Neidio i'r prif gynnwy

Diffiniadau

Y gwelyau sydd ar gael yn ddyddiol ar gyfartaledd: Nifer y gwelyau wedi’u staffio a’r gwelyau dros dro sydd ar gael yn ddyddiol ar gyfartaledd. Nid yw hyn yn cynnwys y rhai mewn unedau gofal arbennig i fabanod neu unedau therapi dwys.

Defnydd o welyau’n ddyddiol ar gyfartaledd: Nifer y gwelyau a ddefnyddir yn ddyddiol ar gyfartaledd, gan gleifion sydd dan ofal ymgynghorydd mewn arbenigedd triniaeth penodol. Mae’r nifer yn cynnwys cleifion mewnol yn unig, nid achosion dydd.

Canran y defnydd:  Cyfran y gwelyau sydd ar gael sy’n cael eu defnyddio gan gleifion sydd dan ofal ymgynghorydd mewn arbenigedd triniaeth penodol.

Ceir diffiniadau llawn yn Gwelyau y GIG: adroddiad ansawdd.

Prif bwyntiau

  • Mae’r duedd hirdymor yn dangos, er bod nifer cyfartalog y gwelyau wedi gostwng, bod canran y defnydd wedi cynyddu.
  • Parhaodd nifer y gwelyau sydd ar gael yn ddyddiol ar gyfartaledd i ostwng eleni ac mae wedi lleihau bron i draean ers 1996-97.
  • Mae canran y defnydd o’r gwelyau sydd ar gael yn y GIG wedi cynyddu yn gyffredinol ers 1996-97. Fodd bynnag, bu gostyngiad bach dros y 2 flynedd flaenorol.
  • O’r wyth bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth, roedd gostyngiad wedi bod yn y gwelyau oedd ar gael gan chwech ohonynt, a chynnydd wedi bod yng nghanran y defnydd gan dri ohonynt.
  • Seiciatreg yr henoed oedd yr arbenigedd triniaeth lle gwelwyd y gostyngiad mwyaf yn y gwelyau oedd ar gael, o’i gymharu â’r llynedd. Gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn meddygaeth gyffredinol. 

Siart llinell yn dangos nifer y gwelyau sydd ar gael yn ddyddiol ar gyfartaledd a chanran y defnydd ohonynt dros amser. Yn 2018-19, roedd 10,564 o welyau ar gael yn y GIG yn ddyddiol, y nifer isaf ar gofnod. Yn 2018-19, roedd canran defnydd gwelyau’r GIG yn 86.8%.

Data cryno ar welyau'r GIG yn ôl blwyddyn ar StatsCymru

Nifer y gwelyau sydd ar gael yn ddyddiol ar gyfartaledd a chanran y defnydd ohonynt

Y data diweddaraf

  • Yn 2018-19, roedd 10,564 o welyau ar gael yn y GIG yn ddyddiol, y nifer isaf ar gofnod. 
  • Yn 2018-19, roedd canran defnydd gwelyau’r GIG yn 86.8%.

Newid ers y llynedd

  • Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu gostyngiad o 149 (1.4%) yn y gwelyau sydd ar gael ar gyfartaledd.
  • Mae canran y defnydd wedi gostwng 0.2 pwynt canran ers 2017-18.

Newid mewn deng mlynedd

  • Mae nifer y gwelyau sydd ar gael ar gyfartaledd wedi gostwng 2,552 (neu 19.5 %) ers 2008-09. Mae’r gostyngiad yn nifer y gwelyau sydd ar gael ar gyfartaledd rhwng y blynyddoedd wedi arafu o’i gymharu â deng mlynedd yn ôl. Bu gostyngiad o 241 gwely (1.8%) rhwng 2007-08 a 2008-09, o’i gymharu â gostyngiad o 149 gwely eleni (1.4%).
  • Mae canran y defnydd wedi cynyddu 4.3 pwynt canran ers 2008-09. Yn nodweddiadol, mae canran y defnydd yn weddol sefydlog o flwyddyn i flwyddyn, gyda chynnydd bach yn y ganran. 

