Neidio i'r prif gynnwy

Rhageiriau

Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS

Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Genhadaeth Economaidd y llynedd, roedd yn amlwg nad oedd dychwelyd i fusnes fel arfer yn opsiwn. Mae hyn yn arbennig o wir i'r sector manwerthu.

Mae manwerthu yng Nghymru yn hynod bwysig i'n heconomi, ein cymunedau a'n llesiant fel cenedl.  Mae manwerthu o'n cwmpas ym mhob man, ym mhob rhan o Gymru, ym mhob pentref, tref a dinas – rydym yn gwerthfawrogi'r swyddi, y nwyddau, y gwasanaethau cymunedol a'r buddiannau a gynigir gan y sector.  Yn sgil pandemig y coronafeirws, rydym yn gwerthfawrogi'r sector manwerthu hyd yn oed yn fwy fel conglfaen yr economi sylfaenol. Fodd bynnag, gwyddom nad yw sector manwerthu llwyddiannus a chadarn yn cael ei greu drwy hap a damwain ac ni ddylem ychwaith dybio y bydd y sector yno am byth.  Fel sawl sector o'r economi, mae'n bwysig ein bod yn meithrin amgylchedd lle gall ddatblygu ac addasu, yn enwedig mewn ymateb i'r newid i economi fwy cylchol.

Dyna pam mae'n bwysig bod gennym y weledigaeth gyffredin hon ar gyfer manwerthu, wedi'i datblygu mewn partneriaeth â busnesau a gweithwyr yn y sector.

Mae'r sector manwerthu yn hynod amrywiol – o gwmnïau rhyngwladol sydd ymhlith y cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, i fentrau bach annibynnol sy'n gadael eu hôl.  Mae'r amrywiaeth hwn yn gryfder ac mae wedi helpu i lywio gallu'r sector i addasu, ymateb ac ymdopi â newid yn uniongyrchol.  Boed hynny'n addasu i ofynion technoleg newydd, newidiadau ym mhatrymau defnyddwyr neu ymateb i ganlyniadau'r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r sector manwerthu wedi gorfod arloesi ac ailddyfeisio'i hun yn gyson.  Rhaid iddo barhau i wneud hynny wrth inni wynebu anawsterau argyfwng costau byw.  Mae COVID-19 wedi cael effaith ddifrifol ac, mewn rhai achosion, drychinebus ar fanwerthwyr bach a mawr – ond mae'r prif faterion strategol roedd y sector yn eu hwynebu cyn y pandemig yno o hyd ac, mewn llawer o achosion, maent wedi gwaethygu.  Credaf yn gryf fod gan y sector manwerthu ddyfodol llewyrchus ac y bydd yn parhau i fod yn rhan allweddol o economi Cymru, o ganol trefi lleol i ganol ein dinasoedd.

Nid yw ôl troed manwerthu wedi'i gyfyngu i ganol trefi o bell ffordd ond, serch hynny, mae wyneb newidiol canol ein trefi yn hanfodol i fanwerthu ac, yn ei dro, mae angen sector manwerthu llwyddiannus a chadarn ar ganol ein trefi.  Fodd bynnag, lle bynnag y ceir manwerthu, rhaid i weithlu sy'n cael ei werthfawrogi a'i hyfforddi a'i ddatblygu'n dda fod yn nodwedd ganolog. 

Rydym yn ymwybodol iawn nad oes unrhyw atebion cyflym, datrysiadau hawdd na chyllidebau diderfyn.  Fodd bynnag, rydym yn barod i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â Llywodraeth Cymru, cyflogwyr, cyrff sy'n cynrychioli busnesau ac undebau llafur, gan gydweithio i ddeall ble rydym ar hyn o bryd, ble rydym am fynd a sut y gallwn gyrraedd yno.

Y llynedd, gyda chymorth y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, gwnaethom sefydlu'r Fforwm Manwerthu er mwyn dechrau'r sgwrs hon. Gwnaethom gyhoeddi Datganiad Sefyllfa ym mis Mawrth ac mae'r Weledigaeth ddilynol hon yn nodi ein camau gweithredu hyd yma ynghyd â'n huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

Dros y misoedd nesaf, rydym yn bwriadu datblygu cynllun cyflawni, gan ystyried argymhellion gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd yn dilyn ei ymchwiliad i'r sector Manwerthu (a Lletygarwch a Thwristiaeth).

Yn olaf, ac yn bwysicaf, hoffwn ddiolch i aelodau'r Fforwm am eu hamser, eu hymdrech a'u cymorth wrth ddatblygu gweledigaeth gytûn ar gyfer dyfodol y sector manwerthu yng Nghymru ac am eu gwaith partneriaeth parhaus.

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn AS

Fel diwydiant llafurddwys, mae'r sector manwerthu yn dibynnu'n sylweddol ar ei weithlu, pan fydd gan ei weithlu lais cryf a phan gaiff ei drin ag urddas a pharch mae manwerthu yn gweithio orau . 

Bydd gwell bargen i weithwyr manwerthu, cyflog gwell, telerau ac amodau gwell, hyfforddiant gwell a rhagolygon gyrfa gwell, yn helpu'r sector manwerthu i oresgyn heriau recriwtio a chadw gweithlu, hyrwyddo manwerthu fel gyrfa hirdymor o ddewis a galluogi'r gweithlu i ddarparu lefelau hyd yn oed yn well o wasanaeth cwsmeriaid. 

Dyna pam mae gwaith teg yn hanfodol i ddyfodol manwerthu ac yn un o'r ffyrdd o sicrhau dyfodol cryfach, gwell, tecach a mwy cynaliadwy i'r sector manwerthu. 

Wrth inni edrych tua'r dyfodol, mae sicrhau bod gan weithwyr manwerthu lais gwirioneddol, drwy eu hundebau llafur, wrth helpu i lywio eu hamodau gwaith a dyfodol gwaith yn y sector yn dod yn fater cynyddol ddybryd. I'r perwyl hwn, rhaid i fabwysiadu ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol, lle mae busnesau ac undebau llafur yn gweithio gyda’i gilydd, fod yn un o gonglfeini sector manwerthu'r dyfodol. 

Y Fforwm Manwerthu

Fel y mae'r Weledigaeth hon yn ei gydnabod, uchelgais cyffredinol y Fforwm yw y gall pobl gael gyrfaoedd da a chadarn yn y sector manwerthu, a hynny mewn amgylchedd gwaith teg.

Mae angen inni ddenu gweithwyr mewn cyfnod lle mae cryn gystadleuaeth yn y farchnad lafur.

Roedd y pandemig yn gyfnod hynod heriol a llawn straen i fanwerthwyr, busnesau a gweithwyr, ac aeth pob un ohonynt y tu hwnt i bob disgwyl i sicrhau y gallai cwsmeriaid gael gafael ar nwyddau a gwasanaethau a buddsoddi'n sylweddol i ddiogelu Cymru.

Nid oes gennym unrhyw fwriad i roi'r ffidil yn y to ac mae gennym uchelgeisiau mawr.

Mae'r sector manwerthu yn amrywiol a dynamig, ac yn mynd drwy drawsnewidiad sylweddol, gyda newidiadau yn ymddygiad defnyddwyr, datblygiadau technolegol a thwf cyflym mewn siopa ar-lein.

Mae gan fanwerthwyr hanes profedig o ddefnyddio dulliau entrepreneuraidd ac arloesol i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a darparu'r profiad siopa gorau posibl. Bydd hyn yn rhoi'r sector mewn sefyllfa dda wrth iddo ddatblygu i wynebu heriau a chyfleoedd y dyfodol, yn enwedig yr argyfwng costau byw a'r argyfwng hinsawdd.

Credwn yn gryf fod manwerthu yn parhau i fod yn hanfodol yng nghanol trefi a dinasoedd.

Mae stryd fawr amrywiol gyda siopau bach ac annibynnol, ochr yn ochr â manwerthwyr mwy, wrth wraidd ein cymunedau.

Er y bydd arallgyfeirio yn elfen ganolog o ymdrechion adfer, mae presenoldeb busnesau manwerthu yng nghanol trefi ac ar y stryd fawr yn unol ag agweddau aelodau'r cyhoedd a'u disgwyliadau ar gyfer y dyfodol.

Mae angen cymorth ar fusnesau manwerthu er mwyn helpu i greu'r ardaloedd rydym am eu gweld yng nghanol trefi. Dylid gwneud pob ymdrech i helpu i ddenu pobl i ganol trefi a helpu busnesau i ailosod eu hunain ar gyfer camau nesaf yr adferiad economaidd. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar sut i wella ein system ardrethi annomestig.

Bydd angen arweinwyr o bob lefel o'r strwythur gwneud penderfyniadau er mwyn cyflawni'r weledigaeth ac wynebu'r her, a chroesawn ymgysylltiad parhaus Llywodraeth Cymru.

Sefydlwyd y Fforwm Manwerthu ym mis Medi 2021 gan Weinidog yr Economi a'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol er mwyn nodi heriau sy'n wynebu'r sector a llywio'r gwaith o ddatblygu strategaeth manwerthu. Aelodau'r Fforwm yw:

  • Llywodraeth Cymru
  • TUC Cymru
  • Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol (USDAW)
  • GMB
  • Unite
  • Undeb y Pobyddion, Gweithwyr Bwyd a Gweithwyr Perthynol
  • Cydffederasiwn Diwydiant Prydain
  • Ffederasiwn Busnesau Bach
  • Siambrau Cymru
  • Consortiwm Manwerthu Cymru
  • Cymdeithas Siopau Cyfleustra 
  • Cymdeithas Manwerthwyr Annibynnol Prydain
  • Boots

Ceir rhagor o fanylion, gan gynnwys cylch gorchwyl a'r Datganiad Sefyllfa, ar: Fforwm Manwerthu

Ar gyfer pwy mae'r weledigaeth hon?

Mae'r sector manwerthu yn hynod amrywiol o ran: maint (bach, canolig, mawr); ardal ddaearyddol a wasanaethir (lleol, rhanbarthol, cenedlaethol); model busnes (annibynnol, cadwyn, masnachfraint); y math o nwyddau a werthir; y math o ddefnyddiwr; y math o weithle (siop, canolfan ddosbarthu, logisteg) a phresenoldeb (siop ffisegol, ar-lein, neu gyfuniad).

Fodd bynnag, mae'r sector yn cynnwys llawer mwy na siopau a chwsmeriaid a bydd cyflawni'r weledigaeth hon a'i heffaith ar y sector manwerthu yn bellgyrhaeddol ac yn berthnasol i ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys:

  • Llywodraeth Cymru
  • awdurdodau lleol
  • darparwyr trafnidiaeth
  • y gweithlu a'u hundebau llafur
  • sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau
  • cwsmeriaid
  • cadwyni cyflenwi
  • landlordiaid
  • busnesau stryd fawr / canol tref anfanwerthol
  • rhoddwyr benthyciadau a chynghorwyr
  • darparwyr hyfforddiant a sgiliau
  • cynghorwyr gyrfaoedd.

Y sefyllfa bresennol

Fel y cyflogwr mwyaf yn y sector preifat, gan ddarparu swyddi i fwy na 114,000 o bobl, a chyfrannu 6% o'r Gwerth Ychwanegol Gros, mae'r sector manwerthu yn bwysig iawn i'r economi yng Nghymru.

  • 6% o Werth Ychwanegol Gros Cymru
  • 114,000 o gyflogeion ledled Cymru
  • £32 biliwn mewn treth ledled y DU bob blwyddyn (2018)
  • 25% o holl ardrethi busnes Cymru (2018)

Nid yw pwysigrwydd y sector yn gyfyngedig i dwf economaidd a chyfleoedd gwaith. Mae'r buddion cymunedol a gynigir gan fanwerthwyr cenedlaethol a lleol yn mynd ymhell y tu hwnt i hyn ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at lesiant unigolion a chymdeithas. 

