Bydd gwaith hanfodol yn cael ei wneud ar yr A483 yn Wrecsam rhwng cyffyrdd 5 a 7 i gynyddu darn o’r 2 fan croesi llain ganol ynghyd ag uwchraddio systemau draenio a rhwystrau.
Bydd y gwaith yn dechrau ar 1 Mehefin ac wedi’i drefnu i bara am 6 wythnos. Mae'r gwelliannau hyn i’r mannau croesi yn hanfodol er mwyn sicrhau bod trefniadau gwrthlif ar waith i hwyluso gwaith gosod wyneb newydd ar y gerbytffordd yn y dyfodol.
Mae angen gosod wyneb newydd yn y lleoliad hwn yn ddiweddarach eleni. Mae’n rhaid gwneud y gwaith hwn i gynnal cyflwr y ffordd a sicrhau diogelwch y cyhoedd sy'n teithio.
Er mwyn gwneud y gwaith o osod wyneb newydd yn ddiweddarach eleni yn ddiogel a chyn gynted â phosibl, bydd traffig yn cael ei roi mewn trefniant gwrthlif gan ddefnyddio'r mannau croesi yn y llain ganol. Aseswyd y mannau croesi hyn a nodwyd bod angen eu huwchraddio er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel i'w defnyddio pan fo angen.
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith presennol yn cael ei wneud gan gau dwy lôn yn ddi-dor i'r ddau gyfeiriad. Yn ogystal, bydd y ffordd yn cael ei chau’n llawn dros nos am bedair noson yn olynol ar ddechrau'r prosiect i osod system rhwystr amddiffynnol dros dro, ac ar ôl cwblhau’r gwaith er mwyn tynnu’r rhwystr oddi yno.
Bydd y set gyntaf o gau’r ffordd dros nos yn digwydd rhwng cyfnewidfa Ffordd yr Wyddgrug (C5) a chyfnewidfa Gresffordd (C6) i'r ddau gyfeiriad rhwng 1 Mehefin a 3 Mehefin.
Bydd y llwybr dargyfeirio drwy'r A541/A5152. Bydd yr ail set dros nos rhwng cyfnewidfa Gresford (C6) a chyfnewidfa’r Orsedd (C7) rhwng 3 Mehefin a 5 Mehefin, bydd y llwybr dargyfeirio drwy’r B5102 a B5445.
Wedi hynny, bydd y ffordd ar gau dros nos rhwng 7 a 11 Gorffennaf, ac yn effeithio ar draffig rhwng C5 a C7 a’r wahanol nosweithiau.
Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl, mae 1 lôn ar gael yn ystod y dydd i ganiatáu i draffig fynd i'r 2 gyfeiriad ac mae'r gwaith sy’n tarfu fwyaf wedi'i drefnu dros nos.
Cytunwyd ar y gwaith cynllunio ar gyfer hyn gyda chyngor Wrecsam, cyngor gorllewin Swydd Gaer a Chaer a Highways England.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am drafnidiaeth:
"Mae buddsodd yn ein seilwaith yng Ngogledd Cymru a’i gynnal yn hanfodol bwysig.
"Mae’r gwaith yn hanfodol i gynnal y rhan hon o’r A483, sy’n rhan allweddol o’r seilwaith o amgylch Wrecsam, yn ogystal â bod yn gyswllt allweddol i dde Cymru a Lloegr.
"Diogelwch y cyhoedd sy'n teithio yw ein blaenoriaeth, a bydd y gwaith hwn yn caniatáu i'r gwaith diweddarach mwy sylweddol ddigwydd gyda chyn lleied o darfu â phosibl.
Gall defnyddwyr ffyrdd ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am draffig a diweddariadau am y prosiect ar wefan Traffig Cymru neu sianel Twitter: Traffig Cymru.