Gwella ansawdd elifiant ac ansawdd afonydd: cynllun gweithredu
Cynllun ar gyfer darparu atebion dalgylch sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Er mwyn llywio'r gwaith o ddarparu atebion dalgylch sy'n seiliedig ar dystiolaeth, mae angen gwell gwybodaeth am ansawdd rhyddhau o orlifoedd storm a'r effaith ar ansawdd y dŵr sy'n eu derbyn. Bydd monitro elifiant yn well ar safleoedd penodol, ynghyd â gwaith monitro sydd eisoes ar waith drwy gydol digwyddiad, yn gwella'r dystiolaeth sydd ar gael ac yn galluogi targedu a blaenoriaethu camau gweithredu'n effeithiol. Rhaid i waith monitro gorlifoedd storm presennol ac yn y dyfodol hefyd weithio ochr yn ochr â rhaglenni monitro ar gyfer lygredd o ffynonellau amaethyddol, gwasgaredig a sectorau eraill.
Bydd rhaglen fonitro ymchwiliol yn cael ei sefydlu rhwng CNC a'r cwmnïau dŵr i bennu gofynion hirdymor ar gyfer monitro gorlifoedd storm ledled Cymru. Bydd yr angen i fonitro ar gyfer ystod ehangach o lygryddion gan gynnwys micro-blastigau, cynhyrchion fferyllol a pharamedrau iechyd y cyhoedd hefyd yn cael ei asesu.
Bydd cwmnïau dŵr hefyd yn ymchwilio ac yn hyrwyddo'r defnydd o fonitro a thystiolaeth o ffynonellau eraill gan gynnwys atebion a thechnoleg arloesol. Gall dinasyddion a grwpiau lleol chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i fynd i’r afael â llygredd ansawdd dŵr gan ddarparu gwybodaeth fonitro a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd. Byddwn yn gweithio'n galed gyda gwyddonwyr dinasyddion i ddeall sut mae eu gwaith yn rhan o'n rhaglen waith derfynol.
Ein hymrwymiadau
Mae'r camau sy'n cael eu cymryd o fewn y ffrwd waith hon i gyd yn cyd-fynd â Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021-26 a’r nodau Llesiant canlynol:
- Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth i ni wneud y cynnydd mwyaf posibl tuag at ddatgarboneiddio.
- Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt.
- Ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
- Dechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden, gan gryfhau'r gwaith o fonitro ansawdd dŵr.
Sefydliad Arweiniol | Gweithred | Pam? | Erbyn Pryd | Diweddariad Hydref 2023 |
---|---|---|---|---|
Dŵr Cymru | Gan adeiladu ar y data rydym eisoes yn ei gyhoeddi ar ein gwefan o’n gwaith monitro hyd digwyddiadau, byddwn yn datblygu rhyngwyneb sy'n haws ei ddefnyddio. Yn dilyn ein darpariaeth o ddata “byw” i Surfers Against Sewage ar gyfer Dyfroedd Ymdrochi, byddwn yn sicrhau ein bod yn gosod system fonitro “byw” ar draws ein hasedau a fydd yn adrodd o fewn awr o unrhyw ollyngiad. | Cynyddu natur agored a thryloyw ein data amgylcheddol i'r cyhoedd | Bydd yr adnodd mapio yn mynd yn fyw ym mis Medi 2022. Bydd system fonitro byw yn cael ei chyflwyno erbyn mis Mawrth 2025 |
Mae map o ddata 2021 a 2022 ar gael ar wefan Dŵr Cymru. Darparodd Dŵr Cymru raglen ar gyfer Map yn arddangos data monitro amser real (o fewn 1 awr) ar gyfer safleoedd dŵr ymdrochi ym mis Chwefror 2023. Cymeradwyodd BRQTF fap amser real Dŵr Cymru (o fewn 1 awr) a fydd ar gael ym mis Ionawr 2024. Mae Dŵr Cymru wedi cynnwys safleoedd a nodwyd yng nghanlyniadau’r arolwg Nofio Dŵr Agored hefyd a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2023. Mae Dŵr Cymru wedi cynnal sesiynau rhanddeiliaid ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2023, i gael adborth ar y Map. Bydd pob safle arall ar gael erbyn mis Mawrth 2025. |