I lawer o bobl, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn cymunedau ynysig neu wledig, mae'r sector yn cynnig cyfle hanfodol ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol ynghyd â gwasanaethau pwysig eraill megis mynediad at wasanaethau swyddfa'r post a pheiriannau arian.  Yn ogystal, bob blwyddyn, mae manwerthwyr yn buddsoddi'n sylweddol yn eu cymunedau lleol, gan helpu i gyfrannu at ddatblygu lleoedd cynhwysol, llwyddiannus a chadarn.

  • mae 2,975 o siopau cyfleustra wedi'u lleoli ledled Cymru
  • o blith y rhain, mae 63% mewn ardaloedd gwledig, 22% mewn ardaloedd maestrefol, ac 16% mewn ardaloedd trefol
  • mae 37% mewn ardal ynysig heb siopau na busnesau eraill gerllaw
Cyflog canolrifol (wythnosol, llawn amser) Cymru 2021
Manwerthu Pob Sector

%

£409.90

£562.80

-27%

Ffynhonnell: Earnings and Hours Worked, UK Region by Industry by Two-Digit SIC: ASHE Table 5

Cyfradd safleoedd gwag (ffigurau Consortiwm Manwerthu Cymru)

  • yn chwarter cyntaf (Ch1) 2022, gostyngodd cyfradd safleoedd gwag Cymru i 16.9%, o 17.5% yn Ch4 2021. Roedd hyn 2.3 pwynt canran yn is na'r un adeg yn 2021.
  • gostyngodd safleoedd gwag mewn canolfannau siopa i 24.0%, o 24.5% yn Ch4 2021.
  • ar y Stryd Fawr, gostyngodd safleoedd gwag i 16.9% yn Ch1, o 17.1% yn Ch4 2021.
  • cynyddodd safleoedd gwag mewn Parciau Manwerthu ychydig i 12.3% yn Ch1 2022, o 12.2% yn Ch4 2021. Fodd bynnag, hwn yw'r lleoliad â'r gyfradd isaf o bell ffordd o hyd.

Nifer yr ymwelwyr (ffigurau Consortiwm Manwerthu Cymru)

  • gostyngodd nifer yr ymwelwyr yng Nghymru 18.8% ym mis Mawrth 2022, 1.6 pwynt canran yn well na mis Chwefror 2022. Mae hyn yn waeth na dirywiad cyfartalog y DU, sef 15.4%.
  • dirywiodd nifer yr ymwelwyr â chanolfannau siopa 33.2% ym mis Mawrth 2022 yng Nghymru, sy'n well na'r dirywiad o 43.6% ym mis Chwefror 2022.

Maint gwerthiannau (y DU) – y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

  • cynyddodd maint gwerthiannau manwerthu 1.4% ym mis Ebrill 2022 yn dilyn gostyngiad o 1.2% ym mis Mawrth 2022 (diwygiwyd o ostyngiad o 1.4%); roedd maint gwerthiannau 4.1% yn uwch na'u lefelau cyn y coronafeirws (COVID-19) ym mis Chwefror 2020.
  • cynyddodd maint gwerthiannau busnesau nad ydynt yn siopau, sef gwerthiannau gan fanwerthwyr ar-lein yn unig yn bennaf, 3.7% ym mis Ebrill 2022 dan arweiniad gwerthiannau dillad cryfach.
  • cynyddodd maint gwerthiannau siopau bwyd 2.8% ym mis Ebrill 2022, yn bennaf oherwydd bod pobl yn gwario mwy ar alcohol a thybaco mewn archfarchnadoedd.

Ar-lein/Digidol

  • cynyddodd cyfran y gwerthiannau manwerthu ar-lein i 27.0% ym mis Ebrill 2022 o 25.9% ym mis Mawrth ac mae'n parhau i fod yn sylweddol uwch na'r 19.9% ym mis Chwefror 2020 cyn pandemig y coronafeirws. (SYG)
  • dim ond 82% o siopau lleol sy'n cynnig y gallu i dalu'n ddigyffwrdd (Cymdeithas Siopau Cyfleustra)
  • dim ond 51% o siopau lleol sy'n cynnig y gallu i dalu â ffôn symudol (Cymdeithas Siopau Cyfleustra)
Image

 

Beth yw'r heriau allweddol?

Mae'r sector manwerthu yn cyflawni mewn cyd-destun gweithredu a nodir gan drawsnewidiad sylweddol, newid ac ansicrwydd parhaus. Mae ysgogwyr sylweddol yn cynnwys rôl newidiol canol trefi, effaith technolegau newydd, newid ym mhatrymau ac ymddygiad defnyddwyr, a heriau mewn perthynas ag amodau cyflogaeth, y gadwyn gyflenwi, a recriwtio a chadw gweithlu. Yn cwmpasu hyn mae pedair prif her strategol ein hoes:

  1. adfer o effaith pandemig y coronafeirws;
  2. mynd i'r afael â galw newid yn yr hinsawdd a'r newid i Sero Net;
  3. ymateb i'r argyfwng costau byw;
  4. parhau i addasu i'n dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Fodd bynnag, nid yw newid yn rhywbeth newydd i'r sector manwerthu yng Nghymru. Hyd yn oed cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd a chyn inni wynebu pwysau digynsail y pandemig, roedd y sector eisoes yn mynd i'r afael â'r newid mewn arferion defnyddwyr a'r defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol.

Bu pryderon hefyd ar lefel y DU fod gweithwyr hŷn yn gadael y gweithlu oherwydd salwch neu i ymddeol yn gynnar. Mae hyn wedi dod ar yr un pryd â'r nifer mwyaf erioed o swyddi gwag ar draws y farchnad swyddi.

Mae ymchwil gan SYG yn nodi, o blith y gweithwyr hŷn hynny sydd wedi gadael eu swyddi ers dechrau'r pandemig ac nad ydynt wedi dychwelyd i'r gwaith, mae 77% yn eu 50au a gadawodd 57% o'r rhai hynny sy'n 60 oed a throsodd eu swyddi yn gynharach na'r disgwyl 'Reasons for workers aged over 50 years leaving employment since the start of the coronavirus pandemic' - Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae Capital Economics wedi cynnal ymchwil ar brinder llafur mewn economïau wedi datblygu, 'Global Economics Focus: will labour shortages persist?' Daw i'r casgliad ei bod yn debyg bod effeithiau'r pandemig, megis bod ofn y feirws, hunanynysu a salwch, ond yn gyfrifol am oddeutu 20% o'r prinder parhaus. Nodir y canlynol: “perhaps the most persistent shortages will relate to labour market frictions due to structural shifts in the types of workers needed and the preferences of workers themselves. The duration of this problem is very uncertain and will depend on how quickly firms and workers are able to adjust in terms of flexible working, relocation, and retraining”.

Mae'r heriau sy'n wynebu'r sector yn sylweddol ac yn niferus. Fodd bynnag, wrth inni ddod allan o'r pandemig, mae cyfle gennym i greu ffordd ymlaen sy'n galluogi manwerthwyr i addasu i anghenion a gofynion newidiol cwsmeriaid, ymateb i dechnolegau newydd a buddsoddi yn eu hadnodd pwysicaf, y gweithlu.

Meysydd gweithredu

Pobl

Gyda gweithlu o fwy na 114,000 o bobl, caiff y sector manwerthu effaith uniongyrchol ar fywydau, ffordd o fyw a chyfleoedd bywyd cyfran sylweddol o weithlu Cymru a'i ddibynyddion.

Rydym yn cydnabod bod llawer o gyflogwyr manwerthu yn mabwysiadu egwyddorion gwaith teg ac yn cynnig opsiynau gyrfaol deniadol.  Rydym am i fwy o fanwerthwyr ddilyn y llwybr hwnnw, fel bod manwerthu yn dod yn gyfystyr â gwaith teg i bawb.  Rydym am annog a chefnogi'r sector i fynd i'r afael â phryderon ynghylch ansawdd rhai swyddi manwerthu a'i gysylltiad â chyflogaeth â chyflog isel, ansicr, ac ansefydlog ar adegau. 

Bydd buddsoddi mewn sgiliau yn hanfodol i gefnogi'r gweithlu presennol a denu newydd-ddyfodiaid, ar bob lefel.

Ein huchelgais cyffredinol yw y gall pobl gael gyrfaoedd da a chadarn yn y sector, a hynny mewn amgylchedd gwaith teg.

Yn ei dro, bydd hyn yn golygu y gall busnesau ddenu, cadw a datblygu gweithwyr yn ystod cyfnod lle mae cryn gystadleuaeth yn y farchnad lafur.

Gwaith Teg

Roedd rôl gweithwyr manwerthu yn bwysicach nag erioed yn ystod pandemig COVID-19. Chwaraeodd gweithwyr manwerthu rôl enfawr wrth sicrhau bod bwyd i'n cenedl, a buddsoddodd manwerthwyr yn helaeth i gadw eu staff a'u cwsmeriaid yn ddiogel. Rhaid inni barhau i gydnabod gwerth gweithwyr manwerthu, eu sgiliau a'r amrywiaeth o rolau a gyflawnir ganddynt.

Mae adroddiad Sefydliad Bevan o 2021, Experiences in Retail, yn nodi bod angen gwella telerau ac amodau yn y sector manwerthu ac mewn sectorau sylfaen eraill. Dylai sicrhau llais cryfach i weithwyr, arferion rheoli gwell a threfniadau contractiol tecach (yn enwedig o ran oriau a chyflog) fod wrth wraidd ymdrechion i wella.

Mae telerau gwell i weithwyr yn hanfodol i sicrhau sector manwerthu tecach, mwy cyfartal a mwy ffyniannus.  Dyma'r ffordd iawn o drin gweithwyr, ond mae hefyd o fudd i weithleoedd a'r economi a'r wlad yn ei chyfanrwydd.

Bydd Llywodraeth Cymru, law yn llaw â phartneriaid cymdeithasol, gan gynnwys y Fforwm Manwerthu, yn defnyddio pob dull ysgogi sydd ar gael i hyrwyddo a galluogi gwaith teg, ymdrin ag achosion o gamfanteisio ar weithwyr a mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern.  Rydym am sicrhau bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo'n deg, eu clywed a'u cynrychioli, eu bod yn ddiogel ac yn gallu datblygu mewn amgylchedd iach a chynhwysol lle y caiff hawliau eu parchu.

Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu ymddygiadau ac arferion sy'n cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhlith y gweithlu, megis hyblygrwydd sy'n canolbwyntio ar y gweithiwr a chynllun swyddi.

Dylai cyflogwyr rannu arferion da ac anelu at welliant parhaus yn y meysydd hyn.

Rydym am i fanwerthwyr ddarparu mynediad at undebau llafur a chydnabod gwerth gweithio a negodi ag undebau llafur a gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ar ddatblygu'r gweithlu a materion eraill sy'n effeithio ar y gweithlu.

Yn benodol, ein huchelgais yw gweld y canlynol: 

  • Y sector manwerthu yn mabwysiadu partneriaeth gymdeithasol fel y ffordd o weithio a ffefrir, lle mae gan weithwyr manwerthu lais gwirioneddol mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt a'u hamodau gwaith.
  • Ymrwymiad i wella cyflogau, telerau ac amodau y tu hwnt i'r lefelau statudol gofynnol, yn ddelfrydol drwy gydfargeinio.    
  • Gwell sicrwydd, yn enwedig drwy sicrhau bod gweithwyr yn cael cynnig oriau wedi'u gwarantu a digon o rybudd pan fydd patrymau sifft yn newid. 
  • Y sector manwerthu yn dangos esiampl o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhlith y gweithlu, lle cymerir camau rhagweithiol i fynd i'r afael â diffyg cynrychiolaeth, gwahanu galwedigaethol a bylchau cyflog. 

