Neidio i'r prif gynnwy

Ein Dadansoddwr Data ac Arweinydd Cyhoeddi, Dave Jones, yn esbonio ein dull o ymdrin ag ystadegau yn Awdurdod Cyllid Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel awdurdod treth, sy’n casglu a rheoli trethi Cymru, mae ein gwasanaethau’n cael eu defnyddio gan bobl yng Nghymru a thu hwnt.

Rydym wedi helpu pobl i ffeilio treth ar-lein ers i ni ddechrau gweithredu ym mis Ebrill 2018. Erbyn hyn, mae bron i 99% o ffurflenni treth yn cael eu ffeilio'n ddigidol.

O ganlyniad i hynny, gallwn ddefnyddio'r data digidol sydd gennym i'n helpu i lywio ein penderfyniadau ynglŷn â gwasanaethau treth. Gwyddom fod hyn yn cael effaith uniongyrchol ar y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.

Ein hystadegau blynyddol cyntaf

Rydym hefyd, fel sefydliadau llywodraeth eraill, yn gyhoeddwr ystadegau swyddogol ac mae gennym ddull tryloyw o wneud hynny.

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran datblygu ein hystadegau ers i ni gyhoeddi hanes y Tîm Data a Dadansoddi hydref diwethaf.

Rydym wedi bod yn cyhoeddi ystadegau misol a chwarterol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ac ystadegau chwarterol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) ers Ebrill 2018.

Ym mis Mai, gwnaethom gyhoeddi ein hystadegau blynyddol cyntaf ar gyfer y ddwy dreth. Roedd ein Ystadegau TTT Blynyddol yn cynnwys dadansoddiadau newydd o fewn Cymru:

  • yn ôl awdurdod lleol
  • yn ôl Etholaeth Cynulliad
  • yn ôl lefel amddifadedd, gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Mae siart yn dangos gwerth cyfartalog eiddo fesul trafodiad preswyl yn Ebrill 2018 i Fawrth 2019, ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru. Ar gyfer trafodiadau preswyl, roedd y gwerthoedd eiddo cyfartalog (neu gydnabyddiaeth) uchaf, fesul trafodiad yn Sir Fynwy (£274,000) a Bro Morgannwg (£245,700), ac isaf ym Mlaenau Gwent (£102,200) a Merthyr Tudful (£109,000).

Gwneud ein hystadegau'n hygyrch

Yn gynharach eleni, symudodd ein hystadegau i'r Tudalennau Ystadegau ac Ymchwil newydd ar lwyfan LLYW.CYMRU lle’r ydym yn cynnal ein gwe-dudalennau.

Rydym wedi dechrau cyhoeddi ein datganiadau ystadegol fel gwe-dudalennau dogfen HTML hygyrch. Er enghraifft, y datganiadau chwarterol diweddaraf ar gyfer TTT a TGT.

Rydym yn credu fod y newid hwn yn gwneud yr ystadegau'n haws i'w defnyddio a'u deall.

Data agored ar StatsCymru

Yn yr haf, gwnaethom lansio setiau data agored newydd ar gyfer TTT ar Gwefan StatsCymru. Mae hyn yn rhoi data manylach nag o'r blaen i ddefnyddwyr ein hystadegau.

Mae hyn yn cynnwys y data daearyddol a gyhoeddwyd gennym gyda'n hystadegau TTT, a data ar gyfer ardaloedd adeiledig a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Rydym hefyd wedi cyhoeddi set ddata ar gyfer TTT.

Diddordeb mewn ystadegau?

Hoffem gael adborth gan unrhyw un sy'n defnyddio ein hystadegau. Os ydych yn gwneud hynny:

  • sut ydych chi'n eu defnyddio?
  • a ydyn nhw’n cwrdd â’ch anghenion?
  • sut y gellir eu gwella?
  • sut y gellir ychwanegu rhagor o dadansoddiadau atynt?

Cysylltwch â ni: data@acc.llyw.cymru