Mae gweithredu i helpu’r bobl sydd wedi’u taro galetaf gan effeithiau economaidd y coronafeirws yn hanfodol i adferiad Cymru, meddai Gweinidog yr Economi, Ken Skates.
Yn ôl Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw, llwyddwyd i gynnal lefelau cyflogaeth ar 74.4% dros y tri mis diwethaf yng Nghymru, ond mae pawb yn disgwyl iddyn nhw ostwng wrth i gynlluniau cymorth incwm Llywodraeth y DU gael eu cwtogi.
Fel rhan o’i hymrwymiad i ailgodi’n gryfach, mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu pecyn cymorth cynhwysfawr i wella sgiliau a gwneud pobl yn fwy cyflogadwy.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y bydd yn cynnig cyngor a chymorth i bawb dros 16 oed yng Nghymru i gael hyd i waith, i fynd yn hunangyflogedig neu i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant.
Bydd hefyd yn helpu cyflogwyr i recriwtio a blaenoriaethu’r bobl sydd fwyaf tebygol o ddioddef yn economaidd oherwydd coronafeirws (COVID-19), gan gynnwys pobl ifanc, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl.
Apeliodd y Gweinidog eto heddiw ar i Lywodraeth y DU roi rhagor o help i’r 316,000 a mwy o bobl yng Nghymru sydd ar hyn o bryd o dan ffyrlo a’r 102,000 o bobl hunangyflogedig yng Nghymru sy’n derbyn y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, i wneud yn siŵr y byddan nhw’n gallu mynd yn ôl i’r gwaith pan ddaw’r pandemig i ben.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:
Rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n ddiflino i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chefnogi busnesau yng Nghymru dros gyfnod aruthrol o anodd.
Rydyn ni’n sylweddoli nad yw’r Ystadegau Marchnad Lafur heddiw’n dangos y darlun economaidd llawn a bod economegwyr yn rhagweld na welwn yr effaith gyfan tan fis Hydref.
Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i liniaru effeithiau’r clefyd erchyll hwn ac mae’n pecyn cymorth o £1.7bn yn golygu bod busnesau Cymru’n cael manteisio ar becyn cymorth sy’n fwy hael nag unrhyw beth arall yn y Deyrnas Unedig.
“Rydym eisoes wedi neilltuo bron £1bn ohono i gwmnïau ym mhob rhan o’r wlad ac mae mwy i ddod, a bydd ein Cronfa Cadernid Economaidd o £500m yn ailagor i ragor o geisiadau yn ddiweddarach y mis hwn.
Ond law yn llaw â’n pecyn o gymorth i fusnesau, rhaid sicrhau help hefyd i’r bobl sydd wedi colli gwaith neu gyfleoedd hyfforddi oherwydd y pandemig.
Rydym yn cymryd camau i wneud hynny’n union trwy ddatblygu pecyn cynhwysfawr o gymorth i helpu pobl i wella’u sgiliau ac i gael gwaith newydd er mwyn inni allu gwarchod cenhedlaeth – yn enwedig y mwyaf bregus yn ein cymdeithas – rhag creithiau posibl diweithdra. Os bydd angen, defnyddiwn hyd at £40m o’n Cronfa Cadernid Economaidd i wneud hyn.
Rhaid sicrhau bod y pecyn hwn yn ychwanegu at werth unrhyw gynllun y gallai Llywodraeth y DU ei gyflwyno ac nad oes unrhyw ddyblygu.
Mae’n gwbl hanfodol bod Llywodraeth y DU yn rhoi rhagor o help i’r bobl sydd ar hyn o bryd o dan ffyrlo ac i’r rheini sydd mewn perygl o golli’u gwaith.
Mae effeithiau’r coronafeirws wedi bod yn anferthol ac eang ond gall fod yn gyfle i newid hanfod ein heconomi wrth inni allu ailgodi’n gryfach a chreu dyfodol sy’n decach, yn fwy cynhwysol ac yn fwy cynaliadwy.