Newid ers 1996-97

  • Mae nifer cyfartalog y gwelyau sydd ar gael wedi gostwng bob blwyddyn ers y tro cyntaf i’r datganiad QueSt 1 fod ar gael ar ei ffurf bresennol, sef 1996-97. Yn ystod y cyfnod hwn bu gostyngiad cyffredinol o 5,019 (32.2%) o welyau, o 15,582 i 10,564.
  • Mae canran y defnydd wedi codi 8.5 pwynt canran ers 1996-97. Bu tuedd gyson ar i fyny yng nghanran y defnydd ers i’r data ddechrau cael eu casglu ar sail gymharol. 

Y cyd-destun polisi

  • Y strategaeth ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru yn y tymor hir yw darparu gofal yn nes at gartrefi pobl drwy gynyddu gwasanaethau yn y gymuned a gwasanaethau meddygon teulu. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adroddiad 'Cymru Iachach: y cynllun tymor hir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol'.
  • Mae datblygiadau ym maes technoleg gofal iechyd hefyd yn golygu bod pobl yn treulio llai o amser yn yr ysbyty a bod mwy o driniaethau dydd yn cael eu cynnal. Mae data ynghylch hyd arhosiad ar gyfartaledd ar gael yn PEDW ar-lein

Crynodeb yn ôl bwrdd iechyd lleol

Y data diweddaraf

  • Yn 2018-19, gan fyrddau Betsi Cadwaladr ac Abertawe Bro Morgannwg yr oedd y nifer mwyaf o welyau dyddiol ar gyfartaledd (2,221 a 2,150 yn y drefn honno). 
  • Gan Felindre a Phowys yr oedd y lleiaf o welyau ar gael (40 a 214 yn y drefn honno). 
  • Gan Hywel Dda yr oedd y ganran uchaf o welyau ar gael, sef 88.3 %, a chan Felindre yr oedd y ganran leiaf, sef 69.9 %.

Newid ers y llynedd

  • Rhwng 2017-18 a 2018-19 cafwyd gostyngiad yn nifer y gwelyau dyddiol oedd ar gael ar gyfartaledd mewn chwech o’r wyth bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth yng Nghymru.  
  • Betsi Cadwaladr oedd yr unig fwrdd iechyd a welodd gynnydd mewn gwelyau yn ystod y cyfnod hwn, ac arhosodd Felindre yr un fath. 
  • Cynyddodd canran y defnydd mewn tri o’r byrddau iechyd lleol/ymddiriedolaethau, sef Cwm Taf, Hywel Dda a Phowys; a chafwyd gostyngiadau yn y byrddau/ymddiriedolaethau eraill. 
  • Cwm Taf a welodd y cynnydd uchaf yng nghanran y defnydd (2.5 pwynt canran), ac yn Felindre y bu’r gostyngiad mwyaf (6.8 pwynt canran) yng nghanran y defnydd.

Newid ers 2009-10

Sefydlwyd y byrddau iechyd a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn 2009-10. Ers hynny, mae nifer cyfartalog y gwelyau sydd ar gael yn ddyddiol wedi gostwng ym mhob un.

  • Roedd y gostyngiad mwyaf ym mwrdd Betsi Cadwaladr, sef 523 o welyau (19.1 %). 
  • Roedd y gostyngiad lleiaf yn Felindre, sef 11 o welyau (22.2 %) (ond mae yn llawer llai na’r saith bwrdd iechyd).
  • Roedd cynnydd yng nghanran y defnydd ar gyfer chwe bwrdd iechyd. Betsi Cadwaladr oedd a’r cynnydd uchaf, yn codi 12.2 pwynt canran o 74.3 % i 86.5 %. 
  • O’r ddau fwrdd iechyd a welodd ostyngiad yn y defnydd, roedd y gostyngiad mwyaf yn Felindre, sef 8.3 pwynt canran, o 78.3 % i 69.9 %. 

