Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Ym mis Gorffennaf 2023, comisiynodd Llywodraeth Cymru Dîm ASPIRE (Rhoi Gwerthusiad Ymchwil Annibynnol i Ysgolion a Charchardai ar Waith) am gyfnod o 12 mis i:

  • adolygu’r llenyddiaeth a’r arferion presennol sy’n ymwneud â chymorth i blant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar
  • ystyried i ba raddau y mae model y 'parth ysgol' yng Ngharchar ei Fawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc yn cynrychioli arferion da a sut y mae'n gweithredu
  • ystyried sut olwg a allai fod ar fodel cenedlaethol o gymorth i blant yng Nghymru yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar

Mae carcharu aelod o’r cartref wedi’i nodi yn Brofiad Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a all gael effaith negyddol ar iechyd a llesiant plant yn y dyfodol (Felitti et al., 1998; Kincaid et al., 2019; Brown, 2020). Yn ogystal ag ymdeimlad sylweddol o golled, mae llawer o blant yn profi stigma, ynysigrwydd cymdeithasol, cywilydd ac ofn (Jones et al., 2013). Er bod astudiaethau niferus wedi amlygu’r effaith ddinistriol bosibl ar blant o garcharu rhiant (Condry a Scharff Smith, 2018; Jones et al., 2013; Kincaid, Roberts a Kane, 2019; Robertson, 2011), prin yw’r llenyddiaeth sydd ar gael ynghylch yr hyn sy’n gweithio o ran gwella canlyniadau i blant.

Darparodd model y Parth Ysgol Waliau Anweledig yr ysgogiad i Lywodraeth Cymru gomisiynu prosiect ASPIRE ac ystyried model cymorth Cymru gyfan.

Mae tîm ASPIRE yn gydweithrediad dan arweiniad Families Outside (elusen genedlaethol yn yr Alban sy'n cefnogi teuluoedd y mae carcharu yn effeithio arnynt) a gefnogir gan Brifysgol Huddersfield, Prifysgol Caerdydd, dau ymgynghorydd annibynnol sy'n arbenigo mewn polisi ac ymarfer mewn perthynas â phlant y mae carcharu yn effeithio arnynt, a dau gynorthwyydd ymchwil.

Cyflwynwyd ASPIRE mewn pum cam allweddol rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Mehefin 2024

  • cam un: cyflwyniad a gosod y sylfeini
  • cam dau: adolygiad o fodel y Parth Ysgol yng Ngharchar ei Fawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc
  • cam 3: adeiladu sylfaen ar gyfer model cynhwysfawr o gymorth
  • cam pedwar: casglu’r dystiolaeth yn derfynol i ddatblygu'r model
  • cam pump: cyflwyno'r model yn yr adroddiad terfynol

Bu grŵp cynghori arbenigol a oedd yn cynrychioli rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS), sefydliadau’r trydydd sector sy’n darparu cymorth arbenigol, ac aelodau o deuluoedd sydd â phrofiad o garcharu, yn cefnogi ac yn llywio’r prosiect drwyddo draw.

Cam un: cyflwyniad

Llenyddiaeth, polisi, ac ymarfer

Cynhaliwyd adolygiad o lenyddiaeth, polisïau, ac arferion presennol sy’n berthnasol i blant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar, a chafodd ei lywio ymhellach gan grŵp cynghori arbenigol ac arolwg ar-lein a lenwyd gan ymatebwyr o garchardai, y gwasanaeth prawf, y byd addysg, y trydydd sector a’r maes iechyd, a chan bobl ifanc â phrofiad bywyd a Llywodraeth Cymru.

Cam dau: adolygiad o fodel y Parth Ysgol yng Ngharchar ei Fawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc

Defnyddiodd tîm ASPIRE adolygiad trawstoriadol, seiliedig ar astudiaethau achos i archwilio’r modd y mae’r model hwn yn berthnasol i’r dystiolaeth a gasglwyd trwy’r asesiad sylfaenol a’r adolygiad o lenyddiaeth, ac i nodi gwersi a ddysgwyd i lywio’r broses o ddatblygu model cymorth cenedlaethol yng Nghymru. Aeth y tîm ar ymweliad deuddydd â safle Carchar ei Fawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc i gyflawni’r canlynol:

  • adolygu ystadegau disgrifiadol
  • arsylwi ar y broses o gyflwyno digwyddiad Parth Ysgol
  • cynnal cyfweliadau
  • hwyluso grwpiau ffocws gyda thadau yn y carchar, plant, a gofalwyr

Cam tri: adeiladu sylfaen

Roedd y cam hwn o'r prosiect yn cynnwys digwyddiad ar gyfer rhanddeiliaid amlasiantaethol Cymru gyfan, a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd ac a hwyluswyd gan dîm ASPIRE. Ymgysylltodd y digwyddiad â 44 o randdeiliaid allweddol (swyddogion a llywodraethwyr carchardai, athrawon a phenaethiaid (o ysgolion cynradd yn bennaf), llunwyr polisi, darparwyr gwasanaethau trydydd sector, a phobl â phrofiad personol o gael eu carcharu neu o fod â rhiant yn y carchar). Roedd y digwyddiad yn gyfle i gynrychiolwyr drafod anghenion plant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar, y rhwystrau i'w cefnogi sy’n bodoli ar hyn o bryd, a sut y gellid gwella cymorth yn y dyfodol.