Dŵr Cymru | Byddwn yn adeiladu porth ar-lein a fydd yn ein galluogi i rannu'r holl wybodaeth a gasglwn ar yr effaith ecolegol o orlifoedd storm. | Cynyddu natur agored a thryloyw ein data amgylcheddol i'r cyhoedd | Mawrth 2025 | Bydd porth gwybodaeth ar waith erbyn mis Mawrth 2025. |
Dŵr Cymru | Byddwn yn asesu effaith amgylcheddol ar bob gorlif storm. | I gael dealltwriaeth lawn o effaith gorlifoedd storm ar yr amgylchedd | Rhagfyr 2027 | Asesiad llawn o effaith yr holl orlifoedd storm erbyn mis Rhagfyr 2027. Adolygiad o NEPv2 i'w gynnwys yng nghyflwyniad PR24 ym mis Hydref 2023. Mae SOAF yn asesu gorlifoedd sy'n rhyddhau mwy na 40 gwaith. Bydd gwaith mewn safleoedd blaenoriaeth uchel yn cael ei gwblhau erbyn 2027 a'r gweddill yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2030. |
Hafren Dyfrdwy | Byddwn yn asesu effaith amgylcheddol ar bob gorlif storm. | I gael dealltwriaeth lawn o effaith gorlifoedd storm ar yr amgylchedd | Rhagfyr 2027 | Parhaus. Fel rhan o'n Cynllun 'Afonydd Glanaf', rydym yn asesu'r Data Monitro Hyd Digwyddiadau dros y tair blynedd diwethaf i ddeall ein hasedau gorlifo uchaf yr ydym yn eu hadrodd, ochr yn ochr ag ymchwiliadau parhaus SOAF a fydd yn ein helpu i ddeall effaith a defnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu cynlluniau Monitro Hyd Digwyddiadau/gwella gorlifoedd storm cyfun. |
Cyfoeth Naturiol Cymru | Byddwn yn cynnal adolygiad o'r holl dystiolaeth yng Nghymru, y DU ac o ffynonellau ehangach i ddatblygu rhaglen dystiolaeth ar gyfer gorlifoedd storm. | Er mwyn cynllunio a deall rhaglen dystiolaeth, mae angen i ni ddadansoddi ac adolygu'r arferion gorau, y dystiolaeth a'r gwaith monitro presennol sydd ar gael i'n helpu i bennu'r cwmpas ar gyfer monitro yn y dyfodol. | Tachwedd 2023 | Bydd yr adolygiad tystiolaeth yn cael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2023. Bydd canfyddiadau'r adolygiad yn cael eu defnyddio i lunio a llywio strategaeth fonitro ar gyfer 2024. |
Cyfoeth Naturiol Cymru | Byddwn yn cynnal arolygon ar y lan (mae asesiadau infertebratau yn samalau 1 munud sy’n edrych ar y gwahanol gynefinoedd o fewn yr ardal samplu) mewn lleoliadau y cytunir arnynt i asesu effaith fiolegol gorlifoedd storm, gan dargedu asedau rhanddeiliaid yn ogystal ag asedau sy’n gorlifo’n aml. | Pan mae gorlifoedd storm yn gweithredu dan yr amodau cywir, dylai unrhyw effaith amgylcheddol gael ei gwyrdroi. Bydd ein harolygon yn helpu i ddatblygu darlun o iechyd yr afon o ystyried gorlifoedd storm. | I ddechrau ym mis Ionawr neu Ebrill 2024 (i'w gadarnhau) | Bydd yr adolygiad tystiolaeth yn cael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2023. Bydd canfyddiadau'r adolygiad yn cael eu defnyddio i lunio a llywio strategaeth fonitro i ddechrau 2024. |