Tabl 1: Newidiadau canrannol yng ngwelyau sydd ar gael yn ddyddiol ar gyfartaledd yn ôl bwrdd iechyd lleol

Tabl 2: Newidiadau pwynt canran yng nghanran y defnydd yn ôl bwrdd iechyd lleol

Gwelyau'r GIG yn ôl sefydliad a safle ar StatsCymru

Crynodeb yn ôl arbenigedd triniaeth

Noder: mae’n bosibl mai’r rheswm dros rai o’r newidiadau a ddangosir isod yw bod arbenigeddau triniaeth wedi’u hailddosbarthu. Mae’n bosibl hefyd fod newidiadau i’r manylion codio yn effeithio ar y niferoedd a gofnodir.

Mae’r sylwebaeth a ganlyn yn canolbwyntio ar y deg arbenigedd triniaeth eleni. Ceir data am yr holl arbenigeddau ar gael ar StatsCymru.

Y data diweddaraf

  • Y pum arbenigedd triniaeth uchaf yn 2018-19 oedd yn gyfrifol am 55.1% o’r gwelyau oedd ar gael yn ddyddiol yng Nghymru ar gyfartaledd. 
  • Yr arbenigedd triniaeth â’r nifer uchaf o welyau ar gael yn ddyddiol ar gyfartaledd oedd meddygaeth gyffredinol, gyda 2,163 o welyau.
  • O’r pum arbenigedd uchaf, ‘meddygaeth geriatrig’ oedd â’r canran defnydd uchaf yn 2018-19 (96.3 %). ‘trawma ac orthopedeg’ oedd â’r canran defnydd isaf eleni (83.5 %).

Newid ers y llynedd

  • Rhwng 2017-18 a 2018-19, yn y maes arbenigedd seiciatreg yr henoed y cafwyd y gostyngiad mwyaf yn nifer y gwelyau oedd ar gael yn y GIG yn ôl arbenigedd (51 yn llai o welyau, neu 8.5 %).
  • Mewn meddygaeth gyffredinol yr oedd y cynnydd mwyaf yn y gwelyau oedd ar gael (45 yn fwy o welyau, neu 2.1 %). Yn yr arbenigedd hwn, mae canran y defnydd wedi lleihau ychydig (llai nag un pwynt canran) o’i gymharu â 2017-18.
  • Rhwng 2017-18 a 2018-19, ym maes damweiniau ac achosion brys y gwelwyd y gostyngiad mwyaf yng nghanran y defnydd, sef gostyngiad o 13.7 pwynt canran o 66.9 % i 53.2 %. 
  • Mewn opthalmoleg yr oedd y cynnydd uchaf yng nghanran y defnydd, sef  10.4 pwynt canran, o 75.7 % i 86.0 %.

Newid ers 1996-97

  • Mewn meddygaeth geriatrig (58.4 %) a seiciatreg yr henoed (59.7 %) y gwelwyd y cwymp mwyaf yn nifer y gwelyau oedd ar gael. Mae’r ffigurau wedi gostwng fwy na’u hanner ers 1996-97.
  • Mewn gwasanaethau adsefydlu y gwelwyd y cynnydd mwyaf yn nifer y gwelyau oedd ar gael, sef bron mwy na dwywaith a hanner yn fwy o welyau  (241.5 %) yn fwy o welyau nag yn 1996-97.
  • O blith yr arbenigeddau mwyaf eleni, gwelwyd y cynnydd mwyaf yng nghanran y defnydd mewn meddygaeth geriatrig. Cynyddodd 14.3 pwynt canran i 96.3 % eleni. 
  • Ni chafwyd unrhyw ostyngiad yng nghanran y defnydd ymhlith yr arbenigeddau mwyaf eleni. 

Tabl 3: Newidiadau canrannol yng ngwelyau sydd ar gael yn ddyddiol ar gyfartaledd yn ôl arbenigedd triniaeth

Tabl 4: Newidiadau pwynt canran yng nghanran y defnydd yn ôl arbenigedd triniaeth

Gwelyau'r GIG yn ôl arbenigedd ar StatsCymru

Gwybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg

Yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am yr allbwn hwn o dan bum agwedd ar ansawdd.

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Chris Wallace
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
Ebost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau
Ffôn: 0300 025 8099

SFR 67/2019