Cam 4: casglu’r dystiolaeth yn derfynol

Roedd cam pedwar yn adeiladu ar yr wybodaeth a ddatblygwyd yn ystod y camau blaenorol ac yn anelu at feithrin dealltwriaeth fanylach o’r modd y gallai model Cymru gyfan fodloni anghenion yr holl randdeiliaid allweddol.
1.11
Cynhaliwyd tri deg un o gyfweliadau lled-strwythuredig ar-lein neu wyneb yn wyneb ag ystod o gyfranogwyr a ddewiswyd ar sail trawstoriad o safbwyntiau personol a phroffesiynol ac ar sail eu lleoliad daearyddol. Roedd y rhain yn cynnwys staff o ystod o garchardai nad oeddent yn gweithredu model y Parth Ysgol ar y pryd [troednodyn 1]; staff addysg mewn rolau gwahanol; rhanddeiliaid polisi o Gymru; plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod â rhiant mewn carchar heblaw Carchar Ei Fawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc; a gofalwyr a rhieni mewn carchar sydd â phlant a phobl ifanc y mae eu rhiant mewn carchar heblaw Carchar Ei Fawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc.

Dosbarthwyd arolwg ar-lein hefyd i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod â rhiant yn y carchar. Er mwyn annog pobl i gyfranogi, cawsant eu gwahodd i rannu eu barn ar-lein. Arweiniodd y dull hwn at y targed o ddeg ymateb.

Canfyddiadau

Nododd dadansoddiad o ganfyddiadau camau un i bedwar y prosiect ASPIRE naw blaenoriaeth allweddol ar gyfer datblygu model Cymru gyfan, a grynhoir fel a ganlyn.

Dull hawliau plant seiliedig ar gryfderau

Gall ysgolion a charchardai, fel ei gilydd, chwarae rhan unigryw yn y broses o gynnal hawliau plant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar a chydnabod eu potensial. Mae plant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar yn aml yn cael eu diffinio mewn model diffyg; mae dull seiliedig ar gryfderau yn canolbwyntio ar alluoedd, a nodweddion a pherthnasoedd cadarnhaol plentyn, ynghyd â'i botensial. Mae ymarfer sy’n seiliedig ar hawliau yn cydnabod bod gan blant set benodol o hawliau yn hytrach na’u bod yn wrthrychau goddefol sy’n ddarostyngedig i benderfyniadau a wneir am eu rhieni yn unig.

Polisïau ac adnoddau sy’n cefnogi model Cymru gyfan

Er bod rhai polisïau addysg a chyfiawnder troseddol yn sôn am blant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar, prin yw’r rhai sy’n ystyried eu hanghenion na sut y dylid cefnogi’r anghenion hyn. Mae'r modd y caiff gwasanaethau eu comisiynu, a’r adnoddau a ddarperir, yn effeithio ar natur, argaeledd, cynaliadwyedd, cysondeb ac ansawdd y cymorth sydd ar gael i blant yr effeithir arnynt gan
riant yn y carchar.

Mynediad canolog at wybodaeth ac adnoddau

Trwy gydol yr ymchwil, awgrymwyd y byddai hyb adnoddau canolog yn adnodd gwerthfawr i weithwyr proffesiynol ac i blant, pobl ifanc a theuluoedd gael mynediad at y cymorth y mae arnynt ei angen. Gallai hwn fod yn adnodd ar-lein ochr yn ochr â rhwydwaith hyrwyddwyr, rhwydwaith a fyddai’n darparu hyfforddiant arbenigol i 'hyrwyddwyr' a nodir mewn sefydliadau ledled Cymru. [troednodyn 2]

Gwaith amlasiantaethol

Roedd y rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil o’r farn bod angen i garchardai ac ysgolion gydweithredu’n llawn i sicrhau cymorth cynhwysfawr ledled Cymru, yn ogystal â chydweithio ag ystod eang o asiantaethau sy’n cefnogi plant a theuluoedd, gan gynnwys iechyd y cyhoedd, gofal cymdeithasol a sefydliadau’r trydydd sector.

