithgarwch AU ar gyfer datganiad 2012-13, mae’n debygol y gallai’r data hanesyddol hwn gael ei effeithio hefyd.

Oherwydd y materion ansawdd data, cynghorir defnyddwyr i fod yn ofalus wrth wneud cymariaethau data, yn enwedig ar lefel bwrdd iechyd.

Ailgodio yn 2016-17

Nodwyd bod Gwasanaeth Glasoed Gogledd Cymru wedi symud o’i safle ym Mae Colwyn i Ysbyty Abergele yn 2009. Cyn 2009-10, roedd y gwelyau hyn yn cael eu cofnodi o dan Wasanaeth Glasoed Gogledd Cymru ond, ers 2009-10, maent wedi’u cofnodi o dan gyfanswm Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn hytrach nag o dan safle ysbyty. Yn ystod 2016-17, cytunwyd y dylai’r data hwn gael ei gofnodi o dan Abergele, ac adlewyrchir y newid hwn yn y cyhoeddiad.

Cyflwynodd Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Athrofaol Llandochau ddata o dan yr arbenigedd niwroleg yn 2016-17. Adroddwyd y data hwn o dan niwroleg arall, gan fod hyn yn cyfateb i’r ffordd mae data’n cael ei gyflwyno gan ysbytai eraill.

Ailgodio yn 2017-18 a 2018-19

O fis Ebrill 2016 ymlaen, cyflwynwyd codau newydd ar gyfer disgrifio arbenigeddau i ychwanegu mwy o fanylion at gasgliadau data. Mae mwy o fanylion ar gael ar y Geiriadur Data. Hyd nes y bydd pob bwrdd iechyd yn gallu adrodd data yn gyson gan ddefnyddio’r codau mwy manwl, mae arbenigeddau wedi’u hailgodio fel eu disgrifiad blaenorol i osgoi adroddiadau anghyson. Yn benodol, mae data ‘Llawdriniaeth y Fron’ wedi’i ailgodio fel ‘Llawdriniaeth Gyffredinol’ gan mai dyma sut y mae’r data wedi’i gofnodi yn hanesyddol. Mae ‘Meddygaeth Strôc’ wedi’i ailgodio fel ‘Meddygaeth Gyffredinol’ a ‘Radioleg Ymyriadol’ fel ‘Radioleg’.

Mae pob allbwn yn cynnwys gwybodaeth am gwmpas, amseru a daearyddiaeth.

Nid oes unrhyw ddiwygiadau wedi’u gwneud i’r data eleni. Os bydd data anghywir yn cael ei gyhoeddi, er bod hynny’n annhebygol, byddai diwygiadau’n cael eu gwneud a byddai defnyddwyr yn cael eu hysbysu yn unol â’n trefniadau Diwygiadau, Camgymeriadau a Gohiriadau.
 

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae pob allbwn yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer trwy gyhoeddi’r dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw trwy’r Calendr ‘I Ddod’. At hynny, os bydd angen gohirio allbwn, byddai hyn yn dilyn ein trefniadau Diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau.

Mae data’n cael ei gasglu’n fisol gan NWIS.

Yn ogystal, gan fod y data’n cael ei gyhoeddi’n flynyddol, mae’n annhebygol y bydd cyflwyniadau hwyr yn cael effaith sylweddol ar y cyhoeddiad blynyddol gan Lywodraeth Cymru.

Hygyrchedd ac eglurder

Caiff yr ystadegau blynyddol eu cyhoeddi mewn ffordd hygyrch a threfnus a gyhoeddir ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi. Mae ffrwd RSS yn hysbysu defnyddwyr cofrestredig am y cyhoeddiad hwn. Yr un pryd, mae’r allbynnau’n cael eu rhestru ar yr Hyb Cyhoeddi Ystadegau Gwladol. Rydym yn cyhoeddi’r allbynnau ar Twitter hefyd. Mae’r holl allbynnau ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

Mae data manylach ar gael yr un pryd ar wefan StatsCymru a gellir ei ddefnyddio ar-lein neu ei lawrlwytho i daenlenni i’w ddefnyddio all-lein.