Bydd Contract Economaidd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn elfen allweddol o'i gwaith ymgysylltu â busnesau yng Nghymru i hybu arferion busnes sy'n gymdeithasol gyfrifol ac yn ofyniad i'r rhai sy'n ceisio cymorth ariannol uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

Yr hyn rydym eisoes yn ei wneud:

Mae gwaith teg yn cwmpasu materion datganoledig a materion a gadwyd yn ôl, gan effeithio ar yr hyn y gallwn ei wneud o ran gwaith teg a sut y gallwn wneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i annog a chodi ymwybyddiaeth o fanteision gwaith teg, amodau gwaith teilwng ac ansawdd swyddi, gan hyrwyddo arferion gorau a rôl gadarnhaol undebau llafur.  Mae hyn yn cynnwys ystyried ffyrdd o wella mynediad at wybodaeth, cyngor a chanllawiau mewn perthynas â hawliau gweithwyr a chyfrifoldebau cyflogwyr, a pharhau i hyrwyddo'r Cyflog Byw Gwirioneddol ac annog busnesau i'w fabwysiadu.

Rydym hefyd yn cryfhau ein Contract Economaidd fel bod twf cynhwysol, gwaith teg, datgarboneiddio ac iechyd meddwl gwell yn y gwaith wrth wraidd popeth a wnawn, gan dargedu cymorth busnes a buddsoddiad ar y rheini sy'n gwneud ymrwymiadau clir i wella arferion busnes.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi ac yn ei ymgorffori ymhellach er mwyn cryfhau ei effaith o ran mynd i'r afael ag arferion cyflogaeth anfoesegol.

Rydym yn gwella ymwybyddiaeth o arferion, prosesau a diwylliannau yn y gweithlu sy'n wrth-hiliol, eu deall yn well a'u mabwysiadu, drwy roi'r Cynllun Cymru Wrth-hiliol ar waith.

Rydym yn parhau i geisio dylanwadu ar hawliau, dyletswyddau a mesurau diogelu cyflogaeth a gadwyd yn ôl a fydd yn cael effaith ar weithwyr a gweithleoedd yng Nghymru.

Mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi llunio siarter: 'Diversity and Inclusion Charter', ar gyfer swyddi gwell, gyda dyhead i'r sector manwerthu fod yn arweinydd ym maes amrywiaeth a chynhwysiant.

Astudiaethau achos

Effaith undebau llafur ar gyflogau mewn archfarchnadoedd

Mae USDAW, Unite the Union a GMB yn trefnu gweithwyr yn archfarchnadoedd Cymru. Drwy gydfargeinio, gosodwyd meincnod newydd ar gyfer cyflogau yn Morrisons pan gafodd cyfradd ofynnol o £10 yr awr ar gyfer gweithwyr manwerthu ei negodi ym mis Ionawr 2021. 

Mae cydfargeinio wedi cael cryn effaith yn Tesco hefyd. Yn 2021, llwyddodd y gweithlu manwerthu, a gynrychiolwyd gan USDAW, i negodi cyfradd cyflog sylfaenol o £10 yr awr (£5.55 yn uwch na'r isafswm cyflog statudol i bobl ifanc 16-17 oed ar y pryd).  Mae cael gwared ar gyfraddau cyflog sy'n gysylltiedig ag oedran wedi gwneud gwaith yn decach yn yr archfarchnadoedd hyn, ac mae undebau hefyd wedi negodi gwell sicrwydd o ran oriau, mae bargen 2022 yn rhoi hawl i weithwyr manwerthu wneud cais am gontract ‘oriau arferol’ ac yn sicrhau contract ag o leiaf 16 awr i'r rhai sydd am gael hynny.

Nid oes cydgytundeb yn Sainsburys nac Asda, er y cydnabyddir undebau at ddiben ymgynghori. Er mwyn ceisio gwella cyflogau, telerau ac amodau yn y gweithleoedd hyn, mae undebau wedi bod yn ymgyrchu dros gyflogau gwell. Cyrhaeddodd y gyfradd cyflog sylfaenol yn Sainsburys £10 yr awr yn 2022, a bydd Asda yn croesi'r trothwy £10 yr awr erbyn mis Ebrill 2023.

Gwneud y gweithle yn ystyriol o'r menopos 

Mae undebau llafur yn gweithio gyda'u haelodau i wneud yn siŵr bod y gweithle yn lle gwell iddynt – boed hynny'n ymwneud â'u cyfrifoldebau gofalu neu eu llesiant, a nifer o ffactorau eraill. Yn ystod y degawd diwethaf, mae undebau wedi bod yn canolbwyntio ar sut mae angen i'r gweithle addasu i weithwyr sy'n mynd drwy'r menopos, a'r symptomau y maent yn eu profi o ganlyniad i hyn.

Mae undebau wedi gweithredu mewn ffyrdd gwahanol yn y sector manwerthu. Bu undebau yn y Co-operative Group yn gweithio gyda'r cyflogwr i negodi polisi menopos newydd, gan gynnwys hyfforddiant i 4,500 o reolwyr yn dilyn arolwg a ddangosodd nad oeddent yn teimlo'n hyderus yn cefnogi aelodau o staff a oedd yn mynd drwy'r menopos neu'r perimenopos.   Yn Tesco, mae USDAW wedi gweithio gyda'r rheolwyr i brofi mentrau newydd megis gwisgoedd â defnydd mwy anadladwy.

Sgiliau

Nid yw'r sector manwerthu wedi'i eithrio rhag cyflymder a graddfa newid yn y byd gwaith. Yn aml mae tystiolaeth wedi nodi bod bylchau o ran sgiliau yn y gweithlu presennol yn broblem fwy sylweddol sy'n wynebu'r diwydiant na denu newydd-ddyfodiaid i'r sector â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr. Fodd bynnag, mae'r farchnad lafur dynn bresennol wedi cyfuno'r heriau hyn.

Bydd angen parhau i hyrwyddo hyfforddiant gwerth uchel i sicrhau bod gan y sector weithlu sy'n barod i'r dyfodol. Bydd sgiliau yn parhau i fod yn angenrheidiol ar bob lefel, yn enwedig rolau rheoli ac arwain ac ar gyfer galwedigaethau gwasanaeth cwsmeriaid a gwerthu.

Mae angen sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a gwerthu yn holl is-sectorau manwerthu, gan gynnwys manwerthwyr bwyd, siopau adrannol a siopau arbenigol ac, wrth gwrs, mewn lleoliadau ar-lein a thros y ffôn.

Mae gofyn cynyddol i'r sector ddenu unigolion hyfedr a chymwys a all roi newid technegol sylweddol ar waith a gwireddu'r cyfleoedd sylweddol a ddarperir drwy hyn. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mwy mewn gwaith i gynyddu cynrychiolaeth pobl anabl a phobl o grwpiau ethnig lleiafrifol yn y gweithlu a mynd i'r afael â gwahanu galwedigaethol, a sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli mewn rolau rheoli ac arwain ac nad yw eu rôl yn cael ei chyfyngu i lawr y siop.

I gael gyrfa sicr yn y sector, mae'n rhaid bod llwybrau gyrfa clir a chyfleoedd datblygu gyrfa er mwyn hwyluso'r broses o gamu ymlaen mewn gyrfa.

Bydd dwy elfen i'r pwyslais ar sgiliau:

  • uwchsgilio aelodau'r gweithlu presennol a'u cefnogi i ddatblygu gyrfaoedd yn y sector;
  • denu newydd-ddyfodiaid, ar bob lefel, gan gynnwys ymhlith y rheini sy'n dychwelyd i'r farchnad lafur neu sydd am newid gyrfa.

Yr hyn rydym eisoes yn ei wneud:

Mae Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau newydd Llywodraeth Cymru, a ddatblygwyd yn erbyn cefndir ariannol anodd, gan gynnwys colli dros £1.1bn mewn cyllid ar ôl gadael yr UE, yn amlinellu'r cynnig sy'n rhan hanfodol o'n tasg gyfunol i wneud Cymru yn opsiwn deniadol i fwy o bobl a busnesau.

Rydym am helpu pawb – yn enwedig y rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur – i ymdrin â'r heriau sy'n gysylltiedig â gwaith y byddant yn eu hwynebu drwy gydol eu bywydau ac ymateb iddynt, boed hynny drwy hyfforddi, ailhyfforddi, uwchsgilio, newid gyrfa neu ddechrau busnes. Bydd yn helpu i fodloni'r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau yng Nghymru drwy wneud y gorau o'n doniau yma yng Nghymru, hybu amrywiaeth ymhlith y gweithlu a llunio economi sy'n gweithio i bawb. Bydd hefyd yn annog mwy o bobl i ystyried dechrau eu busnes eu hunain.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1.7bn yn y Warant i Bobl Ifanc, pecyn sy'n cynnwys £366 miliwn i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed yn ystod cyfnod y Senedd hon. Gwasanaeth Cymru'n Gweithio yw'r porth i'r Warant, gan ddarparu un pwynt mynediad, yn ogystal â chymorth gyrfaol diduedd ac o safon er mwyn helpu pobl i gamu i mewn i fyd gwaith a'u cefnogi ar hyd y ffordd. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth cymorth paru swyddi sy'n helpu pobl ifanc i ddod o hyd i'r llwybrau gyrfaol gorau iddynt a gwneud cais am swyddi yn y meysydd hynny.

Rydym hefyd yn ehangu Cyfrifon Dysgu Personol er mwyn helpu gweithwyr i uwchsgilio neu ailsgilio er mwyn gallu manteisio ar ystod ehangach o gyfleoedd gwaith gyda chyflogau uwch yn ogystal ag, ymhlith pethau eraill, ein Rhaglen Sgiliau Hyblyg, sy'n galluogi busnesau i gydfuddsoddi mewn cynlluniau datblygu sgiliau.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r sector manwerthu drwy gynnig amrywiaeth o brentisiaethau i ddiwallu anghenion y sector. Yn yr un modd, bydd yn parhau i annog cyflogwyr i ddarparu hyfforddiant ar lefelau uwch a fydd yn cynnig mwy o werth i'r busnesau eu hunain a'u cyflogeion.

Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i annog Llywodraeth y DU i dynnu'r Ardoll Brentisiaethau sy'n parhau i danseilio blaenoriaethau polisi Cymru, gan groesi ffiniau'r setliad datganoli a chael effaith ar gydberthnasau cyflogwyr yng Nghymru.

Mae Cronfa Ddysgu Undebol Cymru a rhaglen addysg undebau llafur TUC Cymru yn cefnogi undebau llafur yng Nghymru i ddatblygu sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd y gweithlu, gyda phwyslais penodol ar ddileu rhwystrau i'r rhai nad ydynt yn ddysgwyr yn draddodiadol. Darparwyd dros £13 miliwn er mwyn helpu undebau llafur i ddarparu datrysiadau sgiliau a chymorth dysgu i weithwyr dros y tair blynedd nesaf.

Mae'r Gymdeithas Siopau Cyfleustra wedi creu Hwb Pobl sy'n cynnwys casgliad o adnoddau cynghori a chyfreithiol newydd ar recriwtio, cadw a dilyniant, yn ogystal â chyhoeddi Canllaw Llesiant  gyda chyngor ymarferol ar sut y gall manwerthwyr wella eu gallu i gadw staff a gwella gwasanaeth cwsmeriaid drwy gael gweithwyr iach sy'n teimlo eu bod yn cael eu cynnwys.

Mae Consortiwm Manwerthu Cymru yn darparu rhaglenni arbenigol mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys datblygu arweinyddiaeth a datrysiadau wedi'u teilwra.

Astudiaeth Achos

Boots

Mae Boots, y manwerthwr iechyd a harddwch, a arweinir gan fferyllfa, mwyaf yn y DU, wedi gwasanaethu cwsmeriaid yng Nghymru o galon cymunedau lleol ers agor ei siop gyntaf yn Abertawe yn 1896. Heddiw, mae gan Boots 100 o siopau yng Nghymru ac mae'n cyflogi 1,600 o staff. Mae Boots yn ymrwymedig i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhlith y gweithlu – ‘rydym yn recriwtio pobl wych ac yn rhoi cyfleoedd iddynt ddatblygu sgiliau newydd a chamu ymlaen yn eu gyrfaoedd’.

