Bydd ymgyrch newydd ac uchelgeisiol i greu dealltwriaeth fwy tosturiol o achosion hunanladdiad a hunan-niweidio, ac ymateb iddynt, yn helpu i achub bywydau.
Heddiw, bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, yn lansio strategaeth 10 mlynedd newydd Cymru, sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r materion sy'n arwain pobl i feddwl am hunanladdiad, a gwella’r gefnogaeth i bobl sy'n hunan-niweidio.
Bydd yn tynnu'n uniongyrchol ar brofiad byw pobl ac yn targedu stigma ynghylch hunanladdiad a hunan-niweidio i greu diwylliant lle mae pobl yn gallu ceisio cefnogaeth heb ofn, ac heb gael eu beirniadu.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi mwy na £2 miliwn yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ym Mhrifysgol Abertawe drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i wneud cynnydd sylweddol o ran deall y materion cymhleth hyn.
Mae'r strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio yn nodi 6 phrif nod:
- gwrando a dysgu: datblygu sylfaen dystiolaeth gadarn a chlywed gan bobl sydd â phrofiad byw
- atal: mynd i'r afael â ffactorau risg
- grymuso: cael gwared ar stigma, helpu pawb i siarad am hunanladdiad a hunan-niweidio, gwrando ar ei gilydd, a’u helpu i ddod o hyd i gymorth pan fo angen
- cefnogi: gwella gwasanaethau i bobl sy'n meddwl am hunan-niweidio a hunanladdiad
- galluogi: sicrhau bod gwasanaethau sy'n cefnogi pobl sy'n wynebu risg uwch ledled Cymru yn adnabod pobl mewn angen ac yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cymorth
- ymateb: darparu cymorth amserol, tosturiol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt pan fydd amheuaeth o hunanladdiad
Mae'r strategaeth yn cydnabod y gall hunanladdiad a hunan-niweidio effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oedran. Fodd bynnag, mae'r grwpiau sydd â'r cyfraddau uchaf o achosion yn wahanol ar gyfer hunanladdiad nag ar gyfer hunan-niweidio.
Mae hunanladdiad yn fwyaf cyffredin ymhlith dynion canol oed (rhwng 30 a 55 oed), tra bod hunan-niweidio yn fwy cyffredin ymhlith menywod ifanc (15 i 19 oed). Mae'r gwahaniaeth hwn yn ein helpu i lywio dulliau wedi'u teilwra o fewn y strategaeth.
Mae'r strategaeth hefyd yn pwysleisio bod hunan-niweidio yn ffactor risg sylweddol ar gyfer hunanladdiad. Mae'n annog pawb i gymryd pob digwyddiad o hunan-niweidio o ddifrif a thrin y person mewn trallod gyda charedigrwydd a thosturi.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:
Mae'r strategaeth uchelgeisiol hon yn canolbwyntio ar adeiladu dealltwriaeth, camau atal a chefnogaeth dosturiol i bawb sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad a hunan-niweidio.
Trwy weithio ar draws adrannau'r llywodraeth a chyda'n partneriaid, rydym yn mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol gan sicrhau bod cymorth ar gael ar unwaith i'r rhai sydd ei angen.
Trwy gefnogi sefydliadau trydydd sector fel y Samariaid, a gweithio gyda nhw, byddwn yn cyflawni'r uchelgeisiau a nodir yn ein strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
Dywedodd Joshua, sydd wedi cael cefnogaeth gan y Samariaid ar ôl meddwl am hunanladdiad:
Rwy'n gweld bod cenhedlaeth o ddynion hŷn sydd ddim yn siarad am eu hiechyd meddwl oherwydd eu bod wedi tyfu i fyny mewn cyfnod pan nad oedd yn cael ei drafod.
Y dyddiau hyn, mae pobl yn llawer mwy ymwybodol ac agored am iechyd meddwl, sy'n beth positif iawn. Fodd bynnag, mae demograffeg o fechgyn a dynion fy oedran i sy'n teimlo cywilydd o siarad amdano, neu’n teimlo ei fod yn dangos gwendid. Dw i wedi sylwi, er bod y sgwrs yn gwella, bod y mater hwn yn parhau.
Bydd y strategaeth newydd yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed wrth ddatblygu gwasanaethau newydd a chymorth yng Nghymru.
Y llynedd, lansiodd Llywodraeth Cymru wasanaeth cynghori cenedlaethol gyda'r nod o gefnogi pawb sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad, a chanllawiau newydd i asiantaethau a sefydliadau sy'n gweithio gyda'r rhai sydd wedi cael profedigaeth.
Mae gwelliannau allweddol i'r gwasanaeth hyd yma yn cynnwys pwyntiau cyswllt unigol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc a chyflwyno gwasanaeth ffôn 111 pwyso 2 yn genedlaethol ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys.
Bydd gwybodaeth gan Gwyliadwriaeth Amser Real Hunanladdiad Tybiedig (RTSSS), sy'n casglu data yn uniongyrchol gan heddluoedd, yn cael ei defnyddio ochr yn ochr â fframwaith profiad byw sy'n tynnu ar brofiadau'r rhai sydd wedi’u heffeithio'n uniongyrchol i helpu i lunio polisïau a gwasanaethau cymorth.
Mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio wedi'i phenodi'n gynghorydd i Lywodraeth Cymru.
Mae tîm hunanladdiad a hunan-niweidio cenedlaethol hefyd wedi'i sefydlu o fewn Gweithrediaeth y GIG i gymell newidiadau ar draws Cymru.