Ein nod yw defnyddio Cymraeg clir yn ein hallbynnau, gan gydymffurfio â pholisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. At hynny, cyhoeddir ein holl benawdau yn y Gymraeg a’r Saesneg. I gael mwy o wybodaeth am yr ystadegau, cysylltwch â’r staff perthnasol y ceir eu manylion yn yr erthygl/pennawd hwn neu drwy ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Cymaroldeb a chydlyniaeth

Mae gwledydd eraill y DU yn cyhoeddi ystadegau gwelyau hefyd.

Mae NHS England yn cyhoeddi ystadegau ar y defnydd o welyau ar ei wefan.

Mae’r Information Services Division (ISD) yn NHS Scotland yn cyhoeddi ystadegau ar y defnydd o welyau ar ei gwefan.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r Department of Health yn cyhoeddi ystadegau ar y defnydd o welyau ar ei gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru, sef Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016. 
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaeth cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Defnyddwyr a defnyddiau

Credwn mai dyma ddefnyddwyr allweddol yr ystadegau hyn:

  • Gweinidogion a’u cynghorwyr
  • Aelodau’r Cynulliad a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn y Cynulliad 
  • llunwyr polisi Llywodraeth Cymru
  • adrannau eraill y llywodraeth  
  • GIG Cymru
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • y cyfryngau 
  • dinasyddion unigol.

Defnyddir yr ystadegau mewn llawer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys:

  • i ddarparu cyngor i Weinidogion
  • i lywio trafodaeth yn y Cynulliad a thu hwnt
  • i fonitro’r defnydd o welyau ar draws y gwahanol arbenigeddau ac mewn gwahanol rannau o Gymru 
  • i helpu i bennu’r gwasanaeth y gall y cyhoedd ei dderbyn gan y sefydliadau perthnasol.

Os ydych chi’n ddefnyddiwr ond nad ydych chi’n teimlo bod y rhestr uchod yn eich cwmpasu chi’n ddigonol, rhowch wybod i ni.

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Mwy o fanylion

Mae’r ddogfen ar gael yn: Gwelyau y GIG.

Gellir lawrlwytho’r data a gyflwynir yn y datganiad hwn o’n tablau StatsCymru. Mae’r tablau hyn yn cynnwys dadansoddiadau data pellach megis yn ôl arbenigedd ac ysbyty.

Mae mwy o wybodaeth am y diffiniadau o dermau a ddefnyddir yn y datganiad hwn, ac am ffynonellau data, ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru.

Newid ffynhonnell data ar gyfer Gweithgarwch Cleifion Allanol (heb ei ddadansoddi yn y datganiad hwn)

Yn dilyn asesiadau ac adolygiadau ansawdd data ac mewn ymgynghoriad â chynrychiolwyr byrddau iechyd, penderfynwyd nad oedd hi’n ofyniad cenedlaethol mwyach i gasglu eitemau data o’r ffurflen QS1 a oedd yn deillio o setiau data lefel cleifion. O ganlyniad, ers 2012-13, yr Outpatient Activity Minimum Dataset (OP MDS) yw ffynhonnell ystadegau swyddogol ar gyfer gweithgarwch cleifion allanol yn y GIG yng Nghymru, yn hytrach na’r ffurflen QS1.

Mae sawl mantais i’r dull hwn mae cael un ffynhonnell ddata ar gyfer data gweithgarwch cleifion allanol yn dileu’r baich ar ddarparwyr data i gyflenwi data ar gyfer dwy set ddata debyg, yn dileu’r dryswch i ddadansoddwyr a defnyddwyr sy’n bodoli trwy fod â dwy set ddata debyg sy’n cynnwys gwahanol ddata mewn rhai achosion, ac yn galluogi mwy o fanylder ar gyfer ymchwil a chloddio data (mae’r OP MDS yn darparu data lefel cleifion, tra bod y casgliad data QS1 yn darparu data lefel uchel cryno).

Mae data ar gyfer gweithgarwch cleifion allanol ar gael ar StatsCymru.