Dechreuodd Alex Williams weithio yn ei siop Boots leol yng Nglynebwy pan oedd yn 16 oed ar ôl gorffen ei arholiadau yn yr ysgol. Cafodd ei benodi'n gynorthwyydd cwsmeriaid rhan-amser ar ddydd Sadwrn, a chwblhaodd gymwysterau cynorthwyydd gofal iechyd a fferyllfa cyn cael cynnig swydd llawn amser yn gweithio fel cynorthwyydd fferyllfa yn gweinyddu presgripsiynau. Yna astudiodd am NVQ Lefel 3 mewn gwasanaethau fferyllol a chofrestru fel technegydd fferyllfa.

Datblygodd Alex ei sgiliau arweinyddiaeth ac, o ganlyniad, cafodd ei swydd gyntaf fel rheolwr siop pan oedd yn 22 oed lle datblygodd ei frwdfrydedd dros fanwerthu a gwasanaeth cwsmeriaid. Aeth ei yrfa o nerth i nerth mewn rolau rheoli mewn siopau ledled Cymru cyn iddo gael ei benodi'n rheolwr ym mhrif siop Boots yn Abertawe. Yn ystod y cyfnod hwn, cwblhaodd gymhwyster CIPD Lefel 5 mewn Rheoli Adnoddau Dynol hefyd.

Symudodd Alex i'w swydd bresennol fel Rheolwr Ardal De-orllewin Cymru ym mis Chwefror 2020, lle mae'n gyfrifol am arwain 22 o siopau a 375 o gydweithwyr. Dywedodd Alex: “Rwyf wedi bod yn ffodus i weithio gyda chydweithwyr anhygoel dros yr 16 mlynedd diwethaf, ac rwy'n ddiolchgar i'r arweinwyr ysbrydoledig sydd wedi fy nghefnogi. Rwyf bellach mewn sefyllfa i ddefnyddio fy mhrofiad i ddatblygu arweinwyr y dyfodol yn Boots sy'n rhoi boddhad mawr i mi.”

M&S: Dymchwel y rhwystrau i weithio, cynnig dyfodol disgleiriach i bobl

Mae Marks & Start yn gynllun cyflogadwyedd llwyddiannus gan M&S sy'n helpu pobl sydd o dan anfantais wrth chwilio am waith, ni waeth pa ragfarnau y maent yn eu hwynebu bob dydd. Yn ogystal â rhoi cipolwg i bobl o yrfa yn y sector manwerthu, mae'r rhaglenni hefyd yn creu llwybr clir a hygyrch i mewn i waith.

Bu'r rhaglen ar waith ar ei ffurf bresennol ers 2014, gan gefnogi mwy nag 800 o bobl ifanc ledled Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Mae M&S yn gweithio gyda phartneriaid ardderchog fel rhan o'r rhaglen, gan gynnwys The Prince's Trust, ac mae'n ymfalchïo yn y cyfle i gwrdd â phobl mor wydn ac ysbrydoledig, y mae llawer ohonynt bellach yn aelodau gwerthfawr o deulu M&S. Yn wir, drwy gydol 2021-22, cafodd 81% o'r rhai a gwblhaodd eu rhaglen profiad gwaith gontract yn M&S.

Lle

Mae canol ein trefi a'n dinasoedd yn greiddiol i'r broses creu lleoedd gan fod eu dwysedd yn golygu bod siopau, gweithleoedd, hamdden, diwylliant a gwasanaethau cyhoeddus yn agos ac os nad ydym yn byw yn yr ardaloedd hynny eu hunain, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn darparu cysylltedd hanfodol iddynt.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys y polisi Canol Trefi yn Gyntaf fel rhan o gynllun datblygu cenedlaethol Cymru, Cymru'r Dyfodol, sy'n golygu y dylid ystyried safleoedd yng nghanol trefi a dinasoedd yn gyntaf wrth wneud penderfyniadau i leoli gweithleoedd a gwasanaethau.

Rydym wedi methu â rheoli datblygiadau y tu allan i'r dref ac mae angen inni greu cysylltiadau er mwyn gwneud newidiadau yng nghanol ein trefi a gwella'r sefyllfa. Rydym yn gwybod na allwn bellach ddibynnu ar y sector manwerthu yn unig, felly mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn defnyddio'r cyfleoedd creadigol i gyflwyno cyfleoedd economaidd a swyddi newydd i ganol ein trefi fel rhan o ddarpariaeth ehangach o ran gweithgareddau a defnyddiau, gan gynnwys gweithgareddau hamdden, dysgu, gwasanaethau lleol a gweithgareddau diwylliannol.

Mae cyfle i ddefnyddio adeiladau mewn ffordd wahanol er mwyn creu mannau cydweithio ac annog sgiliau a chyfleoedd gwyrdd newydd fel caffis trwsio, safleoedd manwerthu ailddefnyddio ac ail-lenwi ac arloesedd ailweithgynhyrchu er mwyn adfywio canolfannau siopa mewn adfyd. Mae'r broses o bontio tuag at economi gylchol yn cynnig cyfle allweddol i gefnogi datblygiadau economaidd rhanbarthol drwy annog cadwyni cyflenwi byrrach a ffocws mwy lleol a rhanbarthol ar gyrchu deunyddiau.

Bydd creu mannau gwyrddach â gwell ansawdd aer trefol yn creu mwy o gyfleoedd ar gyfer byw'n dda'n lleol, lle bydd y broses o ddylunio, datblygu a rheoli ein trefi a'n dinasoedd yn helpu pobl i ddiwallu'r rhan fwyaf o'u hanghenion dyddol yn lleol o fewn cymdogaeth 20 munud. Bydd hyn yn ein helpu i ymdrin â newid hinsawdd, yn cyflawni ein huchelgais sero net, yn annog opsiynau teithio llesol iachach ac yn lleihau'r angen i deithio mewn ffordd anghynaliadwy.

Mae'r creadigrwydd hwn a'r ymdrechion hyn i ddefnyddio adeiladau mewn ffordd wahanol yn hanfodol er mwyn gwrthdroi'r sefyllfa bresennol lle mae canol trefi yn gwagio, er mwyn adfer eu bywiogrwydd a'u hailgysylltu â'r ardaloedd o'u cwmpas drwy gysylltiadau teithio llesol a chynaliadwy. Mae angen inni hefyd fanteisio i'r eithaf ar seilwaith presennol canol trefi.

Rhaid inni barhau ag effeithiau cadarnhaol y pandemig, y gostyngiad mewn traffig, tafgeydd ac allyriadau, a rhaid i ganol trefi'r dyfodol fod yn wyrdd ac yn lân, yn lleoedd sy'n denu pobl i weithio ynddynt, i ymweld â nhw ac i fyw ynddynt.

Rydym yn cefnogi'r uchelgais hirdymor i sicrhau bod 30% o weithwyr yng Nghymru yn gweithio'n hyblyg ac o bell, er mwyn helpu i ysgogi gweithgarwch adfywio a gweithgarwch economaidd mewn cymunedau.

Mae canol trefi a dinasoedd yn fannau y gall y rhan fwyaf ohonom gerdded iddynt, seiclo iddynt neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i'w cyrraedd ac maent yn darparu pwyntiau mynediad cyffredin i lawer o lwybrau trafnidiaeth gynaliadwy. Rydym am sicrhau gwell swyddi a gwasanaethau yng nghanol trefi lle y gall pobl eu cyrraedd heb fod angen defnyddio car.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda manwerthwyr ar eu profiad o Ardoll Parcio Gweithleoedd (WPL) Cyngor Dinas Nottingham, sef tâl a godir ar gyflogwyr sy'n darparu cyfleusterau parcio yn y gweithle.

Mae Cyngor Dinas Nottingham wedi cyflwyno'r ardoll hon i fynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â thagfeydd traffig, drwy ddarparu cyllid i fentrau seilwaith trafnidiaeth mawr a thrwy weithredu fel cymhelliad i gyflogwyr reoli eu darpariaeth barcio yn y gweithle. 

Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd sefydliadau angori, boed yn gynghorau ac yn ysbytai neu'n fusnesau mwy. Yr arian a gaiff ei wario ganddynt neu a gaiff ei ddenu ganddynt yw sail yr economi sylfaenol, sydd yn ei dro yn arwain at fuddiannau i gymunedau a manwerthwyr bach.

Mae sefydliadau angori yn rhan greiddiol o'r cysyniad o greu cyfoeth cymunedol o ganlyniad i faint o swyddi y maent yn eu darparu, graddau'r gwariant drwy gaffael, eu tir a'u hasedau a'r ffaith eu bod wedi'u lleoli mewn cymunedau lleol.

O ran y system ardrethi annomestig, yr uchelgais yw cydweithio i asesu'r opsiynau ar gyfer gwahanol ddulliau gweithredu mewn perthynas ag ailbrisio eiddo annomestig fel rhan o'r agenda diwygio trethi lleol ehangach yng Nghymru. Rydym yn cydnabod nad yw'r system bresennol yn berffaith, ond mae angen i'r dulliau amgen fod yn sylweddol well na'r trefniadau presennol, nid dim ond yn wahanol.

Mae angen parhaus hefyd i ddatblygu'r economi er mwyn sicrhau sylfaen gadarn i'r Gymraeg, yn arbennig, tyfu cymunedau lle ceir lefel uchel o siaradwyr Cymraeg.

Er na allwn reoli pob ffactor sy'n dylanwadu ar dwf economaidd, mae pethau y gallwn ddylanwadu arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys sgiliau, y bri a roddir i'r Gymraeg ac y caiff y Gymraeg ei hystyried fel sgil gwerthfawr a bod cyfleoedd i ddefnyddio'r sgiliau hynny yn y sector manwerthu.

Yr hyn rydym eisoes yn ei wneud:

Mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn galluogi buddsoddiad o £136 miliwn yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd. Dyrannwyd £100 miliwn pellach dros y tair blynedd nesaf er mwyn parhau i helpu i adfywio canol trefi. Ffocws y Rhaglen yw adnewyddu a thwf cynaliadwy ein trefi drwy ymyriadau fel ailddefnyddio adeiladau adfeiliedig; cynyddu amrywiaeth gwasanaethau mewn trefi; creu mannau gwyrdd a gwella mynediad. Mae'r cyllid yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i leoli gwasanaethau mewn canol trefi a fyddai fel arall o bosibl wedi cael eu lleoli mewn mannau eraill.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi ei Strategaeth Gweithio o Bell. Mae'n amlinellu ein dull gweithredu er mwyn sicrhau bod 30% o'r gweithlu yng Nghymru yn gweithio gartref neu'n agos i'w cartref yn ystod Tymor y Senedd hon.

Rydym yn hybu rhwydwaith o ganolfannau gweithio o bell/mannau gwaith lleol. Rydym yn gobeithio y bydd canolfannau gwaith lleol yn dod â mwy o bobl i ganol eu cymuned, lle byddant yn treulio eu diwrnod gwaith, yn gwneud eu siopa, yn prynu cinio ac yn cymdeithasu neu'n cymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae gwaith ymchwil yn mynd rhagddo ar hyn o bryd drwy ein rhwydwaith o ganolfannau peilot i asesu nifer y bobl sy'n defnyddio'r canolfannau, y buddiannau cysylltiedig a modelau cyflwyno llwyddiannus.

Mae mwy o drefniadau gweithio o bell yn golygu y gall pobl weithio – a byw, yn lleol. Mae'r rhagolygon yn dangos y gall canolfannau mwy ailddyfeisio eu hunain, ond mae'n debygol y bydd risgiau penodol i ardaloedd trefol lle ceir llai o amwynderau, ac mae sawl enghraifft o ardaloedd o'r fath yng Nghymru.

Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Weinidogion Cymru: Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: Gweithio o Bell yn nodi ei bod hi'n bosibl y bydd y bobl sy'n ymweld â chanol dinasoedd yn symud i'r maestrefi wrth i bobl dreulio mwy o amser gartref neu yn eu hardal leol, ond y bydd dinasoedd yn goroesi drwy addasu'r ffordd y caiff mannau trefol eu dylunio a'u defnyddio. Mae angen inni fonitro'r sefyllfa er mwyn deall tystiolaeth i lywio penderfyniadau polisi yn ystod y cyfnod adfer a thu hwnt.

Roedd adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach ‘Gweledigaeth ar gyfer Trefi Cymru 2022’ yn cynnwys argymhelliad y dylai'r sector manwerthu, yn enwedig busnesau annibynnol, barhau'n rhan greiddiol o sgwrs gadarnhaol am yr hyn rydym am ei weld yn ein trefi.

Yn gynharach eleni (Chwefror 2022), lluniodd y Sefydliad Rheoli Lleoliadau adroddiad o'r enw "Booksellers as Placemakers: The Contribution of Booksellers to the Vitality and Viability of High Streets". Dangosodd y gwaith ymchwil gyfraniad siopau llyfrau o ran sicrhau bod strydoedd mawr yn hanfodol ac yn hyfyw. O gefnogi ysgolion a grwpiau gwirfoddol, i ddarparu man perfformio, creu gwyliau a digwyddiadau – ac yn aml ddarparu man i fwydo ar y fron.

Nododd adroddiad Cymdeithas y Siopau Cyfleustra yn 2022 ar Siopau Lleol yng Nghymru eu pwysigrwydd penodol a'u cyffredinrwydd mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. Mae wedi nodi canllaw i fanwerthwyr ar feithrin cydberthnasau â chymunedau lleol.

Yn ogystal, dangosodd adroddiad WRC ar roi elusennol yn 2019 fod manwerthwyr yng Nghymru wedi codi neu wedi rhoi dros £9m i achosion da.

Darparodd yr adroddiad enghreifftiau ardderchog o'r ffordd mae manwerthwyr ym mhob cwr o'r wlad yn gweithio mewn partneriaeth ag elusennau a grwpiau i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl a chymunedau lleol. Caiff adroddiad 2020 ei gyhoeddi'n ddiweddarach eleni.

Mae cynllun strategol Llywodraeth Cymru Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020-2025 yn nodi dull creu lleoedd pwrpasol ar gyfer adfywio canol trefi a chymunedau lleol – gan greu cyrchfannau lleol sy'n adlewyrchu'r cymeriad, yr atyniadau a'r cyfleusterau penodol y bydd ymwelwyr y dyfodol am eu gweld.

Bydd gwaith Llywodraeth Cymru i wella cysylltedd digidol ledled Cymru ymhellach yn adeiladu ar nifer o ymyriadau sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys Cronfa Band Eang Lleol £10 miliwn ac amrywiaeth o gynlluniau talebau er mwyn helpu'r rheini nad oes ganddynt fynediad i fand eang cyflym iawn. Mae hyn yn ychwanegol at ei gwaith cyfredol i gyflwyno band eang ffeibr llawn ag Openreach i ryw 39,000 o eiddo gan ddefnyddio £56 miliwn o gyllid cyhoeddus.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £80m mewn teithio llesol ers 2016 a fydd, ymhlith pethau eraill, yn gwella mynediad i ganol trefi, cyflogaeth, addysg, gwasanaethau allweddol a lleoliadau pwysig eraill. Bydd wedi buddsoddi mwy nag £1.6bn mewn Metros Trafnidiaeth ers 2017.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgynghori ar ei Phapur Gwyn ar gynigion i wella gwasanaethau bysiau a chynyddu'r rhwydwaith bysiau. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud hi'n ofynnol i wasanaethau bysiau gael eu gweithredu ar ffurf masnachfraint ledled Cymru er mwyn helpu i ddiwallu anghenion cyhoeddus, cynyddu'r gwerth a gawn am fuddsoddiad cyhoeddus mewn gwasanaethau bysiau i'r eithaf a dod â'n dibyniaeth ar geir preifat i ben.

Mae Grŵp Gweithredu ar Ganol Trefi y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn goruchwylio'r broses o roi'r argymhellion a wnaed yn adroddiad yr Athro Karel Williams "Small Towns, Big Issues" ac Adfywio Canol Trefi yng Nghymru, a baratowyd gan Archwilio Cymru ar waith. Mae'r Grŵp hefyd yn chwarae rhan arweiniol wrth ddod o hyd i ffyrdd o annog datblygiadau yng nghanol trefi yn hytrach na datblygiadau y tu allan i drefi.

Mae'r Grŵp hefyd yn ystyried sut y gallwn symleiddio'r broses gyllido o dan y rhaglen Trawsnewid Trefi ymhellach, symleiddio ei phrosesau a chynnwys cymunedau yn yr hyn a fydd yn digwydd i'w tref. Bydd cynnydd y gwaith hwn yn helpu i lywio camau gweithredu yn y dyfodol mewn perthynas â chyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y sector manwerthu.

Mewn maes arall, mae Cynllun Cyflawni'r Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru yn nodi'r ymyriadau polisi i atgyfnerthu'r economi sylfaenol a sicrhau gwariant lleol.

Yn 2021-22, darparwyd dros £620m mewn rhyddhad ardrethi annomestig i gefnogi busnesau, a rhoddwyd rhyddhad ardrethi o 100% i bob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch â gwerth ardrethol o £500,000 neu lai. O ganlyniad i'r cynlluniau rhyddhad hyn, ni fu'n rhaid i dros 70,000 o fusnesau yng Nghymru dalu unrhyw ardrethi o gwbl ar gyfer y flwyddyn.

Yn 2022-23, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r sector manwerthu i adfer drwy ddarparu £116m o gymorth ardrethi annomestig wedi'i dargedu i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Bydd talwyr ardrethi yn gymwys i gael gostyngiad o 50% oddi ar eu hatebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol. Rhoddir cap o £110,000 fesul busnes ledled Cymru ar swm y rhyddhad y gellir ei hawlio o dan gynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru. Mae ein dull gweithredu yn golygu y bydd busnesau yng Nghymru yn cael cymorth tebyg i'r cymorth a roddir mewn rhannau eraill o'r DU.

Yn ogystal â darparu cymorth rhyddhad ardrethi, gwnaethom benderfynu rhewi'r lluosydd annomestig ar gyfer 2021-22 a 2022-23 er mwyn atal unrhyw gynnydd ym miliau ardrethi talwyr ardrethi a rhoi cymorth parhaus i fusnesau yn ystod y cyfnod heriol hwn.

O fewn y cyd-destun hwn a chan adeiladu ar y gwaith a wnaed gennym yn ystod tymor y Senedd flaenorol, byddwn yn parhau i ystyried sut i wella ein system ardrethi annomestig gan gynnal refeniw hanfodol i'r gwasanaethau lleol ar yr un pryd. Bydd hyn yn cynnwys adolygu pob cynllun rhyddhad er mwyn sicrhau ei fod yn addas at y diben ac yn rhoi cymorth i rannau o'r sylfaen drethu yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon. Bydd penderfyniadau yn y dyfodol am ardrethi annomestig yn rhan o'r ystyriaethau diwygio trethiant lleol ehangach hyn.

Cydnerthedd

Datgarboneiddio

Mae sicrhau bod manwerthwyr o bob maint yn barod i symud i sero net yn flaenoriaeth allweddol o ran gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer y sector a chyflawni targed Llywodraeth Cymru o fod yn sero net erbyn 2050.

Ar gyfer y sector manwerthu, mae hyn yn golygu lleihau'r defnydd o ynni, yn enwedig ynni sy'n dod o danwyddau ffosil ar gyfer cludiant a chyflwyno eitemau i'w manwerthu. Dylai safleoedd manwerthu fod yn effeithlon o ran ynni, dylai systemau gwres a golau ddefnyddio technolegau ynni isel, a lle y bo'n ymarferol, dylid defnyddio ynni adnewyddadwy ar gyfer safleoedd manwerthu a systemau cludiant. Cyhyd ag y bo'n ymarferol, dylai safleoedd manwerthu gael eu defnyddio fel lleoliadau i gynhyrchu trydan o baneli solar, pympiau gwresogi a thechnolegau priodol eraill.

At hynny, cyhyd ag y bo'n ymarferol, dylid defnyddio safleoedd manwerthu i hybu bioamrywiaeth. Gall safleoedd manwerthu fod yn lleoliadau ar gyfer blychau nythu a blychau ffenestr – ac yn yr un modd – ar gyfer planhigion sy'n annog pryfed peillio. Lle mae safleoedd manwerthu yn rhan o ganolfannau siopa, gellir hybu'r defnydd o ynni a bioamrywiaeth fel rhan o ymdrech gymunedol gan y sector manwerthu. Gellir lleoli planhigion, llwyni a choed er mwyn annog bioamrywiaeth a gwella'r amgylchedd i gwsmeriaid.

Gall canolfannau siopa ddefnyddio paneli solar, pympiau gwresogi a thechnolegau eraill sy'n dod i'r amlwg er mwyn cynhyrchu trydan mewn ffyrdd mwy cynaliadwy.

Bydd angen i fusnesau newid mewn ymateb i'r ymgyrch i symud tuag at economi fwy cylchol a chydnabod y cyfleoedd economaidd sy'n bodoli o ran ychwanegu gwerth at adnoddau wedi'u hailgylchu a'u defnyddio a'r potensial i wella cydnerthedd y gadwyn gyflenwi.

Gan ystyried yr angen hirdymor am ddeunyddiau allweddol yng Nghymru, bydd lleihau ôl troed carbon cadwyni cyflenwi a phrynu cynhyrchion carbon is yn gofyn am ddull gweithredu cylch oes cyfan ac yn cymell prosesau gwell ar gyfer dylunio cynhyrchion er mwyn gallu sicrhau y caiff deunyddiau eu defnyddio am gyfnod mor hir â phosibl.

Er mwyn mynd y tu hwnt i ailgylchu, bydd angen i fusnesau flaenoriaethu cynhyrchion wedi'u hailddefnyddio, wedi'u trwsio ac wedi'u hailweithgynhyrchu lle bynnag y bo'n bosibl. Bydd busnesau hefyd yn datblygu cyfleoedd ar gyfer siopau dim gwastraff, ail-lenwi nwyddau, manwerthu di-blastig,  nwyddau wedi'u huwchgylchu, eu hailweithgynhyrchu a'u trwsio a byddant yn cefnogi ymdrechion i ehangu drwy gyflogi, prydlesu a benthyca, gan fanteisio ar Gronfa'r Economi Gylchol.

Mae manwerthwyr yn cydnabod effaith eitemau untro ac yn cefnogi trafodaethau parhaus Llywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno gwaharddiadau neu gyfyngiadau ar amrywiol eitemau untro ac i ystyried dewisiadau amgen y gellir eu hailddefnyddio.

Yn ogystal, er mwyn datgarboneiddio drwy well effeithlonrwydd adnoddau a gwell trefniadau ar gyfer rheoli adnoddau, bydd disgwyl i fanwerthwyr gefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Dychwelyd Blaendal am gynwysyddion diod a rheoliadau ailgylchu newydd i'w gwneud hi'n ofynnol i fusnesau a safleoedd annomestig eraill wahanu eu ffrydiau gwastraff.

Byddant hefyd yn monitro eu gwastraff yn fwy gofalus, gan eu helpu i leihau ac ailgylchu mwy, ac yn parhau i orfodi'r tâl am fagiau siopa untro.

Nodir bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraethau eraill y DU i ddatblygu cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr hefyd mewn perthynas â phlastigau ac i gyflwyno'r ddeddfwriaeth i ategu'r broses o'i roi ar waith.

Mae'r sector manwerthu yn cydnabod budd cynhenid gweithio tuag at sero net. Yr her i'r sector yw sut i wrthbwyso buddiannau hyn yn erbyn gostyngiad mewn refeniw. Bydd gostyngiad yn y teithiau a wneir yn anochel yn parhau i gynyddu wrth i fwy o weithwyr symud tuag at fodel gweithio hybrid. Bydd hyn yn parhau i effeithio ar werthiannau a refeniw.