Cyfoeth Naturiol Cymru | Gan adeiladu ar yr adolygiad a gweithio gyda'r tasglu byddwn yn creu rhaglen dystiolaeth sy'n gweithio ochr yn ochr â rhaglenni tystiolaeth y Cwmnïau Dŵr yng Nghymru, gan nodi'r paramedrau angenrheidiol i sicrhau gwell ansawdd dŵr. | Bydd targedu’r gwaith o gasglu tystiolaeth ar asedau sy’n gorlifo’n aml ac asedau mewn ardaloedd sensitif, sy’n cyd-fynd â gwaith monitro cwmnïau dŵr yn ein galluogi i greu darlun o effaith gorlifoedd storm. | Tachwedd 2023 | Bydd yr adolygiad tystiolaeth yn cael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2023. Bydd canfyddiadau'r adolygiad yn cael eu defnyddio i lunio a llywio strategaeth fonitro i ddechrau 2024. |
Tasglu | Byddwn yn datblygu Fframwaith ar gyfer defnyddio 'Gwyddoniaeth Dinasyddion' a thystiolaeth rhanddeiliaid wrth adnabod a mynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â gorlifoedd storm. | Mae rôl y cyhoedd, rhanddeiliaid a chwsmeriaid o ran gwella ansawdd dŵr yn hanfodol i'w lwyddiant. Bydd y tasglu yn helpu i ddatblygu fframwaith lle gall eraill y tu allan i'r rheoleiddiwr a'r cwmni dŵr helpu i ddatblygu tystiolaeth a darparu rôl ganolog wrth nodi a gwella unrhyw asedau sy'n gweithredu’n wael. | Rhagfyr 2023 | Bydd fframwaith ar gyfer Gwyddoniaeth Dinasyddion wedi'i gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2023. Bydd canfyddiadau'r adolygiad tystiolaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cael eu defnyddio i lunio arbrofion addas. |
CCW – llais defnyddwyr dŵr | Yr ydym yn adolygu eglurder a thryloywder gwybodaeth amgylcheddol y diwydiant dŵr am ardaloedd y cwmni ac yn ehangach. | Cynyddu tryloywder ac atebolrwydd gwybodaeth amgylcheddol cwmnïau dŵr ar eu heffaith amgylcheddol er mwyn cynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd | Cwblhawyd | Cynhaliwyd gweithdy ym Mawrth 2023. Mae Water UK yn archwilio sut mae modd cyhoeddi'r holl wybodaeth perfformiad amgylcheddol mewn un lle. Bydd CCW yn cyhoeddi ymchwil ym mis Mai. Adolygiad eglurder a thryloywder gwybodaeth amgylcheddol y diwydiant dŵr |
CCW/Afonydd Cymru | Byddwn yn ystyried tystiolaeth benodol bresennol (CCW) Cymru ynglŷn ag ymwybyddiaeth y cyhoedd o ansawdd dŵr afonydd i helpu i ganfod bylchau mewn ymgysylltiad a fyddai’n llywio’r ffordd yr ydym ni’n mynd ati i wella dealltwriaeth y cyhoedd a rhanddeiliaid o faterion yn ymwneud â gorlifoedd storm yng Nghymru. | Gweithio gyda chwsmeriaid dŵr i fynd i'r afael â chamddefnyddio carthffosydd. Gweithio gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid i wella eu dealltwriaeth a'u rôl weithredol wrth fynd i'r afael â'r broblem flocio carthffosydd a gorlifoedd storm yng Nghymru | Cwblhawyd | Cyhoeddwyd ym mis Ebrill 2023. Ymwybyddiaeth y cyhoedd o ansawdd dŵr afonydd Mae CCW wedi bod yn galw am ymgyrch genedlaethol ar gamddefnyddio carthffosydd ers sawl blwyddyn. Gwireddwyd hyn yn rhannol yn ymgyrch BIN the Wipe gan Water UK. |
Hafren Dyfrdwy | Sicrhau bod gwybodaeth am berfformiad ar gael yn rhwydd ar ein gwefan erbyn diwedd 2022 fel bod pobl yn cael mwy o hyder ynglŷn â’r cyfleoedd i fwynhau’r afonydd ar draws ein rhanbarth. | Cynyddu natur agored a thryloyw ein data amgylcheddol i'r cyhoedd | Cwblhawyd | Mae data ar gael. Map rhyngweithiol ar gael erbyn diwedd mis Mawrth 2024. |