Hyfforddiant

Cytunodd yr holl randdeiliaid fod hyfforddiant yn elfen bwysig o unrhyw fodel cymorth Cymru gyfan. Byddai sesiynau hyfforddi amlddisgyblaethol sydd ar gael i ystod eang o ymarferwyr yn cefnogi cydweithrediad, dealltwriaeth gyson, a dysgu ar y cyd.

Nodi plant mewn modd sensitif pan fydd rhiant yn mynd i’r carchar

Trwy gydol yr holl drafodaethau ynghylch nodi plant, tynnodd yr ymatebwyr sylw at y ffaith bod perthnasoedd yn allweddol: rhaid i deuluoedd deimlo’n hyderus mai cynnig cymorth yw’r cymhelliad yn hytrach na chosbi neu wahaniaethu ymhellach. Rhaid sicrhau cydbwysedd bob amser rhwng yr angen am gymorth a’r hawl i wybodaeth beidio â chael ei datgelu.

Cynnwys pob plentyn wrth ddarparu cymorth

Nid yw plant yng Nghymru yn grŵp homogenaidd, ac nid yw pob plentyn yng Nghymru sydd â rhiant yn y carchar yn mynychu’r ysgol nac yn ymweld â’i riant. Felly, nid oes yna un ateb sy'n addas i bawb. Rhaid i’r broses o ddatblygu model Cymru gyfan gydnabod hefyd nad yw pob rhiant o Gymru sydd wedi’i garcharu yn preswylio yng Nghymru: mae pob mam, a chyfran sylweddol o dadau, yn y ddalfa mewn carchardai yn Lloegr. Beth bynnag fo’i amgylchiadau, mae ar bob plentyn angen dull caredig, sensitif, sy’n ystyriol o drawma, ynghyd â gofal a chymorth wedi’u teilwra sy’n cydnabod mai plentyn ydyw yn anad dim.

Diogelu

Mae diogelu yn rhan annatod o’r holl waith a wneir gyda theuluoedd, a rhaid iddo fod yn flaenoriaeth yn y broses gydweithredu rhwng ysgolion a charchardai. Dylai llesiant plant fod yn greiddiol i unrhyw fodel cymorth ac ni ddylai achosi unrhyw niwed anfwriadol. Mae diogelu yn broses ddynamig a pharhaus sy’n dibynnu ar ddull sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac iddo ffocws ar y teulu cyfan a gwaith amlasiantaethol effeithiol, ac sy’n rhannu gwybodaeth mewn modd tryloyw.

Monitro a gwerthuso

Mae ymchwil yn y DU ac yn rhyngwladol yn disgrifio effaith sylweddol a pharhaus carcharu rhiant ar blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae tystiolaeth am yr hyn sy’n gweithio o ran gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc yn parhau i fod yn anghyson, yn enwedig o ran eu haddysg a’u llesiant. At hynny, prin yw’r dystiolaeth sydd ar gael am yr effaith ar grwpiau penodol o blant, a’r hyn sy’n gweithio iddynt. Dylid ystyried a ddylai fframweithiau sicrhau ansawdd ac arolygu ledled meysydd Cyfiawnder Troseddol, Addysg ac Iechyd y Cyhoedd gydnabod bod plant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar yn grŵp penodol.

Argymhellion

Mae’r blaenoriaethau sy’n deillio o’r canfyddiadau yn darparu cynllun clir ar gyfer datblygu model cymorth mwy cynhwysfawr i Gymru gyfan, ac maent yn cynnig 16 o argymhellion a chamau gweithredu cysylltiedig. Yn ogystal â'r argymhellion hyn, mae nifer o gamau gweithredu awgrymedig wedi'u cynnwys ochr yn ochr â phob argymhelliad yn yr adroddiad llawn.

Argymhelliad 1

Sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried ym mhob cam o daith rhiant trwy’r system gyfiawnder, gan gydnabod bod plant sydd â rhiant yn y system cyfiawnder troseddol yn haeddu cymorth yn eu rhinwedd eu hunain ac nid fel modd o ddylanwadu ar y broses o adsefydlu eu rhieni.

Argymhelliad 2

Sefydlu ymrwymiad cyson a gweladwy ar gyfer Cymru gyfan i blant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar, gan gynnwys model comisiynu gan Lywodraeth Cymru sy’n hyrwyddo cydweithrediad, cynaliadwyedd, a chymorth cenedlaethol yn y gwaith o ddarparu cymorth i blant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar.

Argymhelliad 3

Sicrhau bod yr holl blant a theuluoedd yng Nghymru y mae carcharu yn effeithio arnynt yn gallu cael mynediad at gymorth cyson a phriodol.