Mae cyfle i'r sector, yn enwedig yn sector byrbrydau a bwyd, ddosbarthu nwyddau i gartrefi a chanolfannau gweithio ond rhaid i bob penderfyniad strategol a wneir gynnwys ystyriaethau sero net a phontio teg a chael ei wneud o dan amodau nad ydynt yn camfanteisio. Dylai pryniannau a buddsoddiadau 'gydymffurfio' â'r cynllun sero net.

Byddwn yn annog cyfranogiad yn Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru yn ogystal ag annog manwerthwyr i hybu bwydydd lleol wedi'u cyrchu mewn ffordd fwy cynaliadwy a'u hannog i benodi Cynrychiolwyr Gwyrdd fel rhan o undebau llafur yn y gweithle.

Yr hyn rydym eisoes yn ei wneud:

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Garbon Cymru Sero Net 2 (2021-25) ym mis Hydref 2021 cyn COP 26. Mae'n nodi sut y bydd angen mwy na dim ond camau gweithredu gan y Llywodraeth i gyflawni Cyllideb Garbon 2 ac mae angen i bawb, gan gynnwys busnesau, chwarae eu rhan wrth gyflawni Sero Net.

Un o'r themâu allweddol yw pontio teg – sut y gallwn sicrhau na fyddwn yn gadael unrhyw un ar ôl wrth inni symud tuag at Gymru lanach, gryfach a thecach. Mae'r Cynllun hwn yn tynnu sylw at y mater hwn, gan gydnabod y degawd hwn o weithredu fel cyfnod hollbwysig o ran datblygu sgiliau gwyrdd ar gyfer swyddi'r dyfodol yn ogystal â meithrin gwell dealltwriaeth o effeithiau newid, a sut i sicrhau eu bod wedi'u dosbarthu'n deg o fewn cymdeithas.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros biliwn o bunnoedd mewn seilweithiau gwastraff ac ailgylchu a byddwn yn parhau ac yn ehangu'r cyllid i seilwaith rhanbarthol ledled Cymru er mwyn sicrhau y caiff deunyddiau eu darparu i ddiwallu anghenion busnesau a dinasyddion.

Bydd hyn yn cynnwys seilwaith cymunedol fel cyfleusterau trwsio ac ailddefnyddio a'r gallu i ailbrosesu ac ailgylchu mwy o ddeunyddiau. Bydd hyn yn gweithio i gadw gwerth y deunyddiau hyn yma yng Nghymru ac i greu cyfleoedd cyflogaeth mwy cydnerth drwy greu cysylltiadau gwell rhwng y trefniadau ar gyfer casglu a phrosesu adnoddau a'r busnesau a'r mentrau sydd eu hangen.

At hynny, cyhoeddwyd Mwy nag Ailgylchu, sef cynllun Llywodraeth Cymru i droi'r economi gylchol yng Nghymru yn realiti, ym mis Mawrth 2021. Mae 'Mwy nag Ailgylchu' yn nodi ymrwymiad i ddatblygu diwylliant cyffredinol o ailddefnyddio, trwsio ac ailweithgynhyrchu. Yn ogystal ag atal gwastraff a helpu i ddatgarboneiddio, bydd hyn hefyd yn ein galluogi i wireddu'r buddiannau economaidd a chymdeithasol.

Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan: Cynllun Gweithredu, gan nodi ei chynlluniau ar gyfer gwefru ceir a faniau trydan yng Nghymru. Bydd newidiadau technolegol yn dylanwadu ar ddatblygiad y seilwaith gwefru cerbydau trydan yn y dyfodol, gan gynnwys gwelliannau o ran technoleg batris, microsymudedd, cerbydau awtonomaidd a'r defnydd o hydrogen a thanwyddau amgen eraill. Wrth i'r farchnad cerbydau trydan gynyddu, bydd ymddygiad defnyddwyr yn datblygu. Caiff yr agweddau hyn eu hadolygu'n rheolaidd fel rhan o'r trefniadau cyflwyno parhaus.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cyfnod pontio hwn. Mae Busnes Cymru yn darparu cymorth cynghori arbenigol ar effeithlonrwydd adnoddau sy'n ymdrin â phob agwedd o ynni a gwastraff i fesurau effeithlonrwydd dŵr. Mae hefyd yn cynnig adnodd Uchelgais Werdd er mwyn gwella gwybodaeth am effeithlonrwydd adnoddau a dealltwriaeth ohono a helpu i weithredu i liniaru effaith busnesau ar newid hinsawdd.

Yn ystod y cyfnod cyn COP 26, aeth manwerthwyr blaenllaw ati i gydweithio er mwyn dangos bod y diwydiant cyfan o blaid lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Lluniodd WRC ddogfen 'Climate Action Roadmap', sy'n cynnig fframwaith i dywys y diwydiant tuag at sero net.

Mae ymgyrch 'Better Retail Better World' WRC yn ymrwymo'r diwydiant manwerthu i ddatblygu economi decach, fwy cynaliadwy yn unol â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

Yn ogystal, mae llawer o fanwerthwyr wedi ymrwymo i Ymrwymiad Plastigion y DU, o dan arweiniad WRAP. Mae'r aelodau wedi ymrwymo i gael gwared ar blastigion sy'n achosi problemau gan leihau cyfanswm y deunydd pecynnu ar silffoedd uwchfarchnadoedd, ysgogi arloesedd a modelau busnes newydd a helpu i greu system ailgylchu gryfach yn y DU. Mae'r Ymrwymiad hefyd yn ymrwymo i sicrhau y caiff deunydd pecynnu plastig ei ddylunio er mwyn gallu ei ailgylchu'n hawdd a'i droi'n gynhyrchion ac yn ddeunydd pecynnu newydd.

Mae Cymdeithas y Siopau Cyfleustra hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyngor ar arferion gorau.

Case Study

Hyfforddiant amgylcheddol yn Greggs

'Going Green at Greggs with the BFAWU'

Mae Greggs wedi bod yn gweithio gydag Undeb y Pobyddion, Gweithwyr Bwyd a Gweithwyr Perthynol (BFAWU) i hyfforddi staff a gwella ymwybyddiaeth amgylcheddol.

Yn ystod cam peilot, nododd BFAWU sut y byddai ei chynrychiolwyr iechyd a diogelwch yn dod yn gynrychiolwyr iechyd, diogelwch a'r amgylchedd i ddechrau, cynnig a gefnogwyd gan Greggs. Cynhaliodd BFAWU dreial o'r cwrs â'i gynrychiolwyr iechyd a diogelwch cenedlaethol er mwyn cael barn cynrychiolwyr ar y deunyddiau a phenderfynu a oedd unrhyw beth ar goll cyn cyflwyno'r cwrs i'r cynrychiolwyr ehangach.

Roedd Greggs yn awyddus iawn i weithio gyda'r undeb ar yr agenda hon a chynigiodd gynhyrchu hyfforddiant a oedd yn berthnasol i'r cwmni ond hefyd yn dderbyniol i'r undeb.

Ar hyn o bryd, mae'r hyfforddiant yn cynnwys pedair adran:

  • cyflwyniad yn ystyried olion troed carbon, beth yw ystyr ôl troed carbon, beth mae'n ei olygu i Greggs, pam bod yr undeb yn rhan o'r broses, a sut i'w leihau.
  • y defnydd o ynni, gan ystyried ble y caiff ynni ei ddefnyddio, o ble mae'r cwmni yn cael ynni, defnyddio'r adnodd monitro ynni ar y fewnrwyd.
  • rheoli a lleihau gwastraff sy'n cynnwys ailddefnyddio ac ailgylchu.
  • modiwl mopio sy'n ymdrin â defnyddio dŵr ac elfennau eraill.

Un enghraifft o sut mae hyn wedi helpu i wneud y gweithle'n wyrddach yw'r newid yn y ffordd o ddefnyddio'r peiriant golchi llestri – gan sicrhau nad yw'n cael ei weithredu pan nad oes angen. Nid yw gweithredu peiriant golchi llestri am 9.00, yn hytrach na phan fydd y gweithwyr yn cyrraedd am 6.00, yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r un siop ar ei phen ei hun, ond mae'r arbediad ynni bach hwnnw i fwy nag 1700 o siopau yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r cwmni ledled y DU.

Arferion newidiol defnyddwyr a goblygiadau'r argyfwng costau byw/ymadael â'r UE

Bydd yr argyfwng costau byw yn effeithio ar arferion defnyddwyr gan arwain at oblygiadau difrifol o bosibl i'r sector manwerthu. Bydd effaith anochel ar y manwerthwyr hynny sy'n masnachu mewn nwyddau a gwasanaethau disgresiwn o ystyried mai gwariant defnyddwyr ar eitemau disgresiwn, fwy na thebyg, fydd yr aberth gyntaf os bydd unrhyw bwysau ar gyllid personol.

Yn yr un modd, bydd disgwyliadau a phwysau ar y manwerthwyr hynny sy'n masnachu mewn nwyddau a gwasanaethau hanfodol, o ystyried yr effaith y bydd y cynnydd mewn prisiau yn ei chael ar incwm aelwydydd.

O ran costau ynni, mae'r cynnydd mewn costau i fusnesau yr un mor sylweddol a'r un mor ganlyniadol â'r cynnydd mewn costau i ddefnyddwyr. I rai manwerthwyr, byddai cynnydd arian parod o £20,000 yn eu biliau ynni yn gofyn am gynnydd o bron i £100,000 mewn gwerthiannau er mwyn talu'r bil hwnnw. Mae'r cynnydd mewn costau cynhyrchion a chyflogau yn gwaethygu'r pwysau hyn.

Gyda'i gilydd, rydym yn cydnabod y pwysau sylweddol hyn a lle bo cyfleoedd gan Lywodraeth Cymru i ddylanwadu ar y sefyllfa, bydd yn rhoi ystyriaeth ofalus i unrhyw ddewisiadau a allai olygu costau pellach i fanwerthwyr neu lle y byddai modd rhoi cymorth uniongyrchol neu anuniongyrchol o bosibl.

Lle bo cyfleoedd gan Lywodraeth y DU i ddylanwadu ar y sefyllfa, er enghraifft o ran trethiant a budd-daliadau cyffredinol, byddwn yn cydweithio i gyflwyno cynigion.

O ran ymadael â'r UE, mae manwerthwyr yn gorfod addasu i'r cydberthnasau masnachu newydd rhwng y DU a'r UE sydd wedi arwain at fwy o gymhlethdodau a chostau uchel wrth fewnforio ac allforio nwyddau.

Mae dogfennaeth ychwanegol, cynnydd mewn costau cludo, problemau â'r gadwyn gyflenwi a phrinder gyrwyr HGV oll yn cael effaith negyddol ar y sector, ac mae COVID-19 wedi gwaethygu'r sefyllfa yn sylweddol.

Ymddengys fod y problemau sy'n wynebu gyrwyr HGV yn mynd y tu hwnt i effaith ymadael â'r UE. O ganlyniad i gyflogau isel ac amodau gwael, mae gyrwyr yn symud i sectorau eraill, yn enwedig y rheini sy'n gweithio mewn ardaloedd gwledig sy'n cael cyflogau is na'r rheini sy'n gweithio mewn ardaloedd trefol.

Mae gwaith dadansoddi gan academyddion, 'UK in a Changing Europe: Post-Brexit imports, supply chains, and the effect on consumer prices', yn dangos bod Brexit wedi achosi cynnydd cyfartalog o ryw 6% mewn prisiau bwyd yn ystod 2020 a 2021, gyda'r cynnydd mwyaf i'w weld ers cychwyn y Cytundeb Masnach rhwng y DU a'r UE.

