Mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn cael ei ddathlu mewn 60 o wledydd ledled y byd ar 19 Tachwedd bob blwyddyn a’i nod yw tynnu sylw at y faterion eang sy’n berthnasol i ddynion mewn ffordd sy’n gynhwysol o ran rhywedd.
Bob blwyddyn, mae mwy a mwy o fenywod, dynion a sefydliadau ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig yn cydnabod y diwrnod. Gwell iechyd i ddynion a bechgyn yw’r thema yn y Deyrnas Unedig eleni.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn y Deyrnas Unedig yn gweithredu mewn ffordd sy’n gynhwysol ar sail rhywedd, ac felly’n ceisio sicrhau bod materion sy’n effeithio ar ferched a benywod hefyd yn cael eu datrys. Mae’n cydnabod y berthynas rhwng rhywedd a ffactorau eraill, megis hil a rhywioldeb, sy’n gallu cymhlethu’r anghydraddoldebau sy’n effeithio ar ddynion a bechgyn.
Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:
“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn gyfle pwysig i dynnu sylw at y problemau a’r materion y mae dynion yn parhau i’w wynebu yma yng Nghymru a ledled y byd. Mae’n annog pobl i siarad a chefnogi’i gilydd – ac mae hynny’n gam pwysig.
“Rydym yn gwybod bod rhai materion yn cael effaith wahanol ar ddynion a merched. Rydym yn gwybod nad yw iechyd meddwl, unigrwydd a theimlo’n ynysig yn faterion sy’n effeithio ar ddynion yn unig, ond rydym yn gwybod hefyd bod dynion yn llai tebygol o ofyn am help pan fo’i angen arnynt.
“Ni ddylid ac ni ellir anwybyddu stereoteipio ar sail rhywedd. Mae’n fater sy’n parhau ac yn rhan annatod o’n bywydau, p’un a ydym yn sylweddoli hynny a’i peidio. O’r dydd y cawn ein geni, gall ddylanwadu ar y dillad yr ydym yn eu gwisgo, y teganau yr ydym yn chwarae â nhw, y pynciau yr ydym yn eu hastudio, rhinweddau ein personoliaeth, lefelau ein hyder, ein dewis o ddiddordebau a gweithgareddau cymdeithasol, ein rôl yn y teulu a’n dewis gyrfa."
Dywedodd Paul, sy’n adeiladwr:
“Dwi wedi gweithio yn y busnes adeiladu am 40 mlynedd. Mae’n waith caled a chorfforol, ac rydych yn brwydro’n erbyn y cloc, ac mae hynny’n dweud ar eich corff. Mae hefyd yn waith unig, sy’n effeithio ar eich stad feddyliol.
“Dros y blynyddoedd, dwi wedi gweithio am wythnosau, misoedd weithiau, oddi cartref, gyda phobl dwi ddim yn eu hadnabod yn dda. Mae angen cynnal y ddelwedd benodol ‘macho’ honno – ni allwch fynd at ddyn arall sy’n gweithio ar y safle a dweud: “Hei, dwi’n teimlo’n isel heddiw.” Dydi hyn ddim yn iawn, ond byddai pobl yn chwerthin yn fy ngwyneb i.
“Wrth fynd yn hŷn, rwyf hefyd yn ymwybodol fy mod yn arafu. Mae hynny’n peri gofid i mi wrth gwrs – os na allaf ddal ati i weithio, dwi ddim yn cael fy nhalu, ac fe fydda i’n methu ag edrych ar ôl fy nheulu. Mae iselder yn beth cyffredin yn fy mywyd bob dydd i, a do, rwyf wedi meddwl am hunanladdiad.”
Mae Men’s Sheds yn un ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhoi cymorth i ddynion fel Paul.
Dywedodd Jane Hutt eto:
"Mae Men’s Sheds yn cyfuno gweithgareddau cymdeithasol a mynd i'r afael â materion difrifol, ac mae’n cael pobl i siarad a chefnogi ei gilydd.
"Mae llwyddiant mudiad Men’s Sheds ledled y byd yn dangos pa mor effeithiol y gall y dull hwn fod. Mae'n syniad syml sydd â'r pŵer i drawsnewid bywydau.
"Rydym hefyd wedi darparu grant o £47,000 i Sefydliad DPJ – elusen iechyd meddwl yng nghefn gwlad – i ymestyn ei ddarpariaeth gwnsela 1 i 1 presennol i Ogledd Cymru, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth ar gael ar draws Cymru.
"Mae angen i bob un ohonom fod yn ymwybodol o'r niwed sy’n cael ei a achosi gan faterion lles ac iechyd meddwl, ac i fynd i'r afael â'r materion hyn er mwyn sicrhau nad yw cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu cyfyngu na'u niweidio ganddynt.
"Gall iechyd meddwl ac unigrwydd effeithio ar bob un ohonom - waeth beth fo'n hoedran, rhyw, statws neu leoliad. Os nad ydym yn ceisio'r cymorth sydd ei angen arnom, gall yr effaith ar ein lles fod yn ddinistriol."
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg:
"Rwy'n cydnabod pa mor anodd yw hi i bobl siarad am eu hiechyd meddwl – yn enwedig i ddynion. Rydym wedi nodi amrywiaeth o gamau gweithredu yn ein Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a'n strategaeth atal hunanladdiad, sef Beth am Siarad â Fi?, i leihau’r stigma ac annog pobl i geisio cymorth ar gyfer eu lles meddyliol.
"Rydym hefyd yn cefnogi nifer o raglenni sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl dynion, megis ymgyrch Lets Talk Men’s Mental Health ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym wedi sicrhau bod ystod eang o adnoddau hunan-gymorth ar gael ar-lein neu dros y ffôn i annog mwy o bobl i gael cymorth.
"Eleni, yn fwy nag erioed, ar gyfer diwrnod rhyngwladol dynion, gadewch i ni ganolbwyntio ar sicrhau bod pob dyn yn cael ei gefnogi gyda'i les meddyliol. Siaradwch â'ch ffrindiau a'ch teulu ac anogwch eraill i wneud yr un peth."