Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyfartaledd fesul blwyddyn ariannol (Ebrill i Fawrth y flwyddyn ganlynol) yw’r data a gyflwynir yn y pennawd ystadegol hwn ac maent yn dangos y newid blynyddol yng nghyfraddau’r gwelyau llawn a’r gwelyau sydd ar gael. Mae cyfres data fisol waelodol hefyd ar gael: Gwelyau GIG (StatsCymru)

Prif bwyntiau

Mae’r data diweddaraf yn dangos cynnydd bach yn nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau sydd ar gael a gwelyau llawn. Cynyddodd y gyfradd gwelyau llawn ychydig hefyd. Mae nifer y gwelyau sydd ar gael a gwelyau llawn yn dal ychydig yn is na’r lefelau cyn y pandemig. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r duedd hirdymor o leihad yn nifer y gwelyau sydd ar gael a gwelyau llawn wedi lefelu rhywfaint.

Yn 2023-24, nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau a oedd ar gael oedd 10,447, sef cynnydd o 47 (0.4%) o’i gymharu â 2022-23.

Yn 2023-24, nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau llawn oedd 9,020, sef cynnydd o 132 (1.5%) o’i gymharu â 2022-23.

Yn 2023-24, canran gwelyau llawn y GIG oedd 86.3%. Mae hyn yn gynnydd o 0.8 pwynt canran o gymharu â 2022-23.

Newid hirdymor

Ers i’r casgliad data presennol ddechrau ym 1996-97, mae nifer cyfartalog dyddiol y gwelyau llawn a’r gwelyau sydd ar gael wedi gostwng, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maent wedi lefelu. Cynyddodd ganran y gwelyau llawn yn raddol tan 2016-17. Wedi gostyngiad yn ystod 2020-21, cynyddodd y gyfradd gwelyau llawn yn sydyn yn 2022 ac mae wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf.

Cefndir pellach

Noder mai’r strategaeth hirdymor ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru yw darparu gofal yn agosach at y cartref drwy gynyddu gwasanaethau cymunedol a meddygon teulu, gan arwain at lai o alw am welyau ysbyty dros amser. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn ‘Cymru iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol’.

Mae datblygiadau mewn technoleg gofal iechyd hefyd wedi arwain at hyd arhosiad byrrach a mwy o lawdriniaethau dydd. Mae data ar yr hyd arhosiad cyfartalog ar gael ar Data Gofal Cleifion a Dderbyniwyd (APC) ar gael Ar-lein (Iechyd a Gofal Digidol Cymru y GIG).

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rhys Strafford
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099