Yr hyn rydym eisoes yn ei wneud:

Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r prif gyfleoedd sydd ar gael iddi roi arian parod ym mhocedi cwsmeriaid (a gweithwyr). Ers mis Tachwedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi mwy na £380 miliwn mewn pecyn cymorth i aelwydydd incwm isel er mwyn ymateb i'r pwysau difrifol ac uniongyrchol ar gostau byw.

Mewn meysydd lle mae'r farchnad lafur wedi tynhau, darparodd Llywodraeth Cymru £5 miliwn ychwanegol ar gyfer Cyfrifon Dysgu Personol – wedi'u targedu at sectorau gan gynnwys cerbydau HGV a cherbydau hybrid a thrydan.

Rydym yn annog unrhyw fusnes y mae angen cymorth a chyngor arno i gysylltu â Busnes Cymru i ddechrau.

At hynny, mae pob aelod o'r Fforwm Manwerthu yn cynnig gwasanaethau cynghyori i'w aelodau ac ar gael i'w cynorthwyo.

Defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol

Mae'r defnydd o dechnolegau newydd mewn lleoliadau manwerthu nad ydynt yn gweithredu ar-lein wedi trawsnewid natur gwaith manwerthu i bawb fwy neu lai. Wrth i'r sector manwerthu newid ac wrth i siopau addasu i gynnig profiadau amlsianel mwy amrywiol i gwsmeriaid, mae staff manwerthu yn gorfod ymgymryd â thasgau newydd sy'n gofyn am amrywiaeth ehangach o sgiliau, gan gynnwys defnyddio technoleg ddigidol, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i staff fabwysiadu sgiliau newydd ac addasu'n gyflym i weithle sy'n newid yn aml.

Mae technolegau newydd wedi arwain at waith mwy boddhaus i rai – gan ddileu'r angen i wneud tasgau diflas, ailadroddus er enghraifft, a chynnig cyfleoedd i weithwyr feithrin sgiliau newydd. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae'r defnydd o dechnolegau newydd wedi cael effaith negyddol, wrth i rai aelodau o staff golli eu swyddi a heb unrhyw dystiolaeth bod y manteision cynhyrchiant yn cael eu trosglwyddo i'r gweithlu o ran gwell cyflog ac amodau.

Mae'r twf eithriadol mewn manwerthu ar-lein wedi arwain at dwf sylweddol mewn gwaith manwerthu ‘anweladwy’ yn y DU. Yn arbennig, bu'r twf mewn gwaith dosbarthu yn sylweddol.

Daeth ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar Dreth ar werthiannau ar-lein i ben ar 20 Mai. Ystyriodd yr ymgynghoriad y cynnig ar gyfer treth ar werthiannau ar-lein fel ffordd o ailgydbwyso'r trefniadau ar gyfer trethu'r sector manwerthu rhwng manwerthu ar-lein a manwerthu mewn siopau.

Nid yw'r swyddi a gaiff eu creu yn y sector manwerthu ar-lein yn gwneud iawn am y swyddi a gollwyd ar draws y sector cyfan – mae angen llawer llai o weithwyr o gymharu â siopau adran mawr, er enghraifft. Mae'r Ganolfan Ymchwil Manwerthu wedi amcangyfrif ar gyfer pob 10 swydd a gollir yn y sector manwerthu nad yw ar-lein, mai dim ond dwy neu dair swydd a gaiff eu creu ar-lein: 'Centre for Retail Research The Crisis in Retailing: Closures and Job Losses'.

Yn ogystal, bydd awtomeiddio yn dylanwadu ar fodelau busnes manwerthu a'r gadwyn werth ehangach, a thrwy hynny, o bosibl, greu llai o haenau a gweithlu sydd wedi'i rymuso gan ddata a dadansoddeg amser real. Bydd angen i'r sector barhau i addasu ac olrhain tueddiadau a goblygiadau a gweithredu'n gyflym i ymdrin â nhw. Bydd llais cryfach i weithwyr yn helpu i sicrhau na chaiff technoleg ei chyflwyno mewn ffyrdd sydd o fudd i'r cyflogwr ar draul y gweithiwr.

Yr hyn rydym eisoes yn ei wneud:

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r strategaeth ddigidol i Gymru sy'n nodi gweledigaeth ac uchelgais glir ar gyfer dull gweithredu digidol cydgysylltiedig ar draws sectorau yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod newidiadau digidol wedi cyflymu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn ymrwymedig i rymuso pobl a busnesau i fod yn hyderus yn ddigidol ac i fanteisio'n llawn ar y cyfleoedd y mae technolegau digidol yn eu cynnig. Mae hyn yn cynnwys helpu busnesau yng Nghymru i gael gafael ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt i allu arloesi, tyfu a ffynnu.

Yn arbennig, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ''Near Me Now': y prosiect strydoedd mawr digidol peilot, gweler yr astudiaeth achos.

Ar 10 Mai, cynhaliodd Cymdeithas y Siopau Cyfleustra ddigwyddiad Arddangos Technoleg yn cynnig cyfle unigryw i gyflenwyr arddangos datrysiadau technoleg newydd sydd naill ai wedi cael eu lansio'n ddiweddar, neu a gaiff eu lansio yn y dyfodol.

Mae gwefan ganlynol WRC yn darparu manylion am ddigwyddiadau Manwerthu Digidol a fu yn y gorffennol ac a gynhelir yn y dyfodol ac yn cynnig cyngor.

Astudiaeth Achos

Near Me Now: Prosiect Strydoedd Mawr Digidol

Mae Meddalwedd Rheoli Cyrchfannau VZTA yn cynnig llwyfan digidol unigryw wedi'i gynllunio er budd pob rhanddeiliad sy'n ymwneud â datblygu economaidd ac adfywio  trefi. Fe'i treialwyd mewn tair ardal a chofrestrodd 5 awdurdod lleol ar gyfer y treial.

Mae'r prosiect wedi'i greu gyda busnesau lleol ac awdurdodau lleol ac ar eu cyfer, a'i nod cyffredinol yw helpu trefi i drawsnewid yn ddigidol a'u galluogi i gydweithio i greu safonau newydd ar gyfer yr oes ddigidol.

Bydd llwyfan masnachu cymunedol cwbl weithredol yn galluogi busnesau i hysbysebu cynhyrchion a gwasanaethau mewn amser real, gan ddiwallu anghenion y gymuned a chreu strydoedd mawr cwbl ddigidol y gellir cynnal chwiliadau llawn ohonynt ledled Cymru.

Mae llwyfan digidol VZTA yn cynnwys tair rhan:

Awdurdodau lleol: gall awdurdodau lleol fewngofnodi i lwyfan ar y we a naill ai greu ‘geo-ffens’ – llinell i amlinellu stryd fawr neu fewnforio system gwybodaeth ddaearyddol (GIS).

  • gall awdurdodau lleol a rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â threfi ymgysylltu a chyfathrebu â phob busnes yn eu hardal o gyfrifiadur bwrdd gwaith – gan ryddhau adnoddau gwerthfawr
  • yn wahanol i gyfeirlyfrau sy'n dod i gynnwys manylion anghyfredol ac yn dyddio'n gyflym – gall yr awdurdod lleol neu'r rhanddeiliad sy'n gysylltiedig â'r dref ddileu busnesau nad ydynt yn masnachu mwyach

Rhanddeiliaid allweddol:  gall busnesau gofrestru ar y llwyfan – gan hysbysebu gwasanaethau a chynhyrchion mewn amser real.

  • gall busnesau benderfynu beth y bydd eu cwsmeriaid yn ei weld ar y llwyfan a phryd ac am ba mor hir y bydd cwsmeriaid yn gallu ei weld
  • ni fydd busnesau yn cystadlu nac yn talu am statws uwch ar y llwyfan; rhoddir yr un chwarae teg i bawb
  • caiff data manylion cyswllt y busnes eu diweddaru'n awtomatig

Gall cwsmeriaid ymgysylltu â'r llwyfan a'i ddefnyddio i chwilio am wasanaethau/cynhyrchion.

  • bydd gan ddefnyddwyr un pwynt mynediad digidol ar gyfer trefi y gellir ei ddefnyddio gartref, yn y swyddfa neu mewn man cydweithio o gyfrifiadur bwrdd gwaith neu o ap symudol wrth ymgysylltu â'r hyn sydd o'u cwmpas

Ynghyd â'r ddarpariaeth manwerthu yn y dref, bydd y system yn cefnogi twristiaeth, y celfyddydau a diwylliant, llwybrau trefi a bwyd a diod a bydd yn galluogi pobl i ymgysylltu â'u trefi ar sail rithwir ac ar sail ffisegol; gan ddefnyddio technoleg i adfer ymdeimlad o gymuned; gan sicrhau na chaiff unrhyw dref ei gadael ar ôl.

Troseddau a Thrais yn y Sector Manwerthu

Yn ôl ffigurau Cymdeithas y Siopau Cyfleustra ac USDAW mae tua 90% o weithwyr manwerthu yn cael eu cam-drin gan gwsmeriaid dim ond o ganlyniad i wneud eu gwaith.

Er bod bygythiadau, achosion o gam-drin a thrais yn erbyn gweithwyr manwerthu wedi cynyddu'n sylweddol ers dechrau argyfwng y Coronafeirws, rhaid cofio bod amrywiol gyrff wedi nodi cynnydd sylweddol yn hyn o beth yn ystod y blynyddoedd cyn pandemig COVID-19. Ynghyd ag achosion o gam-drin gweithwyr manwerthu, mae'r sector wedi profi cynnydd sylweddol o ran achosion o ddwyn, lladrata a thwyllo, fel y nodir yn Adroddiad Troseddau WRC.

Mae manwerthwyr wedi buddsoddi'n sylweddol mewn mesurau atal troseddau er mwyn cefnogi eu staff a diogelu eu busnesau.

Yr hyn rydym eisoes yn ei wneud:

Mae'r cynnydd hwn mewn troseddau manwerthu yn niweidiol i'r sector ac i lesiant y gweithlu. Gwnaed cryn dipyn o waith eisoes ym mhob rhan o'r sector i wella prosesau ar gyfer rhoi gwybod am droseddau ac i fuddsoddi yn y dechnoleg berthnasol. Fel rhan o ymdrechion pellach i fynd i'r afael â'r mater, bydd y Llywodraeth, manwerthwyr, undebau llafur a'r Heddlu yn gweithio mewn partneriaeth i ddiogelu pob cyflogai yn y sector manwerthu  ac i atal a rhwystro achosion o ddwyn o siopau a throseddau manwerthu.

Mae Cymdeithas y Siopau Cyfleustra wedi cyhoeddi Canllawiau Troseddau 2022, ynghyd â chyngor penodol sy'n cydnabod y cynnydd mewn achosion o ddwyn tanwydd.

Mae cyngor cynhwysfawr ar gael hefyd gan WRC: 'British Retail Consortium: violence and crime'.

Astudiaeth achos

Trais yn erbyn gweithwyr mewn siopau

Mae dod â thrais manwerthu i ben wedi bod yn un o flaenoriaethau ymgyrchu craidd USDAW ers blynyddoedd. Ers 2007, mae USDAW wedi cynnal arolwg o rhwng 1,500 a 7,000 o weithwyr mewn siopau bob blwyddyn er mwyn cael gwybodaeth uniongyrchol am raddau'r achosion o drais, bygythiadau a cham-drin yn erbyn staff mewn siopau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r arolwg hwn wedi dangos bod achosion o fygythiadau, cam-drin a thrais yn erbyn gweithwyr mewn siopau yn parhau'n broblem eang a chynyddol i weithwyr manwerthu.

Rhwng 2015 a 2019, o blith y gweithwyr manwerthu hynny a gymerodd ran yn yr arolwg, cynyddodd nifer y gweithwyr a oedd yn profi achosion o gam-drin llafar o ychydig dros hanner i ryw ddwy ran o dair, a chynyddodd y nifer a gafodd eu bygwth wrth gyflawni eu dyletswyddau ryw draean. Hyd yn oed cyn y cynnydd sylweddol mewn achosion o gam-drin, bygythiadau a thrais a welwyd yn ystod argyfwng y Coronafeirws, mae'r tueddiadau cyffredinol yn dangos cynnydd na ddylid ei anwybyddu.

