“Sicrhau lle Cymru ym marchnad sengl Ewrop, diwygio'r Deyrnas Unedig i fod yn undeb fwy ffederal, ac adeiladu cysylltiadau cryfach gyda'r Unol Daleithiau - dyna fy nodau ar gyfer Cymru”
Wrth annerch cynulleidfa yng nghyfarfod y Chicago Council on Global Affairs, bydd y Prif Weinidog yn traddodi araith ar y thema Ar ôl Brexit: Ewrop, y Deyrnas Unedig a Chymru, gan osod ei weledigaeth am Gymru agored, o fewn Teyrnas Unedig ddiwygiedig, sy'n parhau i gael mynediad at farchnad sengl Ewrop.
Bydd y Prif Weinidog yn dweud na fydd Cymru'n cydsynio i unrhyw gytundeb Brexit oni bai bod y DU yn llwyddo i sicrhau mynediad at y farchnad sengl, gan ddadlau ein bod “mewn perygl o achosi niwed economaidd diangen i'n gwlad a'n pobl” os na allwn warantu hynny.
Bydd Carwyn Jones yn dweud:
"Fel Prif Weinidog Cymru, fy nghyfrifoldeb yw diogelu buddiannau pobl Cymru. Enillais fy mandad gwleidyddol fy hun yn Etholiad Cymru bedwar mis yn ôl - does dim amheuaeth i'r refferendwm ar Ewrop roi ergyd i ni, ond mae gennym uchelgais fawr dros Gymru, ac mae fy ngweinyddiaeth yn benderfynol o'i chyflawni.
“Rydyn ni am weld amgylchedd busnes ffyniannus a darparu gwasanaethau cyhoeddus cadarn, wedi'u hariannu drwy drethi teg. Mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw: yr unig ffordd o dalu am y gwasanaethau hynny yw cael economi lewyrchus. Rydyn ni'n gynhwysol. Rydyn ni'n genedl sy'n edrych allan ar y byd. Rwy'n credu bod Cymru ar ei gorau pan mae'n masnachu a chydweithio gyda gweddill y byd.”
O ran swyddogaeth Cymru yn y trafodaethau ar ymadawiad y DU o'r UE a ffurfio perthynas newydd gyda'r Undeb, bydd yn dweud:
“Yn fy marn i byddai buddiannau Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi cael eu gwarchod orau o aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Penderfynodd yr etholwyr yn wahanol, er mai gweddol fach oedd y mwyafrif. Wrth gwrs, rwy'n parchu canlyniad y refferendwm. Fodd bynnag, rwy'n dweud yn gwbl glir bod Cymru yn parhau i fod ar agor ar gyfer busnes.
“Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol, pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, i'r Deyrnas Unedig gadw mynediad at y farchnad sengl. Os na allwn warantu hynny, byddwn mewn perygl o achosi niwed economaidd diangen i'n gwlad a'n pobl.
“Does gen i ddim bwriad o gwbl caniatáu i dynged Cymru gael ei gadael i ffawd, ac eistedd yn ôl a gwylio'r hyn sy'n digwydd yn dilyn y penderfyniad enfawr yma. Rhaid i Gymru a'r gwledydd datganoledig eraill chwarae rhan lawn a gweithredol yn y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd, er mwyn diogelu'n buddiannau yn llawn.
“Os bydd hyn yn troi'n ddeialog dwy ffordd rhwng Brwsel a Llundain, bydd yn methu. Rhaid i Gaerdydd, Caeredin a Belfast gael seddi wrth y bwrdd. Beth bynnag yw'r cytundeb yn y pen draw, cyn ei dderbyn rhaid sicrhau cefnogaeth y pedair Senedd sydd bellach yn deddfu ar gyfer y Deyrnas Unedig.
“Dydw i ddim yn gallu dychmygu y bydd Cymru'n cydsynio oni bai bod y Deyrnas Unedig yn sicrhau mynediad at y farchnad sengl ac yn rhoi sicrwydd cadarn i'n dinasyddion o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.”
O ran dyfodol Cymru yn y Deyrnas Unedig, bydd yn dweud:
“Rwy'n credu bod buddiannau Cymru'n cael eu gwasanaethu'n well o fod yn aelod o'r Deyrnas Unedig, a bod y Deyrnas Unedig yn well ac yn gryfach o gynnwys Cymru. Dyma farn mwyafrif llethol pobl Cymru.
“Yn ystod ymgyrch y refferendwm, fe addawodd yr ymgyrch i adael dro ar ôl tro na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol o adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae sawl un o'r ymgyrchwyr yna bellach mewn swyddi amlwg yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae dyletswydd bendant arnyn nhw i gyflawni eu haddewidion.
“Er ei bod yn hanfodol cael pecyn o ymrwymiadau penodol ar gyfer bywyd ar ôl Brexit, mae angen mwy na hynny. Rwy'n credu bod rhaid i'r broses o ymadael gael ei hategu gan ffordd ddiwygiedig o lywodraethu'r Deyrnas Unedig yn y tymor hir.
“Does dim modd dychwelyd i'r hen gyfansoddiad traddodiadol, pan oedd y Deyrnas Unedig yn un o'r gwladwriaethau oedd wedi canoli fwyaf yn y byd datblygedig. Rhaid i ni wynebu'r realiti newydd drwy feddwl mewn ffordd newydd yn gyfansoddiadol os yw'n hundeb Prydeinig i oroesi'r tensiynau newydd sy'n cael eu creu drwy adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Os na fyddwn yn cymryd hyn o ddifri, does dim byd - hyd yn oed chwalu'r Deyrnas Unedig - yn amhosibl. Gadewch i mi bwysleisio; dydw i ddim am weld hynny'n digwydd. Dim o gwbl. Ond gallai sefyllfaoedd a oedd yn ymddangos yn ddim mwy na dychymyg gwleidyddol rhai blynyddoedd yn ôl gael eu gwireddu os na fyddwn yn gwneud y newidiadau radical sy'n angenrheidiol i osod cyfansoddiad y Deyrnas Unedig ar sylfaen gynaliadwy."