Argymhelliad 4

Annog diwylliant o gydweithio o ran cymorth i blant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar.

Argymhelliad 5

Meithrin dealltwriaeth fanwl o’r dirwedd hyfforddi bresennol yng Nghymru mewn perthynas â phlant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar.

Argymhelliad 6

Meithrin ymwybyddiaeth am effaith carcharu rhieni ar draws yr holl asiantaethau sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd yng Nghymru, gan sicrhau bod yr holl raglenni hyfforddi ynghylch plant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar ac a ariennir neu a gymeradwyir gan Lywodraeth Cymru yn darparu negeseuon cyson; eu bod yn seiliedig ar egwyddorion cyffredin (yn ystyriol o drawma, yn dileu stigma, yn canolbwyntio ar hawliau plant ac yn seiliedig ar gryfderau); eu bod yn hygyrch i bob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd ledled Cymru; a’u bod yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael eu monitro’n unol â set gyffredin o ddeilliannau dysgu.

Argymhelliad 7

Sicrhau nad yw trafodaethau parhaus ynghylch nodi plant sydd â rhiant yn y carchar yn cynnal stigma nac yn negyddu’r chwe elfen allweddol, sef diogelwch, ymddiriedaeth, dewis, cydweithrediad, grymuso, ac ystyriaeth ddiwylliannol, elfennau sy’n hanfodol i ymarfer sy’n ymateb i drawma (Llywodraeth Cymru, 2022). Mae bod yn sensitif i’r dulliau, y diben, a’r defnydd mewn prosesu adnabod yn hollbwysig.

Argymhelliad 8

Cefnogi ysgolion i greu amgylcheddau lle mae teuluoedd a phlant yn teimlo’n ddiogel i ddatgelu gwybodaeth, a lle mae staff yn teimlo’n hyderus eu bod yn gwybod sut i ymateb i’r datgeliad hwnnw a darparu cymorth priodol.

Argymhelliad 9

Cefnogi carchardai i greu amgylcheddau lle mae rhieni yn y ddalfa yn teimlo'n ddiogel i ddatgelu bod ganddynt blant, a lle mae staff yn teimlo'n hyderus eu bod yn gwybod sut i gynorthwyo rhieni yn y carchar i ymgysylltu ag ysgol eu plentyn, os yw hynny'n briodol.

Argymhelliad 10

Sicrhau bod y cymorth a gynigir i blant sydd â rhiant yn y carchar yn gyson ledled Cymru, ond yn ddigon hyblyg i ganiatáu ar gyfer ystod amrywiol o anghenion.

Argymhelliad 11

Cydnabod na all cymorth i blant sydd â rhiant yn y carchar ddibynnu ar ddarpariaeth yn y carchar yn unig, a bod gan ysgolion, meithrinfeydd, gwasanaethau ieuenctid, a cholegau, yn ogystal â gwasanaethau cyffredinol, statudol a thrydydd sector, rôl hanfodol i’w chwarae o ran cefnogi plant.

Argymhelliad 12

Sicrhau bod unrhyw fodel Cymru gyfan yn darparu cymorth i rieni a gofalwyr plant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar.

Argymhelliad 13

Sicrhau bod pob asiantaeth sy’n gweithio i gefnogi plant sydd â rhiant yn y carchar yn gweithredu polisïau diogelu plant cadarn, a bod y rhain yn cael eu cyfleu’n glir i bob sefydliad partner.

Argymhelliad 14

Meithrin dealltwriaeth well o nifer ac anghenion y plant ledled Cymru yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar.

Argymhelliad 15

Sicrhau bod canlyniadau’n ganolog i unrhyw fodel cymorth Cymru gyfan ar gyfer plant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar.

Argymhelliad 16

Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cyfle i ddiffinio eu hanghenion, fel bod cynnydd yn cael ei fonitro, a hynny’n unol â chanlyniadau a lywir gan eu hanghenion unigryw.

Cyfeiriadau

Troednodiadau

[1] Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, cyflwynodd rhagor o garchardai fodel y Parth Ysgol Waliau Anweledig, a oedd yn golygu bod rhai o’r staff a gafodd eu cyf-weld gennym yn gyfarwydd â’r model hwnnw erbyn hynny yn eu carchardai nhw.

[2] Mae 'Hyrwyddwyr' yn unigolion hyfforddedig sy'n mynd ati yn eu sefydliadau i hyrwyddo hawliau ac anghenion plant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar.

Manylion cyswllt

Awduron: Nancy Loucks, Sarah Beresford, Polly Wright, Ben Raikes, Alyson Rees, Freya Kenny, a Sylvia Stevenson

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Ymchwil.GwasanaethauChoeddus@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 25/2025
ISBN digidol: 978-1-83715-419-7

GSR logo