Un rhan o'r ymgyrch yn erbyn trais manwerthu yw Wythnos Parch. Yn ystod yr wythnos hon, mae cynrychiolwyr USDAW yn rhedeg tua 1,000 o stondinau mewn safleoedd manwerthu ledled y DU, er mwyn addysgu'r cyhoedd am effaith achosion o gam-drin staff mewn siopau. Mae rhai cyflogwyr manwerthu hefyd yn cefnogi'r wythnos hon, gan wneud cyhoeddiadau yn y siop, arddangos posteri a chymryd camau eraill i atgoffa cwsmeriaid y dylid dangos parch at weithwyr mewn siopau. Mae'r Undeb hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth newydd i ddiogelu gweithwyr manwerthu rhag bygythiadau, achosion o gam-drin a thrais.

Cyngor a Chymorth

Ni waeth beth yw maint busnes, mae croeso bob amser i gyngor a chymorth pellach. At hynny, wrth ddechrau neu dyfu busnes, gall yn aml olygu'r gwahaniaeth rhwng llwyddiant neu fethiant y busnes i oroesi.

Rydym am ddatblygu diwylliant o entrepreneuriaeth a galluogi busnesau yn y sector manwerthu i fod yn gydnerth ac yn arloesol.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth a chyngor annibynnol a diduedd i unigolion sydd am ddechrau busnes neu'r rhai sy'n rhedeg busnes eisoes yng Nghymru ac yn anelu at dyfu'r busnes hwnnw. Mae Busnes Cymru yn darparu gwybodaeth, arweiniad a chymorth digidol, ar ffurf rithwir ac wyneb-yn-wyneb.

Gall cynghorwyr busnes profiadol helpu busnesau yn y sector manwerthu i ddatblygu gallu eu busnes mewn meysydd sy'n amrywio o reolaeth ariannol, i arferion cyflogaeth, i wella effeithlonrwydd adnoddau. Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn darparu cymorth a chyngor penodol i fentrau cymdeithasol ddechrau a thyfu eu busnes.

Yn ogystal, ceir Banc Datblygu Cymru, sefydliad ariannol cenedlaethol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i alluogi busnesau i gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ddechrau busnes, i atgyfnerthu ac i dyfu. Gall ddarparu benthyciadau o £1000 hyd at £10 miliwn, yn ogystal â chyllid mesanîn a chyllid ecwiti; ac mae'n helpu busnesau i ddod o hyd i'r partner cyllid cywir er mwyn gallu manteisio ar gyllid preifat ar y cyd â'i gyllid llenwi bwlch ei hun pan fydd angen.

Yr hyn rydym eisoes yn ei wneud:

Yn ystod y pandemig, chwaraeodd Busnes Cymru ran allweddol nid yn unig yn cefnogi busnesau ac yn rhoi cyngor iddynt, ond hefyd yn eu cyfeirio tuag at y ffynonellau cyllid a oedd ar gael. Roedd hyn yn cynnwys Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, a ddarparodd dros £2.6 biliwn o gymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru yn ystod y pandemig, gan gynnwys i filoedd o fusnesau manwerthu.

Roedd grantiau Ardrethi Annomestig hefyd ar gael i fusnesau manwerthu gan Lywodraeth Cymru yn ystod amrywiolyn Omicron, er nad oedd grantiau o'r fath ar gael i fusnesau tebyg yn Lloegr. 

Ers 2016, mae gwasanaeth Busnes Cymru wedi helpu i greu 25,000 o swyddi ledled Cymru, gan gynnwys creu dros 5,000 o fentrau newydd ac mae 2,560 o fusnesau wedi mabwysiadu neu wedi gwella arferion Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, gan ddangos ymrwymiad gweithredol i addewid Cydraddoldeb Busnes Cymru.

Ar 30 Medi 2021, roedd Banc Datblygu Cymru wedi gwneud buddsoddiad uniongyrchol o dros £1 biliwn mewn busnesau yng Nghymru ac wedi helpu i greu dros 26,500 o swyddi.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cyllid peilot (£3 miliwn) ar gyfer cynllun blwyddyn o hyd i gefnogi busnesau bach mewn canol trefi.

Bydd y cynllun peilot yn targedu pedair tref y rhoddwyd blaenoriaeth iddynt yng Nghynllun Adfywio Gogledd Cymru, Wrecsam, y Rhyl, Bae Colwyn a Bangor, a bydd yn cynnig grantiau yn ogystal â benthyciadau.

Fel y nodwyd yn gynharach, gall y rhwystrau o ran costau sy'n gysylltiedig â sefydlu busnes yng nghanol tref atal entrepreneuriaid newydd sy'n ystyried ble i leoli eu busnes. Nod y Gronfa yw helpu i liniaru rhai o'r rhwystrau hyn i entrepreneuriaid newydd.

Ynghyd â'r cymorth cyflogadwyedd a sgiliau, y rhyddhad ardrethi busnes a chyllid Trawsnewid Trefi y soniwyd amdanynt eisoes, cyflwynwyd y canlynol yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf: Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol gwerth £1 miliwn ar gyfer yr economi sylfaenol; cronfa £1 miliwn i fusnesau newydd sy'n canolbwyntio ar unigolion NEET; a £500,000 ychwanegol i gefnogi a hybu'r sector mentrau cymdeithasol

Cyhoeddwyd amrywiaeth o ganllawiau i weithleoedd hefyd yn ystod y pandemig, a gafodd eu cydgynhyrchu â phartneriaid cymdeithasol er mwyn cadw busnesau, gweithwyr a chwsmeriaid yn ddiogel. Roedd y canllawiau hyn yn cynnwys cardiau gweithredu penodol i'r sector manwerthu er mwyn sicrhau bod manwerthwyr yn gwbl ymwybodol o'u cyfrifoldebau, ac ymgyrch ar hawliau a chyfrifoldebau'r gweithlu, er mwyn codi ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr a chyfrifoldebau cyfreithiol cyflogwyr.

Undebau llafur

Mae tua 400,000 o weithwyr yng Nghymru yn rhan o undeb – o nyrsys i beilotiaid, o actorion i yrwyr lori.

Mae ymuno ag undeb yn fforddiadwy ac yn hawdd, ac mae'r manteision yn sylweddol. Mae gan unrhyw weithiwr yr hawl i fod yn rhan o undeb.

Mae undebau yn helpu gweithwyr i ddod at ei gilydd, yn mynnu gwell bargen gan eu cyflogwyr, ac yn gwella safonau i bawb.

Diolch i undebau, gall pawb fanteisio ar wyliau â thâl, absenoldeb mamolaeth ac egwyliau cinio. Byddant yn cynnig cyngor cyfreithiol am ddim ichi os bydd ei angen arnoch, cyfleoedd hyfforddi a dysgu a hyd yn oed ddisgowntiau a chynigion arbennig.

Fel gweithiwr, os nad ydych yn siŵr pa undeb yw'r undeb cywir ichi, ewch i 'TUC: join a union' i gael rhagor o wybodaeth.

USDAW

USDAW: mae USDAW yn undeb llafur sy'n trefnu ac yn cynrychioli gweithwyr yn y sectorau manwerthu, dosbarthol, gweithgynhyrchu a gwasanaeth.

Unite the Union

Unite the Union: mae Unite the Union yn undeb cyffredinol sy'n cynrychioli gweithwyr ledled y wlad ac ym mhob sector diwydiannol. Mae adran gymunedol Unite hefyd yn cynrychioli pobl sydd allan o waith, gan gynnwys myfyrwyr, gwirfoddolwyr, pobl sydd wedi ymddeol a phobl ddi-waith.

GMB

GMB union: mae undeb GMB yn undeb trefnu ac ymgyrchu ar ran pob gweithiwr, ac mae ei aelodau yn gweithio ym mhob math o swyddi yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

BFAWU

Mae Undeb y Pobyddion, Gweithwyr Bwyd a Gweithwyr Perthynol yn cynrychioli gweithwyr yn y diwydiannau a'r masnachau bwyd a diwydiannau a masnachau cysylltiedig.

Sut y byddwn yn gwireddu ein gweledigaeth?

1. Gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol

Mae partneriaeth gymdeithasol yn ffordd sefydledig o weithio yng Nghymru sy'n ein galluogi i ddatblygu dulliau gweithredu cyffredin mewn perthynas â heriau a chyfleoedd cyfunol. Drwy ddod â Llywodraeth Cymru, cyflogwyr ac undebau llafur at ei gilydd, ceir cyfle i ddatrys materion anodd a heriol mewn ffordd adeiladol a chyfle i ddatblygu'r dulliau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau buddiannau cyffredinol i weithwyr a chyflogwyr.

Partneriaeth gymdeithasol yw'r ffordd orau o wireddu ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer sector manwerthu llwyddiannus, cynaliadwy a chydnerth sy'n cynnig gwaith teg, diogel a boddhaus.

Drwy gydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, ar y cyd ac ar draws ffiniau, gellir cyflawni'r newid sydd ei angen i gefnogi'r sector manwerthu a fydd yn mynd o nerth i nerth ac yn gweithio i bawb.

2. Cyflawni ein blaenoriaethau cyffredin

Sector manwerthu cryfach, mwy cydnerth

Mae datblygu cydnerthedd y sector er mwyn sicrhau ei fod yn addas ar gyfer dyfodol newydd yn flaenoriaeth allweddol. Wrth inni ddod allan o'r pandemig ond gan wynebu argyfwng costau byw ac argyfwng o ran yr hinsawdd, rhaid inni ddeall yr effeithiau ar y sector ac ar arferion defnyddwyr, a'r rhan y mae'r sector manwerthu bellach yn ei chwarae mewn canol trefi. Rhaid inni hefyd baratoi ar gyfer newidiadau i swyddi, cyflogeion yn dechrau gweithio am gyfnod hwy a dysgu sgiliau newydd i weithwyr, gan sicrhau bod y gweithlu yn meddu ar y sgiliau digidol sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.

Rhaid inni hefyd barhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i adeiladu ar arferion da a'u lledaenu ac i gynyddu cyffredinrwydd gwaith teg ym mhob rhan o'r sector. Mae amodau gwaith gwell a mwy diogel yn allweddol er mwyn datlbygu cadernid y sector a goresgyn y problemau recriwtio a chadw staff y mae'n eu hwynebu.

Sector manwerthu tecach

Mae sicrhau bod gwaith yn decach, yn fwy diogel ac yn well i bawb yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae'r Fforwm Manwerthu yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol er mwyn hybu'r nodau hyn.  

Sector manwerthu gwyrddach

Mae sicrhau bod manwerthwyr o bob maint yn barod i symud i sero net yn flaenoriaeth allweddol o ran gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer y sector. Ni all Llywodraeth Cymru symud i sero net ar ei phen ei hun.  

3. Parhau â'r sgwrs

Dim ond dechrau deialog parhaus yn y sector ac am y sector y mae'r weledigaeth hon ar gyfer y sector manwerthu yng Nghymru. Mae dealltwriaeth y Llywodraeth o bwysigrwydd y sector i'n heconomi a'n cymdeithas bellach yn gadarn a chaiff hyn ei adlewyrchu wrth ddatblygu polisïau yn y dyfodol.

Rydym yn parhau'n ymrwymedig i sgwrs barhaus, drwy'r Fforwm Manwerthu er mwyn ymdrin, nid yn unig â'r pwysau cyfredol, ond â'r pwysau yn y dyfodol a'r heriau anhysbys o bosibl a fydd yn ein hwynebu yn y dyfodol.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn datblygu cynllun cyflawni ar y cyd, gan ystyried unrhyw argymhellion gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd yn dilyn ei ymchwiliad ei hun i'r sector Manwerthu (a Lletygarwch a Thwristiaeth).