Nifer gwelyau’r GIG ar lefel Cymru a Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwelyau y GIG
Prif bwyntiau
- Y nifer cyfartalog o welyau a oedd ar gael yn ddyddiol yn 2019-20 oedd 10,564.4, sy’n gynnydd o 15.5 (0.1%) o gymharu â 2018-19.
- Y nifer cyfartalog o welyau a oedd mewn defnydd yn ddyddiol yn 2019-20 oedd 9,033.3, gostyngiad o 137.2 (1.5%) o gymharu â 2018-19.
- Canran defnydd gwelyau’r GIG yn 2019-20 oedd 85.5%, gostyngiad o 1.4 pwynt canran o gymharu â 2018-19.
Newid mewn deng mlynedd
- Mae’r duedd hirdymor yn dangos, er bod nifer cyfartalog y gwelyau wedi gostwng, fod canran y defnydd wedi cynyddu.
- Mae nifer cyfartalog y gwelyau a oedd ar gael yn ddyddiol wedi gostwng 2,242.3 (17.5%) ers 2009-10.
- Mae canran defnydd gwelyau’r GIG wedi cynyddu 4.0 pwynt canran ers 2009-10.
Nodyn
Nodwch mai’r strategaeth hirdymor ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru yw darparu gofal yn agosach at y cartref drwy gynyddu gwasanaethau cymunedol a meddyg teulu. Gellir gweld rhagor o wybodaeth am hyn yn ‘Cymru Iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol’.
Mae datblygiadau mewn technoleg gofal iechyd hefyd wedi arwain at arosiadau byrrach a mwy o lawdriniaethau dydd. Mae data ar hyd cyfartalog yr arosiadau yn yr ysbyty ar gael ar gwefan Gwybodaeth ac ystadegau.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.